Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

ERTHYGL ASTUDIO 42

Mae’r Rhai Sy’n Aros yn Ffyddlon i Jehofa yn Hapus

Mae’r Rhai Sy’n Aros yn Ffyddlon i Jehofa yn Hapus

“Mae’r rhai sy’n ffyddlon, ac yn gwneud beth mae cyfraith Jehofa yn ei ddweud, yn hapus!”—SALM 119:1, NWT.

CÂN 124 Bythol Ffyddlon

CIPOLWG *

Rhai o’n brodyr a chwiorydd sydd un ai wedi cael eu carcharu, neu sydd dal yn y carchar am eu bod nhw’n cefnogi hawl Jehofa i reoli (Gweler paragraffau 1-2)

1-2. (a) Sut mae rhai llywodraethau wedi gwrthwynebu pobl Jehofa, ond sut mae Ei bobl wedi ymateb? (b) Sut gallwn ni fod yn hapus er gwaethaf erledigaeth? (Rho sylw hefyd am y llun ar y clawr.)

 AR HYN o bryd, mae ein gwaith wedi ei gyfyngu, neu ei wahardd, mewn mwy na 30 gwlad. Mewn rhai o’r gwledydd hynny, mae’r awdurdodau hyd yn oed wedi carcharu ein brodyr a chwiorydd. A wnaethon nhw rywbeth o’i le i haeddu hynny? Dydy Jehofa ddim yn meddwl felly. Oll maen nhw wedi ei wneud ydy darllen ac astudio’r Beibl, pregethu, mynd i gyfarfodydd, ac aros yn niwtral mewn materion gwleidyddol. Yn sicr, maen nhw’n mynd trwy gyfnod anodd. Ond maen nhw’n llwyddo i wneud safiad cadarn ar ochr Jehofa, ac i aros yn ffyddlon iddo. Ac mae hynny’n eu gwneud nhw’n hapus dros ben!

2 Mae’n debyg ein bod ni i gyd wedi gweld lluniau o’r brodyr a chwiorydd dewr hynny. Wyt ti wedi sylwi eu bod nhw’n aml yn wên o glust i glust? Mae hynny oherwydd eu bod nhw’n gwybod eu bod nhw’n plesio Jehofa ac yn aros yn ffyddlon. (Diar. 27:11) Dywedodd Iesu: “Mae’r rhai sy’n dioddef erledigaeth am eu bod yn byw’n gyfiawn wedi eu bendithio’n fawr . . . Byddwch yn llawen! Mwynhewch er gwaetha’r cwbl, achos mae gan Dduw yn y nefoedd wobr fawr i chi.”—Math. 5:10-12.

ESIAMPL I NI

Gosododd Pedr ac Ioan esiampl i Gristnogion heddiw sy’n gorfod ymddangos o flaen llys i amddiffyn eu ffydd (Gweler paragraffau 3-4)

3. Yn ôl Actau 4:19, 20, sut gwnaeth yr apostolion ymateb i erledigaeth, a pham?

3 Mae ein brodyr a chwiorydd heddiw yn mynd trwy brofiad tebyg i’r apostolion yn y ganrif gyntaf. Cawson nhwthau hefyd eu herlid am bregethu. Roedd goruchaf lys yr Iddewon wedi eu rhybuddio sawl gwaith “i beidio sôn am Iesu.” (Act. 4:18; 5:27, 28, 40) Ond rydyn ni’n gweld yn Actau 4:19, 20 sut gwnaeth yr apostolion ymateb i hynny. (Darllen.) Roedden nhw’n gwybod bod rhywun â mwy o awdurdod wedi ‘gorchymyn iddyn nhw gyhoeddi’r newyddion da ym mhobman.’ (Act. 10:42) Felly dywedodd Pedr ac Ioan yn ddewr wrth yr awdurdodau y bydden nhw’n ufuddhau i Dduw yn hytrach na’r Iddewon. Dywedon nhw hefyd na fydden nhw’n stopio sôn am Iesu. Roedden nhw’n dweud i bob pwrpas, ‘Ydych chi’n meiddio dweud bod gynnoch chi fwy o awdurdod na Duw?’

4. Yn ôl Actau 5:27-29, beth wnaeth yr apostolion, a sut gallwn ni eu hefelychu?

4 Roedd yr apostolion yn benderfynol o “ufuddhau i Dduw, dim i ddynion,” ac mae hynny’n esiampl mae gwir Gristnogion wedi ei dilyn ers hynny. (Darllen Actau 5:27-29.) Er eu bod nhw wedi cael eu curo, “roedden nhw’n ei chyfri hi’n fraint eu bod wedi cael eu cam-drin am ddilyn Iesu.” Felly ar ôl gadael goruchaf lys yr Iddewon, gwnaethon nhw ailafael yn y gwaith pregethu yn syth.—Act. 5:40-42.

5. Pa gwestiynau ydyn ni angen eu hateb?

5 Mae esiampl yr apostolion yn codi ambell i gwestiwn. Er enghraifft, pam roedd hi’n iawn iddyn nhw ufuddhau i Dduw yn hytrach nag i ddynion, er bod y Beibl yn dweud y dylen ni “fod yn atebol i awdurdod y llywodraeth”? (Rhuf. 13:1) A sut gallwn ni heddiw “fod yn atebol i’r llywodraeth a’r awdurdodau,” ac aros yn ffyddlon i Dduw ar yr un pryd?—Titus 3:1.

“AWDURDOD Y LLYWODRAETH”

6. (a) Pa lywodraethau mae Rhufeiniaid 13:1 yn sôn amdanyn nhw, a sut dylen ni eu hystyried? (b) Beth sy’n wir am bob llywodraeth ddynol?

6 Darllen Rhufeiniaid 13:1. Mae’r adnod hon yn sôn am lywodraethau ar y ddaear sydd â’r awdurdod i reoli dros bobl eraill, gan gynnwys Cristnogion. Mae arweinwyr y llywodraethau hynny yn cadw trefn, yn sicrhau bod pobl yn dilyn y gyfraith, ac ar adegau maen nhw hyd yn oed yn amddiffyn pobl Jehofa. (Dat. 12:16) Felly, dylen ni barchu’r llywodraethau a thalu ein trethi. (Rhuf. 13:7) Ond cofia, yr unig reswm mae ganddyn nhw awdurdod o gwbl ydy am fod Jehofa wedi ei roi iddyn nhw. Gwnaeth Iesu hynny’n glir wrth ateb y Llywodraethwr Rhufeinig Pontius Peilat. Dywedodd Peilat fod ganddo’r awdurdod i ddewis p’un a fyddai Iesu’n cael byw neu’n marw. Atebodd Iesu: “Fyddai gen ti ddim awdurdod o gwbl drosto i oni bai ei fod wedi ei roi i ti gan Dduw, sydd uwchlaw pawb.” (Ioan 19:11) Mae’r un peth yn wir heddiw. Dim ond hyn a hyn o awdurdod sydd gan lywodraethwyr a gwleidyddion.

7. Pryd dylen ni beidio ag ufuddhau i’r llywodraethau, a beth dylen nhw ei gofio?

7 Mae’n rhaid i Gristnogion ufuddhau i gyfreithiau’r llywodraeth, cyn belled dydyn nhw ddim yn mynd yn erbyn cyfreithiau Duw. Felly, allwn ni ddim ufuddhau iddyn nhw pan maen nhw’n gofyn inni wneud rhywbeth mae Duw yn ei wahardd, neu’n gwahardd rhywbeth mae Duw yn ei ofyn. Er enghraifft, pan maen nhw’n gofyn i ddynion ifanc ymladd yn y lluoedd arfog, * neu pan maen nhw’n gwahardd y Beibl, ein cyhoeddiadau, ein cyfarfodydd, a’n gwaith pregethu. Pan fydd llywodraethau’n camddefnyddio eu hawdurdod fel hyn, maen nhw’n atebol i Dduw. Mae Jehofa yn gwylio!—Preg. 5:8.

8. Beth ydy’r gwahaniaeth rhwng “awdurdod” a “Goruchaf,” a pham mae’n bwysig?

8 Os oes gan rywun “awdurdod,” mae hynny’n golygu ei fod yn “uwch” na rhywun arall. Ond dydy hynny ddim yn golygu mai ef ydy’r uchaf oll, neu’r “goruchaf.” Felly er bod gan lywodraethau’r byd “awdurdod,” mae ’na awdurdod uwch—“y Goruchaf.” Yn yr iaith wreiddiol, mae’r Beibl yn defnyddio’r teitl “y Goruchaf” bedair gwaith i gyfeirio at Jehofa Dduw.—Dan. 7:18, 22, 25, 27.

“Y DUW GORUCHAF”

9. Beth welodd Daniel yn ei weledigaethau?

9 Cafodd y proffwyd Daniel weledigaethau a oedd yn ei gwneud hi’n glir fod gan Jehofa fwy o awdurdod nag unrhyw lywodraeth arall. Yn gyntaf, gwelodd Daniel bedwar creadur mawr sy’n cynrychioli grymoedd byd heddiw a’r gorffennol—Babilon, Medo-Persia, Groeg, Rhufain, a’r grym byd Eingl-Americanaidd sy’n rheoli heddiw. (Dan. 7:1-3, 17) Yna gwelodd Daniel Jehofa Dduw yn eistedd ar orsedd mewn llys yn y nef. (Dan. 7:9, 10) Nesaf, gwelodd Daniel rywbeth y dylai llywodraethwyr heddiw dalu sylw iddo. Beth oedd hynny?

10. Yn ôl Daniel 7:13, 14, 27, i bwy mae Jehofa yn rhoi awdurdod dros y ddaear, a beth mae hyn yn ei brofi?

10 Darllen Daniel 7:13, 14, 27. Yma, mae Duw yn cymryd pob awdurdod oddi wrth lywodraethau’r byd ac yn ei roi i eraill sydd, nid yn unig yn fwy pwerus, ond sydd hefyd yn ei haeddu’n fwy. Am bwy mae’n sôn? Yr “un oedd yn edrych fel person dynol,” sef Iesu Grist, a ‘phobl sanctaidd y Duw Goruchaf,’ sef y 144,000 a fydd yn “teyrnasu am byth!” (Dan. 7:18) Yn amlwg, Jehofa ydy’r “Goruchaf” oherwydd ef yn unig sydd â’r awdurdod i wneud y fath beth.

11. Beth ddywedodd Daniel sy’n dangos bod gan Jehofa awdurdod llwyr dros lywodraethau’r byd?

11 Mae gweledigaeth Daniel yn cadarnhau rhywbeth roedd ef wedi ei ddweud ynghynt. Dywedodd fod “Duw y nefoedd” yn “codi brenhinoedd ac yn eu diorseddu nhw.” Dywedodd hefyd fod “y Duw Goruchaf yn teyrnasu dros lywodraethau’r byd. Mae’n gallu eu rhoi i bwy bynnag mae eisiau.” (Dan. 2:19-21; 4:17) Ydy Jehofa wedi gwneud rhywbeth fel hyn o’r blaen? Do wir!

Cymerodd Jehofa deyrnas Belshasar oddi wrtho, a’i rhoi i’r Mediaid a’r Persiaid (Gweler paragraff 12)

12. Rho esiampl o sut mae Jehofa wedi diorseddu brenhinoedd yn y gorffennol. (Gweler y llun.)

12 Mae Jehofa wedi dangos yn glir bod ei awdurdod ef yn uwch nag “awdurdod y llywodraeth.” Meddylia am dri enghraifft. Roedd pobl Dduw yn gaethweision yn yr Aifft, ac roedd Pharo yn gwrthod gadael iddyn nhw fynd. Ond gwnaeth Duw eu rhyddhau a boddi Pharo yn y Môr Coch. (Ex. 14:26-28; Salm 136:15) Ac wyt ti’n cofio beth ddigwyddodd i’r Brenin Belshasar o Fabilon a wnaeth “herio Arglwydd y nefoedd” drwy ddyrchafu ei hun a ‘chanmol Duwiau o aur ac arian,’ yn hytrach na’r gwir Dduw? (Dan. 5:22, 23) Ond gwnaeth Jehofa ei roi yn ei le. Y “noson honno” cafodd Belshasar ei ladd a syrthiodd ei deyrnas i ddwylo’r Mediaid a’r Persiaid. (Dan. 5:28, 30, 31) Meddylia hefyd am beth ddigwyddodd i Frenin Palesteina, Herod Agripa I, oedd wedi lladd yr apostol Iago ac wedi carcharu’r apostol Pedr gyda’r bwriad o’i ladd yntau hefyd. Ond doedd Jehofa ddim am adael i Herod wneud hynny. Felly, “dyma angel Duw yn ei daro’n wael . . . a buodd farw.”—Act. 12:1-5, 21-23.

13. Rho esiampl o’r ffordd wnaeth Jehofa drechu grwpiau cyfan o reolwyr.

13 Mae Jehofa hefyd wedi dangos bod ganddo fwy o awdurdod na grwpiau cyfan o reolwyr. Meddylia, er enghraifft, am y ffordd wnaeth ef frwydro dros yr Israeliaid a’u helpu nhw i drechu cynghrair o 31 o frenhinoedd Canaan, a chipio darnau mawr o Wlad yr Addewid. (Jos. 11:4-6, 20; 12:1, 7, 24) Gwnaeth ef hefyd eu helpu i ennill y frwydr yn erbyn y Brenin Ben-Hadad a 32 o reolwyr Syria.—1 Bren. 20:1, 26-29.

14-15. (a) Beth ddywedodd y Brenhinoedd Nebwchadnesar a Dareius am awdurdod Jehofa? (b) Beth ddywedodd y salmydd am Jehofa a’i bobl?

14 Mae Jehofa wedi profi dro ar ôl tro mai ef ydy’r Goruchaf. I roi enghraifft arall, pan wnaeth y Brenin Nebwchadnesar o Fabilon frolio am ei nerth a’i ogoniant ei hun yn hytrach na chydnabod mai Jehofa sy’n haeddu’r clod, gwnaeth Jehofa achosi iddo fynd o’i gof. Ar ôl iddo wella, gwnaeth Nebwchadnesar “foli y Duw Goruchaf” a chydnabod bod “ei awdurdod yn para am byth.” Aeth ymlaen i ddweud: “Does neb yn gallu ei stopio.” (Dan. 4:30, 33-35) Dywedodd y Brenin Dareius rywbeth tebyg ar ôl i Jehofa achub Daniel o ffau’r llewod. Gorchmynnodd i’w bobl ofni a pharchu Duw Daniel, gan ddweud: “Fe ydy’r Duw byw ac mae e gyda ni bob amser! Fydd ei deyrnas byth yn syrthio, a bydd ei awdurdod yn aros am byth.”—Dan. 6:7-10, 19-22, 26, 27.

15 Dywedodd un salmydd: “Mae’r ARGLWYDD yn drysu cynlluniau’r cenhedloedd, ac yn rhwystro bwriadau pobloedd.” Ac aeth ymlaen i ddweud: “Mae’r genedl sydd â’r ARGLWYDD yn Dduw iddi wedi ei bendithio’n fawr, sef y bobl hynny mae wedi eu dewis yn eiddo iddo’i hun.” (Salm 33:10, 12) Onid ydy hynny’n rheswm gwych i aros yn ffyddlon i Jehofa?

Y FRWYDR OLAF

Fydd gan y cynghrair o genhedloedd ddim gobaith yn erbyn byddin nefol Jehofa (Gweler paragraffau 16-17)

16. Beth gallwn ni fod yn sicr ohono yn ystod y gorthrymder mawr, a pham? (Gweler y llun.)

16 Ar ôl darllen am beth mae Jehofa wedi ei wneud yn y gorffennol, gallwn ni fod yn hollol sicr y bydd Jehofa yn achub ei bobl ffyddlon yn ystod y gorthrymder mawr sydd ar y gorwel. (Math. 24:21; Dan. 12:1) Pan fydd cynghrair o genhedloedd, sef Gog o dir Magog, yn ymosod yn ffyrnig ar bobl Jehofa ledled y byd, yna bydd Jehofa yn neidio i’r adwy. Hyd yn oed os ydy’r gynghrair honno yn cynnwys pob aelod o’r Cenhedloedd Unedig—193 ohonyn nhw—fydd ganddyn nhw ddim gobaith yn erbyn y Goruchaf a’i fyddin nefol. Mae Jehofa yn addo: “Dw i’n mynd i godi i fyny a dangos mor wych ydw i. Bydda i’n dangos pwy ydw i i’r gwledydd i gyd. Byddan nhw’n deall wedyn mai fi ydy’r ARGLWYDD.”—Esec. 38:14-16, 23; Salm 46:10.

17. Yn ôl y Beibl, pa ddyfodol sy’n disgwyl brenhinoedd y ddaear a phobl ffyddlon Jehofa?

17 Bydd ymosodiad Gog yn sbarduno rhyfel Armagedon. Yn ystod y rhyfel hwnnw bydd Jehofa yn dinistrio holl “frenhinoedd y ddaear.” (Dat. 16:14, 16; 19:19-21) Ar y llaw arall, dim ond “y rhai sy’n gwneud beth sy’n iawn fydd yn byw yn y tir, y rhai sy’n byw’n [ffyddlon] fydd yn cael aros yno.”—Diar. 2:21.

RHAID INNI AROS YN FFYDDLON

18. Beth mae llawer o Gristnogion wedi ei wneud, a pham? (Daniel 3:28)

18 Mae Cristnogion drwy gydol hanes wedi rhoi eu rhyddid, a hyd yn oed eu bywydau, yn y fantol am eu bod nhw’n caru Jehofa ac yn deall mai ef ydy’r awdurdod uchaf. Maen nhw’r un mor benderfynol o aros yn ffyddlon i’r Un Goruchaf ag oedd y tri Hebrëwr a gafodd eu hachub o’r ffwrnais am eu ffyddlondeb.—Darllen Daniel 3:28.

19. Ar sail beth bydd Jehofa yn barnu ei bobl, a beth sy’n rhaid inni ei wneud nawr?

19 Roedd y Salmydd Dafydd yn gwybod pa mor bwysig oedd aros yn ffyddlon i Jehofa. Dyna pam dywedodd: “O ARGLWYDD, sy’n barnu pobloedd, barna fi yn ôl fy nghyfiawnder, O ARGLWYDD, ac yn ôl y cywirdeb sydd ynof.” (Salm 7:8, BCND) Ysgrifennodd hefyd: “Amddiffyn fi, am fy mod i’n [ffyddlon].” (Salm 25:21) Felly y peth gorau i’w wneud ydy byw yn ffyddlon i Jehofa a gwneud safiad cadarn ar ei ochr ni waeth beth sy’n digwydd. Yna byddwn ni’n gallu dweud, fel gwnaeth y Salmydd, “Mae’r rhai sy’n ffyddlon, ac yn gwneud beth mae cyfraith Jehofa yn ei ddweud yn hapus!”—Salm 119:1, NWT.

CÂN 122 Safwch yn Gadarn!

^ Ar un llaw, mae’r Beibl yn dweud wrthon ni am fod yn ufudd i lywodraethau’r byd. Ond ar y llaw arall, mae rhai llywodraethau yn gwrthwynebu Jehofa a’i bobl. Felly, sut gallwn ni ufuddhau i’r llywodraethau ac aros yn ffyddlon i Jehofa ar yr un pryd?

^ Gweler yr erthygl “Roedd yr Israeliaid Gynt yn Rhyfela—Pam Nad Ydyn Ni?” yn y rhifyn hwn.