Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

HANES BYWYD

Mae Diddordeb Personol yn Dod â Bendithion Parhaol

Mae Diddordeb Personol yn Dod â Bendithion Parhaol

Gyda fy mam a fy chwaer, Pat, ym 1948

“DYDY’R Eglwys Anglicanaidd ddim yn dysgu’r gwir. Daliwch ati i edrych amdano.” Ar ôl i fy nain a oedd yn aelod o’r eglwys Anglicanaidd ddweud hyn, dechreuodd fy mam chwilio am y wir grefydd. Ond roedd hi’n anwybyddu Tystion Jehofa ac yn dweud wrtho i am guddio pan oedden nhw’n dod at ein tŷ yn Toronto, Canada. Er hynny, pan ddechreuodd chwaer ifancaf fy mam astudio gyda’r Tystion yn 1950, ymunodd Mam â hi. Roedden nhw’n astudio yn nhŷ fy modryb ag yn nes ymlaen cawson nhw eu bedyddio.

Roedd Dad yn flaenor yn yr Eglwys leol a phob wythnos roedd yn anfon fi a fy chwaer i’r ysgol Sul, ac ar ôl hynny, roedden ni’n ymuno ag ef yng ngwasanaeth yr eglwys am 11:00 yb. Yn y prynhawn, roedden ni’n mynd gyda Mam i Neuadd y Deyrnas. Roedd y gwahaniaeth rhwng y ddwy grefydd yn amlwg.

Yn ystod y Gynhadledd Ryngwladol Divine Will ym 1958 gyda’r teulu Hutcheson

Rhannodd Mam yr hyn roedd hi wedi ei ddysgu â’i hen ffrindiau Bob a Marion Hutcheson. Gwnaethon nhw dderbyn y gwir hefyd. Ym 1958, gwnaeth Bob a Marion a’u tri mab fy nghymryd i i’r Gynhadledd Ryngwladol Divine Will yn Efrog Newydd a barhaodd am wyth diwrnod. Wrth edrych yn ôl, rydw i’n sylweddoli nad oedd yn hawdd iddyn nhw fynd â fi yno, ond mae’r gynhadledd honno yn un o fy atgofion mwyaf melys.

BRODYR A CHWIORYDD YN FY HELPU I WNEUD MWY YNG NGWASANAETH JEHOFA

Yn fy arddegau, roedden ni’n byw ar fferm ac roeddwn i’n mwynhau gofalu am yr anifeiliaid. Gwnes i ystyried dod yn filfeddyg a dywedodd mam hyn wrth un o henuriaid y gynulleidfa. Yn garedig, fe wnaeth fy atgoffa ein bod ni’n byw yn y dyddiau olaf a gofynnodd sut byddai mynd i’r brifysgol am rai blynyddoedd yn effeithio ar fy mherthynas â Jehofa. (2 Tim. 3:1) O ganlyniad, penderfynais beidio â mynd ar ôl addysg uwch.

Doedd gen i ddim syniad beth roeddwn i am ei wneud ar ôl imi adael yr ysgol. Roeddwn i’n mynd ar y weinidogaeth bob penwythnos, ond doeddwn i ddim yn ei fwynhau a doeddwn i ddim yn gallu gweld fy hun fel arloeswr. Ar yr un pryd, roedd fy nhad a fy ewythr yn fy annog i weithio yn llawn amser i gwmni yswiriant mawr yn Toronto. Roedd gan fy ewythr swydd go uchel yn y cwmni. Felly derbyniais y swydd.

Yn Toronto, roedd gweithio oriau hir a threulio amser gyda phobl doedd ddim yn Dystion yn fy rhwystro i rhag cymryd rhan mewn gweithgareddau ysbrydol yn rheolaidd. Ar y dechrau, roeddwn i’n byw gyda fy nhaid doedd ddim yn Dyst, ond ar ôl iddo farw, roeddwn i angen rhywle arall i fyw.

Roedd Bob a Marion, a oedd wedi mynd â fi i’r gynhadledd yn 1958, fel rhieni imi. Ces i wahoddiad i fyw gyda nhw ac o ganlyniad, wnes i dyfu yn ysbrydol. Yn 1960, ces i a’u mab John ein bedyddio. Dechreuodd John arloesi ac fe wnaeth hynny fy ysgogi innau i bregethu’n fwy aml. Gwnaeth y brodyr yn y gynulleidfa sylwi fy mod i’n aeddfedu’n ysbrydol. Ymhen amser, ces i fy mhenodi fel arolygwr Ysgol y Weinidogaeth. a

CES I HYD I BARTNER ARBENNIG A DOD YN ARLOESWR

Ar ddiwrnod ein priodas ym 1966

Ym 1966, fe wnes i briodi Randi Berge, arloeswraig selog oedd eisiau gwasanaethu lle roedd yr angen yn fwy. Gwnaeth ein harolygwr teithiol gymryd diddordeb ynon ni ac anogodd ni i helpu’r gynulleidfa yn Orillia, Ontario. Felly gwnaethon ni bacio ein bagiau a symud.

Yn syth ar ôl inni gyrraedd Orillia, fe wnes i ymuno â Randi fel arloeswr llawn amser. Roedd ei brwdfrydedd hi’n heintus! Unwaith imi daflu fy hun i mewn i’r gwaith arloesi, ces i lawenydd o ddefnyddio’r Beibl a gweld pobl yn ei ddeall yn well. Roedd gallu helpu cwpl arbennig yn Orillia i wneud newidiadau yn eu bywydau ac i ddod yn weision i Jehofa yn fendith fawr.

NEWID IAITH A MEDDYLFRYD

Ar un ymweliad i Toronto fe wnes i gyfarfod Arnold MacNamara, a oedd yn cymryd y blaen yn y Bethel. Gofynnodd a fydden ni yn hoffi bod yn arloeswyr arbennig. Atebais yn syth: “Yn bendant! Ond nid yn Cwebéc!” Roedd rhai pobl oedd yn byw yn y rhan Saesneg o Ganada yn edrych i lawr eu trwynau ar bobl oedd yn siarad Ffrangeg yn Cwebéc. Roedd hynny wedi dylanwadu arna i. Ar y pryd, roedd pobl yn protestio yn erbyn y llywodraeth ac eisiau cael annibyniaeth i Cwebéc.

Atebodd Arnold, “Cwebéc ydy’r unig le mae’r gangen yn gyrru arloeswyr arbennig ar hyn o bryd.” Cytunais i fynd yno’n syth. Roeddwn i’n gwybod yn barod bod Randi eisiau gwasanaethu yno. Yn hwyrach ymlaen, fe wnes i sylweddoli mai hyn oedd un o’r penderfyniadau gorau wnaethon ni erioed!

Ar ôl cael gwersi Ffrangeg am bum wythnos, aeth Randi a finnau gyda chwpl arall i Rimouski, sydd tua 336 milltir i’r gogledd ddwyrain o Montreal. Daeth yn amlwg bod gen i lawer mwy i’w ddysgu pan ddarllenais cyhoeddiadau ar ddiwedd y cyfarfod yn anghywir gan ddweud y byddwn ni’n cael llawer o “estrys” i’r gynhadledd yn lle llawer o bobl o “Awstria.”

Y “Tŷ Gwyn” yn Rimouski

Yn Rimouski, gwnaeth brawd a chwaer Huberdeau, eu dwy ferch, a phedair chwaer sengl selog ymuno â’r pedwar ohonon ni. Cafodd y brawd a chwaer Huberdeau hyd i dŷ mawr i’w rhentu, a gwnaeth yr arloeswyr i gyd oedd yn byw yno helpu gyda’r rhent. Oherwydd ei olwg, galwon ni’r tŷ ‘Y Tŷ Gwyn.’ Fel arfer, roedd rhwng 12 ac 14 ohonon ni’n byw yno. Fel arloeswyr arbennig, roedd Randi a minnau yn mynd allan i bregethu o fore tan nos. Felly roedden ni’n ddiolchgar bod eraill ar gael i ymuno â ni, hyd yn oed ar nosweithiau oer y gaeaf.

Roedd ein perthynas â’r arloeswyr ffyddlon hyn mor agos roedden nhw fel teulu inni. Weithiau, roedden ni’n eistedd o gwmpas tân yn yr awyr agored neu yn cael diwrnod lle oedden ni i gyd yn coginio gyda’n gilydd. Roedd un o’r brodyr yn gerddor, felly ar nosweithiau Sadwrn roedden ni’n aml yn canu ac yn dawnsio.

Roedd y diriogaeth yn Rimouski yn ffrwythlon! O fewn pum mlynedd cawson ni’r llawenydd o weld nifer o fyfyrwyr y Beibl yn gwneud cynnydd ac yn cael eu bedyddio. Gwelon ni’r gynulleidfa yn tyfu nes bod tua 35 o gyhoeddwyr ynddi.

Tra oedden ni’n Cwebéc, cawson ni hyfforddiant rhagorol fel pregethwyr. Gwelon ni llaw Jehofa yn ein helpu ni yn ein gweinidogaeth a gyda anghenion materol. Ar ben hynny, daethon ni i garu’r bobl, eu hiaith, a’u diwylliant. Gwnaeth hynny wneud inni garu diwylliannau eraill hefyd.—2 Cor. 6:13.

Yn annisgwyl, gofynnodd y gangen inni symud i dref o’r enw Tracadie, a oedd ar lan y môr yn New Brunswick. Roedd hyn yn dipyn o broblem oherwydd roedden ni newydd rentio fflat ac roedd gen i swydd rhan amser mewn ysgol. Yn ychwanegol i hynny, roedd rhai o’n myfyrwyr y Beibl newydd ddod yn gyhoeddwyr ac roedden ni ynghanol adeiladu Neuadd y Deyrnas newydd.

Aethon ni ati i weddïo am y sefyllfa dros y penwythnos ac i ymweld â Tracadie a oedd yn wahanol i Rimouski. Gan fod Jehofa eisiau inni fynd yno penderfynon ni fod rhaid inni fynd. Rhoddon ni Jehofa ar brawf a gwelon ni ef yn symud pob rhwystr o’r ffordd. (Mal. 3:10) Roedd symud yn llawer haws gan fod Randi yn chwaer ffyddlon, yn anhunanol, ac roedd ganddi hiwmor da.

Robert Ross oedd yr unig henuriad yn ein cynulleidfa newydd. Roedd wedi arloesi yno gyda’i wraig Linda, a phenderfynon nhw aros ar ôl genedigaeth eu plentyn cyntaf. Er eu bod nhw’n gofalu am blentyn bach, roedd eu croeso cynnes a’u sêl am y weinidogaeth yn ddigon i’n calonogi ni yn fawr iawn.

Y BENDITHION O WASANAETHU LLE MAE’R ANGEN YN FWY

Gaeaf ar ein cylchdaith gyntaf

Ar ôl inni arloesi yn Tracadie am ddwy flynedd, cawson ni wahoddiad annisgwyl unwaith eto—i wasanaethu yn y gwaith teithio. Roedden ni wedi bod yn gwasanaethu mewn cylchdeithiau Saesneg am saith mlynedd, ac yna cawson ni ein hailaseinio i gylchdaith Ffrengig yn Cwebéc. Byddai arolygwr y rhanbarth yn Cwebéc, Léonce Crépeault, yn canmol fy anerchiadau ond y byddai wastad yn gofyn, “Sut byddan nhw’n gallu bod yn fwy ymarferol?” b Gwnaeth y sylw personol hwn wneud imi ddysgu eraill mewn ffordd symlach a haws ei ddeall.

Un aseiniad fydda i byth yn anghofio oedd yr un a ges i yng Nghynhadledd Ryngwladol “Victorious Faith” yn Montreal ym 1978. Roeddwn i’n gweithio yn y Gwasanaeth Bwyd. Roedden ni’n disgwyl 80,000 o bobl, ac roedd trefniadau newydd o fwydo pobl wedi dod i mewn. Roedd popeth yn hollol newydd, yr offer, y fwydlen, a’r dull o baratoi bwyd. Roedd gynnon ni tua ugain oergell anferth, ond weithiau roedden nhw’n torri i lawr. Doedden ni ddim yn gallu mynd i mewn i’r stadiwm i osod pethau cyn hanner nos oherwydd bod digwyddiad chwaraeon yno y diwrnod cynt. Ac roedd rhaid inni gael popeth yn barod cyn y wawr ar gyfer brecwast! Roedden ni wedi blino, ond dysgais gymaint o weld gwaith caled, aeddfedrwydd, a hiwmor fy nghyd-weithwyr. Gwnaethon ni glosio at ein gilydd, a gwneud ffrindiau sydd wedi para hyd heddiw. Am lawenydd gawson ni o fod yn rhan o’r gynhadledd hanesyddol hon yn Cwebéc, yr union dalaith lle roedd erledigaeth mor llym yn ystod y 40au a’r 50au!

Gweithio gyda Randi i baratoi ar gyfer y gynhadledd yn Montreal ym 1985

Dysgais gymaint gan fy nghyd-arolygwyr yn ystod y cynadleddau mawr yn Montreal. Un flwyddyn, gwnaeth David Splaine, sydd nawr yn gwasanaethu ar y Corff Llywodraethol, arolygu’r swyddfa gynhadledd. Yn nes ymlaen, pan ges i’r aseiniad hwnnw, gwnaeth David fy nghefnogi yn fawr.

Yn 2011, ar ôl inni fwynhau 36 o flynyddoedd yn y gwaith teithio, ges i wahoddiad i wasanaethu fel hyfforddwr yn yr Ysgol ar Gyfer Henuriaid. Roeddwn i a Randi wedi cysgu mewn 75 o welyau gwahanol o fewn dwy flynedd, ond roedd hi’n werth pob ymdrech. Ar ddiwedd pob wythnos, roedd yr henuriaid mor ddiolchgar oherwydd eu bod nhw wedi gweld cymaint roedd y Corff Llywodraethol yn gofalu am ysbrydolrwydd yr henuriaid.

Yn nes ymlaen, gwnes i hyfforddi eraill yn yr Ysgol ar Gyfer Pregethwyr y Deyrnas. Yn aml roedd y myfyrwyr wedi blino’n llwyr ar ôl diwrnod o eistedd mewn dosbarth am tua saith awr, gwneud gwaith cartref am dair awr gyda’r nos, a gwneud pedwar neu bump aseiniad bob wythnos. Gwnaeth yr hyfforddwr arall a minnau esbonio na fyddan nhw’n gallu gwneud popeth heb help Jehofa. Wna i byth anghofio syndod y myfyrwyr o weld cymaint roedden nhw’n medru cyflawni wrth ymddiried yn Jehofa.

MAE DANGOS DIDDORDEB YN ERAILL YN DOD Â BUDDION HIRDYMOR

Roedd fy mam yn dangos diddordeb personol mewn eraill. O ganlyniad, daeth ei myfyrwyr y Beibl yn eu blaenau a newidiodd agwedd fy nhad at y gwir. Tri diwrnod ar ôl iddi hi farw, er syndod inni i gyd, daeth fy nhad i anerchiad cyhoeddus yn Neuadd y Deyrnas, a pharhaodd i ddod i gyfarfodydd am y 26 mlynedd nesaf. Er na chafodd fy nhad ei fedyddio, dywedodd yr henuriaid wrtho i mai ef oedd y cyntaf i’r cyfarfodydd bob wythnos.

Roedd fy mam yn esiampl arbennig i fi a fy chwiorydd. Mae fy nhair chwaer a’u gwŷr yn gwasanaethu Jehofa yn ffyddlon. Mae dwy o fy chwiorydd yn gwasanaethu yn swyddfeydd cangen—un ym Mhortiwgal a’r llall yn Haiti.

Mae Randi a minnau nawr yn gwasanaethu fel arloeswyr arbennig yn Hamilton, Ontario. Pan oedden ni yn y gwaith teithio, roedden ni’n mwynhau mynd gydag eraill ar eu galwadau a’u hastudiaethau. Ond nawr mae’n dod â llawenydd inni i weld ein myfyrwyr ein hunain yn dod ymlaen yn ysbrydol. Ac wrth inni glosio at ein brodyr a’n chwiorydd yn ein cynulleidfa newydd, mae’n codi ein calonnau i weld sut mae Jehofa yn eu cefnogi nhw drwy amserau da ac amserau drwg.

Wrth edrych yn ôl, rydyn ni’n gwerthfawrogi yn fawr y diddordeb personol a ddangosodd eraill ynon ni. Yn ein tro, rydyn ninnau wedi ceisio dangos “diddordeb diffuant” yn eraill a’u hannog nhw i gyrraedd eu potensial ysbrydol. (2 Cor. 7:6, 7) Er enghraifft, mewn un teulu, roedd y wraig, y mab, a’r ferch yn gwasanaethu’n llawn amser. Gofynnais i’r gŵr a oedd ef erioed wedi meddwl am arloesi. Ei ateb oedd ei fod ef yn cefnogi’r tri arloeswr arall. Felly gofynnais, “A fedri di eu cefnogi nhw yn well na Jehofa?” Gwnes i ei annog ef i fwynhau’r hyn roedden nhw’n ei fwynhau. O fewn chwe mis, roedd yntau hefyd yn arloesi.

Bydd Randi a minnau yn parhau i sôn wrth y “genhedlaeth sydd i ddod” am “y pethau rhyfeddol” mae Jehofa yn eu gwneud, ac rydyn ni’n gobeithio byddan nhw hefyd yn mwynhau gwasanaethu Jehofa cymaint â ni.—Salm 71:17, 18.

a Sydd nawr yn cael ei alw yn arolygwr Cyfarfod ein Bywyd a’n Gweinidogaeth.

b Gweler hanes bywyd Léonce Crépeault yn rhifyn Chwefror 2020 y Tŵr Gwylio, tt. 26-30.