Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

ERTHYGL ASTUDIO 29

Cefnoga Iesu, yr Un Sy’n Ein Harwain

Cefnoga Iesu, yr Un Sy’n Ein Harwain

“Dw i wedi cael awdurdod llwyr i reoli popeth yn y nefoedd ac ar y ddaear.”—MATH. 28:18.

CÂN 13 Crist, Ein Hesiampl

CIPOLWG a

1. Beth ydy ewyllys Jehofa heddiw?

 HEDDIW, mae Duw eisiau i newyddion da y Deyrnas gael ei rannu ledled y byd. (Marc 13:10; 1 Tim. 2:3, 4) Gwaith Jehofa ydy hwn, ac mae mor bwysig nes ei fod wedi penodi neb llai na’i Fab ei hun i edrych ar ôl y gwaith hwnnw. Does neb gwell na Iesu i’n harwain ni, ac yn sicr bydd y gwaith pregethu’n cael ei orffen fel mae Jehofa eisiau, a hynny cyn i’r diwedd ddod.—Math. 24:14.

2. Beth byddwn ni’n ei drafod yn yr erthygl hon?

2 Yn yr erthygl hon, byddwn ni’n gweld sut mae Iesu yn defnyddio’r gwas ffyddlon a chall i fwydo ei ddilynwyr yn ysbrydol, ac i’w trefnu nhw i wneud y gwaith pregethu. (Math. 24:45) Byddwn ni hefyd yn gweld sut gall pob un ohonon ni gefnogi Iesu a’r gwas ffyddlon a chall.

MAE IESU YN ARWAIN Y GWAITH PREGETHU

3. Pa awdurdod mae Iesu wedi ei gael?

3 Sut gallwn ni fod yn sicr mai Iesu sy’n arwain y gwaith pregethu? Sylwa ar beth ddywedodd Iesu wrth rai o’i ddilynwyr ffyddlon ar fynydd yng Ngalilea yn fuan cyn iddo fynd i’r nef: “Dw i wedi cael awdurdod llwyr i reoli popeth yn y nefoedd ac ar y ddaear. Felly ewch i wneud pobl o bob gwlad yn ddisgyblion i mi.” (Math. 28:18, 19) Felly, un o’r prif bethau mae Iesu wedi cael yr awdurdod i’w wneud ydy arwain y gwaith pregethu.

4. Pam gallwn ni fod yn sicr bod Iesu’n dal i arwain y gwaith pregethu heddiw?

4 Dywedodd Iesu, nid yn unig y byddai’r gwaith pregethu yn cael ei wneud ym ‘mhob gwlad,’ ond hefyd y byddai ef gyda’i ddilynwyr “bob amser nes bydd diwedd y byd wedi dod.” (Math. 28:20) Wrth reswm felly, mae Iesu’n dal i arwain y gwaith pregethu heddiw.

5. Pa ran sydd gynnon ni ym mhroffwydoliaeth Salm 110:3?

5 Roedd Iesu’n gwbl hyderus y byddai digon o bobl i wneud y gwaith yn ystod y dyddiau diwethaf. Pam? Am ei fod yn sicr y byddai geiriau’r Salmydd yn cael eu cyflawni: “Mae dy bobl yn barod i dy ddilyn i’r frwydr.” (Salm 110:3) Os wyt ti’n cael rhan yn y gwaith pregethu, rwyt ti’n un o’r bobl hynny. Wrth gefnogi Iesu a’r gwas ffyddlon a chall, rwyt ti’n rhan o’r broffwydoliaeth. Mae’r gwaith yn sicr yn mynd yn ei flaen, ond mae ’na heriau.

6. Beth ydy un her rydyn ni’n ei hwynebu wrth bregethu heddiw?

6 Un o’r heriau rydyn ni’n ei hwynebu wrth bregethu ydy gwrthwynebiad. Mae cymaint o gelwyddau wedi cael eu lledaenu amdanon ni gan wrthgilwyr, arweinwyr crefyddol, a gwleidyddion, mae’n hawdd deall sut mae cymaint o bobl wedi cael eu camarwain. Yn sgil yr holl bropaganda, gall ein perthnasau, cyd-weithwyr, a phobl eraill rydyn ni’n eu hadnabod roi pwysau arnon ni i stopio gwasanaethu Jehofa, a stopio pregethu. Mewn rhai gwledydd, mae ein gelynion yn bygwth ein brodyr a chwiorydd, yn ymosod arnyn nhw, neu’n eu harestio, gan hyd yn oed eu hanfon i’r carchar fel tacteg i’w stopio. Ond dydy hynny ddim yn ein synnu, oherwydd dywedodd Iesu: “Bydd pobl ym mhob gwlad yn eich casáu chi am eich bod yn ddilynwyr i mi.” (Math. 24:9) Felly, mae’r ffaith bod pobl yn ein casáu ni gymaint ond yn profi ein bod ni’n plesio Jehofa. (Math. 5:11, 12) Satan ei hun sy’n gyfrifol am yr holl wrthwynebiad, ond does ganddo ddim gobaith yn erbyn Iesu. Gyda Iesu ar y blaen, mae’r newyddion da yn cyrraedd pobl ym mhob gwlad. Gad inni weld y dystiolaeth.

7. Pa dystiolaeth sydd ’na bod Datguddiad 14:6, 7 yn cael ei chyflawni?

7 Mae iaith hefyd yn gallu achosi heriau wrth bregethu. Ond dywedodd Iesu wrth yr apostol Ioan yn Datguddiad 14:6, 7 y byddai’r her honno yn cael ei threchu yn ein dyddiau ni. (Darllen.) Rydyn ni’n rhoi cyfle i gymaint o bobl â phosib ledled y byd ddysgu am y newyddion da, ac ymateb iddo. Er enghraifft, mae ’na wybodaeth am y Beibl mewn mwy na mil o ieithoedd ar ein gwefan, jw.org! Bydd ein prif gwrs astudio, Mwynhewch Fywyd am Byth! yn cael ei gyfieithu i fwy na 700 o ieithoedd. Ac oherwydd fideos mewn ieithoedd arwyddion a chyhoeddiadau braille, mae bwyd ysbrydol hefyd ar gael ar gyfer pobl fyddar, a phobl ddall. Felly, mae’n amlwg bod proffwydoliaeth y Beibl yn cael ei chyflawni, oherwydd mae pobl o “bob gwlad ac iaith” yn dysgu “geiriau glân,” hynny ydy, gwirioneddau’r Beibl. (Sech. 8:23; Seff. 3:9) Ac mae hyn i gyd yn digwydd oherwydd arweiniad ardderchog Iesu Grist.

8. Pa ganlyniadau rydyn ni wedi eu gweld o’r gwaith pregethu hyd yn hyn?

8 Heddiw, mae ymhell dros 8 miliwn o bobl mewn 240 o wledydd yn rhan o gyfundrefn Jehofa. Ac mae degau o filoedd yn cael eu bedyddio bob blwyddyn! Ond nid ystadegau da yw’r peth pwysicaf. Y peth pwysicaf ydy bod y bobl hyn wedi meithrin rhinweddau ysbrydol. Maen nhw wedi gwisgo’r bersonoliaeth newydd. (Col. 3:8-10) Mae llawer wedi troi eu cefnau ar fywyd anfoesol neu dreisgar, ac wedi cael gwared ar eu gwladgarwch a’u rhagfarn. Felly, mae proffwydoliaeth Eseia 2:4 yn cael ei chyflawni oherwydd nad ydyn nhw’n ‘hyfforddi i fynd i ryfel’ bellach. Wrth inni wisgo’r bersonoliaeth newydd, rydyn ni’n denu eraill at gyfundrefn Jehofa, ac yn dangos ein bod ni’n dilyn Iesu. (Ioan 13:35; 1 Pedr 2:12) Mae hynny’n digwydd am fod Iesu yn ein helpu ni.

MAE IESU YN PENODI GWAS

9. Yn ôl Mathew 24:45-47, beth ddywedodd Iesu y byddai’n digwydd yn ystod amser y diwedd?

9 Darllen Mathew 24:45-47. Dywedodd Iesu y byddai’n penodi gwas ffyddlon a chall i roi bwyd ysbrydol inni yn ystod amser y diwedd. Mae wedi dewis grŵp bach o frodyr eneiniog i wneud y gwaith hwnnw, ac maen nhw’n gweithio’n galed. Eu nod ydy rhoi bwyd ysbrydol “yn rheolaidd,” ac ar yr adeg iawn, i bobl Dduw a’r rhai sydd â diddordeb. Dydyn nhw ddim yn meddwl eu bod nhw’n well na ni, nac yn ei lordio hi droston ni. (2 Cor. 1:24) Yn hytrach, maen nhw’n deall ac yn parchu’r ffaith mai Iesu ydy “arweinydd” ei bobl.—Esei. 55:4.

10. Pa un o’r cyhoeddiadau yn y llun wnaeth dy helpu di i ddechrau gwasanaethu Jehofa?

10 Ers 1919, mae’r gwas wedi bod yn brysur yn paratoi cyhoeddiadau sy’n cyflwyno’r gwir i rai newydd. Ym 1921, cafodd y llyfr The Harp of God ei gyhoeddi yn arbennig i ddysgu gwirioneddau sylfaenol y Beibl i’r rhai oedd â diddordeb. A dros y blynyddoedd, mae llawer mwy wedi cael eu cyhoeddi. Pa un wnaeth dy helpu di i ddod i adnabod Jehofa a’i garu? Ai’r llyfr “Let God Be True,” The Truth That Leads to Eternal Life, neu You Can Live Forever in Paradise on Earth. Neu efallai un o’r rhai mwyaf diweddar fel Gwybodaeth Sy’n Arwain i Fywyd Tragwyddol, Beth Mae’r Beibl yn ei Wir Ddysgu? neu Beth Allwn Ni ei Ddysgu o’r Beibl? Neu o bosib ein llyfr newydd sbon, Mwynhewch Fywyd am Byth! Cafodd pob un o’r rhain ei baratoi’n ofalus i’n helpu ni i wneud disgyblion yn y ffordd orau ar y pryd.

11. Pam rydyn ni i gyd angen bwyd ysbrydol?

11 Rydyn ni i gyd angen dod i adnabod Jehofa yn dda, a deall y Beibl yn iawn, nid jest y rhai sydd ond yn dechrau dangos diddordeb neu sy’n newydd yn y gwir. Dywedodd yr apostol Paul: “Mae’r rhai sydd wedi tyfu i fyny yn cael bwyd solet.” Ond ar ben hynny, dywedodd y bydden ni’n gallu “gwahaniaethu rhwng y drwg a’r da,” os ydyn ni’n rhoi’r hyn rydyn ni’n ei ddysgu o’r Beibl ar waith. (Heb. 5:14) Gall hynny fod yn anodd iawn mewn byd mor anfoesol. Ond mae Iesu’n rhoi bwyd ysbrydol inni i wneud yn siŵr ein bod ni’n ddigon cryf i gadw at safonau Jehofa. Mae’n arwain y gwas ffyddlon a chall i baratoi a dosbarthu’r bwyd hwnnw sy’n dod o Air Duw, y Beibl.

12. Fel Iesu, sut rydyn ni wedi dangos ein bod ni’n parchu enw Duw?

12 Fel Iesu, rydyn ni’n parchu enw Duw fel mae’n ei haeddu. (Ioan 17:6, 26, BCND) Ym 1931, gwnaethon ni ddangos pa mor bwysig ydy hynny inni drwy gymryd ei enw, a galw ein hunain yn Dystion Jehofa. (Esei. 43:10-12) Ac ym mis Hydref y flwyddyn honno, dechreuodd yr enw hwnnw ymddangos ar glawr y cylchgrawn hwn, ac felly mae hi wedi bod ers hynny. Mae’r New World Translation of the Holy Scriptures hefyd wedi rhoi enw Duw yn ôl yn lle mae i fod. Mae hynny’n hollol wahanol i eglwysi’r Byd Cred sydd wedi tynnu enw Jehofa allan o’u Beiblau!

MAE IESU YN TREFNU EI DDILYNWYR

13. Pam wyt ti’n sicr bod Iesu yn defnyddio’r gwas ffyddlon a chall heddiw? (Ioan 6:68)

13 Mae Iesu wedi defnyddio’r gwas ffyddlon a chall i sefydlu cyfundrefn ryfeddol ar y ddaear i gefnogi addoliad pur. Sut rwyt ti’n teimlo am y gyfundrefn honno? Efallai bydd geiriau’r apostol Pedr yn dod i feddwl pan ddywedodd wrth Iesu: “Arglwydd, at bwy awn ni? . . . Mae beth rwyt ti’n ei ddweud yn arwain i fywyd tragwyddol.” (Ioan 6:68) Lle fyddet ti heddiw heb gyfundrefn Jehofa? Drwyddi, mae Iesu’n sicrhau ein bod ni’n cael digon o fwyd ysbrydol, mae’n ein hyfforddi ni i wella ein sgiliau pregethu, ac yn ein helpu ni i wisgo’r bersonoliaeth newydd fel ein bod ni’n gallu gwneud Jehofa yn hapus.—Eff. 4:24.

14. Sut rwyt ti wedi elwa o fod yn rhan o gyfundrefn Jehofa yn ystod y pandemig COVID-19?

14 Mae Iesu’n rhoi arweiniad doeth pan ydyn ni mewn argyfwng. Meddylia am sut gwnaethon ni elwa o ddilyn ei gyfarwyddyd yn ystod y pandemig COVID-19. Prin oedd y pandemig wedi cychwyn pan gawson ni arweiniad clir i’n cadw ni’n saff tra oedd y byd yn dal i benderfynu beth i’w wneud. Cawson ni ein hannog i wisgo mygydau mewn llefydd cyhoeddus, ac i gadw pellter oddi wrth eraill. Cafodd yr henuriaid eu hatgoffa i gadw cysylltiad â phawb yn y gynulleidfa, ac i fod yn effro i unrhyw beth roedd ei angen arnyn nhw i aros yn ddiogel, yn iach, ac yn ysbrydol gryf. (Esei. 32:1, 2) A chawson ni fwy o gyfarwyddiadau ac anogaeth drwy ddiweddariadau gan y Corff Llywodraethol.

15. Pa arweiniad gawson ni ynglŷn â chynnal cyfarfodydd a phregethu yn ystod y pandemig, a gyda pha ganlyniadau?

15 Rhywbeth arall cawson ni arweiniad clir amdano yn ystod y pandemig, oedd sut i gynnal cyfarfodydd a phregethu. Bron iawn dros nos, dechreuon ni gynnal cyfarfodydd, cynulliadau, a chynadleddau dros y we. Ac ymhen amser, ein prif ffordd o dystiolaethu oedd drwy ysgrifennu llythyrau, a thystiolaethu dros y ffôn. Beth oedd canlyniad ein holl ymdrechion? Mae’n amlwg bod Jehofa wedi ein bendithio, oherwydd mae llawer o ganghennau wedi gweld nifer y cyhoeddwyr yn eu tiriogaeth yn codi, ac mae llawer wedi cael profiadau calonogol iawn yn ystod y cyfnod hwn.—Gweler y blwch “ Mae Jehofa yn Bendithio Ein Gwaith Pregethu.”

16. Beth gallwn ni fod yn sicr ohono?

16 Efallai bod rhai wedi teimlo bod y gyfundrefn wedi troedio’n rhy ofalus yn ystod y pandemig. Ond dro ar ôl tro, daeth hi’n amlwg bod yr arweiniad roedden ni wedi ei gael yn ddoeth. (Math. 11:19, BCND) Wrth inni feddwl am yr holl ffyrdd mae Iesu wedi ein harwain ni, gallwn ni fod yn hollol sicr y bydd ef a Jehofa gyda ni yn y dyfodol hefyd, ni waeth beth fydd yn digwydd.—Darllen Hebreaid 13:5, 6.

17. Sut rwyt ti’n teimlo am y ffaith mai Iesu sy’n dy arwain?

17 Onid ydyn ni mor falch mai Iesu sydd yn ein harwain? Rydyn ni’n rhan o gyfundrefn sy’n unedig er gwaethaf gwahanol ieithoedd, diwylliannau, a chefndiroedd. Rydyn ni’n cael hen ddigon o fwyd ysbrydol, a hyfforddiant ynglŷn â sut i wneud y gwaith pregethu. Ac ar lefel bersonol, rydyn ni’n cael help i wisgo’r bersonoliaeth newydd, ac i ddysgu i garu ein gilydd. Felly wrth gwrs, rydyn ni wrth ein boddau mai Iesu sy’n ein harwain.

CÂN 16 Moliannwch Jehofa am ei Fab Eneiniog

a Os wyt ti’n un o’r miliynau sy’n pregethu’r newyddion da yn selog, rwyt ti’n cael dy arwain gan Iesu Grist. Yn yr erthygl hon, byddwn ni’n gweld tystiolaeth mai Iesu yw’r un sy’n ein harwain. Bydd myfyrio ar hynny yn ein helpu ni i ddal ati i wasanaethu Jehofa.