Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

HANES BYWYD

Dw i Ond Wedi Gwneud Beth Oedd Disgwyl imi ei Wneud

Dw i Ond Wedi Gwneud Beth Oedd Disgwyl imi ei Wneud

AM DROS dri degawd, roedd Donald Ridley yn cynrychioli buddiannau cyfreithiol Tystion Jehofa. Chwaraeodd ran bwysig yn helpu pobl i ddeall fod gan gleifion yr hawl i wrthod trallwysiad gwaed. Helpodd Dystion Jehofa i ennill llawer o achosion uchel lys yn yr Unol Daleithiau. Roedd Donald, neu Don i’w ffrindiau, yn weithgar, ostyngedig, ac yn hunanaberthol.

Yn 2019, cafodd Don ei ddiagnosio â salwch niwrolegol anghyffredin nad oedd modd ei wella. Gwaethygodd y salwch yn sydyn, a bu farw ar Awst 16, 2019. Dyma ei hanes.

Ces i fy ngeni yn St. Paul, Minnesota, UDA, ym 1954 i deulu dosbarth canol Catholig. Fi yw’r ail o bump o blant. Es i i ysgol gynradd Gatholig, ac o’n i’n was allor. Ond eto, doeddwn i ddim yn gwybod llawer am y Beibl. Er imi gredu yn Nuw fel creawdwr pob peth, collais ffydd yn llwyr yn yr eglwys.

DYSGU’R GWIRIONEDD

Yn ystod fy mlwyddyn gyntaf yng Ngholeg y Gyfraith William Mitchell, galwodd Tystion Jehofa wrth fy nrws. O’n i’n brysur yn golchi dillad, a chytunodd y cwpl yn garedig i ddod yn ôl rywbryd arall. Pan ddaethon nhw yn eu holau, oedd gen i ddau gwestiwn iddyn nhw: “Pam mae pobl ddrwg yn fwy llwyddiannus na phobl dda?” a “Beth sydd rhaid inni ei wneud i fod yn wirioneddol hapus?” Wnes i dderbyn y llyfr The Truth That Leads to Eternal Life a’r New World Translation of the Holy Scriptures, gyda’i glawr gwyrdd trawiadol. Wnes i hefyd gytuno i gael astudiaeth Feiblaidd. Mi oedd hyn yn agoriad llygaid imi. Cafodd y syniad mai Teyrnas Dduw yw’r llywodraeth a fydd yn rheoli dros y ddaear gryn argraff arna i. O’n i’n gallu gweld fod rheolaeth ddynol wedi bod yn fethiant llwyr gan adael byd llawn poen, dioddefaint, anghyfiawnder, a thrychineb.

Wnes i gysegru fy hun i Jehofa yn gynnar ym 1982 a chael fy medyddio yn hwyrach y flwyddyn honno yn y Gynhadledd “Kingdom Truth,” yng Nghanolfan Ddinesig St. Paul. Es i yn ôl i’r ganolfan ddinesig yr wythnos wedyn i eistedd arholiad bar Minnesota. Yn gynnar ym mis Hydref, ges i wybod fy mod i wedi pasio’r arholiad a oedd yn fy ngwneud i’n gymwys i fod yn gyfreithiwr.

Yn y gynhadledd honno, wnes i gyfarfod Mike Richardson, un o deulu Bethel Brooklyn, a esboniodd fod adran gyfreithiol wedi cael ei sefydlu yn y pencadlys. Daeth geiriau’r Eunuch o Ethiopia i fy meddwl o Actau 8:36, a gofynnais i fi fy hun, ‘Oes yna unrhyw reswm pam na ddylwn i ofyn am gael gweithio yn yr Adran Gyfreithiol?’ Felly, wnes i gais am gael gweithio yn y Bethel.

Doedd fy rhieni ddim yn hapus fy mod i wedi dod yn un o Dystion Jehofa. Gofynnodd fy nhad sut byddai fy ngyrfa yn elwa o weithio yn y Bethel. Esboniais y byddwn i’n gwneud gwaith gwirfoddol. Dywedais wrtho y byddwn i’n cael $75 y mis, sef y lwfans misol oedd pawb yn nheulu’r Bethel yn ei gael.

Ar ôl gorffen y gwaith o’n i wedi cytuno i’w wneud, dechreuais weithio yn y Bethel yn Brooklyn, Efrog Newydd, ym 1984. Ces i fy aseinio i’r Adran Gyfreithiol. I mi, oedd yr amseru yn berffaith.

ADNEWYDDU’R STANLEY THEATER

Y Stanley Theater fel roedd yn edrych pan gafodd ei brynu

Cafodd y Stanley Theater yn Ninas Jersey, Jersey Newydd, ei brynu ym mis Tachwedd 1983. Gwnaeth y brodyr cais am drwyddedau i adnewyddu system drydanol a system blymio’r adeilad. Pan wnaethon nhw gyfarfod â’r swyddogion lleol, esboniodd y brodyr eu bod nhw’n bwriadu defnyddio’r Stanley Theater fel neuadd gynhadledd Tystion Jehofa. Mi oedd hynny’n peri problem. Oedd deddfau Dinas Jersey ynglŷn â sut gall adeiladau cael eu defnyddio, yn dweud y dylai addoldai fod mewn ardaloedd preswyl yn unig. Oedd y Stanley Theater mewn ardal fasnachol, felly gwrthododd swyddogion y ddinas roi’r trwyddedau. Apeliodd y brodyr yn erbyn y dyfarniad, ond cafodd yr apêl ei gwrthod.

Yn ystod fy wythnos gyntaf yn y Bethel, daeth y gyfundrefn â’r mater o flaen y llys ffederal, gan herio’r penderfyniad i wrthod y trwyddedau. Gan fy mod i newydd dreulio dwy flynedd yn gweithio fel clerc mewn llys yn St. Paul, Minnesota, o’n i’n gyfarwydd iawn â’r dadleuon oedd yn cael eu cyflwyno. Dadleuodd un o’n twrneiod fod y Stanley Theater wedi cael ei ddefnyddio ar gyfer amryw o ddigwyddiadau cyhoeddus, o ffilmiau i gyngherddau roc. Felly, pam dylai hi fod yn anghyfreithlon i gynnal achlysur crefyddol? Gwnaeth y llys ffederal ystyried y mater a phenderfynu fod Dinas Jersey wedi mynd yn groes i’n rhyddid crefyddol. Gorchmynnodd y llys i’r ddinas rhoi’r trwyddedau angenrheidiol inni, a dechreuais weld sut oedd Jehofa yn bendithio defnydd ei gyfundrefn o’r gyfraith i hyrwyddo ei waith. O’n i mor hapus fy mod i wedi cael rhan yn hynny.

Cychwynnodd y brodyr prosiect adnewyddu anferth, a chafodd seremoni raddio dosbarth 79 Gilead ei gynnal yn Neuadd Gynulliad Dinas Jersey ar Fedi 8, 1985, llai na blwyddyn ar ôl cychwyn y prosiect. Oedd hi’n fraint cael gweithio i Jehofa fel rhan o’r tîm cyfreithiol, ac o’n i’n llawer hapusach nag oeddwn i fel cyfreithiwr cyn dod i Bethel. Wnes i erioed feddwl y byddai Jehofa yn fy nefnyddio mewn llawer mwy o achosion cyfreithiol.

AMDDIFFYN YR HAWL I GAEL TRINIAETH DDI-WAED

Yn y 1980au, doedd hi ddim yn anghyffredin i ddoctoriaid ac ysbytai beidio â pharchu cais gan oedolyn a oedd yn Dyst am gael ei drin heb gynhyrchion gwaed. Mi oedd merched beichiog yn enwedig yn cael trafferth am fod barnwyr yn aml yn meddwl nad oedd ganddyn nhw’r hawl gyfreithiol i wrthod trallwysiad. Yn ôl eu rhesymu nhw, os nad oedd trallwysiad yn cael ei roi, oedd ’na beryg i’r plentyn gael ei adael heb fam.

Ar Ragfyr 29, 1988, collodd y Chwaer Denise Nicoleau lawer o waed ar ôl geni ei mab. Aeth lefelau ei haemoglobin o dan 5.0, a gofynnodd ei meddyg am ei chaniatâd i drallwyso gwaed. Gwrthododd Chwaer Nicoleau. Y bore wedyn, ceisiodd yr ysbyty gael gorchymyn llys i’w caniatáu i roi’r trallwysiadau gwaed, a oedd, yn eu tyb nhw, yn angenrheidiol. Heb gynnal gwrandawiad, na hyd yn oed rhoi gwybod i Chwaer Nicoleau na’i gŵr, caniataodd y barnwr i’r ysbyty roi’r trallwysiadau gwaed.

Ar ddydd Gwener, Rhagfyr 30, rhoddodd staff yr ysbyty drallwysiad gwaed i Chwaer Nicoleau er gwaethaf gwrthwynebiad ei gŵr ac aelodau eraill ei theulu a oedd wrth ei gwely. Y noson honno, cafodd sawl aelod o’r teulu a henuriad neu ddau, eu harestio ar gyhuddiad o ffurfio wal ddynol o gwmpas gwely Chwaer Nicoleau er mwyn rhwystro’r trallwysiadau. Ar fore Sadwrn, Rhagfyr 31, oedd y wasg, y radio, a’r teledu yn ardal Ddinas Efrog Newydd, yn adrodd am yr arestiadau hynny.

Gyda Philip Brumley pan oedden ni’n iau

Ar y bore Llun, siaradais â barnwr o lys uwch, sef Milton Mollen. Disgrifiais ffeithiau’r achos gan bwysleisio bod y barnwr arall wedi llofnodi’r gorchymyn trallwyso heb wrandawiad. Gofynnodd y Barnwr Mollen imi fynd i’w swyddfa yn hwyrach y prynhawn hwnnw i drafod y ffeithiau a’r cyfreithiau perthnasol. Daeth fy arolygwr, Philip Brumley, gyda fi i swyddfa’r Barnwr Mollen y noson honno. Hefyd gwahoddodd y barnwr dwrnai’r ysbyty i ymuno â ni. Oedd ein trafodaeth braidd yn danllyd. Dyma’r Brawd Brumley yn ysgrifennu nodyn imi yn dweud: “Paid â chynhyrfu gymaint.” Wrth edrych yn ôl, oedd hynny’n gyngor da achos mi o’n i’n dechrau cynhyrfu’n lân wrth geisio gwrthbrofi dadleuon y twrnai.

O’r chwith i’r dde: Richard Moake, Gregory Olds, Paul Polidoro, Philip Brumley, y fi, a Mario Moreno—ein twrneiod ar y diwrnod y cafodd dadleuon llafar eu rhoi o flaen Goruchaf Lys yr Unol Daleithiau yn achos Watchtower v. Village of Stratton.—Gweler rhifyn Ionawr 8, 2003 y Deffrwch! Saesneg

Ar ôl tua awr, dywedodd y Barnwr Mollen mai ein hachos ni fyddai’r cyntaf y bore wedyn. Ac wrth inni adael ei swyddfa, dywedodd y byddai gan dwrnai’r ysbyty “waith anodd yfory.” Mi oedd hyn yn golygu y byddai’r twrnai yn ei chael hi’n anodd amddiffyn ei safbwynt. Teimlais fod Jehofa yn fy sicrhau bod gynnon ni achos cryf. Oedd hi’n rhyfeddol i weld sut oedd Jehofa yn ein defnyddio ni i wneud ei ewyllys.

Wnaethon ni weithio tan berfedd nos i baratoi’r hyn y bydden ni’n ei ddweud y bore wedyn. Doedd y llys ddim yn bell o Bethel Brooklyn, felly wnaeth y rhan fwyaf o’n swyddfa gyfreithiol fach gerdded yna. Ar ôl i’r panel o bedwar barnwr glywed ein dadl, dyma nhw’n canslo’r gorchymyn i drallwyso. Dyfarnodd yr uchel lys o blaid y Chwaer Nicoleau, a datgan bod yr arfer cyffredin o gael gorchymyn neu wrandawiad heb rybudd yn mynd yn groes i hawliau dynol sylfaenol.

Yn fuan wedi hynny, mi gadarnhaodd llys uchaf Efrog Newydd fod gan y Chwaer Nicoleau yr hawl i gael ei thrin heb waed. Dw i wedi cael y fraint o gyfrannu at bedwar penderfyniad yn ymwneud â gwaed mewn uchel lysoedd ar draws yr Unol Daleithiau. A dyma oedd y cyntaf ohonyn nhw. (Gweler y blwch “ Buddugoliaethau yn y Goruchaf Lysoedd.”) Dw i hefyd wedi ymuno â thwrneiod eraill o’r Bethel mewn achosion yn ymwneud â gwarchodaeth plant, ysgariad, a chyfreithiau ynglŷn â defnydd tir ac adeiladau.

FY MHRIODAS A’M BYWYD TEULUOL

Gyda fy ngwraig, Dawn

Pan wnes i gyfarfod fy ngwraig, Dawn, oedd hi’n rhiant sengl yn ceisio magu tri o blant ar ôl ysgariad. Mi oedd hi’n ennill bywoliaeth ac yn arloesi. Oedd hi wedi cael bywyd anodd, ac oedd y ffaith ei bod hi mor benderfynol o wasanaethu Jehofa wedi creu argraff ddofn arna i. Ym 1992, aethon ni i’r Gynhadledd Ranbarthol “Light Bearers,” yn Efrog Newydd, a wnes i ofyn a gawn ni ddod i ’nabod ein gilydd yn well. Wnaethon ni briodi flwyddyn wedyn. Mae cael gwraig ysbrydol a llawn hwyl wedi bod yn anrheg gan Jehofa. Yn wir, mae Dawn wedi bod yn donig imi ar hyd ein hamser gyda’n gilydd.—Diar. 31:12.

Pan wnaethon ni briodi, oedd y plant yn 11, 13, ac 16 mlwydd oed. O’n i eisiau bod yn dad da iddyn nhw, felly wnes i ddarllen yn ofalus bopeth o’n i’n gallu ffeindio yn ein cyhoeddiadau ynglŷn â bod yn llys-riant, a’i roi ar waith. Oedd ambell i her dros y blynyddoedd, ond dw i wrth fy modd fod y plant wedi dod i ymddiried yno i fel ffrind a thad cariadus. Oedd ’na wastad groeso cynnes i ffrindiau ein plant, ac oedd hi’n bleser pur cael llond tŷ o bobl ifanc llawn egni.

Yn 2013, symudodd Dawn a minnau i Wisconsin i ofalu am ein rhieni oedrannus. Er syndod i mi, ces i barhau i weithio i’r Bethel. Ges i wahoddiad i barhau i gynnig cyngor cyfreithiol i’r gyfundrefn fel gwirfoddolwr dros dro.

NEWID SYDYN

Ym mis Medi 2018, sylwais fy mod i’n clirio fy ngwddf cryn dipyn. Ges i archwiliad gan y meddyg lleol, ond methodd â gweld achos y broblem. Yn hwyrach ymlaen, awgrymodd meddyg arall fy mod i’n mynd at niwrolegydd. Ym mis Ionawr 2019, dywedodd y niwrolegydd fod gen i, yn ôl pob tebyg, salwch niwrolegol anghyffredin o’r enw parlys uwchniwclear cynyddol (PSP).

Dridiau wedyn, tra o’n i’n sglefrio iâ, wnes i dorri ’ngarddwrn dde. Dw i wedi bod yn sglefrio ar hyd fy mywyd; mae’n ail natur imi. Felly, o’n i’n gwybod fy mod i’n dechrau colli sgiliau motor. Mi oedd yn syndod pa mor sydyn y gwaethygodd fy salwch niwrolegol. Daeth hi’n anoddach fyth imi allu siarad, symud, a llyncu.

Mae hi wedi bod yn fraint i ddefnyddio fy mhrofiad fel cyfreithiwr i chwarae rhan fach yn cefnogi buddiannau’r Deyrnas. Dw i’n hapus fy mod i wedi cael ysgrifennu erthyglau ar gyfer llawer o gylchgronau proffesiynol, yn ogystal â siarad mewn seminarau o gwmpas y byd yn amddiffyn hawl pobl Jehofa i ddewis triniaeth feddygol ddi-waed. Ond eto, i aralleirio Luc 17:10: ‘Gwas ydw i, sydd ond wedi gwneud beth oedd disgwyl imi ei wneud.’