Caredigrwydd Cristnogol ar Waith
MEWN tref fach yn Gwjarat, India, cafodd tad John ei fedyddio’n un o Dystion Jehofa yn y 1950au hwyr. Ond, roedd John, a phump o’i frodyr a’i chwiorydd, ac ei fam yn Gatholigion Rhufeinig ac yn hynod o grefyddol. Am y rheswm hwn, roedden nhw’n gwrthwynebu ffydd eu tad.
Un diwrnod, gofynnodd tad John iddo fynd ag amlen i frawd yn y gynulleidfa. Ond, y bore hwnnw, torrodd John ei fys yn ddrwg iawn wrth agor casgen a oedd wedi ei gwneud o dun. Ond, roedd yn dal eisiau bod yn ufudd i’w dad, felly, fe wnaeth rwymo ei fys a oedd yn gwaedu mewn clwt ac yna mynd i ddanfon y llythyr.
Pan gyrhaeddodd John y lle cywir, rhoddodd yr amlen i wraig y brawd. Roedd hi’n un o Dystion Jehofa. Sylweddolodd hi fod John wedi brifo ei fys a gofynnodd a fyddai hi’n gallu ei helpu. Dyma hi’n nôl y blwch cymorth cyntaf, yn glanhau’r briw, ac yna’n rhoi rhwymyn ar ei fys. Yna, gwnaeth baned o de poeth i John. Drwy’r cwbl, roedd yn siarad ag ef mewn ffordd gyfeillgar am y Beibl.
Oherwydd ei charedigrwydd, dechreuodd deimladau John tuag at y Tystion newid. Felly, gofynnodd ddau gwestiwn am ddaliadau Tystion Jehofa a oedd yn wahanol i ddaliadau’r Eglwys Gatholig. Gofynnodd ai Duw oedd Iesu ac a ddylai Cristnogion weddïo ar y Forwyn Fair. Roedd y chwaer wedi dysgu Gwjarati felly roedd hi’n gallu ateb John yn ei iaith ei hun. Dangosodd iddo’r atebion o’r Beibl a rhoddodd iddo’r llyfr bach “This Good News of the Kingdom.”
Wedyn, ar ôl i John ddarllen y llyfr, roedd yn gwybod mai’r gwirionedd oedd yr hyn roedd wedi ei ddarllen. Aeth at ei offeiriad a gofynnodd yr un cwestiynau iddo. Dyma’r offeiriad yn gwylltio’n gandryll a thaflu’r Beibl ato yn ei dymer, gan weiddi: “Mi wyt ti wedi troi’n Satan! Dangos imi yn y Beibl lle mae’n dweud nad ydy Iesu’n Dduw. Dangos imi lle mae’n dweud na ddylet ti addoli Mair. Dangos imi!” Roedd John wedi synnu ar ymateb yr offeiriad. Dywedodd wrth yr offeiriad na fyddai yn mynychu’r Eglwys Gatholig byth eto. A chadwodd at ei air!
Dechreuodd John astudio gyda’r Tystion, derbyn y gwirionedd, a gwasanaethu Jehofa. Mewn amser, dechreuodd sawl aelod o’i deulu wneud yr un peth. Tua 60 mlynedd yn ddiweddarach, mae’r graith ar fys John yn ei atgoffa, o hyd, o’r caredigrwydd Cristnogol a wnaeth ei symud i dreulio gweddill ei fywyd yn gwasanaethu Jehofa.—2 Corinthiaid 6:4, 6.