Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

ERTHYGL ASTUDIO 30

Dal Ati i Dyfu yn Dy Gariad

Dal Ati i Dyfu yn Dy Gariad

“Gadewch inni drwy gariad dyfu i fyny ym mhob peth.”—EFF. 4:15.

CÂN 2 Jehofa Yw Dy Enw

CIPOLWG a

1. Pa wirioneddau gwnest ti eu dysgu wrth ddechrau astudio’r Beibl?

 A WYT ti’n cofio dechrau astudio’r Beibl? Efallai roeddet ti wedi synnu wrth glywed bod gan Dduw enw. Efallai roedd darganfod nad yw Duw yn arteithio pobl yn uffern yn rhyddhad iti. Ac mae’n debyg bod yr addewid o weld dy anwyliaid eto ym mharadwys wedi dy wneud di’n wir hapus.

2. Yn ogystal â dysgu gwirioneddau’r Beibl, pa gynnydd a wnest ti? (Effesiaid 5:1, 2)

2 Y mwyaf roeddet ti’n astudio Gair Duw, y mwyaf roedd dy gariad at Jehofa yn tyfu. Roedd y cariad hwnnw yn dy ysgogi di i roi ar waith yr hyn roeddet ti’n ei ddysgu. Roeddet ti’n gwneud penderfyniadau gwell ar sail egwyddorion y Beibl. Roedd dy agwedd a dy ymddygiad yn gwella oherwydd roeddet ti eisiau plesio Duw. Fel mae plentyn yn efelychu rhiant cariadus, roeddet ti’n efelychu dy Dad nefol.—Darllen Effesiaid 5:1, 2.

3. Pa gwestiynau gallwn ni eu gofyn i ni’n hunain?

3 Gallwn ni ofyn i ni’n hunain: ‘Ydy fy nghariad at Jehofa yn gryfach nawr nag yr oedd pan ddes i’n Gristion? Ers imi gael fy medyddio, ydy fy ffordd o feddwl ac ymddwyn yn fwy tebyg i ffordd Jehofa, yn enwedig o ran dangos cariad at fy mrodyr a chwiorydd?’ Os wyt ti “wedi colli’r cariad a oedd gen ti ar y cychwyn” i ryw raddau, paid â digalonni. Digwyddodd rhywbeth tebyg i’r Cristnogion yn y ganrif gyntaf. Wnaeth Iesu ddim cefnu arnyn nhw bryd hynny, ac ni fydd yn cefnu arnon ni heddiw chwaith. (Dat. 2:4, 7) Mae’n gwybod y gallwn ni aildanio’r cariad roedden ni’n ei deimlo pan ddysgon ni’r gwir yn y lle cyntaf.

4. Beth byddwn ni’n ei ystyried yn yr erthygl hon?

4 Bydd yr erthygl hon yn trafod sut gall ein cariad at Jehofa ac eraill dyfu’n fwy byth. Yna byddwn ni’n trafod rhai o’r bendithion sy’n dod i ni ac i eraill pan fyddwn ni’n cryfhau ein cariad.

TYFA YN DY GARIAD AT JEHOFA

5-6. Pa heriau wynebodd yr apostol Paul yn ystod ei weinidogaeth, ond beth wnaeth ei ysgogi i barhau i wasanaethu Jehofa?

5 Roedd yr apostol Paul yn hapus i wasanaethu Jehofa, ond doedd ei fywyd ddim wastad yn hawdd. Roedd yn teithio pellteroedd maith yn aml, a doedd teithio ddim yn hawdd yr adeg hynny. Weithiau roedd Paul “mewn peryg oherwydd afonydd” ac “mewn peryg oherwydd lladron.” Ar adegau, cafodd ei guro gan wrthwynebwyr. (2 Cor. 11:23-27) A doedd brodyr Cristnogol Paul ddim wastad yn ddiolchgar am y pethau a wnaeth i’w helpu.—2 Cor. 10:10; Phil. 4:15.

6 Beth wnaeth helpu Paul i barhau i wasanaethu Jehofa? Dysgodd Paul lawer am bersonoliaeth Jehofa drwy ddarllen yr Ysgrythurau, a thrwy ei brofiadau personol. Roedd Paul wedi dysgu bod Jehofa yn ei garu. (Rhuf. 8:38, 39; Eff. 2:4, 5) A daeth i garu Jehofa yn fawr iawn. Dangosodd Paul ei gariad at Jehofa “drwy weini ar y rhai sanctaidd a thrwy barhau i wneud hynny.”—Heb. 6:10.

7. Sut gallwn ni gryfhau ein cariad tuag at Jehofa?

7 Gall ein cariad tuag at Dduw dyfu drwy astudio ei Air yn fanwl. Wrth iti ddarllen y Beibl, ceisia ddeall beth mae’r geiriau yn ei ddangos am Jehofa. Gofynna i ti dy hun: ‘Sut mae’r hanes yma yn dangos bod Jehofa yn fy ngharu i? Pa resymau mae’n rhoi imi garu Jehofa?’

8. Sut gall gweddi ein helpu ni i dyfu yn ein cariad at Jehofa?

8 Gallwn hefyd dyfu yn ein cariad at Jehofa drwy agor ein calonnau iddo mewn gweddi yn rheolaidd. (Salm 25:4, 5) Yn ei dro, bydd Jehofa yn ateb ein gweddïau. (1 Ioan 3:21, 22) Mae chwaer o’r enw Khanh, sy’n byw yn Asia, yn dweud: “I gychwyn, roedd fy nghariad at Jehofa yn seiliedig ar wybodaeth, ond wrth imi weld y ffordd roedd yn ateb fy ngweddïau, roedd fy nghariad tuag ato’n dyfnhau. Gwnaeth hyn fy ysgogi i wneud pethau i’w blesio.” b

TYFA YN DY GARIAD AT ERAILL

9. Sut dangosodd Timotheus ei fod yn gwneud cynnydd drwy ddangos cariad?

9 Rai blynyddoedd ar ôl iddo ddod yn Gristion, fe wnaeth Paul gwrdd â dyn ifanc o’r enw Timotheus. Roedd Timotheus yn caru Jehofa ac yn caru pobl. Dywedodd Paul wrth y Philipiaid am Timotheus: “Does gen i neb arall â’r un agwedd ag ef a fydd yn wir yn gofalu amdanoch chi.” (Phil. 2:20) Nid oedd Paul yn sôn am allu Timotheus i drefnu nac am ei allu i siarad yn gyhoeddus, ond yn amlwg roedd cariad Timotheus at ei frodyr a chwiorydd wedi gwneud argraff ar Paul. Heb os, byddai’r cynulleidfaoedd roedd Timotheus yn eu gwasanaethu yn edrych ymlaen at ei ymweliadau.—1 Cor. 4:17.

10. Sut dangosodd Anna a’i gŵr eu bod nhw’n caru eu brodyr a’u chwiorydd?

10 Rydyn ni hefyd yn edrych am ffyrdd i helpu ein brodyr a’n chwiorydd. (Heb. 13:16) Ystyria brofiad Anna, gwnaethon ni sôn amdani yn yr erthygl flaenorol. Ar ôl storm ffyrnig, aeth hi a’i gŵr i ymweld â theulu o Dystion a darganfod bod to eu tŷ wedi dymchwel. O ganlyniad, doedd gan y teulu ddim dillad glân. Mae Anna’n dweud: “Fe wnaethon ni olchi a smwddio eu dillad. Doedd hyn ddim yn beth anodd inni ei wneud, ond o ganlyniad, rydyn ni’n ffrindiau da hyd heddiw.” Gwnaeth cariad Anna a’i gŵr at eu brodyr a’u chwiorydd eu hysgogi i roi help ymarferol.—1 Ioan 3:17, 18.

11. (a) Sut gall ein hymdrechion i ddangos cariad effeithio ar eraill? (b) Yn ôl Diarhebion 19:17, sut bydd Jehofa yn ymateb pan fyddwn ni’n dangos cariad?

11 Pan fyddwn ni’n trin eraill â chariad, byddan nhw’n gallu gweld ein bod ni’n ceisio adlewyrchu’r ffordd mae Jehofa yn meddwl ac yn gweithredu. Ac efallai byddan nhw’n gwerthfawrogi ein caredigrwydd yn fwy nag y gallwn ni ddychmygu. Mae gan Khanh, gwnaethon ni sôn amdani’n gynharach, atgofion melys am y rhai a’i helpodd hi. Mae hi’n dweud: “Dw i mor ddiolchgar i’r chwiorydd annwyl a aeth â mi allan yn y weinidogaeth. Roedden nhw’n fy nôl i yn y bore, rhannu eu bwyd gyda mi, a mynd â fi adref yn saff bob dydd. Dw i’n deall nawr bod hynny wedi bod yn ymdrech fawr, ond cariad oedd yn eu hysgogi nhw.” Wrth gwrs fydd pawb ddim yn diolch inni am eu helpu. Dyma ddywedodd Khanh am y rhai a’i helpodd hi: “Byddwn i wir yn hoffi talu’r gymwynas yn ôl, ond dw i ddim yn gwybod lle maen nhw i gyd yn byw. Ond mae Jehofa yn gwybod, a dw i’n gweddïo am iddo eu gwobrwyo nhw ar fy rhan i.” Mae Khanh yn dweud y gwir. Mae Jehofa yn sylwi ar bob peth da rydyn ni’n ei wneud dros eraill, hyd yn oed y pethau bach iawn. Mae’n eu gweld fel aberth werthfawr a dyled y bydd yn cael ei thalu’n ôl.—Darllen Diarhebion 19:17.

Pan fydd rhywun yn gwneud cynnydd ysbrydol, mae’n edrych am ffyrdd i helpu eraill (Gweler paragraff 12)

12. Sut gall brodyr ddangos eu cariad at y gynulleidfa? (Gweler hefyd y lluniau.)

12 Os wyt ti’n frawd, sut gelli di ddangos cariad at eraill ac estyn allan i’w helpu? Gofynnodd brawd ifanc o’r enw Jordan i henuriad sut y byddai’n gallu helpu’r gynulleidfa yn fwy. Rhoddodd yr henuriad gymeradwyaeth iddo am y cynnydd roedd eisoes wedi ei wneud, ac yna rhoddodd gyngor ar sut y gallai wneud mwy. Er enghraifft, awgrymodd ei fod yn cyrraedd Neuadd y Deyrnas yn gynnar er mwyn cyfarch eraill, yn cymryd rhan fwy yn y cyfarfodydd, yn pregethu’n rheolaidd gyda’r grŵp gweinidogaeth, ac yn edrych am ffyrdd ymarferol i helpu eraill. Pan roddodd Jordan y cyngor hwn ar waith, nid yn unig roedd yn dysgu sgiliau newydd, ond roedd ei gariad tuag at ei frodyr a’i chwiorydd yn tyfu. Dysgodd Jordan wers bwysig—Pan fydd brawd yn dod yn was y gynulleidfa, dydy ef ddim yn dechrau helpu eraill; yn hytrach mae’n parhau i’w helpu nhw.—1 Tim. 3:8-10, 13.

13. Sut gwnaeth cariad ysgogi brawd o’r enw Christian i ddod yn henuriad unwaith eto?

13 Beth os wyt ti wedi gwasanaethu fel gwas neu henuriad yn y gorffennol? Mae Jehofa yn cofio dy waith a’r cariad oedd y tu ôl iddo. (1 Cor. 15:58) Mae hefyd yn gweld y cariad rwyt ti’n dal i’w ddangos. Roedd brawd o’r enw Christian yn ddigalon ar ôl iddo golli’r fraint o fod yn henuriad. Ond mae’n dweud: “Penderfynais y byddwn i’n gwneud popeth a medrwn i i wasanaethu Jehofa p’un a oeddwn i’n henuriad neu beidio.” Ymhen amser, cafodd ei ailbenodi yn henuriad. Mae Christian yn cyfaddef: “Roeddwn i braidd yn bryderus am wasanaethu eto. Ond gan fod Jehofa, yn ei drugaredd, yn caniatáu imi fod yn henuriad unwaith eto, wnes i benderfynu y byddwn i’n derbyn yr aseiniad oherwydd fy nghariad ato ef ac at fy mrodyr a chwiorydd.”

14. Beth rwyt ti’n ei ddysgu o’r hyn mae chwaer o Georgia yn ei ddweud?

14 Mae gweision Jehofa yn dangos cariad tuag at eu cymdogion hefyd. (Math. 22:37-39) Er enghraifft, mae chwaer o Georgia o’r enw Elena’n dweud: “Ar y dechrau, yr unig beth oedd yn fy ysgogi i bregethu oedd fy nghariad at Jehofa. Ond wrth i fy nghariad at fy Nhad nefol dyfu, roedd fy nghariad at bobl yn tyfu hefyd. Roeddwn i’n ceisio dychmygu pa broblemau oedd ganddyn nhw, a pha bynciau fyddai’n cyffwrdd â’u calonnau. Mwyaf yn y byd roeddwn i’n meddwl amdanyn nhw, mwyaf yn y byd roeddwn i eisiau eu helpu.”—Rhuf. 10:13-15.

BENDITHION SY’N DOD O DDANGOS CARIAD AT ERAILL

Gall un weithred gariadus arwain at fendithion i lawer o bobl eraill (Gweler paragraffau 15-16)

15-16. Fel mae’r lluniau’n dangos, pa fendithion sy’n dod o ddangos cariad at eraill?

15 Wrth inni ddangos cariad at ein brodyr, nid nhw yw’r unig rai sy’n elwa. Ar ôl i’r pandemig COVID-19 ddechrau, fe wnaeth brawd o’r enw Paolo a’i wraig helpu llawer o chwiorydd hŷn i ddysgu sut i ddefnyddio eu dyfeisiau electronig er mwyn tystiolaethu. Roedd un chwaer yn ei chael hi’n anodd ar y dechrau, ond yn y pen draw, llwyddodd i ddefnyddio ei dyfais i yrru gwahoddiadau i’r Goffadwriaeth i’w pherthnasau. Daeth 60 ohonyn nhw i’r cyfarfod drwy gynhadledd fideo! Roedd y chwaer a’i holl berthnasau wedi elwa o ymdrechion Paolo a’i wraig. Yn ddiweddarach, ysgrifennodd y chwaer at Paolo, gan ddweud: “Diolch am ein dysgu ni rai hŷn. Wna i fyth anghofio faint mae Jehofa yn gofalu amdanon ni, a pha mor galed roeddet ti’n gweithio droston ni.”

16 Mae profiadau fel hyn wedi dysgu gwers bwysig i Paolo. Cafodd ei atgoffa bod cariad yn fwy pwysig na gwybodaeth neu allu naturiol. Mae’n dweud: “O’n i’n arfer bod yn arolygwr cylchdaith. Heddiw, dw i’n sylweddoli bod y brodyr yn siŵr o fod wedi anghofio fy anerchiadau, ond maen nhw’n dal i gofio’r help ymarferol roddais iddyn nhw.”

17. Pwy arall fydd yn elwa pan fyddwn ni’n dangos cariad?

17 Pan fyddwn ni’n dangos cariad at eraill, byddwn ninnau’n elwa mewn ffyrdd annisgwyl. Mae Jonathan, sy’n byw yn Seland Newydd, yn cadarnhau hyn. Ar brynhawn Sadwrn poeth, fe welodd un o’r arloeswyr yn tystiolaethu ar hyd y stryd. Penderfynodd y byddai’n gweithio gyda’r arloeswr ar brynhawniau Sadwrn o hynny ymlaen. Doedd Jonathan ddim yn sylweddoli ar y pryd faint byddai yntau’n elwa o’r weithred garedig honno. Mae’n cyfaddef: “Bryd hynny doeddwn i ddim yn mwynhau mynd allan yn y weinidogaeth. Ond wrth imi wrando ar y ffordd roedd yr arloeswr yn dysgu a gweld pa mor ffrwythlon oedd ei weinidogaeth, gwnes i ddechrau mwynhau pregethu. Ar ben hynny, cefais ffrind newydd oedd yn fy helpu i dyfu’n ysbrydol, i fwynhau’r weinidogaeth, ac i nesáu at Jehofa.”

18. Beth mae Jehofa eisiau inni ei wneud?

18 Mae Jehofa eisiau inni i gyd dyfu yn ein cariad ato ef ac at eraill. Fel rydyn ni wedi gweld, gallwn ni gryfhau ein cariad at Jehofa drwy ddarllen ei Air a myfyrio arno, a thrwy weddïo arno’n rheolaidd. Gallwn ni dyfu yn ein cariad tuag at ein brodyr a chwiorydd drwy eu helpu nhw mewn ffyrdd ymarferol. Wrth i’n cariad dyfu, byddwn ni’n dod yn agosach byth at Jehofa ac at ein teulu ysbrydol. A byddwn ni’n mwynhau ein cyfeillgarwch gyda nhw am byth!

CÂN 109 Carwch o Ddyfnder Calon

a P’un a ydyn ni’n newydd yn y gwir neu wedi bod yn gwasanaethu Jehofa ers blynyddoedd maith, gall pob un ohonon ni barhau i wneud cynnydd. Yn yr erthygl hon, byddwn yn dysgu sut gallwn ni wneud hyn drwy caru Jehofa ac eraill yn fwy byth. Wrth iti fyfyrio ar hyn, ystyria pa gynnydd rwyt ti eisoes wedi ei wneud a sut gelli di wneud mwy o gynnydd.

b Newidiwyd rhai enwau.