Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

ERTHYGL ASTUDIO 29

Wyt Ti’n Barod ar Gyfer y Trychineb Mawr?

Wyt Ti’n Barod ar Gyfer y Trychineb Mawr?

“Dangoswch . . . eich bod chi’n barod.”—MATH. 24:44.

CÂN 150 Trowch at Dduw am Waredigaeth

CIPOLWG a

1. Pam mae’n ddoeth i baratoi ar gyfer trychinebau?

 PAN fydd pobl yn paratoi ar gyfer trychineb naturiol, maen nhw’n fwy tebygol o oroesi ac o allu achub bywydau pobl eraill. Dywedodd un sefydliad dyngarol yn Ewrop: “Mae paratoi’n dda yn gwneud byd o wahaniaeth.”

2. Pam dylen ni baratoi ar gyfer y trychineb mawr? (Mathew 24:44)

2 Er bod y trychineb mawr am daro’n sydyn, bydd yn wahanol i drychinebau eraill oherwydd rydyn ni’n gwybod ei fod yn dod. (Math. 24:21) Tua dwy fil o flynyddoedd yn ôl, rhybuddiodd Iesu ei ddilynwyr i fod yn barod am y diwrnod hwnnw. (Darllen Mathew 24:44.) Os ydyn ni wedi paratoi, bydd yn haws inni oroesi’r amser anodd hwnnw, ac i helpu eraill i wneud yr un fath.—Luc 21:36.

3. Sut bydd dyfalbarhad, tosturi, a chariad yn ein helpu ni i fod yn barod ar gyfer y trychineb mawr?

3 Dyma dair rhinwedd a fydd yn ein helpu ni i fod yn barod ar gyfer y trychineb mawr. Petasen ni’n gorfod pregethu neges o farn a phobl yn ein gwrthwynebu, sut bydden ni’n ymateb? (Dat. 16:21) Bydd dyfalbarhad yn hanfodol er mwyn aros yn ufudd i Jehofa ac i drystio y bydd yn ein hamddiffyn. Petai ein brodyr yn colli eu heiddo, beth bydden ni’n ei wneud? (Hab. 3:17, 18) Bydd tosturi yn hanfodol er mwyn rhoi’r cymorth fydd ei angen. Petasen ni’n gorfod byw gyda’n brodyr a’n chwiorydd am gyfnod oherwydd yr ymosodiad gan gynghrair o genhedloedd, sut bydden ni’n ymateb? (Esec. 38:10-12) Bydd cariad cryf at ein brodyr a’n chwiorydd yn hanfodol i’n helpu ni i oroesi’r amser anodd hwnnw.

4. Sut mae’r Beibl yn dangos bod rhaid inni ddal ati i feithrin dyfalbarhad, tosturi, a chariad?

4 Mae Gair Duw yn ein hannog ni i ddal ati i feithrin dyfalbarhad, tosturi, a chariad. Mae Luc 21:19 yn dweud: “Trwy eich dyfalbarhad byddwch chi’n achub eich bywydau.” Mae Colosiaid 3:12 yn dweud: ‘Gwisgwch dosturi.’ Ac mae 1 Thesaloniaid 4:9, 10 yn dweud: ‘Rydych chi’ch hunain yn cael eich dysgu gan Dduw i garu eich gilydd. Ond rydyn ni’n erfyn arnoch chi, frodyr, i ddal ati i wneud hyn yn fwy ac yn fwy.’ Cafodd yr adnodau hyn eu hysgrifennu at ddisgyblion oedd eisoes wedi dangos dyfalbarhad, tosturi, a chariad. Ond roedd rhaid iddyn nhw ddal ati i feithrin y rhinweddau hyn. Mae’n rhaid inni wneud yr un fath. Bydd ystyried sut roedd y Cristnogion cynnar yn dangos y rhinweddau hyn yn ein helpu ni i’w hefelychu nhw. Yna, byddwn ni’n barod ar gyfer y trychineb mawr.

CRYFHA DY DDYFALBARHAD

5. Sut roedd y Cristnogion cynnar yn dyfalbarhau yn wyneb eu treialon?

5 Roedd angen i’r Cristnogion cynnar ddyfalbarhau. (Heb. 10:36) Yn ogystal â wynebu problemau oedd yn gyfarwydd i bawb, roedden nhw’n wynebu treialon eraill. Cafodd llawer ohonyn nhw eu herlid, nid yn unig gan yr arweinwyr crefyddol Iddewig a’r awdurdodau Rhufeinig, ond hefyd gan eu teuluoedd eu hunain. (Math. 10:21) Ac roedd rhaid iddyn nhw sicrhau eu bod nhw’n gwrthwynebu dysgeidiaethau ffals y gwrthgilwyr oedd yn ceisio gwahanu’r gynulleidfa. (Act. 20:29, 30) Er hynny, fe wnaethon nhw ddal ati’n ffyddlon. (Dat. 2:3) Sut? Roedden nhw’n myfyrio ar esiamplau Ysgrythurol rhai fel Job oedd wedi dangos dyfalbarhad. (Iago 5:10, 11) Roedden nhw’n gweddïo am nerth. (Act. 4:29-31) Ac roedden nhw’n canolbwyntio ar ganlyniadau da eu dyfalbarhad.—Act. 5:41.

6. Pa wers gallwn ni ei dysgu o beth wnaeth Merita er mwyn dyfalbarhau yn wyneb treialon?

6 Os ydyn ni’n dysgu am rai yn y Beibl ac yn ein cyhoeddiadau sydd wedi dyfalbarhau a myfyrio ar eu hesiampl, gallwn ninnau hefyd ddal ati. Roedd Merita, chwaer o Albania, yn gallu ymdopi â gwrthwynebiad treisgar ei theulu drwy wneud hynny. Mae hi’n dweud: “Roedd hanes Job yn y Beibl yn fy nghalonogi’n fawr. Dioddefodd gymaint, heb wybod pwy oedd yn achosi ei dreialon, ac eto dywedodd: ‘Bydda i’n onest hyd fy medd.’ (Job 27:5) Gwnes i synhwyro nad oedd fy mhroblemau yn ddim byd o’u cymharu â rhai Job, ac yn wahanol iddo ef, roeddwn i’n gwybod pwy oedd y tu ôl iddyn nhw.”

7. Hyd yn oed os nad ydyn ni’n wynebu problem fawr ar hyn o bryd, beth dylen ni ddysgu i’w wneud nawr?

7 Gallwn ni gryfhau ein dyfalbarhad drwy weddïo ar Jehofa yn aml a dweud wrtho am ein holl bryderon. (Phil. 4:6; 1 Thes. 5:17) Efallai nad wyt ti’n wynebu problemau mawr ar hyn o bryd. Er hynny, a wyt ti’n troi at Jehofa am arweiniad pan wyt ti’n teimlo’n emosiynol, wedi dy ddrysu, neu ddim yn gwybod beth i’w wneud? Os wyt ti’n troi at Jehofa am help nawr, gyda phroblemau bach, bydd yn haws iti droi ato gyda phroblemau mwy yn y dyfodol. Yna byddi di’n hyderus ei fod yn gwybod yn union pryd a sut i weithredu ar dy ran.—Salm 27:1, 3.

DYFALBARHAD

Gall pob treial rydyn ni’n ei oroesi ein cryfhau ni ar gyfer yr un nesaf (Gweler paragraff 8)

8. Sut mae esiampl Mira yn dangos bod dioddef treialon heddiw yn gallu ein helpu ni i wynebu treialon yn y dyfodol? (Iago 1:2-4) (Gweler hefyd y llun.)

8 Os ydyn ni’n dysgu i ddyfalbarhau heddiw, bydd hi’n haws inni oroesi yn ystod y trychineb mawr. (Rhuf. 5:3) Sut gallwn ni ddweud hynny? Mae llawer o frodyr yn dweud bod goroesi un her yn eu helpu nhw i wynebu’r her nesaf. Roedd dyfalbarhad yn eu coethi nhw ac yn cryfhau eu ffydd bod Jehofa yn barod ac yn awyddus i’w helpu. Yna, roedd ffydd yn eu helpu nhw i ddal ati drwy’r treial nesaf. (Darllen Iago 1:2-4.) Mae Mira, sydd yn arloeswraig yn Albania, yn dweud bod dyfalbarhau yn y gorffennol wedi ei helpu hi hyd at heddiw. Mae hi’n cyfaddef ei bod hi weithiau’n teimlo fel yr unig un sy’n wynebu llawer o broblemau. Ond yna mae hi’n cofio popeth mae Jehofa wedi ei wneud drosti yn yr ugain mlynedd diwethaf i’w chefnogi hi ac mae hi’n dweud wrthi hi ei hun: ‘Arhosa’n ffyddlon. Paid â gadael i’r holl flynyddoedd a’r holl frwydrau rwyt ti wedi eu hennill gyda help Jehofa fod yn ofer.’ Gelli di hefyd fyfyrio ar sut mae Jehofa wedi dy helpu di i ddyfalbarhau. Bydda’n hyderus ei fod yn talu sylw bob tro rwyt ti’n dioddef treial ac y bydd yn dy wobrwyo di. (Math. 5:10-12) Yna, pan ddaw’r trychineb mawr, byddi di wedi dysgu sut i ddyfalbarhau a byddi di’n benderfynol o ddal ati.

DANGOSA DOSTURI

9. Sut gwnaeth y gynulleidfa yn Antiochia yn Syria ddangos tosturi?

9 Ystyria beth ddigwyddodd pan ddaeth newyn ar Jwdea a chaledi i’r Cristnogion? Ar ôl i’r gynulleidfa yn Antiochia yn Syria glywed am y newyn, yn sicr bydden nhw wedi teimlo dros eu brodyr yn Jwdea. Ond yna, rhoddon nhw eu tosturi ar waith. “Penderfynodd y disgyblion, bob un yn ôl faint roedd yn gallu ei fforddio, anfon cymorth at y brodyr oedd yn byw yn Jwdea.” (Act. 11:27-30) Er bod y brodyr oedd wedi eu heffeithio gan y newyn yn byw yn bell i ffwrdd, roedd y Cristnogion yn Antiochia eisiau eu helpu nhw.—1 Ioan 3:17, 18.

TOSTURI

Mae trychinebau naturiol yn rhoi’r cyfle inni ddangos tosturi (Gweler paragraff 10)

10. Ym mha ffyrdd gallwn ni ddangos tosturi at ein cyd-gredinwyr pan fyddan nhw wedi eu heffeithio gan drychineb? (Gweler hefyd y llun.)

10 Gallwn ninnau heddiw ddangos tosturi at ein cyd-Gristnogion pan glywn ni eu bod nhw wedi eu heffeithio gan drychineb. Rydyn ni’n ymateb yn syth—efallai drwy ofyn i’r henuriaid a allwn ni helpu ar brosiect, gyfrannu at y gwaith byd-eang, neu weddïo dros y rhai sydd wedi eu heffeithio gan y trychineb. b (Diar. 17:17) Er enghraifft, yn 2020, cafodd dros 950 o Bwyllgorau Cymorth ar ôl Trychineb eu penodi ar draws y byd i ofalu am y rhai oedd wedi eu heffeithio gan y pandemig COVID-19. Rydyn ni’n ddiolchgar iawn i’r brodyr a’r chwiorydd sy’n cymryd rhan mewn gwaith cymorth. Mae tosturi wedi eu cymell nhw i roi cymorth materol ac ysbrydol i’w brodyr a’u chwiorydd. Mewn rhai achosion maen nhw wedi trwsio neu ailadeiladu cartrefi ac addoldai.—Cymhara 2 Corinthiaid 8:1-4.

11. Sut mae dangos tosturi yn dod â chlod i’n Tad nefol?

11 Wrth inni ddangos tosturi ar ôl trychineb, mae eraill yn sylwi ar ein hymdrechion. Er enghraifft, yn 2019, gwnaeth Corwynt Dorian ddinistrio Neuadd y Deyrnas yn y Bahamas. Tra oedd ein brodyr wrthi’n ailadeiladu’r neuadd, gofynnon nhw i adeiladwr nad oedd yn Dyst i brisio gwaith a oedd angen ei wneud. Dywedodd wrthyn nhw: “Dw i eisiau gwneud rhodd . . . o’r offer, llafur, a’r deunydd. . . . Dw i eisiau gwneud hyn ar gyfer eich cyfundrefn. Mae’r ffordd ’dych chi’n teimlo am eich ffrindiau wedi cyffwrdd fy nghalon.” Dydy’r rhan fwyaf o bobl yn y byd ddim yn adnabod Jehofa, ond maen nhw’n gweld beth mae Tystion Jehofa yn ei wneud i helpu eraill. Mae’n codi ein calonnau i wybod bod pobl yn cael eu denu at Jehofa, yr Un sy’n “gyfoethog yn ei drugaredd” pan fyddwn ni’n rhoi tosturi ar waith!—Eff. 2:4.

12. Sut mae dysgu i ddangos tosturi heddiw yn ein paratoi ni ar gyfer y trychineb mawr? (Datguddiad 13:16, 17)

12 Pam bydd angen inni ddangos tosturi yn ystod y trychineb mawr? Mae’r Beibl yn awgrymu y bydd y rhai sydd ddim yn cefnogi llywodraethau’r byd yn wynebu heriau—nawr ac yn ystod y trychineb mawr. (Darllen Datguddiad 13:16, 17.) Efallai bydd ein brodyr a’n chwiorydd angen pethau sylfaenol bywyd. Pan ddaw ein Brenin, Iesu Grist, i farnu, rydyn ni eisiau iddo nid yn unig weld ein bod ni’n dangos tosturi ond hefyd ein gwahodd ni i ‘etifeddu’r Deyrnas’.—Math. 25:34-40.

CRYFHA DY GARIAD

13. Fel mae Rhufeiniaid 15:7 yn ei ddangos, sut roedd y Cristnogion cynnar yn cryfhau’r cariad rhyngddyn nhw?

13 Roedd hi’n amlwg i bawb bod y Cristnogion cynnar yn caru ei gilydd. Ond a oedd dangos cariad yn hawdd iddyn nhw? Ystyria’r amrywiaeth yn y gynulleidfa yn Rhufain. Roedd rhai yn Iddewon oedd wedi cael eu magu i ddilyn Cyfraith Moses, ond roedd eraill yn bobl y Cenhedloedd, o gefndir hollol wahanol. Mae’n debyg bod rhai o’r Cristnogion yn gaethweision ac eraill yn feistri. Er bod y Cristnogion hynny mor wahanol i’w gilydd, sut roedden nhw’n dal ati i ddangos cariad? Gwnaeth yr apostol Paul eu hannog nhw i ‘dderbyn ei gilydd.’ (Darllen Rhufeiniaid 15:7.) Beth roedd hynny yn ei olygu? Mae’r gair “derbyn” yn yr iaith wreiddiol hefyd yn gallu golygu croesawu yn garedig, fel y byddet ti’n croesawu rhywun i dy gartref a threulio amser gyda nhw. Dywedodd Paul wrth Philemon sut i groesawu’r gwas Onesimus oedd wedi rhedeg i ffwrdd: “Rho groeso cynnes iddo.” (Philem. 17) Roedd Priscila ac Acwila yn gwybod mwy am Gristnogaeth nag oedd Apolos, ond roedden nhw’n dal yn hapus i gadw cwmni ag ef. (Act. 18:26) Nid oedd y Cristnogion yn gadael i’r amrywiaeth eu gwahanu nhw. Yn hytrach, roedden nhw’n croesawu ei gilydd.

CARIAD

Rydyn ni angen cariad ein brodyr a’n chwiorydd i gyd (Gweler paragraff 15)

14. Sut roedd Anna a’i gŵr yn dangos cariad?

14 Mae’n bosib i ninnau hefyd ddangos cariad at ein brodyr a’n chwiorydd trwy roi croeso cynnes iddyn nhw a threulio amser gyda nhw. Yn aml, bydd hynny yn eu cymell nhw i ddangos cariad aton ni. (2 Cor. 6:11-13) Ystyria esiampl Anna a’i gŵr. Yn fuan ar ôl iddyn nhw gael aseiniad newydd fel cenhadon yn Affrica, fe wnaeth y pandemig COVID-19 daro. Doedden nhw ddim yn gallu cyfarfod â’r gynulleidfa wyneb yn wyneb, felly sut aethon nhw ati i ddangos cariad? Roedden nhw’n defnyddio fideo-gynadledda i sgwrsio â’r brodyr a’r chwiorydd yno a dweud wrthyn nhw gymaint roedden nhw eisiau dod i’w hadnabod nhw’n well. O ganlyniad roedd y teuluoedd yn ymateb gyda galwadau ffôn a negeseuon yn aml. Pam aeth y cwpl i gymaint o ymdrech? Mae Anna’n dweud: “Wna i byth anghofio’r cariad mae’r brodyr a’r chwiorydd wedi ei ddangos ata i a fy nheulu ar adegau da a drwg. Mae eu hesiampl nhw wedi fy nghymell i ddangos cariad.”

15. Beth rwyt ti’n ei ddysgu o esiampl Vanessa am garu ein brodyr a’n chwiorydd i gyd? (Gweler hefyd y llun.)

15 Mae llawer o’r brodyr a’r chwiorydd yn ein cynulleidfaoedd yn dod o gefndiroedd gwahanol ac mae ganddyn nhw bersonoliaethau gwahanol. Gallwn ni gryfhau’r cariad rhyngddon ni drwy ganolbwyntio ar eu rhinweddau. Roedd Vanessa, sy’n byw yn Seland Newydd, yn ei chael hi’n anodd gyrru ymlaen yn dda gyda rhai yn ei chynulleidfa. Ond yn hytrach na cheisio osgoi’r rhai oedd yn mynd ar ei nerfau, penderfynodd dreulio mwy o amser gyda nhw. Drwy wneud hynny, roedd hi’n gallu gweld pam mae Jehofa yn eu caru nhw. Mae hi’n dweud: “Oherwydd bod fy ngŵr nawr yn arolygwr cylchdaith, rydyn ni’n treulio mwy o amser gyda brodyr a chwiorydd sydd â phersonoliaethau gwahanol, a dw i’n ei chael hi’n haws cyd-dynnu â nhw. Dw i wrth fy modd gyda’r amrywiaeth. Ac mae’n amlwg i mi fod Jehofa hefyd wrth ei fodd, oherwydd y mae wedi denu cymaint o bobl wahanol i’w addoli gyda’i gilydd.” Pan fyddwn ni’n dysgu gweld pobl o safbwynt Jehofa, rydyn ni’n profi ein bod ni’n eu caru nhw.—2 Cor. 8:24.

Mae Jehofa yn addo y bydd yn ein hamddiffyn ni yn ystod y trychineb mawr os ydyn ni’n dal ati i wasanaethu’n unedig gyda’n brodyr a’n chwiorydd (Gweler paragraff 16)

16. Pam bydd cariad yn hanfodol yn ystod y trychineb mawr? (Gweler hefyd y llun.)

16 Bydd cariad yn hanfodol yn ystod y trychineb mawr. Ond yn ystod yr adeg honno, sut bydd Jehofa yn ein hamddiffyn ni? Ystyria gyfarwyddiadau Jehofa i’w bobl pan oedd Babilon o dan ymosodiad: “Ewch, fy mhobl! Ewch i’ch ystafelloedd, a chloi’r drysau ar eich hôl. Cuddiwch am funud fach, nes i’w lid basio heibio.” (Esei. 26:20) Efallai bydd angen i ni ddilyn yr un cyfarwyddiadau yn ystod y trychineb mawr. Gallai’r “ystafelloedd” hynny gyfeirio at ein cynulleidfaoedd. Mae Jehofa yn addo y bydd yn ein hamddiffyn ni yn ystod y trychineb mawr os ydyn ni’n dal ati i wasanaethu’n unedig gyda’n brodyr a’n chwiorydd. Felly mae’n rhaid inni heddiw wneud mwy na goddef ein brodyr a’n chwiorydd. Mae’n rhaid inni eu caru nhw. Efallai dyna fydd y gwahaniaeth rhwng byw a marw.

PARATOA NAWR

17. Os ydyn ni’n paratoi nawr, beth byddwn ni’n gallu ei wneud yn ystod y trychineb mawr?

17 Bydd “dydd mawr” Jehofa yn amser anodd i bawb ar y ddaear. (Seff. 1:14, 15) Bydd pobl Jehofa hefyd yn dioddef. Ond os ydyn ni’n paratoi nawr, byddwn ni’n gallu cadw ein pennau a helpu eraill. Bydd dyfalbarhad yn ein helpu ni i ddod dros unrhyw broblem. Pan fydd ein brodyr a’n chwiorydd yn dioddef, byddwn ni’n gwneud ein gorau i ddangos tosturi a’u helpu nhw. Ac os ydyn ni’n dysgu i garu ein brodyr a’n chwiorydd nawr, byddwn ni’n siŵr o ddangos cariad atyn nhw yn y dyfodol. Yna byddwn ni’n derbyn y rhodd gan Jehofa o fyw am byth mewn byd heb unrhyw drychinebau, a bydd pob problem yn y gorffennol.—Esei. 65:17.

CÂN 144 Canolbwyntiwch ar y Wobr!

a Bydd y trychineb mawr yn dechrau’n fuan. Bydd dyfalbarhad, tosturi, a chariad yn ein helpu ni i fod yn barod ar gyfer yr amser anoddaf y bydd pobl erioed wedi ei wynebu. Sylwa ar sut gwnaeth y Cristnogion cynnar ddatblygu’r rhinweddau hynny, sut gallwn ni wneud yr un fath heddiw, a sut bydd y rhinweddau hynny yn ein helpu ni i fod yn barod ar gyfer y trychineb mawr.

b Dylai’r rhai sydd eisiau cael rhan mewn gwaith cymorth ar ôl trychineb lenwi ffurflen Local Design/Construction Volunteer Application (DC-50) neu’r ffurflen Application for Volunteer Program (A-19) ac yna disgwyl am wahoddiad.