Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Cadw Dy Iechyd Ysbrydol Wrth Wasanaethu yn y Maes Ieithoedd Eraill

Cadw Dy Iechyd Ysbrydol Wrth Wasanaethu yn y Maes Ieithoedd Eraill

“Trysorais dy eiriau yn fy nghalon.”—SALM 119:11.

CANEUON: 142, 92

1-3. (a) Beth bynnag yw ein hamgylchiadau, beth ddylai ein blaenoriaeth fod? (b) Pa heriau penodol mae rhywun sy’n dysgu iaith newydd yn eu hwynebu, a pha gwestiynau sy’n codi? (Gweler y llun agoriadol.)

MAE miloedd o Dystion Jehofa heddiw yn helpu i gyflawni’r weledigaeth ynglŷn â phregethu’r newyddion da “i bob cenedl, a llwyth, ac iaith, a phobl.” (Dat. 14:6) A wyt ti ymhlith y rhai sy’n dysgu iaith newydd? A wyt ti’n gwasanaethu fel cenhadwr, neu mewn gwlad dramor lle mae angen mwy o help? Neu, a wyt ti wedi dechrau mynychu cyfarfodydd mewn iaith arall yn dy famwlad?

2 Fel gweision Duw, mae angen i bob un ohonon ni flaenoriaethu iechyd ysbrydol ni’n hunain a’n teuluoedd. (Math. 5:3) Ond, ar adegau, gall fod yn anodd gwneud ein hastudiaeth bersonol yn ystyrlon oherwydd ein bod ni mor brysur. Ond mae’r rhai sy’n gwasanaethu mewn maes arall yn wynebu heriau eraill hefyd.

3 Yn ychwanegol i ddysgu iaith newydd, mae’r rhai sy’n gwasanaethu mewn maes arall hefyd yn gorfod bwydo eu calonnau’n rheolaidd â bwyd ysbrydol solet. (1 Cor. 2:10) Sut gallan nhw wneud hynny os nad ydyn nhw’n deall yn iawn yr iaith sy’n cael ei siarad yn y gynulleidfa? A pham dylai rhieni Cristnogol sicrhau bod Gair Duw yn cyffwrdd â chalonnau eu plant?

BYGYTHIAD I IECHYD YSBRYDOL

4. Beth all fygwth ein hysbrydolrwydd? Rho enghraifft.

4 Gall methu deall Gair Duw mewn iaith arall fygwth ein hiechyd ysbrydol. Yn y bumed ganrif COG, roedd Nehemeia yn pryderu oherwydd nad oedd rhai o’r plant a ddychwelodd gyda’r Iddewon o Fabilon yn siarad yr iaith Hebraeg. (Darllen Nehemeia 13:23, 24.) Roedd y plant hyn yn colli eu hunaniaeth fel gweision Duw oherwydd nad oedden nhw’n deall Gair Duw yn iawn.—Neh. 8:2, 8.

5, 6. Beth mae rhai rhieni sy’n gwasanaethu yn y maes ieithoedd eraill wedi ei sylweddoli, a pham?

5 Mae rhai rhieni sy’n gwasanaethu yn y maes ieithoedd eraill wedi dod i sylweddoli bod eu plant wedi dechrau colli diddordeb yn y gwir. Oherwydd nad oedd y plant yn deall yn iawn beth roedd yn cael ei ddweud yn y cyfarfodydd, doedd y rhaglen ysbrydol yn y neuadd ddim yn cyffwrdd â’u calonnau. “Dylai trafod pethau ysbrydol,” meddai Pedro, [1] a symudodd o Awstralia i Dde America gyda’i deulu, “effeithio ar y galon a’r emosiynau.”—Luc 24:32.

6 Wrth ddarllen mewn iaith arall, mae’n bosibl na fyddai’r galon yn cael ei chyffwrdd fel y byddai petaen ni’n darllen yn ein mamiaith. Ar ben hynny, gall peidio â chyfathrebu’n dda mewn iaith arall ein blino’n feddyliol ac yn ysbrydol. Felly, tra ein bod ni’n cadw’r awydd i wasanaethu Jehofa yn y maes ieithoedd eraill, mae angen inni amddiffyn ein hiechyd ysbrydol.—Math. 4:4.

ROEDDEN NHW’N AMDDIFFYN EU HIECHYD YSBRYDOL

7. Sut roedd y Babiloniaid yn ceisio integreiddio Daniel i mewn i’w diwylliant a’u crefydd?

7 Pan alltudiwyd Daniel a’i ffrindiau, ceisiodd y Babiloniaid eu hintegreiddio nhw i mewn i’w diwylliant drwy ddysgu “iaith y Caldeaid” iddyn nhw. Hefyd, rhoddodd y prif swyddog, a oedd yn gyfrifol am eu hyfforddiant, enwau Babilonaidd arnyn nhw. (Dan. 1:3-7) Roedd yr enw a roddwyd i Daniel yn cyfeirio at Bel, prif dduw Babilon. Mae’n debyg fod y Brenin Nebuchadnesar eisiau rhoi’r argraff i Daniel fod Jehofa wedi cael ei ddarostwng gan dduw Babilon.—Dan. 4:8.

8. Beth oedd yn helpu Daniel i gadw ei iechyd ysbrydol tra oedd yn byw mewn gwlad estron?

8 Er y cynigiwyd i Daniel fwyd a gwin o fwrdd y brenin, “penderfynodd Daniel beidio â’i halogi ei hun.” (Dan. 1:8) Oherwydd bod Daniel wedi darllen “yr ysgrifau sanctaidd” yn ei famiaith, cadwodd ei iechyd ysbrydol tra oedd yn byw mewn gwlad estron. (Dan. 9:2, beibl.net) Felly, ar ôl tua 70 mlynedd o fyw ym Mabilon, roedd yn dal yn cael ei adnabod wrth ei enw Hebraeg.—Dan. 5:13.

9. Pa effaith gafodd Gair Duw ar ysgrifennwr Salm 119?

9 Roedd darllen Gair Duw yn helpu ysgrifennwr Salm 119 i fod yn barod i sefyll allan yn wahanol. Roedd rhaid iddo ddioddef agwedd wawdlyd rhai o aelodau’r llys brenhinol. (Salm 119:23, 61) Ond eto, roedd yn caniatáu i eiriau Duw dreiddio’n ddwfn i’w galon.—Darllen Salm 119:11, 46.

CADW DY IECHYD YSBRYDOL

10, 11. (a) Wrth astudio Gair Duw, beth yw ein nod? (b) Sut gallwn ni gyrraedd ein nod? Eglura.

10 Er ein bod ni’n brysur iawn gyda chyfrifoldebau seciwlar a theocrataidd, mae angen i bob un ohonon ni neilltuo amser ar gyfer astudiaeth bersonol ac addoliad teuluol. (Eff. 5:15, 16) Ond dylen ni wneud mwy nag astudio hyn a hyn o dudalennau, neu astudio er mwyn cael atebion ar gyfer y cyfarfodydd yn unig. Rydyn ni eisiau sicrhau ein bod ni’n caniatáu i Air Duw gyrraedd ein calonnau a chryfhau ein ffydd.

11 Er mwyn cyrraedd y nod hwnnw wrth astudio, dylen ni fod yn gytbwys o ran meddwl am anghenion pobl eraill a’n hanghenion ysbrydol ein hunain. (Phil. 1:9, 10) Wrth baratoi ar gyfer y weinidogaeth, y cyfarfodydd, neu ar gyfer anerchiadau, pwysig yw cydnabod nad ydyn ni, o reidrwydd, yn cymhwyso’r wybodaeth at ein sefyllfa bersonol ein hunain. Er enghraifft, er bod cogydd yn gorfod blasu’r bwyd y mae’n ei baratoi, ni all ei gynnal ei hun ar y bwyd y mae’n ei samplo. Er mwyn medru aros yn iach, mae angen iddo baratoi bwyd maethlon iddo ef ei hun. Yn yr un modd, dylen ni roi maeth i’r galon drwy ein bwydo ein hunain â bwyd ysbrydol sy’n diwallu ein hanghenion personol.

12, 13. Pam mae llawer sy’n gwasanaethu yn y maes ieithoedd eraill yn elwa ar astudio’n rheolaidd yn eu mamiaith?

12 Mae llawer sy’n gwasanaethu yn y maes ieithoedd eraill yn elwa ar astudio’r Beibl yn rheolaidd yn eu hieithoedd eu hunain. (Act. 2:8) Mae hyd yn oed cenhadon yn cydnabod na allan nhw ddibynnu’n llwyr ar y bwyd sylfaenol y maen nhw’n ei gael yn y cyfarfodydd er mwyn aros yn ysbrydol gryf yn eu haseiniadau.

13 Mae Alain, sydd wedi bod yn dysgu Perseg ers tua wyth mlynedd, yn cyfaddef: “Pan ydw i’n paratoi ar gyfer y cyfarfodydd yn y Berseg, rwy’n tueddu i ganolbwyntio ar yr iaith. Oherwydd fy mod i’n ceisio deall y testun, nid yw fy nghalon, o reidrwydd, yn cael ei chyffwrdd gan y pethau ysbrydol rwy’n eu darllen. Dyna pam rwy’n rhoi amser o’r neilltu yn rheolaidd i astudio’r Beibl a chyhoeddiadau eraill yn fy mamiaith.”

CYFFWRDD Â CHALONNAU DY BLANT

14. Beth dylai rhieni ei sicrhau, a pham?

14 Peth pwysig yw i rieni sicrhau bod Gair Duw yn cyffwrdd â chalonnau eu plant ac yn procio’r meddwl yn raddol. Ar ôl gwasanaethu yn y maes ieithoedd eraill am dros dair blynedd, roedd Serge a’i wraig, Muriel, yn sylweddoli nad oedd eu mab, a oedd yn 17 mlwydd oed, yn mwynhau gweithgareddau theocrataidd. “Roedd pregethu mewn iaith arall yn mynd o dan ei groen, ond cyn hynny, roedd wrth ei fodd yn pregethu yn ei famiaith, sef Ffrangeg,” dywedodd Muriel. “Pan oedden ni’n sylweddoli bod y sefyllfa yn atal ein mab rhag gwneud cynnydd ysbrydol,” eglurodd Serge, “gwnaethon ni benderfynu symud yn ôl i’n hen gynulleidfa.”

Gwna’n sicr fod y gwirionedd yn cyffwrdd â chalonnau dy blant (Gweler paragraffau 14, 15)

15. (a) Beth mae angen i rieni ei ystyried wrth benderfynu a ddylen nhw symud yn ôl i gynulleidfa sy’n defnyddio iaith y plant? (b) Pa anogaeth sydd yn Deuteronomium 6:5-7 ar gyfer rhieni?

15 Beth sydd angen i rieni ei ystyried wrth benderfynu a ddylen nhw symud yn ôl i gynulleidfa sy’n defnyddio’r iaith y mae’r plant yn ei deall orau? Yn gyntaf, mae angen iddyn nhw feddwl a oes ganddyn nhw’r amser a’r adnoddau i helpu’r plant i ddod i garu Jehofa ac i ddysgu iaith newydd ar yr un pryd? Yn ail, efallai y gwelon nhw fod gan y plant ddiffyg diddordeb mewn gweithgareddau ysbrydol neu yn y maes y maen nhw’n gwasanaethu ynddo. O dan amgylchiadau o’r fath, efallai y bydd rhieni’n ystyried symud yn ôl i gynulleidfa sy’n defnyddio’r iaith y mae’r plant yn ei deall orau nes eu bod nhw wedi eu sefydlu yn y gwir.—Darllen Deuteronomium 6:5-7.

16, 17. Sut mae rhai rhieni wedi llwyddo i hyfforddi eu plant tra eu bod nhw’n gwasanaethu yn y maes ieithoedd eraill?

16 Ar y llaw arall, mae rhai rhieni wedi darganfod ffyrdd o hyfforddi eu plant yn eu mamiaith a mynychu cyfarfodydd neu grŵp mewn iaith arall yr un pryd. Mae Charles, sy’n dad i dair o ferched rhwng 9 ac 13 blwydd oed, yn mynychu grŵp Lingala. Mae’n egluro: “Gwnaethon ni benderfynu cynnal sesiynau astudio a’r addoliad teuluol gyda’n plant yn ein mamiaith. Ond rydyn ni hefyd yn cynnwys sesiynau ymarfer a gemau yn Lingala fel eu bod nhw’n gallu dysgu’r iaith a chael hwyl.”

Gwna ymdrech i ddysgu’r iaith leol ac i gymryd rhan yn y cyfarfodydd (Gweler paragraffau 16, 17)

17 Gwnaeth Kevin, tad i ddwy o ferched sy’n bump ac yn wyth mlwydd oed, gymryd camau er mwyn gwneud yn iawn am eu diffyg dealltwriaeth o’r cyfarfodydd a oedd mewn iaith arall. Mae’n egluro: “Mae fy ngwraig a minnau yn cynnal astudiaeth bersonol gyda’r merched yn Ffrangeg, sef eu mamiaith. Hefyd, rydyn ni wedi gosod y nod o fynychu un cyfarfod Ffrangeg y mis, ac rydyn ni’n dal ar ein cyfle yn ystod ein gwyliau i fynychu cynhadledd yn ein hiaith ein hunain.”

18. (a) Pa egwyddor yn Rhufeiniaid 15:1, 2 a all dy helpu di i benderfynu beth sydd orau i’th blant? (b) Pa awgrymiadau mae rhieni eraill wedi eu cynnig? (Gweler yr ôl-nodyn.)

18 Wrth gwrs, mae angen i bob teulu benderfynu beth fydd y peth gorau ar gyfer iechyd ysbrydol y plant. [2] (Gal. 6:5) Mae Muriel, a ddyfynnir gynt, yn cyfaddef ei bod hi a’i gŵr wedi gorfod aberthu beth roedden nhw eisiau ei wneud er mwyn helpu eu mab yn ysbrydol. (Darllen Rhufeiniaid 15:1, 2.) O edrych yn ôl, mae Serge yn teimlo eu bod nhw wedi gwneud y penderfyniad iawn. Mae’n dweud: “O’r amser pan symudon ni yn ôl i’r gynulleidfa Ffrangeg, roedd ein mab yn ffynnu’n ysbrydol a chafodd ei fedyddio. Heddiw, mae’n gwasanaethu fel arloeswr llawn amser. Ac mae hyd yn oed yn ystyried symud i grŵp iaith arall!”

GAD I AIR DUW GYFFWRDD Â’TH GALON

19, 20. Sut gallwn ni ddangos ein cariad tuag at Air Duw?

19 Oherwydd ei gariad, mae Jehofa wedi sicrhau bod ei Air, y Beibl, ar gael mewn cannoedd o ieithoedd fel bod “pob un yn cael ei achub” ac yn “dod i ganfod y gwirionedd.” (1 Tim. 2:4) Mae’n gwybod y gall pobl ddiwallu eu hanghenion ysbrydol yn well pan fyddan nhw’n darllen y Beibl yn eu mamiaith.

20 Ond beth bynnag yw ein hamgylchiadau personol, dylen ni fod yn benderfynol o fwydo ein calonnau â bwyd ysbrydol solet. Drwy ddarllen yr Ysgrythurau’n rheolaidd yn iaith ein calon, byddwn ni’n cadw ein hiechyd ysbrydol yn ogystal â iechyd ysbrydol ein teulu, a byddwn ni’n dangos i Dduw ein bod ni’n trysori ei eiriau.—Salm 119:11.

^ [1] (paragraff 5) Newidiwyd yr enwau.

^ [2] (paragraff 18) Am fwy o wybodaeth ynglŷn ag egwyddorion a all helpu dy deulu, gweler yr erthygl “Raising Children in a Foreign Land—The Challenges and the Rewards” yn rhifyn 15 Hydref 2002 o’r Tŵr Gwylio Saesneg.