Cryfha Dy Ffydd yn yr Hyn Rwyt Ti’n Gobeithio Amdano
“Ffydd ydy’r sicrwydd fod beth dyn ni’n gobeithio amdano yn mynd i ddigwydd.”—HEB. 11:1.
CANEUON: 81, 134
1, 2. (a) Sut mae gobaith gwir Gristnogion yn wahanol i obaith pobl ym myd Satan? (b) Pa gwestiwn pwysig y byddwn ni nawr yn ei ystyried?
MAE gan wir Gristnogion obaith hyfryd! Mae pob un ohonon ni, boed yn eneiniog neu’n un o’r defaid eraill, yn gobeithio gweld pwrpas gwreiddiol Jehofa yn cael ei gyflawni yn ogystal â gweld ei enw yn cael ei sancteiddio. (Ioan 10:16; Math. 6:9, 10) Y disgwyliadau hynny yw’r pethau gorau y gall rhywun obeithio amdanyn nhw. Rydyn ni hefyd yn dyheu am y wobr o gael bywyd tragwyddol naill ai yn “nefoedd newydd” Duw neu ar y “ddaear newydd.” (2 Pedr 3:13, beibl.net) Yn y cyfamser, gobeithiwn weld pobl Dduw yn ffynnu’n ysbrydol.
2 Mae gan bobl ym myd Satan ryw fath o obaith, ond maen nhw’n amau na fydd yn dod yn wir. Er enghraifft, mae miliynau o bobl sy’n gamblo yn gobeithio y byddan nhw’n ennill y loteri, ond nid yw’r gobaith hwnnw’n sicr. Ar y llaw arall, ffydd go iawn yw “sicrwydd” ein gobaith Cristnogol. (Heb. 11:1) Ond, sut gall dy obaith fod yn fwy sicr? A beth yw’r buddion o feithrin ffydd gref yn yr hyn rydyn ni’n gobeithio amdano?
3. Ar ba ffaith y mae ffydd gwir Gristnogion yn seiliedig?
3 Nid yw pobl amherffaith yn cael eu geni â ffydd, ac nid yw’n Gal. 5:22) Nid yw’r Beibl yn dweud bod gan Jehofa ffydd, na bod angen ffydd arno. Oherwydd bod Jehofa yn hollalluog ac yn ddoeth, ni all unrhyw beth ei atal rhag cyflawni ei bwrpas. Mae ein Tad nefol mor sicr y bydd ei fendithion addawedig yn cael eu cyflawni, y mae fel petaen nhw eisoes wedi dod yn wir iddo. Felly, mae Duw yn dweud: “Dyna ddiwedd y cwbl!” (Darllen Datguddiad 21:3-6, beibl.net.) Mae ffydd Gristnogol yn deillio o’r ffaith fod Jehofa yn “Dduw ffyddlon,” sydd bob amser yn cyflawni ei addewidion.—Deut. 7:9.
datblygu’n naturiol. Mae ffydd yn dod oherwydd bod yr ysbryd glân yn dylanwadu ar galon person sy’n barod i’w dderbyn. (DYSGU ODDI WRTH Y RHAI FFYDDLON GYNT
4. Pa obaith oedd gan bobl ffyddlon cyn amser Crist?
4 Yn Hebreaid pennod 11, ceir rhestr sy’n cynnwys 16 o ddynion a merched ffyddlon. Cawson nhw, a llawer o rai eraill, eu disgrifio gan yr ysgrifennwr ysbrydoledig fel rhai a wnaeth “dderbyn enw da trwy eu ffydd.” (Heb. 11:39) Roedd gan bob un ohonyn nhw “sicrwydd” y byddai Duw yn codi’r “had” addawedig i sathru ar wrthryfel Satan ac i gyflawni pwrpas gwreiddiol Jehofa. (Gen. 3:15) Bu farw’r rhai ffyddlon hynny cyn i’r “had” addawedig, Iesu Grist, agor y ffordd i fywyd yn y nef. (Gal. 3:16) Ond, oherwydd addewidion di-feth Jehofa, byddan nhw’n cael eu hatgyfodi i fywyd perffaith mewn paradwys ar y ddaear.—Salm 37:11; Esei. 26:19; Hos. 13:14.
5, 6. Ar beth roedd Abraham a’i deulu yn seilio eu gobaith, a sut gwnaethon nhw gadw ffydd gref? (Gweler y llun agoriadol.)
5 Wrth sôn am rai a fu’n byw cyn Crist, dywed Hebreaid 11:13: “Mewn ffydd y bu farw’r rhai hyn oll, heb fod wedi derbyn yr hyn a addawyd, ond wedi ei weld a’i groesawu o bell.” Un o’r rhain oedd Abraham. A oedd ef yn cadw mewn cof y gobaith o fywyd o dan yr “had” addawedig? Atebodd Iesu’r cwestiwn hwnnw pan ddywedodd wrth ei wrthwynebwyr: “Gorfoleddu a wnaeth eich tad Abraham o weld fy nydd i; fe’i gwelodd, a llawenhau.” (Ioan 8:56) Roedd yr un peth yn wir am Sara, Isaac, Jacob, a llawer o rai eraill, a roddodd eu gobaith yn y Deyrnas i ddod, y Deyrnas y mae “Duw yn bensaer ac yn adeiladydd iddi.”—Heb. 11:8-11.
6 Sut gwnaeth Abraham a’i deulu gadw ffydd gref? Efallai y dysgon nhw am Dduw drwy wrando ar rai hŷn ffyddlon, drwy dderbyn gweledigaethau dwyfol, a thrwy ddarllen hen ysgrifau dibynadwy. Yn bwysicach na hynny, ni wnaethon nhw anghofio’r hyn a ddysgon nhw, yn hytrach roedden nhw’n coleddu addewidion a gofynion Duw ac yn myfyrio arnyn nhw. Oherwydd bod eu gobaith mor sicr, roedd y rhai hyn yn barod i ddioddef unrhyw galedi er mwyn aros yn ffyddlon i Dduw.
7. Pa ddarpariaethau y mae Jehofa wedi eu rhoi er mwyn datblygu ffydd gref, a sut dylen ni eu defnyddio?
7 Er mwyn cadw ein ffydd yn gryf, mae Jehofa, yn ei garedigrwydd, wedi rhoi’r Beibl cyfan inni. Er mwyn llwyddo a bod yn hapus, mae’n rhaid inni ddarllen Gair Duw yn rheolaidd, bob dydd os yw’n bosibl. (Salm 1:1-3; darllen Actau 17:11.) Yna, fel y gwnaeth addolwyr Jehofa cyn adeg Crist, mae angen inni fyfyrio ar addewidion Duw a bod yn ufudd i’w ofynion. Hefyd, mae Jehofa wedi ein bendithio â digonedd o fwyd ysbrydol trwy’r “gwas ffyddlon a chall.” (Math. 24:45) Felly, drwy drysori’r hyn rydyn ni wedi ei ddysgu o ddarpariaethau ysbrydol Jehofa, byddan ni’n debyg i’r esiamplau ffyddlon gynt a oedd yn sicr o’u gobaith am y Deyrnas.
8. Sut gall gweddi gryfhau ein ffydd?
8 Roedd gweddi hefyd yn hanfodol i’r rhai ffyddlon cyn adeg Iesu. Cryfhawyd eu ffydd o weld Jehofa yn ateb eu gweddïau. (Neh. 1:4, 11; Salm 34:4, 15, 17; Dan. 9:19-21) Gallwn ninnau hefyd agor ein calonnau i Jehofa, gan wybod y bydd ef yn gwrando arnon ni ac yn ein helpu i ddyfalbarhau’n llawen. A phan atebir ein gweddïau, bydd ein ffydd yn cryfhau. (Darllen 1 Ioan 5:14, 15.) Oherwydd bod ffydd yn agwedd ar ffrwyth yr ysbryd, mae’n rhaid inni ddal ati i ofyn am ysbryd Duw, fel y gwnaeth Iesu ein hannog i’w wneud.—Luc 11:9, 13, beibl.net.
9. Yn ogystal â gweddïo am help personol, dros bwy arall y dylen ni weddïo?
9 Ond, dylai ein gweddïau gynnwys mwy na gofyn am help personol yn unig. “Rhy niferus i’w rhifo” yw’r “rhyfeddodau” y gallwn ni glodfori a diolch i Jehofa amdanyn nhw bob dydd! (Salm 40:5) Hefyd, dylai ein gweddïau ddangos ein bod ni’n cofio’r “carcharorion, fel pe [bydden ni] yn y carchar gyda hwy.” A dylen ni weddïo am ein brawdoliaeth fyd-eang, yn enwedig dros y rhai sy’n ein harwain. Bydd gweld bod Jehofa yn ateb gweddïau unedig ei bobl yn cyffwrdd â’n calonnau!—Heb. 13:3, 7.
GWNAETHON NHW WRTHOD CYFADDAWDU
10. Pa esiamplau sydd gennyn ni o weision Duw a wrthododd gyfaddawdu eu ffyddlondeb, a sut cawson nhw’r nerth i wneud hynny?
10 Yn Hebreaid pennod 11, mae’r apostol Paul yn disgrifio treialon llawer o weision dienw Duw. Er enghraifft, soniodd yr apostol am wragedd ffyddlon a welodd eu meibion yn cael eu hatgyfodi. Wedyn, soniodd am bobl eraill a oedd yn “gwrthod cyfaddawdu i osgoi marw. Roedden nhw’n edrych ymlaen at gael eu codi yn ôl i fywyd gwell!” (Heb. 11:35, beibl.net) Er na allwn fod yn sicr at bwy oedd Paul yn cyfeirio, cafodd rhai, fel Naboth a Sechareia, eu llabyddio i farwolaeth am ufuddhau i Dduw a gwneud ei ewyllys. (1 Bren. 21:3, 15; 2 Cron. 24:20, 21) Yn amlwg, cafodd Daniel a’i ffrindiau gyfle i “osgoi marw” drwy gyfaddawdu eu ffyddlondeb. Yn hytrach na gwneud hynny, roedd eu ffydd yn nerth Duw yn eu galluogi i gau “safnau llewod” a diffodd “angerdd tân,” fel petai.—Heb. 11:33, 34; Dan. 3:16-18, 20, 28; 6:13, 16, 21-23.
11. Pa dreialon a wynebodd rhai o’r proffwydi oherwydd eu ffydd?
11 Oherwydd eu ffydd, cafodd eraill, fel Michea a Jeremeia, eu gwatwar a’u carcharu. Roedd eraill, fel Elias, “yn cuddio mewn ogofeydd a thyllau yn y ddaear.” Roedd pob un ohonyn nhw’n gallu dyfalbarhau oherwydd bod ganddyn nhw “sicrwydd” yn yr hyn roedden nhw’n gobeithio amdano.—Heb. 11:1, 36-38; 1 Bren. 18:13; 22:24-27; Jer. 20:1, 2; 28:10, 11; 32:2.
12. Pwy a osododd yr esiampl orau o ran dyfalbarhau yn wyneb treialon, a beth a’i helpodd i wneud hynny?
12 Ar ôl tynnu sylw at bobl o ffydd, soniodd Paul am yr esiampl orau oll—Iesu Grist. Oherwydd y llawenydd oedd o’i flaen, bu farw Iesu ar y stanc, gan ddiystyru gwarth, a nawr mae’n eistedd ar ddeheulaw gorsedd Duw. (Heb. 12:2) Yn wir, dylen ni feddwl yn ofalus am ffydd Iesu pan oedd yn wynebu treialon difrifol iawn. (Darllen Hebreaid 12:3.) Yn debyg i Iesu, roedd merthyron Cristnogol cynnar, fel y disgybl Antipas, yn gwrthod cyfaddawdu. (Dat. 2:13) Bydden nhw’n derbyn y wobr o gael eu hatgyfodi i fywyd yn y nef—gobaith a oedd yn uwch na’r “atgyfodiad gwell” roedd y dynion ffyddlon gynt yn edrych ymlaen ato. (Heb. 11:35) Ryw dro ar ôl sefydlu’r Deyrnas yn 1914, cafodd pob un o’r rhai eneiniog ffyddlon, a oedd wedi marw, eu hatgyfodi i fod yn ysbryd-greaduriaid yn y nef er mwyn rheoli gyda Iesu dros ddynolryw.—Dat. 20:4.
ESIAMPLAU CYFOES O FFYDD
13, 14. Pa dreialon a wynebodd Rudolf Graichen, a beth a’i helpodd i ddyfalbarhau?
13 Heddiw, mae miliynau o addolwyr Duw yn dilyn esiampl Iesu drwy gadw eu gobaith mewn cof a thrwy beidio â chaniatáu i dreialon wanhau eu ffydd. Ystyria esiampl Rudolf Graichen, a aned yn yr Almaen yn 1925. Roedd yn cofio lluniau o’r Baradwys ar wal ei gartref. “Roedd un o’r lluniau,” meddai, “yn dangos y blaidd a’r oen, y myn a’r llewpard, y llo a’r llew—i gyd yn byw’n heddychlon, ac yn cael eu harwain gan fachgen bach. . . . Gwnaeth y lluniau hynny argraff fawr arna’ i.” (Esei. 11:6-9) Er gwaethaf blynyddoedd o erledigaeth lem, yn gyntaf dan law y Gestapo Natsïaidd ac yn ddiweddarach dan law’r Stasi Comiwnyddol yn Nwyrain yr Almaen, cadwodd Rudolf ei ffydd mewn paradwys ddaearol yn gryf.
14 Wynebodd Rudolf dreialon eraill hefyd. Bu farw ei fam annwyl o deiffws yng ngwersyll crynhoi Ravensbrück a gwelodd ei dad yn colli ei ffydd nes iddo arwyddo dogfen yn datgan ei fod wedi cefnu ar fod yn un o Dystion Jehofa. Ar ôl cael ei ryddhau o’r carchar, cafodd Rudolf y fraint o wasanaethu fel arolygwr y gylchdaith ac yna fe’i gwahoddwyd i Ysgol Gilead. Fe’i haseiniwyd yn genhadwr i Tsile, a gwasanaethu’n arolygwr y gylchdaith unwaith eto. Ond, nid oedd treialon Rudolf wedi gorffen. Flwyddyn ar ôl iddo briodi cenhades o’r enw Patsy, collon nhw eu babi bach. Yn ddiweddarach, bu farw ei wraig annwyl, a hithau ond yn 43 blwydd oed. Dyfalbarhaodd Rudolf er gwaethaf y treialon hyn i gyd, ac er gwaethaf henaint a salwch, roedd yn dal yn henuriad ac yn arloesi’n llawn amser pan gyhoeddwyd hanes ei fywyd yn rhifyn 1 Awst 1997 o’r Tŵr Gwylio Saesneg, tudalennau 20-25. [1]
15. Pa esiamplau cyfoes sydd gennyn ni o Dystion Jehofa yn dyfalbarhau’n llawen er gwaethaf erledigaeth?
15 Mae Tystion Jehofa yn llawenhau yn eu gobaith er gwaethaf erledigaeth barhaol. Er enghraifft, mae llawer o’n brodyr a’n chwiorydd yn y carchar yn Eritrea, Singapôr, a De Corea. Carcharwyd y mwyafrif llethol o’r rhain am iddyn nhw ddilyn gorchymyn Iesu i beidio â chymryd y cleddyf. (Math. 26:52) Ymhlith y cannoedd o’r carcharorion hynny y mae Isaac, Negede, a Paulos, sydd wedi bod yn y carchar yn Eritrea ers dros 20 mlynedd! Ni allan nhw ofalu am eu rhieni oedrannus na phriodi, ond maen nhw wedi aros yn ffyddlon yn wyneb camdriniaeth ofnadwy. Yn ôl y llun ohonyn nhw ar jw.org, mae’r olwg gadarnhaol ar eu hwynebau yn dangos eu bod nhw wedi cadw ffydd gref. Mae hyd yn oed y gwarchodwyr yn y carchar wedi dod i’w parchu.
16. Sut gall ffydd gref dy warchod di?
16 Nid yw’r rhan fwyaf o bobl Jehofa wedi gorfod wynebu erledigaeth greulon. Mae pethau eraill wedi rhoi prawf ar eu ffydd. Mae llawer wedi dioddef oherwydd tlodi neu oherwydd rhyfeloedd cartref neu drychinebau naturiol. Mae eraill yn debyg i Moses a’r patriarchiaid oherwydd iddyn nhw roi’r gorau i fywyd braf neu i enwogrwydd. Maen nhw’n gweithio’n galed i wrthod y temtasiwn i fyw bywyd materol neu hunanol. Beth sy’n eu galluogi nhw i wneud hynny? Eu cariad tuag at Jehofa a’u ffydd gref yn ei addewid i wneud yn iawn am bob anghyfiawnder ac i wobrwyo ei weision ffyddlon â bywyd tragwyddol mewn byd newydd o gyfiawnder.—Darllen Salm 37:5, 7, 9, 29.
17. Beth rwyt ti’n benderfynol o’i wneud, a beth fydd yr erthygl nesaf yn ei drafod?
17 Yn yr erthygl hon, rydyn ni wedi gweld sut mae myfyrio ar addewidion Duw a gweddïo’n rheolaidd yn cadw ein ffydd yn gryf. Yn ei dro, bydd hynny’n ein helpu i ddyfalbarhau er gwaethaf profion ar ein ffydd wrth inni ganolbwyntio ar “sicrwydd” ein gobaith Cristnogol. Ond, mae’r ffordd y mae’r Beibl yn disgrifio ffydd yn cynnwys mwy na’r pethau hynny. Bydd yr erthygl nesaf yn trafod hyn ymhellach.
^ [1] (paragraff 14) Gweler hefyd yr erthygl “Despite Trials, My Hope Has Remained Bright” yn rhifyn 22 Ebrill 2002 o’r Awake!, sy’n adrodd hanes bywyd Andrej Hanák o Slofacia.