Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Roedd yr Israeliaid Gynt yn Rhyfela—Pam Nad Ydyn Ni?

Roedd yr Israeliaid Gynt yn Rhyfela—Pam Nad Ydyn Ni?

“OS YDY unrhyw un ohonoch chi yn gwrthod brwydro yn erbyn Ffrainc neu Loegr, bydd rhaid i bob un ohonoch chi farw!” Dyna wnaeth un swyddog Natsïaidd ei floeddio wrth un grŵp o Dystion Jehofa yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Ond gwnaeth pob un o’r brodyr ddal eu tir yn ffyddlon, er bod y lle yn llawn milwyr SS yn disgwyl gyda’i gynnau. Am esiampl ddewr! Mae hyn yn dangos yn glir sut mae pobl Jehofa yn teimlo am ryfel hyd heddiw. Rydyn ni’n gwrthod cael unrhyw ran yn rhyfeloedd y byd, ac yn gwrthod cymryd ochrau ynddyn nhw, hyd yn oed pan mae ein bywydau yn y fantol.

Mae rhai sy’n galw eu hunain yn Cristnogion, yn anghytuno â hyn, ac yn credu y dylai Cristion amddiffyn ei wlad. Weithiau maen nhw’n dadlau: ‘Roedd yr Israeliaid gynt yn bobl Dduw, ac oedden nhw’n mynd i ryfel. Felly, beth sy’n stopio Cristnogion rhag gwneud yr un peth heddiw?’ Sut byddet ti’n ateb hynny? Gallet ti egluro bod sefyllfa yr Israeliaid gynt yn hollol wahanol i sefyllfa bobl Dduw heddiw. Gad inni edrych ar bump gwahaniaeth.

1. ROEDD POBL DDUW I GYD YN PERTHYN I’R UN GENEDL

Yn y gorffennol, casglodd Jehofa ei bobl i gyd i un genedl a’u galw nhw’n ‘drysor sbesial o blith holl wledydd y byd.’ (Ex. 19:5) Israel oedd y genedl honno, a rhoddodd dir penodol iddyn nhw. Felly, pan oedd Jehofa yn dweud wrth yr Israeliaid i fynd i ryfel yn erbyn gwlad arall, doedden nhw ddim yn brwydro yn erbyn eu cyd-addolwyr, nac yn eu lladd. *

Heddiw, mae pobl Jehofa yn dod o “bob cenedl, llwyth, hil ac iaith.” (Dat. 7:9) Felly, petasai pobl Dduw yn mynd i ryfel, mae’n bosib y byddan nhw’n brwydro yn erbyn eu brodyr, neu hyd yn oed yn eu lladd.

2. GWNAETH JEHOFA ORCHYMYN I’R ISRAELIAID FYND I RYFEL

Yn y gorffennol, Jehofa oedd yn penderfynu pryd a pham roedd yr Israeliaid angen mynd i ryfel. Meddylia, er enghraifft, am y Canaaneaid. Roedd ganddyn nhw enw drwg am eu hanfoesoldeb rhywiol afiach, addoli cythreuliaid, ac aberthu plant. Doedd Jehofa ddim am adael i’w dylanwad nhw sleifio i mewn i Wlad yr Addewid. Felly anfonodd Jehofa yr Israeliaid i frwydro yn eu herbyn. (Lef. 18:24, 25) Hyd yn oed ar ôl i’r Israeliaid gyrraedd Gwlad yr Addewid, gwnaeth Jehofa ganiatáu iddyn nhw frwydro er mwyn amddiffyn eu hunain rhag y gelyn. (2 Sam. 5:17-25) Ond mae’n bwysig cofio, wnaeth Jehofa erioed ganiatáu i’r Israeliaid benderfynu drostyn nhw eu hunain i fynd i ryfel. Yn aml iawn, roedd anwybyddu Jehofa ond yn dod â chanlyniadau trychinebus.—Num. 14:41-45; 2 Cron. 35:20-24.

Heddiw, dydy Jehofa ddim yn anfon pobl i ryfel. Mae gwledydd ond yn brwydro er eu lles eu hunain. Dydyn nhw ddim yn meddwl am beth mae Duw eisiau. Fel arfer, maen nhw’n brwydro dros dir, arian, neu wleidyddiaeth. Ond eto, mae rhai yn honni eu bod nhw’n brwydro yn enw Duw. Ond mae Jehofa wedi addo amddiffyn ei bobl, a dinistrio ei elynion yn y dyfodol, yn ystod rhyfel Armagedon. (Dat. 16:14, 16) Hyd yn oed yn y rhyfel hwnnw, fydd Jehofa ond yn defnyddio ei fyddin yn y nef, nid ei bobl ar y ddaear.—Dat. 19:11-15.

3. WNAETH YR ISRAELIAID DDIM LLADD Y RHAI OEDD YN DANGOS FFYDD YN JEHOFA

Ydy pobl ffyddlon heddiw yn cael eu hachub o ryfel fel cafodd Rahab a’i theulu yn rhyfel Jehofa yn erbyn Jericho?

Yn y gorffennol, roedd byddin Israel yn lladd y rhai oedd Jehofa wedi penderfynu oedd yn haeddu marw. Ar y llaw arall, roedden nhw’n sbario’r rhai oedd yn dangos ffydd yn Nuw. Meddylia er enghraifft am ddinistr Jericho. Gwnaeth yr Israeliaid achub Rahab a’i theulu oherwydd ei ffydd hi. (Jos. 2:9-16; 6:16, 17) Enghraifft arall ydy pobl Gibeon. Cafodd y ddinas gyfan ei sbario am eu bod nhw wedi dangos eu bod nhw’n parchu Duw.—Jos. 9:3-9, 17-19.

Heddiw, dydy byddinoedd ddim yn dal yn ôl rhag lladd y rhai sy’n dangos ffydd. Ac yn rhy aml o lawer mae pobl ddiniwed yn cael eu dal ynghanol y frwydr, ac yn cael eu lladd.

4. ROEDD RHAID I’R ISRAELIAID DDILYN RHEOLAU RHYFEL DUW

Yn y gorffennol, roedd rhaid i Israel ddilyn cyfarwyddiadau Duw wrth fynd i ryfel. Weithiau, roedd Duw yn gofyn iddyn nhw gynnig “telerau heddwch” i’r gelyn. (Deut. 20:10) Roedd Jehofa yn disgwyl i’r milwyr gadw eu hunain yn lân yn gorfforol, ac yn foesol. (Deut. 23:9-14) Ac ar ôl concro dinas, doedd yr Israeliaid ddim i dreisio’r merched ar unrhyw gyfrif. Dyna oedd y cenhedloedd eraill o’u cwmpas yn ei wneud, ond roedd hynny’n hollol ffiaidd i Jehofa. Yn achos yr Israeliaid, os oedden nhw eisiau priodi un o’r merched, roedd rhaid iddyn nhw ddisgwyl o leiaf mis ar ôl concro’r ddinas.—Deut. 21:10-13.

Heddiw, mae’r rhan fwyaf o wledydd wedi cytuno i gadw at reolau rhyfel rhyngwladol er mwyn amddiffyn pobl gyffredin. Ond yn anffodus, mae’r rheolau hyn yn aml yn cael eu hanwybyddu.

5. ROEDD DUW YN BRWYDRO DROS EI GENEDL

Ydy Duw yn brwydro dros unrhyw wlad heddiw, fel gwnaeth ef dros Israel yn Jericho?

Yn y gorffennol, gwnaeth Jehofa frwydro dros yr Israeliaid. Roedd hyd yn oed yn gwneud gwyrthiau er mwyn eu helpu nhw i ennill. Meddylia eto am ddinas Jericho. Gwnaeth yr Israeliaid floeddio’n uchel, yn union fel roedd Jehofa wedi dweud wrthyn nhw am ei wneud. “Syrthiodd wal y ddinas” a’i gwneud hi’n haws iddyn nhw ei choncro. (Jos. 6:20) A sut gwnaethon nhw ennill y frwydr yn erbyn yr Amoriaid? Dyma Jehofa yn “gwneud iddi fwrw cenllysg anferth arnyn nhw. Cafodd mwy eu lladd gan y cenllysg nag oedd wedi eu lladd gan fyddin Israel yn y frwydr!”—Jos. 10:6-11.

Heddiw, dydy Jehofa ddim yn brwydro dros unrhyw wlad. Dydy ei Deyrnas “ddim yn dod o’r byd yma”; mae hi yn y nef gyda Iesu yn frenin arni. (Ioan 18:36) Mae’n amlwg mai personoliaeth hyll Satan sydd y tu ôl i holl lywodraethau’r byd a’u rhyfeloedd creulon.—Luc 4:5, 6; 1 Ioan 5:19.

MAE GWIR GRISTNOGION YN CADW HEDDWCH

Fel rydyn ni wedi gweld, mae ’na o leiaf pump rheswm pam nad ydyn ni’n mynd i ryfel fel gwnaeth yr Israeliaid gynt. Ond mae ’na fwy! Rhagfynegodd Duw na fyddai ei bobl yn y dyddiau diwethaf yn “hyfforddi milwyr i fynd i ryfel,” heb sôn am gael rhan ynddo. (Esei. 2:2-4) Ar ben hynny, dywedodd Iesu fyddai ei ddisgyblion “ddim yn perthyn i’r byd.” Hynny ydy, fydden nhw ddim yn cymryd ochrau mewn rhyfeloedd.—Ioan 15:19.

Ond, gwnaeth Iesu annog ei ddilynwyr i fynd gam ymhellach na hynny. Dywedodd wrthyn nhw i osgoi’r agweddau sy’n arwain at gasineb, dicter, ac yn y pen draw, rhyfel. (Math. 5:21, 22) Dywedodd yn syml y dylai ei ddilynwyr “hyrwyddo heddwch,” a charu eu gelynion.—Math. 5:9, 44.

Beth amdanon ni yn bersonol? Mae’n debyg fydden ni byth yn meddwl mynd i ryfel, ond a oes ’na unrhyw ddrwg deimlad yn llechu yn ein calon? Gallai hynny achosi rhaniadau yn y gynulleidfa os nad ydyn ni’n ofalus. Felly bydda’n onest â ti dy hun, a dalia ati i gael gwared o deimladau o’r fath.—Iago 4:1, 11.

Yn hytrach nag ymuno â rhyfeloedd y byd, rydyn ni’n hyrwyddo heddwch a chariad rhyngon ni fel pobl Dduw. (Ioan 13:34, 35) Felly, gad inni fod yn benderfynol o aros yn niwtral wrth inni edrych ymlaen at y diwrnod pan fydd Jehofa yn cael gwared ar ryfel am byth!—Salm 46:9.

^ Mi wnaeth yr Israeliaid frwydro yn erbyn ei gilydd ar adegau, ond doedd Jehofa ddim yn hapus â hynny. (1 Bren. 12:24) Gan ddweud hynny, roedd Jehofa yn cymeradwyo brwydrau o’r fath os oedd un o’r llwythau un ai wedi cefnu arno, neu wedi pechu’n ddifrifol.—Barn. 20:3-35; 2 Cron. 13:3-18; 25:14-22; 28:1-8.