Awgrymiad ar Gyfer Astudio
Gosod Blaenoriaethau
Does gynnon ni ddim llawer o amser i astudio. Felly, sut gallwn ni wneud y defnydd gorau o’n hamser? Yn gyntaf, cymera dy amser. Byddi di’n elwa’n fwy o astudio pytiau bach yn ofalus na rhuthro drwy ormod o wybodaeth.
Yna, gosoda dy flaenoriaethau. (Eff. 5:15, 16) Ystyria’r syniadau hyn:
Darllena’r Beibl bob dydd. (Salm 1:2) Lle da i gychwyn ydy’r rhaglen darllen y Beibl sydd yn y cyfarfod canol wythnos.
Paratoa am Astudiaeth y Tŵr Gwylio a’r cyfarfod canol wythnos. Bydda’n barod i roi atebion.—Salm 22:22.
Gwna dy orau i gadw i fyny gyda bwyd ysbrydol, fel ein cylchgronau cyhoeddus, fideos, a deunydd newydd ar jw.org.
Gwna brosiect astudio. Gelli di wneud ymchwil ar her rwyt ti’n ei hwynebu, ar unrhyw gwestiwn sydd gen ti, neu ar bwnc Beiblaidd rwyt ti eisiau ei ddeall yn well. I gael syniadau, adolyga’r rhan ar jw.org, “Gweithgareddau i Astudio’r Beibl.”