Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

ERTHYGL ASTUDIO 28

Mae’r Deyrnas Wedi ei Sefydlu!

Mae’r Deyrnas Wedi ei Sefydlu!

“Mae teyrnas y byd wedi dod yn deyrnas ein Harglwydd a’i Feseia.”—DAT. 11:15.

CÂN 22 Mae’r Deyrnas Wedi ei Sefydlu—Gad Iddi Ddod!

CIPOLWG a

1. Beth rydyn ni’n sicr ohono, a pham?

 PAN wyt ti’n gweld holl broblemau’r byd heddiw, wyt ti’n ei chael hi’n anodd aros yn bositif? Mae teuluoedd yn chwalu, ac ar y cyfan mae pobl yn mynd yn fwy treisgar a hunanol. Mae llawer yn ei chael hi’n anodd trystio’r rhai mewn awdurdod. Ond mewn un ffordd gall hyn fod yn newyddion da. Sut? Oherwydd all neb wadu mai dyna sut gwnaeth y Beibl ddisgrifio’r ffordd byddai pobl yn ymddwyn yn “y cyfnod olaf.” (2 Tim. 3:1-5) Mae’r ffaith bod y broffwydoliaeth honno wedi cael ei chyflawni yn dangos bod Iesu Grist wedi dechrau rheoli fel brenin Teyrnas Dduw. Ond dim ond un broffwydoliaeth am y Deyrnas ydy honno. Beth am inni gryfhau ein ffydd drwy edrych ar broffwydoliaethau eraill sydd wedi cael eu cyflawni’n ddiweddar?

Mae proffwydoliaethau o lyfrau Daniel a Datguddiad yn dod at ei gilydd fel jig-so i greu darlun o’r hyn fydd yn digwydd yn fuan (Gweler paragraff 2)

2. Beth byddwn ni’n ei drafod yn yr erthygl hon, a pham? (Rho sylwad ar y llun ar y clawr.)

2 Yn yr erthygl hon byddwn ni’n trafod (1) proffwydoliaeth sy’n ein helpu ni i ddeall pryd cafodd y Deyrnas ei sefydlu, (2) proffwydoliaethau sy’n ein helpu ni i ddeall bod Iesu eisoes yn frenin ar Deyrnas Dduw, a (3) proffwydoliaethau sy’n dangos sut bydd gelynion Teyrnas Dduw yn cael eu dinistrio. Byddwn ni’n gweld bod y proffwydoliaethau hyn yn dod at ei gilydd fel jig-so ac yn creu darlun clir o le rydyn ni yn amserlen Jehofa.

SUT I WYBOD PRYD CAFODD Y DEYRNAS EI SEFYDLU

3. O ddarllen y broffwydoliaeth yn Daniel 7:13, 14, beth gallwn ni fod yn sicr ohono?

3 O ddarllen y broffwydoliaeth yn Daniel 7:13, 14, rydyn ni’n hollol sicr mai Iesu Grist ydy’r un gorau i reoli Teyrnas Dduw. Mae’n dweud yno y byddai pobl o bob gwlad yn “ei anrhydeddu,” ac yn ei wasanaethu, ac fyddai’r un rheolwr arall yn cymryd ei le. Proffwydodd Daniel hefyd y byddai saith cyfnod yn mynd heibio cyn y byddai Iesu’n dechrau rheoli. Ydy hi’n bosib inni wybod pryd yn union oedd hynny?

4. Sut mae Daniel 4:10-17 yn ein helpu ni i weithio allan pryd yn union y byddai Iesu’n dod yn Frenin? (Gweler hefyd y troednodyn.)

4 Darllen Daniel 4:10-17. Mae’r “cyfnod hir,” (“saith cyfnod,” BCND), yn cynrychioli 2,520 o flynyddoedd. Dechreuodd y cyfnod hwnnw yn 607 COG pan wnaeth y Babiloniaid drechu’r brenin diwethaf oedd yn rheoli dros bobl Jehofa yn Jerwsalem. Daeth y cyfnod hwnnw i ben ym 1914 OG, pan wnaeth Jehofa wneud Iesu—yr un â’r hawl gyfreithiol—yn Frenin ar ei Deyrnas. bEsec. 21:25-27.

5. Sut gallwn ni elwa o’r broffwydoliaeth am y “saith cyfnod”?

5 Sut gallwn ni elwa o’r broffwydoliaeth hon? Os ydyn ni’n deall y broffwydoliaeth am y “saith cyfnod,” mae’n rhoi hyder inni fod Jehofa wastad yn cyflawni ei addewidion ar amser. Yn union fel gwnaeth ef gadw at ei amserlen wrth wneud Iesu’n Frenin, bydd yn cadw at ei amserlen wrth gyflawni proffwydoliaethau eraill hefyd. Does dim dwywaith amdani, mae dydd Jehofa yn “siŵr o ddod ar yr amser iawn.”—Hab. 2:3.

SUT RYDYN NI’N GWYBOD BOD IESU EISOES YN FRENIN?

6. (a) Pa dystiolaeth weledol sydd ’na bod Iesu’n rheoli yn y nef? (b) Sut mae’r broffwydoliaeth yn Datguddiad 6:2-8 yn cadarnhau’r dystiolaeth honno?

6 Tra oedd Iesu’n dal ar y ddaear, soniodd am bethau a fyddai’n dangos wrth ei ddilynwyr ei fod wedi dechrau rheoli yn y nef. Roedd hynny yn cynnwys pethau fel rhyfeloedd, newyn, daeargrynfeydd, a salwch neu heintiau “mewn gwahanol leoedd.” Mae’r pandemig COVID-19 diweddar yn enghraifft o hynny. Mae’r pethau hyn i gyd yn rhan o’r “arwydd” bod Iesu’n rheoli. (Math. 24:3, 7; Luc 21:7, 10, 11) Dros 60 mlynedd ar ôl i Iesu farw a mynd i’r nef, rhoddodd gadarnhad i’r apostol Ioan y byddai’r pethau hyn yn digwydd. (Darllen Datguddiad 6:2-8.) Ac mae pob un ohonyn nhw wedi digwydd ers i Iesu ddechrau teyrnasu ym 1914.

7. Pam mae cymaint o bethau drwg wedi digwydd ar y ddaear ers i Iesu ddod yn Frenin?

7 Pam mae cymaint o bethau drwg wedi digwydd ar y ddaear ers i Iesu ddod yn Frenin? Mae Datguddiad 6:2 yn esbonio mai aseiniad cyntaf Iesu fel Brenin oedd rhyfela yn erbyn Satan a’i gythreuliaid. Rydyn ni’n cael gwybod yn Datguddiad 12 bod Satan wedi colli’r rhyfel hwnnw a’i fod ef a’i gythreuliaid wedi cael eu hyrddio i lawr i’r ddaear. Roedd Satan wedi gwylltio, ac roedd yn benderfynol o wneud i’r ddynoliaeth dalu, gan achosi “gwae i’r ddaear.”—Dat. 12:7-12.

Er nad ydyn ni’n hoffi gweld pethau drwg yn digwydd, mae gweld proffwydoliaethau’r Beibl yn cael eu cyflawni yn cryfhau ein hyder bod Teyrnas Dduw wedi ei sefydlu (Gweler paragraff 8)

8. Sut gallwn ni elwa o weld proffwydoliaethau am y Deyrnas yn cael eu cyflawni?

8 Sut gallwn ni elwa o’r proffwydoliaethau hyn? Mae digwyddiadau o gwmpas y byd, a’r ffordd mae pobl yn ymddwyn, yn ein helpu ni i ddeall bod Iesu eisoes yn Frenin. Felly er nad ydy hi’n neis gweld pobl yn ymddwyn yn hunanol ac yn gas, mae hynny’n cyflawni proffwydoliaethau’r Beibl. Mae’n hollol amlwg bod y Deyrnas wedi ei sefydlu! (Salm 37:1) A bydd pethau yn y byd ond yn mynd yn waeth wrth i Armagedon nesáu. (Marc 13:8; 2 Tim. 3:13) Onid ydyn ni’n ddiolchgar iawn i Jehofa am ein helpu ni i ddeall beth sy’n mynd ymlaen?

SUT BYDD GELYNION TEYRNAS DDUW YN CAEL EU DINISTRIO?

9. Sut mae’r broffwydoliaeth yn Daniel 2:28, 31-35 yn disgrifio’r grym byd olaf, a phryd gwnaeth hwnnw ddechrau rheoli?

9 Darllen Daniel 2:28, 31-35. Mae’n amlwg bod y broffwydoliaeth hon yn cael ei chyflawni heddiw. Roedd breuddwyd Nebwchadnesar yn dangos beth fyddai’n digwydd yn ein dyddiau ni. Byddai’r grym byd olaf gwnaeth y Beibl ei ragfynegi yn teyrnasu ar yr un pryd â Iesu, a bydden nhw’n elynion. Mae’r grym byd hwnnw yn cael ei gynrychioli gan draed sydd “yn gymysgedd o haearn a chrochenwaith.” Ymddangosodd yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf pan ddechreuodd Prydain ac America gydweithio’n agos, a chreu’r bartneriaeth Eingl-Americanaidd. Mae’r ddelw ym mreuddwyd Nebwchadnesar hefyd yn dangos bod o leiaf ddau beth am y grym byd hwn yn ei osod ar wahân i’r gweddill.

10. (a) Sut mae proffwydoliaeth Daniel yn disgrifio’r grym byd Eingl-Americanaidd i’r dim? (b) Beth dylen ni ei osgoi? (Gweler y blwch “ Peryg y Clai.”)

10 Y gwahaniaeth cyntaf ydy bod y grym byd Eingl-Americanaidd yn cael ei gynrychioli gan gymysgedd o haearn a chlai, nid metel solet. Mae’r clai’n cynrychioli “pobloedd,” hynny yw, pobl gyffredin y byd. (Dan. 2:43) Mae’n amlwg heddiw bod y bobl yn gwanhau’r grym byd hwn am eu bod nhw’n dylanwadu ar etholiadau, yn protestio, ac yn ffurfio undebau llafur.

11. Sut mae’r ffaith bod y Grym Byd Eingl-Americanaidd yn rheoli yn cadarnhau ein bod ni’n byw yn amser y diwedd?

11 Yr ail wahaniaeth ydy, does ’na ddim grym byd arall yn dilyn hwn. Yn hytrach, bydd Duw yn dinistrio’r grym byd Eingl-Americanaidd ynghyd â phob llywodraeth arall ar y ddaear yn ystod Armagedon. cDat. 16:13, 14, 16; 19:19, 20.

12. Sut mae proffwydoliaeth Daniel yn rhoi cysur a gobaith inni?

12 Sut gallwn ni elwa o’r broffwydoliaeth hon? Mae proffwydoliaeth Daniel yn cadarnhau’r ffaith ein bod ni’n byw yn y dyddiau diwethaf. Dros 2,500 o flynyddoedd yn ôl, dywedodd Daniel y byddai pedwar grym byd arall yn codi ar ôl Babilon, ac yn teyrnasu dros bobl Dduw. Ar ben hynny, dywedodd mai’r grym byd Eingl-Americanaidd fyddai’r diwethaf o’r rhain. Felly yn fuan, bydd Teyrnas Dduw yn cael gwared ar lywodraethau dynol yn gyfan gwbl. Onid ydy hynny yn rhoi cysur a gobaith inni?—Dan. 2:44.

13. Beth mae’r “wythfed brenin” a’r “deg brenin” yn Datguddiad 17:9-12 yn ei gynrychioli, a sut cafodd y broffwydoliaeth hon ei chyflawni?

13 Darllen Datguddiad 17:9-12. Cafodd proffwydoliaeth arall ei chyflawni yn fuan ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf. Oherwydd yr holl ddinistr roedd y rhyfel wedi ei achosi, roedd arweinwyr y byd eisiau adfer heddwch yn fyd-eang. Felly fe wnaethon nhw sefydlu Cynghrair y Cenhedloedd ym mis Ionawr 1920. Ym mis Hydref 1945, cafodd y gynghrair honno ei disodli gan y Cenhedloedd Unedig, sy’n cael eu galw’n “wythfed brenin.” Ond nid yw’r gyfundrefn hon yn rym byd oherwydd mae’n dibynnu ar y llywodraethau sy’n ei chefnogi am nerth a statws. Mae’r Beibl yn galw’r llywodraethau hynny yn ‘ddeg brenin.’

14-15. (a) Beth rydyn ni’n ei ddysgu am “Babilon Fawr” yn Datguddiad 17:3-5? (b) Beth mae cefnogwyr gau grefydd yn ei wneud?

14 Darllen Datguddiad 17:3-5. Mewn gweledigaeth oddi wrth Dduw, gwelodd yr apostol Ioan butain. “Babilon Fawr” yw’r butain honno, ac mae hi’n cynrychioli ymerodraeth fyd-eang gau grefydd. Mae’r ffaith bod gau grefydd wedi gweithio mor agos â llywodraethau’r byd yn dangos bod y broffwydoliaeth hon wedi cael ei chyflawni. Ond cyn bo hir, bydd Jehofa yn ysgogi’r llywodraethau hynny, sef y “deg brenin,” i ‘gyflawni ei bwrpas.’ O ganlyniad, byddan nhw’n ymosod ar gyfundrefnau gau grefydd ac yn eu dinistrio.—Dat. 17:1, 2, 16, 17.

15 Sut rydyn ni’n gwybod bod Babilon Fawr ar fin cael ei dinistrio? Mae Datguddiad yn cymharu’r miliynau sy’n cefnogi Babilon Fawr â “dyfroedd.” Mae hyn yn ein hatgoffa ni o’r ffordd roedd dyfroedd afon Ewffrates yn cefnogi ac yn amddiffyn dinas Babilon gynt. (Dat. 17:15) Ond dywedodd Datguddiad hefyd y byddai’r dyfroedd hynny yn ‘sychu.’ Hynny yw, byddai ymerodraeth gau grefydd yn colli llawer o’i chefnogwyr. (Dat. 16:12) A dyna’n union sydd wedi digwydd. Erbyn heddiw mae llawer wedi cefnu ar gau grefydd, ac wedi dechrau chwilio am atebion mewn llefydd eraill.

16. Sut mae deall y proffwydoliaethau am y Cenhedloedd Unedig a Babilon Fawr yn ein helpu?

16 Sut rydyn ni’n elwa o’r proffwydoliaethau hyn? Mae’r ffaith bod y Cenhedloedd Unedig yn bodoli, ynghyd â’r ffaith bod gau grefydd yn colli ei chefnogwyr, yn dystiolaeth bellach ein bod ni’n byw yn y dyddiau diwethaf. Er bod y “dyfroedd” sy’n cefnogi Babilon Fawr yn sychu, nid dyna fydd yn dinistrio cyfundrefnau gau grefydd. Fel dywedon ni, Jehofa fydd yn ysgogi’r “deg brenin,” sef y llywodraethau sy’n cefnogi’r Cenhedloedd Unedig, i ‘gyflawni ei bwrpas.’ Yn fwyaf sydyn, bydd y cenhedloedd hynny yn troi ar gau grefydd, a bydd y byd yn gegrwth. d (Dat. 18:8-10) Bydd y byd wedi cynhyrfu ar ôl dinistr Babilon Fawr ac efallai bydd hynny yn gwneud pethau’n anodd. Ond bydd gan bobl Dduw o leiaf ddau reswm i lawenhau. Yn gyntaf, bydd un o elynion pennaf Jehofa wedi mynd am byth, ac yn ail, byddwn ni reit ar drothwy’r byd newydd!—Luc 21:28.

WYNEBA’R DYFODOL YN HYDERUS

17-18. (a) Sut gallwn ni gryfhau ein ffydd yn fwy byth? (b) Beth byddwn ni’n ei drafod yn yr erthygl nesaf?

17 Rhagfynegodd Daniel y byddai’r gwir yn dod yn amlwg, a dyna’n union sydd wedi digwydd. Rydyn ni bellach yn deall proffwydoliaethau am ein hamser ni. (Dan. 12:4, NWT, 9, 10) Mae’n rhyfeddol gweld y proffwydoliaethau hyn yn cael eu cyflawni’n fanwl gywir, ac maen nhw’n gwneud inni barchu Jehofa, a’i Air, yn fwy byth. (Esei. 46:10; 55:11) Felly, dalia ati i gryfhau dy ffydd drwy astudio’r Beibl a thrwy helpu eraill i ddod i adnabod Jehofa. Bydd ef yn amddiffyn y rhai sy’n ei drystio’n llwyr, fel eu bod nhw’n “gallu bod yn hollol dawel eu meddwl.”—Esei. 26:3.

18 Yn yr erthygl nesaf, byddwn ni’n edrych ar broffwydoliaethau am y gynulleidfa Gristnogol yn amser y diwedd. Byddwn ni’n dysgu sut mae’r proffwydoliaethau hyn yn rhan o’r jig-so, a sut maen nhw’n profi ein bod ni’n byw yn y dyddiau diwethaf. A byddwn ni’n gweld tystiolaeth bellach bod ein Brenin Iesu yn arwain ac yn cefnogi ei ddilynwyr ffyddlon.

CÂN 61 Ymlaen â Chi Dystion!

a Rydyn ni’n byw yn un o’r cyfnodau mwyaf cyffrous erioed. Mae’r Deyrnas wedi ei sefydlu fel gwnaeth y Beibl ei ragfynegi mewn sawl proffwydoliaeth. Wrth drafod rhai o’r proffwydoliaethau hyn, bydd yr erthygl hon yn cryfhau ein ffydd yn Jehofa, ac yn ein helpu i’w drystio a pheidio â chynhyrfu, nawr ac yn y dyfodol.

b Gweler gwers 32 pwynt 4 yn y llyfr Mwynhewch Fywyd am Byth! a gwylia’r fideo Dechreuodd Teyrnas Dduw Reoli ym 1914 ar jw.org.

c Am fwy o wybodaeth am broffwydoliaeth Daniel, gweler rhifyn Mehefin 15, 2012, y Tŵr Gwylio Saesneg, tt. 14-18 a t.19.

d Am fwy o fanylion am beth fydd yn digwydd yn y dyfodol agos, gweler pennod 21 yn y llyfr God’s Kingdom Rules!