Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Ymarfer Dy Ffydd yn Addewidion Jehofa

Ymarfer Dy Ffydd yn Addewidion Jehofa

“Ffydd ydy’r . . . dystiolaeth sicr o realiti beth dyn ni ddim eto’n ei weld.”—HEB. 11:1, beibl.net.

CANEUON: 54, 125

1. Sut dylen ni ystyried ffydd Gristnogol?

RHINWEDD werthfawr iawn yw ffydd Gristnogol. Nid yw pawb yn meddu ar ffydd. (2 Thes. 3:2) Fodd bynnag, mae Jehofa wedi rhoi “mesur o ffydd” i bob un o’i addolwyr. (Rhuf. 12:3; Gal. 5:22) Dylai pawb sydd â ffydd fod yn hynod o ddiolchgar.

2, 3. (a) Pa fendithion sy’n bosibl i’r un sy’n meddu ar ffydd? (b) Pa gwestiynau y byddwn ni’n eu hystyried nawr?

2 Dywedodd Iesu Grist fod ei Dad nefol yn tynnu pobl tuag ato drwy’r Mab. (Ioan 6:44, 65) Mae arfer ffydd yn Iesu, yn ei dro, yn ei gwneud hi’n bosibl i rywun gael maddeuant am ei bechodau. Mae hynny wedyn yn agor y ffordd i rywun gael perthynas dragwyddol â Jehofa. (Rhuf. 6:23) Beth wnaethon ni i haeddu’r fath fendith? A ninnau’n bechaduriaid, yr unig beth rydyn ni’n ei haeddu yw marwolaeth. (Salm 103:10) Ond fe welodd Jehofa y potensial ynon ni i fod yn dda. Oherwydd ei garedigrwydd anhaeddiannol, agorodd Duw ein calonnau i’r newyddion da. Felly, dechreuon ni ymarfer ffydd yn Iesu gyda bywyd tragwyddol mewn golwg.—Darllen 1 Ioan 4:9, 10.

3 Ond beth yn union yw ffydd? Ai proses yn unig ydyw o ddeall beth fydd bendithion Duw ar ein cyfer? Ac yn bwysicach na hynny, ym mha ffyrdd y dylen ni ymarfer ffydd?

YMARFER FFYDD YN EIN CALONNAU

4. Esbonia pam y mae ffydd yn fwy na phroses ddeallusol.

4 Mae ffydd yn cynnwys llawer mwy na deall beth yw bwriad Duw. Grym ydyw sy’n cymell rhywun i weithredu yn unol ag ewyllys Duw. Mae ffydd yng ngallu Duw i achub pobl drwy gyfrwng Iesu yn annog y sawl sy’n credu i rannu’r newyddion da ag eraill. Fel yr esboniodd yr apostol Paul: “Os cyffesi Iesu yn Arglwydd â’th enau, a chredu yn dy galon fod Duw wedi ei gyfodi ef oddi wrth y meirw, cei dy achub. Oherwydd credu â’r galon sy’n esgor ar gyfiawnder, a chyffesu â’r genau sy’n esgor ar iachawdwriaeth.”—Rhuf. 10:9, 10; 2 Cor. 4:13.

5. Pam mae ffydd mor bwysig, a sut gallwn ni ei chadw’n gryf? Eglura.

5 Yn wir, mae ein disgwyliadau ni o ran byw am byth ym myd newydd Duw yn dibynnu ar gael ffydd ac ar gadw’r ffydd honno’n gryf. Gellir cymharu’r angen inni gadw ein ffydd yn gryf â phlanhigyn sydd angen dŵr. Yn wahanol i blanhigyn artiffisial, mae planhigyn byw yn newid o hyd. Mae planhigyn byw naill ai’n gwywo oherwydd diffyg dŵr neu’n dal i ffynnu oherwydd iddo gael ei ddyfrio’n rheolaidd. Os na fydd gan blanhigyn ddigon o ddŵr, bydd yn marw. Felly hefyd ein ffydd. Bydd ein ffydd yn gwywo ac yn marw petaen ni’n ei hesgeuluso. (Luc 22:32; Heb. 3:12) Ond, o roi’r sylw haeddiannol i’n ffydd, bydd “yn cynyddu” a byddwn ni’n “iach mewn ffydd.”—2 Thes. 1:3; Titus 2:2.

DISGRIFIAD Y BEIBL O FFYDD

6. Ym mha ddwy ffordd y mae Hebreaid 11:1 yn disgrifio ffydd?

6 Mae’r Beibl yn disgrifio ffydd yn Hebreaid 11:1. (Darllen.) Mae ffydd yn ffocysu ar ddau beth na fedrwn ni mo’u gweld: (1) “Beth dŷn ni’n gobeithio amdano”—gall hyn gynnwys addewidion nad ydyn nhw wedi dod yn wir eto, fel rhoi terfyn ar ddrygioni a dyfodiad y byd newydd. (2) “Realiti beth dŷn ni ddim eto’n ei weld.” Yn y cyd-destun hwn, mae’r gair Groeg a gyfieithir “tystiolaeth sicr” yn cyfeirio at bethau anweledig, fel bodolaeth Jehofa Dduw, Iesu Grist, yr angylion, a gwaith y Deyrnas nefol. (Heb. 11:3) Sut rydyn ni’n dangos bod ein ffydd yn fyw a’n bod ni’n credu yn y pethau anweledig y sonnir amdanyn nhw yn y Beibl? Trwy ein geiriau a’n gweithredoedd, oherwydd byddai ein ffydd yn anghyflawn hebddyn nhw.

7. Sut mae esiampl Noa yn ein helpu ni i ddeall beth mae cael ffydd yn ei olygu? (Gweler y llun agoriadol.)

7 Mae Hebreaid 11:7 yn amlygu’r ffaith mai ffydd Noa a “wnaeth iddo wrando’n ofalus ar Dduw ac adeiladu llong fawr i achub ei deulu.” (beibl.net) Roedd Noa wedi rhoi ei ffydd ar waith drwy adeiladu’r arch. Heb os, byddai ei gymdogion wedi gofyn iddo pam ei fod yn adeiladu arch mor anferthol. A wnaeth Noa gadw’n ddistaw neu ddweud wrthyn nhw i beidio â busnesu? Ddim o gwbl! Cafodd ei symbylu gan ei ffydd i dystiolaethu’n ddewr ac i rybuddio ei gyfoedion fod barn Duw ar fin dod. Yn fwy na thebyg, gwnaeth Noa ailadrodd y geiriau roedd Jehofa wedi eu hadrodd wrtho ef: “Dw i wedi penderfynu bod rhaid i bawb gael eu dinistrio. Mae trais a chreulondeb ym mhobman, felly . . . dw i’n mynd i ddod â llifogydd ar y ddaear a boddi popeth sy’n anadlu. Bydd popeth byw yn marw.” Hefyd, mae’n debyg y byddai Noa wedi esbonio i’r bobl sut i gael eu hachub drwy ailadrodd gorchymyn Duw: “Byddi di’n mynd i mewn i’r arch.” Fel “pregethwr cyfiawnder,” roedd Noa yn ymarfer ei ffydd.—Gen. 6:13, 17, 18, beibl.net; 2 Pedr 2:5.

8. Beth cafodd Iago ei ysbrydoli i’w esbonio ynglŷn ag ystyr gwir ffydd Gristnogol?

8 Mae’n debyg fod llythyr Iago wedi ei ysgrifennu yn fuan ar ôl i’r apostol Paul ysgrifennu ei ddisgrifiad ysbrydoledig o ffydd. Fel Paul, mae Iago yn esbonio nad mater o gredu yn unig yw gwir ffydd Gristnogol; mae angen gweithredu. “Wyt ti’n gallu dangos dy ffydd i mi heb wneud dim?” ysgrifennodd Iago, “Dw i’n dangos fy mod i’n credu drwy beth dw i’n ei wneud!” (Iago 2:18, beibl.net) Mae Iago yn mynd yn ei flaen i ddangos y gwahaniaeth clir rhwng credu yn unig ac ymarfer ffydd. Mae’r cythreuliaid yn credu bod Duw yn bodoli, ond nid oes ganddyn nhw wir ffydd. Yn hytrach, maen nhw’n ceisio atal addewidion Duw rhag cael eu gwireddu. (Iago 2:19, 20) I’r gwrthwyneb, wrth gyfeirio at ddyn ffyddlon arall, gofynnodd Iago: “Onid trwy ei weithredoedd y cyfiawnhawyd Abraham, ein tad, pan offrymodd ef Isaac, ei fab, ar yr allor? Y mae’n eglur iti mai cydweithio â’i weithredoedd yr oedd ei ffydd, ac mai trwy’r gweithredoedd y cafodd ei ffydd ei mynegi’n berffaith.” Ac yna i bwysleisio’r pwynt fod yn rhaid i ffydd gael ei hamlygu drwy weithredoedd, ychwanegodd Iago: “Fel y mae’r corff heb anadl yn farw, felly hefyd y mae ffydd heb weithredoedd yn farw.”—Iago 2:21-23, 26.

9, 10. Sut mae’r apostol Ioan yn ein helpu ni i ddeall pwysigrwydd ymarfer ffydd?

9 Dri degawd a mwy yn ddiweddarach, ysgrifennodd Ioan ei Efengyl a’i dri llythyr. A oedd Ioan yn deall ystyr llawn gwir ffydd Gristnogol fel y cafodd ei egluro gan ysgrifenwyr Beiblaidd eraill? Yn fwy nag unrhyw ysgrifennwr Beiblaidd arall, defnyddiodd Ioan y ferf Roeg a gyfieithir weithiau “ymarfer ffydd.”

10 Er enghraifft, esboniodd Ioan: “Pwy bynnag sy’n credu [ymarfer ffydd] yn y Mab, y mae bywyd tragwyddol ganddo; pwy bynnag sy’n anufudd i’r Mab, ni wêl fywyd, ond y mae digofaint Duw yn aros arno.” (Ioan 3:36) Mae ffydd Gristnogol yn cynnwys dangos bod rhywun yn ufudd i orchmynion Iesu. Roedd Ioan yn aml yn dyfynnu geiriau Iesu sy’n dangos bod ymarfer ffydd yn broses barhaol.—Ioan 3:16; 6:29, 40; 11:25, 26; 14:1, 12.  

11. Sut gallwn ni ddangos ein bod ni’n gwerthfawrogi’r gwirionedd?

11 Oni ddylen ni fod yn hynod o ddiolchgar fod Jehofa wedi defnyddio ei ysbryd glân i ddatgelu’r gwirionedd inni a’i fod wedi ein galluogi ni i ymarfer ffydd yn y newyddion da? (Darllen Luc 10:21.) Ni ddylen ni byth roi’r gorau i ddiolch i Jehofa am iddo ein tynnu ni tuag ato drwy ei Fab, sef “awdur a pherffeithydd ffydd.” (Heb. 12:2) Er mwyn dangos ein bod ni’n gwerthfawrogi caredigrwydd anhaeddiannol o’r fath, dylen ni ddal ati i gryfhau ein ffydd drwy weddïo ac astudio Gair Duw.—Eff. 6:18; 1 Pedr 2:2.

Ymarfer dy ffydd drwy bregethu’r newyddion da ar bob cyfle (Gweler paragraff 12)

12. Ym mha ffyrdd y dylen ni ymarfer ein ffydd?

12 Dylen ni barhau i ymarfer ffydd yn addewidion Jehofa. Mae’n rhaid inni wneud hyn mewn ffyrdd sy’n gwbl amlwg i eraill. Er enghraifft, rydyn ni’n dal ati i bregethu am Deyrnas Dduw ac i gymryd rhan yn y gwaith o wneud disgyblion. Rydyn ni hefyd yn parhau i “wneud da i bawb, ac yn enwedig i’r rhai sydd o deulu’r ffydd.” (Gal. 6:10) Ac rydyn ni’n gweithio’n galed i roi “heibio’r hen fywyd a’i ffyrdd,” drwy wylio rhag unrhyw beth a all ein gwanhau ni’n ysbrydol.—Col. 3:5, 8-10.

MAE FFYDD YN NUW YN RHAN O’N SYLFAEN

13. Pa mor bwysig yw “ffydd yn Nuw,” ac i beth y mae’n debyg, a pham?

13 “Mae’n amhosib plesio Duw heb ffydd,” meddai’r Beibl, ac “mae’n rhaid i’r rhai sydd am fynd ato gredu ei fod yn bodoli, a’i fod yn gwobrwyo pawb sy’n ei geisio o ddifri.” (Heb. 11:6, beibl.net) Mae Gair Duw yn disgrifio “ffydd yn Nuw” fel rhan o’r “sylfaen” sydd ei hangen ar unrhyw un sydd eisiau dod yn wir Gristion ac aros yn un. (Heb. 6:1) Ar y sylfaen honno, dylai Cristnogion ychwanegu rhinweddau eraill at eu ffydd er mwyn eu cadw eu hunain “yng nghariad Duw.”—Darllen 2 Pedr 1:5-7; Jwd. 20, 21.

14, 15. O’i chymharu â chariad, pa mor bwysig yw ffydd?

14 Gwnaeth ysgrifenwyr Beiblaidd Cristnogol bwysleisio pwysigrwydd ffydd drwy gyfeirio ati gannoedd o weithiau. Nid oes yr un rhinwedd arall yn cael cymaint o sylw. A yw hyn yn golygu mai ffydd yw’r rhinwedd Gristnogol bwysicaf?

15 Wrth gymharu ffydd â chariad, ysgrifennodd Paul: “Os oes gennyf gymaint o ffydd nes gallu symud mynyddoedd, a heb fod gennyf gariad, nid wyf ddim.” (1 Cor. 13:2) Dangosodd Iesu pa mor bwysig yw cariad tuag at Dduw pan atebodd y cwestiwn: “Pa orchymyn yw’r mwyaf yn y Gyfraith?” (Math. 22:35-40) Mae cariad yn cwmpasu llawer o rinweddau Cristnogol, gan gynnwys ffydd. “Mae cariad,” meddai’r Beibl, “yn credu i’r eithaf.” Mae gan gariad ffydd yn y pethau y mae Duw wedi sôn amdanyn nhw yn ei Air.—1 Cor. 13:4, 7.

16, 17. Sut mae ffydd a chariad yn cael eu hamlygu gyda’i gilydd yn yr Ysgrythurau, ond pa un yw’r pwysicaf, a pham?

16 Oherwydd pwysigrwydd ffydd a chariad, mae ysgrifenwyr Beiblaidd Cristnogol wedi cyfeirio at y rhinweddau hyn gyda’i gilydd lawer o weithiau, yn aml yn yr un frawddeg neu ymadrodd. Roedd Paul yn cymell ei frodyr i wisgo amdanyn nhw “ffydd a chariad yn ddwyfronneg.” (1 Thes. 5:8) Ysgrifennodd Pedr: “Yr ydych yn ei garu ef [Iesu], er na welsoch mohono; ac am eich bod yn awr yn credu [ymarfer ffydd] ynddo heb ei weld.” (1 Pedr 1:8) Gofynnodd Iago i’w frodyr eneiniog: “Oni ddewisodd Duw y rhai sy’n dlawd yng ngolwg y byd i fod yn gyfoethog mewn ffydd ac yn etifeddion y deyrnas a addawodd ef i’r rhai sydd yn ei garu?” (Iago 2:5) Ysgrifennodd Paul: “Cymer fel patrwm i’w ddilyn y geiriau iachusol a glywaist gennyf fi, wrth fyw yn y ffydd a’r cariad sydd yng Nghrist Iesu.”—2 Tim. 1:13.

17 Er bod ffydd yn hanfodol, bydd agweddau ar y rhinwedd hon yn darfod pan fyddwn ni’n gweld addewidion Duw yn cael eu gwireddu ac yn profi realiti ein gobaith Cristnogol. Ond bydd yr angen i dyfu yn ein cariad tuag at Dduw a thuag at ein cymdogion byth yn darfod. Felly, gallai’r apostol Paul ysgrifennu: “Mae ffydd, gobaith, cariad, y tri hyn, yn aros. A’r mwyaf o’r rhain yw cariad.”—1 Cor. 13:13.

FFYDD AR WAITH

18, 19. Ym mha ffordd heddiw y mae ffydd ar waith, a phwy sy’n haeddu’r clod am hyn?

18 Heddiw, mae pobl Jehofa wedi bod yn ymarfer ffydd yn Nheyrnas sefydledig Duw. O ganlyniad i hyn, mae paradwys ysbrydol wedi ei chreu ledled y byd sy’n cynnwys dros wyth miliwn o drigolion. Lle ydyw sy’n llawn ffrwyth ysbryd Duw. (Gal. 5:22, 23) Gwelir yn glir fod gwir ffydd a chariad ar waith!

19 Ni all yr un dyn dderbyn y clod am hyn. Duw sydd wedi creu’r baradwys ysbrydol hon ac mae hyn “yn glod i’r ARGLWYDD, yn arwydd tragwyddol na ddilëir mohono.” (Esei. 55:13) Yn wir, “rhodd Duw” yw ein bod ni’n gallu cael ein hachub “trwy ffydd.” (Eff. 2:8) Bydd ein paradwys ysbrydol yn parhau i dyfu a ffynnu hyd nes i’r ddaear gyfan gael ei llenwi â phobl berffaith, gyfiawn, a hapus a hynny er clod i enw Jehofa. Gad inni ddal ati i ymarfer ffydd yn addewidion Jehofa!