Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

ERTHYGL ASTUDIO 41

Gelli Di Fod yn Wirioneddol Hapus

Gelli Di Fod yn Wirioneddol Hapus

“Mae’r un sy’n parchu’r ARGLWYDD ac yn gwneud beth mae e eisiau, [yn hapus, NWT].”—SALM 128:1.

CÂN 110 Llawenydd Jehofa

CIPOLWG *

1. Beth ydy ein “hangen ysbrydol,” a sut mae ein hapusrwydd yn dibynnu arno?

 MAE hapusrwydd go iawn yn fwy na rhyw deimlad braf sy’n mynd a dod. Mae’n gallu para ar hyd dy fywyd. Beth ydy’r gyfrinach? Dywedodd Iesu yn ei Bregeth ar y Mynydd: “Hapus yw’r rhai sy’n ymwybodol o’u hangen ysbrydol.” (Math. 5:3, NWT) Roedd Iesu’n gwybod ein bod ni wedi cael ein creu gydag “angen ysbrydol,” hynny ydy, yr awydd cryf i ddod i adnabod Jehofa a’i addoli. Ac oherwydd mai Jehofa ydy’r “Duw hapus,” mae’r rhai sy’n ei addoli hefyd yn gallu bod yn hapus.—1 Tim. 1:11.

‘Mae’r rhai sy’n dioddef erledigaeth am eu bod yn byw’n gyfiawn yn hapus.’—Math. 5:10 (Gweler paragraffau 2-3) *

2-3. (a) Yn ôl Iesu, pwy arall sy’n gallu bod yn hapus? (b) Beth byddwn ni’n ei drafod yn yr erthygl hon, a pham mae angen trafod hyn?

2 Oes rhaid i fywyd fod yn berffaith er mwyn inni fod yn hapus? Nac oes. Dywedodd Iesu fod y “rhai sy’n galaru” yn gallu bod yn hapus. Mae hynny’n cynnwys y rhai sydd wedi eu llethu gan bwysau euogrwydd, a’r rhai sy’n wynebu problemau difrifol yn eu bywydau. Dywedodd Iesu yr un peth am y “rhai sy’n dioddef erledigaeth am eu bod yn byw’n gyfiawn,” neu’n cael eu “sarhau” am eu bod nhw’n dilyn Iesu. (Math. 5:4, 10, 11) Ond sut mae’n bosib bod yn hapus ar adegau fel hyn?

3 Dydy hapusrwydd go iawn ddim yn dibynnu ar amgylchiadau perffaith. Yn hytrach, dywedodd Iesu ei fod yn dibynnu ar fodloni ein hanghenion ysbrydol a chlosio at Dduw. (Iago 4:8) Yn yr erthygl hon, byddwn ni’n trafod tri cham syml fydd yn ein helpu ni i fod yn wirioneddol hapus.

DARLLENA’R BEIBL A’I ASTUDIO

4. Beth yw’r cam cyntaf tuag at wir hapusrwydd? (Salm 1:1-3)

4 CAM 1: Er mwyn bod yn wirioneddol hapus, mae’n rhaid inni fwydo ein hunain yn ysbrydol. Mae pobl ac anifeiliaid angen bwyd llythrennol er mwyn aros yn fyw. Ond, dim ond pobl all fanteisio ar fwyd ysbrydol. Dywedodd Iesu: “Nid bwyd ydy’r unig beth mae pobl ei angen i fyw, ond popeth mae Duw yn ei ddweud.” (Math. 4:4) Felly, yn amlwg mae gwir angen hyn arnon ni. Ddylen ni ddim gadael i’r un diwrnod fynd heibio heb ddarllen Gair Duw, y Beibl. Wedi’r cwbl, dywedodd y Salmydd fod yr un sy’n “myfyrio ar y pethau mae’n eu dysgu ddydd a nos” yn hapus.—Darllen Salm 1:1-3.

5-6. (a) Beth rydyn ni’n ei ddysgu o’r Beibl? (b) Ym mha ffyrdd gall darllen y Beibl ein helpu?

5 Yn ei gariad, mae Jehofa wedi dweud wrthon ni sut i fyw bywyd hapus. Yn ei Air, y Beibl, rydyn ni’n dysgu beth yw ei fwriad inni, a sut gallwn ni glosio ato a chael maddeuant am ein pechodau. Ar ben hynny, rydyn ni’n dysgu am y gobaith rhyfeddol mae’n ei addo ar gyfer y dyfodol. (Jer. 29:11) Dyma’r pethau sy’n llenwi ein calonnau â hapusrwydd.

6 Ond mae ’na fwy. Mae’r Beibl yn llawn cyngor ymarferol sy’n gallu ein helpu ni i fod yn hapus. Ond mae’n rhaid inni roi’r cyngor hwnnw ar waith er mwyn elwa arno. Felly pan fydd problemau bywyd yn dy lethu, treulia fwy o amser yn darllen Gair Duw, a myfyria arno. Fel dywedodd Iesu: “Mae’r rhai sy’n gwrando ar neges Duw ac yn ufuddhau iddo [yn hapus].”—Luc 11:28.

7. Sut gelli di wneud y gorau o’r amser rwyt ti’n ei dreulio yn darllen y Beibl?

7 Wrth iti ddarllen y Beibl, mae’n beth da i gymryd yr amser i’w fwynhau. Er enghraifft, a wyt ti erioed wedi eistedd i lawr i fwyta dy hoff bryd o fwyd pan mae dy feddwl ar rywbeth arall, neu pan wyt ti ar ormod o frys? Ar ôl claddu’r cwbl, rwyt ti’n difaru peidio â chymryd amser i fwynhau pob tamaid. Gall yr un peth ddigwydd wrth ddarllen y Beibl. Cymera’r amser i roi dy hun yn y pictiwr, i ddychmygu’r olygfa, i glywed y lleisiau, ac i feddwl am yr hyn rwyt ti’n ei ddarllen. Wedyn, nid yn unig byddi di’n mwynhau darllen Gair Duw, ond byddi di hefyd yn hapusach.

8. Sut mae’r gwas ffyddlon a chall yn gwneud ei waith? (Gweler hefyd y troednodyn.)

8 Mae Iesu wedi penodi’r gwas ffyddlon a chall i roi bwyd ysbrydol inni ar yr adeg iawn. * (Math. 24:45) Y Beibl ydy prif elfen y bwyd hwnnw. (1 Thes. 2:13) Mae’n ein helpu ni i wybod sut mae Jehofa yn meddwl. Rydyn ni wir yn falch o gael cymaint o fwyd ysbrydol. Dyna pam rydyn ni’n darllen y Tŵr Gwylio a Deffrwch!, a’r erthyglau ar jw.org, ac yn paratoi ar gyfer pob cyfarfod. Rydyn ni hefyd yn gwylio JW Broadcasting bob mis. Bydd manteisio ar yr holl fwyd ysbrydol hyn yn ein helpu ni i gymryd yr ail gam tuag at wir hapusrwydd.

BYW YN UNOL Â SAFONAU JEHOFA

9. Beth ydy’r ail gam tuag at hapusrwydd go iawn?

9 CAM 2: Er mwyn cael hapusrwydd go iawn, mae angen inni fyw yn unol â safonau Jehofa. Dywedodd y Salmydd: “Mae’r un sy’n parchu’r ARGLWYDD ac yn gwneud beth mae e eisiau, [yn hapus, NWT].” (Salm 128:1) Rydyn ni’n parchu ac yn ofni Jehofa, felly rydyn ni’n trio peidio â’i frifo. (Diar. 16:6) Mae hynny’n golygu ein bod ni wastad yn ceisio dilyn safonau Jehofa o ran beth sy’n dda a drwg. (2 Cor. 7:1) Drwy wneud y pethau mae Jehofa yn eu caru, a chasáu’r pethau mae ef yn eu casáu, byddwn ni’n hapus.—Salm 37:27; 97:10; Rhuf. 12:9.

10. Yn ôl Rhufeiniaid 12:2, pa gyfrifoldeb sydd gynnon ni?

10 Darllen Rhufeiniaid 12:2. Mae ’na wahaniaeth mawr rhwng gwybod safonau Jehofa o ran da a drwg, a derbyn y safonau hynny. Er enghraifft, efallai bydd rhywun yn gwybod beth ydy’r gyfraith ynglŷn â chyflymder ar y ffyrdd. Ond efallai dydy ef ddim yn fodlon derbyn hynny. Felly mae’n eu hanwybyddu ac yn gyrru’n wyllt. Y pwynt ydy, y ffordd rydyn ni’n ymddwyn sy’n dangos a ydyn ni’n credu mai Jehofa sydd â’r hawl i osod safonau o ran da a drwg, ac mai eu dilyn nhw ydy’r ffordd orau o fyw. (Diar. 12:28) Mae’n amlwg mai dyna sut roedd Dafydd yn teimlo, am ei fod wedi dweud am Jehofa: “Rwyt wedi dangos y ffordd i fywyd i mi; bydd bod gyda ti yn fy llenwi â llawenydd a hyfrydwch diddiwedd bob amser.”—Salm 16:11.

11-12. (a) Pan fydd problemau yn ein llorio, beth sydd rhaid inni fod yn ofalus ohono? (b) Sut gall Philipiaid 4:8 ein helpu ni wrth ddewis adloniant?

11 Pan fydd problemau’n ein llorio, mae’n ddigon naturiol i chwilio am ffyrdd i ddianc oddi wrthyn nhw. Ond mae’n rhaid inni fod yn ofalus i beidio â gwneud unrhyw beth mae Jehofa yn ei gasáu.—Eff. 5:10-12, 15-17.

12 Yn ei lythyr at y Philipiaid, gwnaeth yr apostol Paul annog Cristnogion i feddwl bob amser am “beth sy’n iawn i’w wneud, yn bur, yn garedig ac yn anrhydeddus.” (Darllen Philipiaid 4:8.) Er doedd Paul ddim yn sôn am adloniant yn benodol, mae’r egwyddor yn dal yn berthnasol i ni wrth ddewis sut i dreulio ein hamser hamdden. Tria hyn: Wrth ddewis cân, ffilm, nofel, neu gêm, gofynna i ti dy hun: ‘Ydy hyn yn ffitio’r disgrifiad yn yr adnod honno?’ Bydd hyn yn ein helpu ni i wybod beth sy’n dderbyniol yng ngolwg Duw, a beth sydd ddim. Wedi’r cwbl, ein nod ydy byw yn ôl safonau uchel Jehofa. (Salm 119:1-3) Wedyn bydd gynnon ni gydwybod lân wrth gymryd y cam nesaf tuag at wir hapusrwydd.—Act. 23:1.

RHO ADDOLIAD JEHOFA YN GYNTAF YN DY FYWYD

13. Beth ydy’r trydydd cam sy’n arwain at wir hapusrwydd? (Ioan 4:23, 24)

13 CAM 3: Gwna’n siŵr mai addoli Jehofa yw’r peth pwysicaf yn dy fywyd. Jehofa ydy ein Creawdwr, felly mae ef wir yn haeddu ein haddoliad. (Dat. 4:11; 14:6, 7) Dylai addoli Jehofa “mewn ysbryd a gwirionedd,” hynny ydy, mewn ffordd dderbyniol, ddod yn gyntaf yn ein bywydau. (Darllen Ioan 4:23, 24, BCND.) Bydd yr ysbryd glân yn ein helpu ni i wneud hynny mewn ffordd sy’n unol â gwirioneddau’r Beibl. Hyd yn oed os ydyn ni’n byw mewn gwlad lle mae ein gwaith wedi ei wahardd, mae’n rhaid inni ei flaenoriaethu. Meddylia am ein holl frodyr a chwiorydd sydd yn y carchar dim ond am eu bod nhw’n Dystion Jehofa. * Ond maen nhw’n dal yn hapus ac yn gwneud beth bynnag allan nhw i weddïo, astudio, a dweud wrth eraill am Jehofa a’i Deyrnas. Felly pan fydd eraill yn lladd arnon ni neu’n ein herlid, gallwn ni fod yn hapus o wybod bod Jehofa gyda ni, a’i fod yn barod i’n gwobrwyo.—Iago 1:12; 1 Pedr 4:14.

ESIAMPL WYCH

14. Beth ddigwyddodd i frawd ifanc yn Tajicistan, a pham?

14 Mae’n siŵr dy fod ti wedi clywed llawer o brofiadau sy’n dangos bod y camau hyn yn arwain at hapusrwydd, er gwaethaf problemau ofnadwy. Meddylia am beth ddigwyddodd i Jovidon Bobojonov o Tajicistan. Ac yntau ond yn 19 mlwydd oed, gwrthododd ymuno â’r fyddin. Ar Hydref 4, 2019, cafodd ei gipio o’i gartref, ei garcharu am fisoedd, a’i drin fel petai’n droseddwr. Cafodd yr hanes ei adrodd yn y newyddion ledled y byd. Yn ôl yr adroddiad, cafodd ei guro er mwyn trio ei orfodi i dyngu llw dros ei wlad a gwisgo gwisg filwrol. Wedyn cafodd ei ddedfrydu a’i anfon i wersyll llafur nes iddo gael pardwn gan arlywydd y wlad, a chael ei ryddhau. Er gwaethaf ei brofiad ofnadwy, arhosodd Jovidon yn ffyddlon ac yn hapus drwy ofalu am ei angen ysbrydol.

Gwnaeth Jovidon fwydo ei hun yn ysbrydol, byw yn ôl safonau Duw, a rhoi ei berthynas â Jehofa yn gyntaf (Gweler paragraffau 15-17)

15. Sut gwnaeth Jovidon fwydo ei hun yn ysbrydol tra ei fod yn y carchar?

15 Tra ei fod yn y carchar, gwnaeth Jovidon fwydo ei hun yn ysbrydol. Ond sut, ac yntau heb Feibl na chyhoeddiadau? Roedd brodyr a chwiorydd lleol yn dod â pharseli bwyd iddo ac yn ysgrifennu testun y dydd ar y bagiau. Felly, bob diwrnod, roedd yn gallu darllen rhywbeth o’r Beibl, a myfyrio arno. Ar ôl iddo gael ei ryddhau, dyma oedd ganddo i’w ddweud wrth y rhai sydd heb wynebu treialon difrifol eto: “Manteisiwch yn llawn ar eich rhyddid tra ei fod gynnoch chi. Darllenwch y Beibl a’r cyhoeddiadau er mwyn closio at Jehofa.”

16. Beth gwnaeth Jovidon ganolbwyntio arno?

16 Gwnaeth ein brawd fyw yn ôl safonau Jehofa. Gwrthododd adael i feddyliau drwg aros yn ei feddwl nac ildio i’r pwysau i wneud pethau drwg. Yn hytrach, canolbwyntiodd ar Jehofa a’r hyn oedd yn bwysig iddo Ef. Roedd Jovidon yn rhyfeddu ar greadigaeth Jehofa. Bob bore, roedd wrth ei fodd yn clywed yr adar bach yn canu, a gyda’r nos roedd yn syllu ar y sêr a’r lleuad. Dywedodd: “O’n i’n hapus dros ben yn gweld y pethau bach hynny. Oedden nhw’n anrhegion gan Jehofa, ac yn cadw fi fynd.” Pan ydyn ni’n gwerthfawrogi’r pethau ysbrydol a chorfforol mae Jehofa yn eu rhoi inni, mae’n llenwi ein calonnau â llawenydd ac yn rhoi’r nerth inni ddyfalbarhau.

17. Sut mae geiriau 1 Pedr 1:6, 7 yn wir yn achos rhywun sydd mewn sefyllfa debyg i Jovidon?

17 Gwnaeth Jovidon hefyd flaenoriaethu ei berthynas â Jehofa. Roedd yn gwybod pa mor bwysig ydy aros yn ffyddlon i’r gwir Dduw. Fel dywedodd Iesu: “Addola’r Arglwydd dy Dduw, a’i wasanaethu e yn unig.” (Luc 4:8) Rhoddodd milwyr bwysau ar Jovidon i stopio bod yn Dyst. Ond gwnaeth Jovidon ddibynnu ar Jehofa drwy weddïo’n daer arno bob dydd a nos, gan ofyn am help i beidio ag ildio na chyfaddawdu ei ffydd. Llwyddodd Jovidon i aros yn ffyddlon er gwaethaf yr holl annhegwch. Ers cael ei gipio, ei guro, a’i garcharu, mae ef wedi cael rhywbeth doedd ddim ganddo gynt—ffydd sydd wedi ei chryfhau gan dreialon. Ac mae hynny’n rheswm dros lawenhau!—Darllen 1 Pedr 1:6, 7.

18. Sut gallwn ni aros yn hapus?

18 Mae Jehofa yn gwybod yn union beth sydd ei angen arnon ni i fod yn wirioneddol hapus. Drwy gymryd y tri cham rydyn ni wedi eu trafod, fydd hyd yn oed y treialon mwyaf anodd ddim yn difetha dy hapusrwydd, a byddi di’n siŵr o ddweud: “Hapus yw’r bobl sydd â Jehofa yn Dduw iddyn nhw!”—Salm 144:15, NWT.

CÂN 89 Gwrandewch, Ufuddhewch, a Chewch Fendithion

^ Mae llawer o bobl yn chwilio am hapusrwydd drwy fynd ar ôl pleser, cyfoeth, enwogrwydd, neu bŵer. Ond ydyn nhw’n wirioneddol hapus? Dywedodd Iesu beth fyddai’n dod â hapusrwydd go iawn. Yn yr erthygl hon, byddwn ni’n trafod tri cham sy’n arwain at hapusrwydd.

^ Gweler yr erthygl Are You Receiving ‘Food at the Proper Time’? yn rhifyn Awst 15, 2014, y Tŵr Gwylio Saesneg.

^ Am fwy o fanylion, chwilia am Imprisoned for Their Faith ar wefan Saesneg jw.org.

^ DISGRIFIAD O’R LLUN: Mae brawd yn cael ei arestio a’i gymryd i’r llys. Mae ei frodyr a chwiorydd yn dangos eu cefnogaeth.