HANES BYWYD
Fy Mywyd Hapus yng Ngwasanaeth Jehofa
Y JÒB gyntaf ges i ym Methel Canada oedd ysgubo llawr yr adeilad lle roedd y gwaith printio yn cael ei wneud. Y flwyddyn oedd 1958, ac o’n i’n 18 oed. Oedd bywyd yn dda, a chyn bo hir, o’n i’n defnyddio peiriant oedd yn trimio cylchgronau wrth iddyn nhw ddod oddi ar y wasg. O’n i mor hapus i fod ym Methel!
Y flwyddyn wedyn, cafodd y teulu Bethel gyhoeddiad fod angen gwirfoddolwyr i wasanaethu yng nghangen De Affrica, am eu bod nhw’n cael gwasg gylchdro newydd. Wnes i roi fy enw ymlaen, ac o’n i wrth fy modd cael fy newis. Cafodd tri arall o Fethel Canada eu dewis hefyd—Dennis Leech, Bill McLellan, a Ken Nordin. Dyma nhw’n dweud wrthon ni ein bod ni’n cael ticedi un-ffordd!
Wnes i ffonio Mam a dweud, “Mam, mae gen i newyddion iti. Dw i’n mynd i Dde Affrica!” Oedd Mam yn ddynes ddistaw, ond yn ddynes ysbrydol llawn ffydd. Wnaeth hi ddim dweud llawer, ond o’n i’n gwybod bod hi’n fy nghefnogi. Wnaeth hi na fy nhad byth wrthwynebu’r penderfyniad wnes i, er eu bod nhw’n drist y byddwn i mor bell i ffwrdd.
FFWRDD Â FI I DDE AFFRICA!
Ym Methel Brooklyn, cafodd y pedwar ohonon ni ein hyfforddi am dri mis i wneud math arbennig o argraffu. Yna, aethon ni ar long nwyddau i Cape Town, De Affrica. O’n i newydd droi’n 20 oed. Oedd hi wedi dechrau nosi pan ddechreuon ni’r daith hir ar drên o Cape Town i Johannesburg. Wrth iddi wawrio, y stop cyntaf oedd Karoo. Oedd hi’n ardal ddiffaith, yn llychlyd ac yn boeth. Edrychodd y pedwar ohonon ni drwy’r ffenestr a meddwl, ‘Pa fath o le ydy hwn? Beth ydyn ni wedi cytuno iddo fo?’ Yn y blynyddoedd wedyn, bydden ni’n dod yn ôl i’r ardal yma a dod i werthfawrogi’r trefi bach a’u ffordd heddychlon o fyw.
Fy aseiniad am ychydig o flynyddoedd oedd defnyddio’r peiriant Leinoteip rhyfeddol a chymhleth, yn paratoi llinellau o lythrennau plwm i argraffu’r cylchgronau Tŵr Gwylio a Deffrwch! Oedd swyddfa’r gangen yn argraffu’r cylchgronau mewn llawer o ieithoedd Affricanaidd, nid yn unig ar gyfer De Affrica, ond ar gyfer llawer o wledydd i’r gogledd hefyd. Oedd y wasg gylchdro ddaeth â ni hanner ffordd ar draws y byd yn cael defnydd da!
Yn hwyrach ymlaen, wnes i weithio yn Swyddfa’r Ffatri, oedd yn gofalu am wahanol agweddau o’r gwaith argraffu, cludo, a chyfieithu. Oedd fy mywyd yn brysur ac yn llawn pwrpas!
PRIODI AC ASEINIAD NEWYDD
Ym 1968, wnes i briodi arloeswraig o’r enw Laura Bowen, oedd yn byw yn agos i’r Bethel. Oedd hi hefyd yn teipio ar gyfer yr Adran Gyfieithu. Bryd hynny, doedd cyplau oedd newydd briodi ddim yn cael aros yn y Bethel fel arfer, felly wnaethon nhw roi aseiniad fel arloeswyr arbennig inni. O’n i’n pryderu braidd. Ar ôl deg mlynedd yn y Bethel efo bwyd a llety yn cael eu darparu, sut fydden ni’n ymdopi efo’r lwfans ar gyfer arloeswyr arbennig? Bydden ni’n cael 25 rand yr un bob mis (sef tua £14 ar y pryd)—a hynny dim ond os oedden ni’n gwneud digon o oriau, ail alwadau, a gosod digon o lenyddiaeth. Gyda’r arian hwnnw, byddai’n rhaid inni dalu am ein rhent, bwyd, a theithio, yn ogystal â chostau meddygol a chostau personol eraill.
Cawson ni ein haseinio i grŵp bach wrth ymyl dinas Durban, ar lannau Cefnfor India. Oedd ’na boblogaeth enfawr o Indiaid, llawer ohonyn nhw yn ddisgynyddion i weithwyr gafodd eu cyflogi yn y diwydiant siwgr o gwmpas 1875. Erbyn hyn, roedd ganddyn nhw waith arall, ond roedden nhw wedi cadw eu diwylliant a’u bwydydd traddodiadol, gan gynnwys cyris hynod o flasus. Ac oedden nhw’n siarad Saesneg, oedd yn gwneud pethau’n haws i ni.
Oedd disgwyl i arloeswyr arbennig dreulio 150 awr bob mis ar y weinidogaeth, felly wnes i a Laura drefnu gwneud chwech awr ar y diwrnod cyntaf. Oedd hi’n boeth ac yn glòs. Doedd gynnon ni ddim ail alwadau, nac astudiaethau Beiblaidd, dim ond chwech awr o bregethu o ddrws i ddrws. Sbelen ar ôl inni ddechrau, wnes i edrych ar fy wats—dim ond 40 munud oedd wedi mynd heibio! Wnes i feddwl i fi fy hun, ‘Sut yn y byd ydyn ni am wneud hyn?’
Yn fuan, cawson ni drefn ar bethau. Bob diwrnod, bydden ni’n paratoi brechdanau a rhoi cawl neu goffi mewn fflasg. Pan oedden ni angen brêc, bydden ni’n parcio ein Volkswagen bach o dan gysgod ryw goeden—weithiau byddai plant bach del yr Indiaid yn amgylchynu ni ac yn syllu arnon ni am ein bod ni’n edrych mor wahanol! O fewn cwpl o ddyddiau, wnaethon ni sylwi bod yr amser yn hedfan ar ôl y ddwy neu dair awr gyntaf.
Roedden ni wrth ein boddau yn rhannu gwirioneddau’r Beibl gyda’r bobl letygar yn y diriogaeth honno! Gwelson ni bod yr Indiaid yn bobl barchus, glên, oedd yn caru Duw. Gwnaeth llawer o’r Hindŵiaid ymateb i’r neges. Oedden nhw wrth eu boddau yn dysgu am Jehofa, Iesu, y Beibl, y byd newydd heddychlon yn y dyfodol, a’r gobaith ar gyfer y meirw. Ar ôl blwyddyn, oedd gynnon ni 20 astudiaeth. Bob diwrnod, oedden ni’n mwynhau cael swper efo un o’r teuluoedd oedden ni’n astudio gyda nhw. Oedden ni mor hapus.
Ond cyn bo hir, cawson ni aseiniad arall—gwaith cylch ar hyd arfordir hyfryd Cefnfor India. Bob wythnos, oedden ni’n aros gyda theulu gwahanol tra oedden ni’n ymweld ac yn annog y cynulleidfaoedd. Oedden ni’n dod yn rhan o’u teulu, yn mwynhau cwmni eu plant a hyd yn oed eu hanifeiliaid anwes. Aeth dwy flynedd fendigedig heibio. Ac wedyn, yn sydyn, cawson ni alwad ffôn o swyddfa’r gangen. Y neges, “’Dyn ni’n meddwl dod â chi yn ôl i’r Bethel.” Fy ymateb i oedd, “Wyddoch chi beth, ’dyn ni’n reit hapus lle ydyn ni.” Ond wrth gwrs, oedden ni’n hapus cael ein defnyddio lle bynnag oedd yr aseiniad.
YN ÔL I’R BETHEL
Oedd fy aseiniad yn y Bethel yn yr Adran Wasanaeth, lle ces i’r fraint o weithio efo llawer o frodyr profiadol ac aeddfed. Yn y dyddiau hynny, ar ôl i arolygwr cylchdaith ymweld â chynulleidfa, oedd o’n anfon adroddiad i’r gangen. Yna, roedd yr Adran Wasanaeth yn anfon llythyr yn ôl at y gynulleidfa wedi ei seilio ar sylwadau’r arolygwr. Pwrpas y llythyrau oedd rhoi anogaeth ac unrhyw arweiniad oedd ei angen. Oedd hyn yn lot o waith i’r ysgrifenyddion oedd yn cyfieithu’r llythyrau o Xhosa, Swlw, ac ieithoedd eraill i’r Saesneg, ac yn cyfieithu llythyrau’r gangen o Saesneg yn ôl i’r ieithoedd Affricanaidd. O’n i’n gwerthfawrogi’r cyfieithwyr diwyd hynny am eu gwaith ac am eu help i ddeall yr heriau oedd
ein brodyr a chwiorydd croenddu yn eu hwynebu.Yr adeg honno, roedd pobl De Affrica yn byw o dan system apartheid. Roedd ’na ardal wahanol i bob hil, felly doedd ’na ddim llawer o gymdeithasu rhwng pobl o wahanol hiliau. Oedd ein brodyr croenddu yn siarad eu hieithoedd eu hunain, yn pregethu yn eu hieithoedd eu hunain, ac yn mynychu cynulleidfaoedd yn eu hieithoedd eu hunain.
Doeddwn i ddim yn nabod llawer o bobl groenddu, oherwydd o’n i wastad wedi cael fy aseinio i gynulleidfaoedd Saesneg eu hiaith. Ond rŵan, oedd gen i gyfle i ddysgu am yr Affricanwyr croenddu a’u diwylliant a’u harferion. Dysgais am yr heriau roedd ein brodyr yn eu hwynebu wrth ddelio â thraddodiadau a daliadau crefyddol lleol. Oedden nhw’n hynod o ddewr yn torri’n rhydd o draddodiadau anysgrythurol ac yn wynebu gwrthwynebiad ofnadwy gan eu teulu a’u pentref pan fydden nhw’n gwrthod dilyn arferion ysbrydegol! Yn yr ardaloedd gwledig, oedd ’na lawer o dlodi. Doedd gan y rhan fwyaf ohonyn nhw fawr ddim addysg, ond roedden nhw’n parchu’r Beibl.
Ces i’r fraint o weithio ar achosion cyfreithiol oedd yn ymwneud â rhyddid i addoli a niwtraliaeth. Oedd hi wir yn cryfhau fy ffydd i weld ffyddlondeb a dewrder y Tystion ifanc oedd wedi cael eu gwahardd o’r ysgol am wrthod ymuno yn y gweddïau a chanu’r emynau.
Wnaeth y brodyr wynebu her arall yn y wlad oedd yn cael ei galw ar y pryd yn Swasiland. Pan fu farw y Brenin Sobhuza yr Ail, oedd rhaid i bobl y wlad gymryd rhan mewn defodau galaru. Roedd rhaid i ddynion siafio eu gwallt, ac oedd rhaid i ferched dorri eu gwallt yn gwta. Cafodd llawer o frodyr a chwiorydd eu herlid am wrthod cymryd rhan yn y ddefod hon oedd yn tarddu o addoli cyndadau. Gwnaeth eu ffyddlondeb i Jehofa gyffwrdd ein calonnau! Dysgon ni lawer am ffyddlondeb, teyrngarwch, ac amynedd oddi wrth ein brodyr Affricanaidd, ac roedd hyn i gyd yn adeiladu ein ffydd.
YN ÔL I’R ARGRAFFDY
Ym 1981, ces i fy aseinio i helpu’r brodyr i ddatblygu ffordd newydd o argraffu oedd yn defnyddio cyfrifiaduron. Felly yn ôl i’r
Argraffdy â fi. Oedd hi’n adeg hynod o gyffrous! Roedd y byd argraffu yn newid. Wnaeth masnachwr lleol roi ffotogysodwr newydd i’r gangen gael ei dreialu am ddim. O ganlyniad i hynny, cafodd y naw peiriant leinoteip eu newid am bump ffotogysodwr newydd. Cafodd gwasg gylchdro offset newydd ei gosod hefyd. Oedd pethau’n cyflymu!Mi wnaeth y system o ddefnyddio cyfrifiaduron arwain at ddyfeisio dulliau newydd o gysodi, gan ddefnyddio MEPS, sef y system gyhoeddi electronig amliaith. Oedd y dechnoleg wedi dod yn ei blaen ers i’r pedwar ohonon ni gyrraedd De Affrica! (Esei. 60:17) Erbyn hynny, roedden ni i gyd wedi priodi chwiorydd ysbrydol oedd yn arloesi. Roedd Bill a minnau yn dal i wasanaethu yn y Bethel, ac roedd gan Ken a Dennis eu teuluoedd eu hunain bellach.
Roedd ’na fwy a mwy o waith i’w wneud yn y Bethel. Mi oedd llenyddiaeth Feiblaidd yn cael ei chyfieithu a’i hargraffu mewn mwy a mwy o ieithoedd ac yn cael ei hanfon i ganghennau eraill. Oherwydd hynny, oedden ni angen Bethel newydd. Wnaeth y brodyr adeiladu un mewn ardal hyfryd i’r gorllewin o Johannesburg, a chafodd ei gysegru ym 1987. Oedd hi’n bleser bod yn rhan o’r twf hwnnw, a gwasanaethu ar Bwyllgor y Gangen yn Ne Affrica am lawer o flynyddoedd.
ASEINIAD NEWYDD ARALL!
Daeth syrpréis mawr yn 2001 pan ges i fy ngwahodd i wasanaethu ar Bwyllgor Cangen yr Unol Daleithiau, oedd newydd gael ei ffurfio. Er ein bod ni’n drist gadael ein gwaith a’n ffrindiau yn Ne Affrica, oedden ni’n edrych ymlaen at gychwyn bywyd newydd fel rhan o deulu Bethel yr Unol Daleithiau.
Ond, roedden ni’n pryderu oherwydd y bydden ni’n bell oddi wrth fam oedrannus Laura. Fyddai hi ddim wedi bod yn bosib gwneud llawer iddi o Efrog Newydd, ond mi wnaeth tair chwaer Laura gynnig ei helpu yn gorfforol, yn emosiynol, ac yn ariannol. Dywedon nhw, “Allwn ni ddim gwasanaethu’n llawn amser ein hunain, ond os ydyn ni’n edrych ar ôl Mam, bydd hynny’n eich helpu chi i barhau efo’ch aseiniad.” ’Dyn ni’n ddiolchgar iawn iddyn nhw.
Yn yr un ysbryd, roedd fy mrawd a’i wraig oedd yn byw yn Toronto, Canada, yn gofalu am fy mam innau, oedd bellach yn weddw. Erbyn hynny, roedd hi wedi bod yn byw gyda nhw am dros 20 mlynedd. ’Dyn ni wir yn gwerthfawrogi’r cariad a’r gofal wnaethon nhw eu rhoi iddi nes iddi farw ychydig ar ôl inni gyrraedd Efrog Newydd. Dyna iti fendith ydy cael aelodau’r teulu sydd mor gefnogol ac sy’n barod i addasu eu bywydau er mwyn cymryd cyfrifoldeb sy’n gallu bod yn heriol ar brydiau!
Am rai blynyddoedd, o’n i’n gweithio yn yr adran cynhyrchu llenyddiaeth yn yr Unol Daleithiau, sydd wedi cael ei moderneiddio a’i symleiddio yn fwy byth erbyn hyn. Ac yn fwy diweddar, dw i wedi bod yn gweithio yn yr Adran Brynu. Mae hi wedi bod yn hynod o bleserus bod yn rhan o’r gangen enfawr hon dros yr 20 mlynedd ddiwethaf, lle mae ’na bellach deulu o 5,000 yn gweithio, yn ogystal â thua 2,000 o weithwyr sy’n cymudo.
Chwe deg mlynedd yn ôl, fyddwn i byth wedi meddwl mai dyma le fyddwn i. Ar hyd y blynyddoedd, mae Laura wedi bod yn gefn imi. Mae bywyd wedi bod yn wirioneddol fendigedig! ’Dyn ni’n trysori’r amrywiaeth o aseiniadau ’dyn ni wedi eu cael, a’r holl bobl hyfryd ’dyn ni wedi gweithio hefo nhw, gan gynnwys y rhai yn yr holl ganghennau ’dyn ni wedi ymweld â nhw ar aseiniadau ar draws y byd. Rŵan mod i dros 80 mlwydd oed, mae fy aseiniad wedi cael ei leihau oherwydd bod ’na frodyr ifanc galluog sy’n gallu gofalu am y gwaith.
Ysgrifennodd y salmydd: “Mae’r genedl sydd a’r ARGLWYDD yn Dduw iddi wedi ei bendithio’n fawr [yn hapus].” (Salm 33:12) Mae hynny mor wir! Dw i mor ddiolchgar mod i wedi cael gwasanaethu Jehofa ochr yn ochr â’i bobl hapus.