Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

ERTHYGL ASTUDIO 31

“Byddwch Yn Gadarn, Yn Sefydlog”

“Byddwch Yn Gadarn, Yn Sefydlog”

“Fy mrodyr annwyl, byddwch yn gadarn, yn sefydlog.”—1 COR. 15:58.

CÂN 122 Safwch yn Gadarn!

CIPOLWG a

1-2. Ym mha ffordd gallai Cristion bod fel adeilad uchel? (1 Corinthiaid 15:58)

 YN Y 1970au hwyr, roedd ’na adeilad uchel oedd gyda chwe deg llawr yn edrych dros Tokyo, Japan. Roedd llawer o bobl yn poeni a fyddai’r adeilad yn gallu gwrthsefyll yr holl ddaeargrynfeydd y bydden nhw’n eu cael. Y gyfrinach? Gwnaeth peirianwyr adeiladu’r adeilad i fod yn gadarn, ond hefyd iddo allu gwrthsefyll tirgryniadau. Mae Cristnogion fel yr adeilad hwnnw. Ym mha ffordd?

2 Mae’n rhaid i Gristion gadw’r ddysgl yn wastad drwy fod yn gadarn a thrwy fod yn hyblyg. Mae ef angen bod yn gryf ac yn benderfynol i fod yn ufudd i gyfreithiau a safonau Jehofa. (Darllen 1 Corinthiaid 15:58.) Y mae’n “barod i ufuddhau” a ddim yn cyfaddawdu. Ar y llaw arall, mae ef angen bod “yn rhesymol,” neu’n hyblyg, pan mae angen. (Iago 3:17) Ni fydd Cristion sy’n dysgu i fod yn gytbwys yn rhy llym nac yn rhy llac wrth wneud penderfyniadau. Yn yr erthygl hon byddwn ni’n ystyried sut gallwn ni fod yn sefydlog. Byddwn ni hefyd yn sôn am bum ffordd mae Satan yn ceisio gwanhau ein hymdrechion i aros yn gadarn a sut gallwn ni dal ein tir.

SUT GALLWN FOD YN GADARN?

3. Pa gyfreithiau gan Jehofa sydd i’w gweld yn Actau 15: 28, 29?

3 Jehofa ydy’r unig un sydd â’r hawl i greu cyfreithiau, ac y mae bob amser yn gwneud yn siŵr bod ei gyfreithiau yn hawdd i’w bobl eu deall. (Esei. 33:22) Er enghraifft, gwnaeth corff llywodraethol y ganrif gyntaf sôn am dair ffordd y mae’n rhaid i Gristion aros yn gadarn: (1) drwy wrthod eilunaddoliaeth a gwasanaethu Jehofa yn unig, (2) drwy ufuddhau i gyfraith Jehofa bod gwaed yn sanctaidd, a (3) drwy gadw at safonau moesol uchel y Beibl. (Darllen Actau 15:28, 29.) Sut gall Cristnogion heddiw aros yn gadarn yn y tair ffordd hyn?

4. Sut rydyn ni’n addoli Jehofa yn unig? (Datguddiad 4:11)

4 Rydyn ni’n gwrthod eilunaddoliaeth ac yn addoli Jehofa yn unig. Gwnaeth Jehofa orchymyn i’r Israeliaid addoli ef a neb arall. (Deut. 5:6-10) A phan gafodd ei demtio gan y Diafol, gwnaeth Iesu ei gwneud hi’n hollol glir mai dim ond Jehofa rydyn ni i fod i’w addoli. (Math. 4:8-10) Felly dydyn ni ddim yn addoli delwau crefyddol. Hefyd, dydyn ni ddim yn trin pobl fel duwiau, ni waeth os ydyn nhw’n arweinwyr crefyddol neu wleidyddol, neu’n sêr yn y byd chwaraeon ac adloniant. Rydyn ni’n ochri gyda Jehofa ac yn addoli’r un a “greodd bob peth.”—Darllen Datguddiad 4:11.

5. Pam rydyn ni’n ufudd i gyfraith Jehofa ynglŷn â sancteiddrwydd bywyd a gwaed?

5 Rydyn ni’n ufudd i gyfraith Jehofa ynglŷn â sancteiddrwydd bywyd a gwaed. Pam? Oherwydd mae Jehofa’n dweud bod gwaed yn cynrychioli bywyd, rhodd arbennig ganddo ef. (Lef. 17:14) Pan roddodd Jehofa yr hawl i ddynion bwyta cig, gorchmynnodd iddyn nhw beidio â bwyta’r gwaed. (Gen. 9:4) Gwnaeth ef ailadrodd y gorchymyn yng Nghyfraith Moses. (Lef. 17:10) Gwnaeth ef hefyd ddweud wrth gorff llywodraethol y ganrif gyntaf i orchymyn i bob Gristion gwrthod gwaed. (Act. 15:28, 29) Rydyn ni’n gadarn wrth fod yn ufudd i’r gorchymyn hwn pan ydyn ni’n gwneud penderfyniadau meddygol. b

6. Pa ymdrechion rydyn ni’n eu gwneud er mwyn dilyn safonau moesol uchel Jehofa?

6 Rydyn ni’n cadw at safonau moesol uchel Jehofa. (Heb. 13:4) Gan ddefnyddio iaith ffigurol, dywedodd yr apostol Paul wrthon ni am ladd ‘rhannau o’n corff.’ Hynny yw, cymryd camau i gael gwared ar chwantau cnawdol. Rydyn ni’n osgoi gwylio neu wneud unrhyw beth a all arwain at anfoesoldeb rhywiol. (Col. 3:5; Job 31:1) Yn wyneb temtasiwn, rydyn ni’n gwrthod unrhyw meddyliau neu weithred a all niweidio ein perthynas â Duw.

7. Beth dylen ni fod yn benderfynol o’i wneud, a pham?

7 Mae Jehofa yn disgwyl inni fod yn “ufudd o’r galon.” (Rhuf. 6:17) Mae ei orchmynion bob tro yn dda inni a dydyn ni ddim yn gallu eu newid nhw. (Esei. 48:17, 18; 1 Cor. 6:9, 10) Rydyn ni’n gwneud ein gorau i blesio Jehofa a dangos yr un agwedd â’r salmydd a ddywedodd: “Dw i’n benderfynol o ddilyn dy ddeddfau: mae’r wobr yn para am byth.” (Salm 119:112) Ond bydd Satan yn trio ei orau i wanhau ein penderfyniad i aros yn gadarn. Sut mae’n gwneud hynny?

SUT MAE SATAN YN TRIO GWANHAU EIN FFYDD?

8. Sut mae Satan yn defnyddio erledigaeth i drio gwanhau ein ffydd?

8 Erledigaeth. Mae’r Diafol yn defnyddio ymosodiadau corfforol ac emosiynol i drio gwanhau ein ffydd. Mae ef eisiau ein ‘llyncu’ ni er mwyn dinistrio ein perthynas â Jehofa. (1 Pedr 5:8) Cafodd Cristnogion y ganrif gyntaf eu bygwth, eu curo, a’u lladd oherwydd eu bod nhw mor benderfynol o aros yn gadarn. (Act. 5:27, 28, 40; 7:54-60) Mae Satan yn dal yn defnyddio erledigaeth heddiw. Mae hyn yn amlwg yn y ffordd greulon mae ein brodyr a’n chwiorydd yn Rwsia a gwledydd eraill yn cael eu trin, ac yn yr ymosodiadau personol gan wrthwynebwyr.

9. Pam mae’n rhaid inni fod yn effro i bwysau gan eraill?

9 Pwysau gan eraill. Yn ogystal ag erledigaeth, mae Satan yn defnyddio “gweithredoedd cyfrwys.” (Eff. 6:11) Er enghraifft, roedd brawd o’r enw Bob yn cael llawdriniaeth yn yr ysbyty. Dywedodd wrth y doctoriaid byddai ef byth yn derbyn trallwysiad gwaed. Gwnaeth y meddyg gytuno i barchu ei benderfyniad. Ond, ar ôl i’w deulu fynd adref, daeth doctor arall i weld Bob, a dweud na fyddan nhw’n rhoi gwaed iddo ond byddai gwaed ar gael jyst rhag ofn. Efallai roedd y doctor yn meddwl byddai Bob yn newid ei feddwl heb ei deulu o gwmpas. Ond arhosodd Bob yn gadarn, a dweud na fyddai ef yn cymryd gwaed o dan unrhyw sefyllfa.

10. Sut gall rhesymu dynol fod yn fagl? (1 Corinthiaid 3:19, 20)

10 Rhesymu dynol. Os ydyn ni’n edrych ar bethau o safbwynt dynol, mae ’na beryg y byddwn ni’n dechrau anwybyddu Jehofa a’i safonau. (Darllen 1 Corinthiaid 3:19, 20.) Yn aml, mae “doethineb y byd hwn” yn apelio at chwantau cnawdol. Gwnaeth rhai Cristnogion ddechrau meddwl fel y bobl eilunaddolgar ac anfoesol yn Pergamus a Thyatira. Rhoddodd Iesu gyngor cryf i’r ddwy gynulleidfa am dderbyn anfoesoldeb rhywiol. (Dat. 2:14, 20) Heddiw, rydyn ni o dan bwysau i gael yr un meddylfryd a’r byd. Gallai aelodau ein teulu neu ffrindiau drio ein perswadio ni i gyfaddawdu. Er enghraifft, efallai y byddan nhw’n dweud bod dilyn safonau hen ffasiwn y Beibl ddim o bwys, a’i bod hi’n iawn inni ddilyn ein calonnau.

11. Wrth inni sefyll yn gadarn, beth mae’n rhaid inni ei osgoi?

11 Ar adegau, mae ’na beryg inni feddwl nad ydy arweiniad Jehofa yn ddigon. Efallai byddwn ni hyd yn oed yn cael ein temtio i fynd “y tu hwnt i’r pethau sy’n ysgrifenedig.” (1 Cor. 4:6) Roedd arweinwyr crefyddol dyddiau Iesu yn euog o hyn. Drwy greu eu rheolau eu hunain, ar ben beth roedd y Gyfraith yn ei dweud, roedden nhw’n gwneud bywyd yn anodd i’r bobl gyffredin. (Math. 23:4) Mae Jehofa’n rhoi arweiniad clir inni drwy ei Air a’i gyfundrefn. Does ’na ddim rheswm inni ychwanegu at yr hyn y mae’n darparu. (Diar. 3:5-7) Felly dydyn ni ddim yn mynd y tu hwnt i beth mae’r Beibl yn ei ddweud nac yn creu rheolau ar gyfer ein brodyr a’n chwiorydd am bethau personol.

12. Sut mae Satan yn hybu ‘twyll gwag’?

12 Twyll. Mae Satan yn defnyddio ‘twyll gwag’ a ‘phethau sylfaenol y byd’ i’n camarwain a’n gwahanu ni. (Col. 2:8) Yn y ganrif gyntaf roedd y rhain yn cynnwys athroniaethau dynol, dysgeidiaethau anysgrythurol yr Iddewon, a’r ddysgeidiaeth bod rhaid i Gristnogion ddilyn Cyfraith Moses. Gwnaeth y syniadau hyn dwyllo pobl oherwydd eu bod nhw’n tynnu sylw oddi wrth Jehofa, ffynhonnell gwir ddoethineb. Heddiw, mae Satan yn defnyddio’r cyfryngau i ledaenu newyddion camarweiniol a ffals gan arweinwyr gwleidyddol. Gwelon ni lawer o hyn yn ystod y pandemig COVID-19. c Drwy wrando ar arweiniad gan ein cyfundrefn, gwnaeth llawer o Dystion Jehofa osgoi’r pryder oedd yn dod i’r rhai a wrandawodd ar wybodaeth gamarweiniol.—Math. 24:45.

13. Pam dylen ni fod yn effro i bethau a all dynnu ein sylw?

13 Pethau a all dynnu ein sylw. Mae’n rhaid inni beidio â cholli golwg o’r “pethau mwyaf pwysig.” (Phil. 1:9, 10) Pan mae rhywbeth yn tynnu’n sylw ni, gallwn ni wastraffu llawer o’n hamser a’n hegni. Gall pethau arferol bywyd—fel bwyta, yfed, adloniant, a gwaith—dynnu ein sylw oddi ar bethau pwysig bywyd. (Luc 21:34, 35) Hefyd, rydyn ni’n cael ein bombardio bob dydd gyda newyddion am brotestiadau a dadleuon gwleidyddol. Dydyn ni ddim eisiau i’r pethau hyn dynnu’n sylw, neu efallai byddwn ni’n dechrau cymryd ochrau, yn feddyliol neu’n emosiynol. Mae Satan yn defnyddio’r dulliau hyn er mwyn ein gwneud ni’n llai benderfynol o wneud beth sy’n iawn. Gad inni ystyried sut gallwn ni wrthod ei ymdrechion ac aros yn gadarn.

SUT GALLWN NI AROS YN GADARN?

Er mwyn aros yn gadarn, meddylia am dy gysegriad a bedydd, astudia Air Duw a myfyria arno, datblyga galon gref, a trystia yn Jehofa (Gweler paragraffau 14-18)

14. Beth all ein helpu ni i aros yn gadarn ar ochr Jehofa?

14 Myfyrio ar dy gysegriad a bedydd. Gwnest ti gymryd y camau hyn oherwydd dy fod ti eisiau sefyll ar ochr Jehofa. Cofia beth wnaeth dy berswadio di dy fod ti wedi dod o hyd i’r gwir. Gwnest ti ddod i adnabod Jehofa a dechrau ei barchu a’i garu fel dy Dad nefol. Wrth iti ddeall y gwir yn well, cest ti dy ysgogi i stopio gwneud pethau drwg. Ac roeddet ti wir eisiau gwneud pethau a oedd yn plesio Jehofa. Roeddet ti’n teimlo rhyddhad pan wnest ti sylweddoli bod Jehofa wedi maddau iti. (Salm 32:1, 2) Es ti i’r cyfarfodydd a dechrau rhannu’r pethau arbennig roeddet ti wedi eu dysgu ag eraill. Gan dy fod ti wedi cysegru dy hun a chael dy fedyddio, rwyt ti nawr ar y lôn i fywyd ac rwyt ti’n benderfynol o aros arni.—Math. 7:13, 14.

15. Pam mae astudio a myfyrio yn gwneud lles inni?

15 Astudio Gair Duw a myfyrio arno. Yn union fel coeden sy’n gallu sefyll yn gadarn oherwydd ei gwreiddiau dwfn, gallwn ni sefyll yn gadarn os ydy ein ffydd wedi ei gwreiddio yng Ngair Duw. Wrth i goeden dyfu, mae ei gwreiddiau’n tyfu’n ddyfnach ac yn lledaenu. Wrth inni astudio a myfyrio, mae ein ffydd yn cael ei chryfhau ac rydyn ni’n dod yn fwy sicr mai ffyrdd Jehofa sydd orau. (Col. 2:6, 7) Meddylia am sut gwnaeth Jehofa hyfforddi, arwain, ac amddiffyn ei weision yn y gorffennol. Er enghraifft, talodd Eseciel sylw manwl wrth i angel yn ei weledigaeth fesur y deml yn ofalus. Gwnaeth y weledigaeth gryfhau Eseciel, ac mae’n rhoi gwersi ymarferol inni am sut gallwn ni gadw at safonau uchel Jehofa ynglŷn ag addoliad pur. d (Esec. 40:1-4; 43:10-12) Wrth inni ddysgu am bethau dwfn Duw yn ei Air, a myfyrio arnyn nhw, mae’n gwneud lles i ninnau hefyd.

16. Sut gwnaeth calon gadarn amddiffyn Bob? (Salm 112:7)

16 Cryfhau dy galon. Dangosodd y Brenin Dafydd y byddai ef byth yn colli ei gariad at Jehofa pan ganodd: “Y mae fy nghalon yn gadarn, O Dduw.” (Salm 57:7, Beibl Cymraeg Diwygiedig) Gallwn ni hefyd gael calon gadarn wrth drystio Jehofa yn llwyr. (Darllen Salm 112:7.) Ystyria esiampl Bob, a wnaethon ni sôn amdano gynt. Pan ddysgodd bod gwaed am gael ei gadw i un ochr rhag ofn, dywedodd ar unwaith y byddai’n gadael yr ysbyty yn syth petasen nhw’n trio rhoi gwaed iddo. Yn nes ymlaen, dywedodd Bob, “Gwnes i ddim amau beth byddwn ni’n ei wneud, a doeddwn i ddim yn poeni am eiliad.”

Os ydyn ni wedi datblygu sylfaen ysbrydol gref, gallwn ni aros yn gadarn ni waeth pa dreial rydyn ni’n ei wynebu (Gweler paragraff 17)

17. Beth gallwn ni ei ddysgu o brofiad Bob? (Gweler hefyd y llun.)

17 Roedd Bob yn gallu sefyll yn gadarn oherwydd ei fod wedi gwneud y penderfyniad ymhell cyn iddo fynd i’r ysbyty. Yn gyntaf, roedd eisiau gwneud Jehofa yn hapus. Yn ail, roedd wedi astudio beth roedd y Beibl a’n cyhoeddiadau yn ei ddweud am sancteiddrwydd bywyd a gwaed. Yn drydydd, roedd Bob yn hollol sicr byddai Jehofa yn ei wobrwyo am ddilyn ei arweiniad. Gallwn ni hefyd aros yn gadarn dim ots pa dreialon rydyn ni’n eu hwynebu.

Barac a’i ddynion yn rhedeg ar ôl Sisera a’i fyddin (Gweler paragraff 18)

18. Sut mae esiampl Barac yn ein dysgu ni i drystio yn Jehofa? (Gweler y llun ar y clawr.)

18 Trystio yn Jehofa. Ystyria esiampl Barac a’r llwyddiant a gafodd pan drystiodd yn arweiniad Jehofa. Er nad oedd tarian na gwaywffon i’w gael yn y wlad, gwnaeth Jehofa ei arwain i ymladd yn erbyn byddin gref Canaan a’i chadfridog Sisera. (Barn. 5:8) Dywedodd y broffwydes Debora wrth Barac i fynd i lawr i gyfarfod Sisera a’i 900 o gerbydau. Byddai’n anodd i’r Israeliaid ymladd yn erbyn y cerbydau cyflym ar y tir gwastad. Ond er hynny, wnaeth Barac ufuddhau. Wrth i’r milwyr ddod i lawr llethrau Mynydd Tabor, dyma Jehofa’n achosi i’r cymylau dywallt â glaw. Aeth cerbydau Sisera yn sownd yn y mwd, a rhoddodd Jehofa y fuddugoliaeth i Barac. (Barn. 4:1-7, 10, 13-16) Mewn ffordd debyg, bydd Jehofa’n rhoi’r fuddugoliaeth inni os ydyn ni’n trystio ynddo ef ac yn yr arweiniad mae ei gyfundrefn yn ei roi.—Deut. 31:6.

BYDDA’N BENDERFYNOL O AROS YN GADARN

19. Pam rwyt ti eisiau aros yn gadarn?

19 Bydd ein brwydr i aros yn gadarn yn parhau tra ein bod ni’n byw yn y system hon. (1 Tim. 6:11, 12; 2 Pedr 3:17) Gad inni fod yn benderfynol o beidio â chael ein taflu yma ac acw gan erledigaeth, pwysau gan eraill, rhesymu dynol, twyll, neu bethau a all dynnu’n sylw. (Eff. 4:14) Yn lle hynny, gad inni sefyll yn gadarn ac yn sefydlog, a pharhau i garu Jehofa a bod yn ufudd i’w orchmynion. Ar yr un pryd, mae’n rhaid inni fod yn rhesymol. Yn yr erthygl nesaf, byddwn ni’n trafod sut mae Jehofa ac Iesu yn esiamplau perffaith inni o fod yn rhesymol.

CÂN 129 Dyfalbarhawn

a Ers dyddiau Adda ac Efa, mae Satan wedi ceisio perswadio pobl i benderfynu drostyn nhw eu hunain beth sy’n gywir neu’n anghywir. Mae Satan eisiau inni gael yr un agwedd tuag at gyfreithiau Jehofa a thuag at unrhyw gyfarwyddiadau theocrataidd rydyn ni yn ei dderbyn. Bydd yr erthygl hon yn ein helpu ni i gael ein hamddiffyn rhag ysbryd byd Satan ac y bydd yn ein helpu ni i fod yn benderfynol i fod yn ffyddlon i Jehofa drwy’r adeg.

b Am fwy o wybodaeth am sut i gadw at safbwynt Duw ynglŷn â gwaed, gweler gwers 39 y llyfr Mwynhewch Fywyd am Byth!

c Gweler yr erthygl ar jw.org “Amddiffynnwch Eich Hunan Rhag Camwybodaeth.”