Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Cerbydau a Choron yn Dy Amddiffyn

Cerbydau a Choron yn Dy Amddiffyn

“Bydd hyn i gyd yn digwydd os byddwch chi wir yn ufudd i’r ARGLWYDD eich Duw.”—SECHAREIA 6:15.

CANEUON: 61, 22

1, 2. Beth oedd sefyllfa’r Iddewon yn Jerwsalem ar ddiwedd seithfed weledigaeth Sechareia?

WRTH i seithfed weledigaeth Sechareia ddod i ben, roedd ganddo lawer i feddwl amdano. Mae’n rhaid ei fod wedi ei gryfhau ar ôl clywed addewid Jehofa i gosbi pobl anonest. Ond doedd fawr ddim wedi newid. Roedd llawer o bobl yn dal i wneud pethau drwg ac anonest, ac roedd y gwaith o ailadeiladu’r deml yn Jerwsalem heb ei orffen. Pam roedd yr Iddewon wedi cefnu mor gyflym ar y gwaith roedd Jehofa wedi ei roi iddyn nhw? A oedden nhw wedi dychwelyd i Jerwsalem dim ond er mwyn cael bywyd gwell iddyn nhw eu hunain?

2 Roedd Sechareia’n gwybod bod yr Iddewon a ddaeth yn eu holau i Jerwsalem yn addoli Jehofa. Y nhw oedd y rhai a oedd “wedi’u hysbrydoli gan Dduw” i adael eu cartrefi a’u busnesau ym Mabilon. (Esra 1:2, 3, 5) Gadawon nhw wlad roedden nhw’n ei hadnabod yn dda a symud i wlad nad oedd y rhan fwyaf ohonyn nhw wedi ei gweld o’r blaen. Roedd ailadeiladu teml Jehofa mor bwysig i’r Iddewon hynny fel eu bod nhw’n fodlon mynd ar daith beryglus o tua 1,000 o filltiroedd dros dir garw.

3, 4. Pa anawsterau a wynebodd yr Iddewon a ddychwelodd i Jerwsalem?

3 Dychmyga’r daith hir o Fabilon i Jerwsalem. Roedd gan y bobl oriau i feddwl am eu cartref newydd ac i’w drafod. Roedd y rhai hŷn wedi sôn wrthyn nhw am ba mor hyfryd oedd Jerwsalem a’r deml ar un adeg. (Esra 3:12) Petaset ti’n teithio gyda nhw, sut byddet ti wedi teimlo o weld Jerwsalem am y tro cyntaf? A fyddet ti’n drist o weld yr hen adeiladau yn llawn chwyn a waliau’r ddinas yn adfeilion a thyllau mawr lle roedd y giatiau a’r tyrau wedi sefyll ar un adeg? Efallai byddet ti wedi cymharu’r hen waliau maluriedig hynny â waliau mawr cryf Babilon. Ond doedd yr Iddewon ddim yn ddigalon. Pam ddim? Oherwydd, yn ystod eu taith hir, roedd Jehofa wedi eu helpu a’u hamddiffyn. Unwaith iddyn nhw gyrraedd Jerwsalem, adeiladon nhw allor lle roedd y deml wedi sefyll ar un adeg a dechreuon nhw aberthu i Jehofa bob dydd. (Esra 3:1, 2) Roedden nhw’n llawn sêl ac yn barod i weithio. Roedd hi’n ymddangos fel nad oedd dim byd yn gallu eu digalonni.

4 Yn ogystal ag ailadeiladu’r deml, roedd rhaid i’r Iddewon ailadeiladu eu dinasoedd a’u tai. Roedd angen iddyn nhw blannu cnydau er mwyn darparu bwyd i’r teulu. (Esra 2:70) Roedd yna lawer iawn o waith i’w wneud! Cyn bo hir, daeth eu gelynion i geisio eu stopio nhw. Parhaodd y gwrthwynebiad hwn am 15 mlynedd ac, yn araf deg, dyma’r Iddewon yn dechrau digalonni. (Esra 4:1-4) Wynebon nhw sialens arall yn y flwyddyn 522, pan orchmynnodd brenin Persia i’r gwaith adeiladu yn Jerwsalem gael ei stopio. Roedd hi’n ymddangos fel na fyddai’r ddinas byth yn cael ei hadeiladu.—Esra 4:21-24.

5. Sut gwnaeth Jehofa helpu ei bobl?

5 Gwyddai Jehofa fod angen nerth a dewrder ar ei bobl. Rhoddodd Jehofa y weledigaeth olaf i Sechareia er mwyn atgoffa’r bobl ei fod yn eu caru nhw a’i fod yn gwerthfawrogi eu hymdrechion i’w addoli. Fe wnaeth addo eu gwarchod nhw petaen nhw’n gorffen y gwaith a roddodd ef iddyn nhw. Ynglŷn ag ailadeiladu’r deml, dywedodd Jehofa: “Bydd hyn i gyd yn digwydd os byddwch chi wir yn ufudd i’r ARGLWYDD eich Duw.”—Sechareia 6:15.

BYDDIN O ANGYLION

6. (a) Sut dechreuodd wythfed weledigaeth Sechareia? (Gweler y llun agoriadol.) (b) Pam roedd y ceffylau o wahanol liwiau?

6 Efallai mai wythfed weledigaeth Sechareia, sef ei weledigaeth olaf, yw’r un fwyaf calonogol. (Darllen Sechareia 6:1-3.) Ceisia ddychmygu beth welodd Sechareia. “Rhwng dau fynydd” o bres daeth geffylau yn tynnu cerbydau. Roedd pob ceffyl yn wahanol o ran lliw, ac roedd hynny’n ei gwneud hi’n hawdd gwahaniaethu’r marchogion oddi wrth ei gilydd. Gofynnodd Sechareia: “Beth ydy’r rhain?” (Sechareia 6:4) Rydyn ninnau eisiau gwybod oherwydd bod y weledigaeth yn effeithio arnon ninnau hefyd.

7, 8. (a) Beth mae’r ddau fynydd yn ei gynrychioli? (b) Pam mae’r mynyddoedd wedi eu gwneud o bres?

7 Yn y Beibl, mae mynyddoedd yn gallu cynrychioli teyrnasoedd, neu lywodraethau. Mae’r mynyddoedd a welodd Sechareia yn debyg i ddau fynydd ym mhroffwydoliaeth Daniel. Mae un o’r mynyddoedd hynny’n cynrychioli brenhiniaeth dragwyddol Jehofa dros y bydysawd, a’r llall yn cynrychioli’r Deyrnas Feseianaidd a Iesu’n Frenin arni. (Daniel 2:35, 45) Ers yr hydref, 1914, pan ddaeth Iesu’n Frenin, mae’r ddau fynydd hyn wedi bodoli ac wedi cael rhan bwysig yn cyflawni pwrpas Duw ar gyfer y ddaear.

8 Pam mae’r mynyddoedd wedi eu gwneud o bres? Mae pres yn fetel gwerthfawr a sgleiniog. Hefyd, dywedodd Jehofa wrth yr Israeliaid am iddyn nhw ddefnyddio pres wrth adeiladu’r tabernacl ac, yn hwyrach ymlaen, y deml yn Jerwsalem. (Exodus 27:1-3; 1 Brenhinoedd 7:13-16) Mae’r ffaith fod y mynyddoedd wedi eu gwneud o bres yn pwysleisio ansawdd uchel awdurdod brenhinol Jehofa dros y bydysawd ac awdurdod y Deyrnas Feseianaidd a fydd yn gwneud i’r bobl deimlo’n saff ac yn dod â llawer o fendithion.

9. Pwy ydy marchogion y cerbydau, a beth yw eu haseiniad?

9 Beth mae’r cerbydau a’u marchogion yn ei gynrychioli? Angylion yw’r marchogion, grwpiau gwahanol o angylion yn ôl pob tebyg. (Darllen Sechareia 6:5-8.) Maen nhw’n cael “eu hanfon allan gan Feistr y ddaear gyfan” i gyflawni aseiniad arbennig. Mae’r angylion yn cael eu hanfon i lefydd penodol i warchod pobl Dduw rhag eu gelynion, yn enwedig Babilon, a oedd i “gyfeiriad y gogledd.” Drwy gyfrwng y weledigaeth hon, dangosodd Jehofa i’w bobl na fydden nhw byth eto yn gaethweision i Fabilon. Dychmyga sut byddai hynny wedi cysuro adeiladwyr y deml yn nyddiau Sechareia! Roedden nhw’n gwybod nad oedd eu gelynion yn medru eu stopio nhw.

10. Sut gall proffwydoliaeth Sechareia ynglŷn â’r cerbydau a’u marchogion ein helpu ni heddiw?

10 Heddiw, mae Jehofa yn dal yn defnyddio ei angylion i warchod a chryfhau ei bobl. (Malachi 3:6; Hebreaid 1:7, 14) Ers 1919, pan gafodd pobl Jehofa eu rhyddhau o gaethiwed symbolaidd i Fabilon Fawr, mae eu gelynion wedi ymdrechu’n galed iawn i gadw gwir addoliad rhag tyfu ac ehangu. (Datguddiad 18:4) Ond, maen nhw wedi methu. Oherwydd bod angylion yn amddiffyn cyfundrefn Jehofa, does dim rhaid inni boeni y bydd pobl Jehofa yn cael eu caethiwo gan gau grefydd unwaith eto. (Salm 34:7) Yn hytrach, byddwn ni’n dal ati i fod yn hapus ac yn brysur wrth addoli Jehofa. Mae proffwydoliaeth Sechareia yn ein helpu i ddeall ein bod ni’n saff a’n bod ni’n cael ein hamddiffyn gan y ddau fynydd.

11. Pam nad oes rhaid inni ofni’r ymosodiad sydd i ddod ar bobl Dduw?

11 Yn fuan iawn, bydd grymoedd gwleidyddol byd Satan yn ymuno â’i gilydd er mwyn ceisio dinistrio pobl Dduw. (Eseciel 38:2, 10-12; Daniel 11:40, 44, 45; Datguddiad 19:19) Ym mhroffwydoliaeth Eseciel, gwelwn y grymoedd hynny’n gorchuddio’r ddaear fel cymylau. Maen nhw’n marchoga ceffylau ac yn dod yn llawn llid i ymosod ar bobl Dduw. (Eseciel 38:15, 16) * (Gweler y troednodyn.) A ddylen ni eu hofni nhw? Na ddylen ni! Mae byddin Jehofa ar ein hochr ni. Yn ystod y gorthrymder mawr, bydd angylion Jehofa yn amddiffyn ei bobl ac yn dinistrio unrhyw un sy’n gwrthwynebu brenhiniaeth Jehofa. (2 Thesaloniaid 1:7, 8) Diwrnod arbennig fydd hwnnw! Ond, pwy fydd yn arwain byddin nefol Jehofa?

JEHOFA YN CORONI EI FRENIN-OFFEIRIAD

12, 13. (a) Beth roedd Jehofa eisiau i Sechareia ei wneud nesaf? (b) Sut rydyn ni’n gwybod bod y dyn a elwir “y Blaguryn” yn cynrychioli Iesu Grist?

12 Sechareia oedd yr unig un i weld yr wyth gweledigaeth hynny. Ond nesaf, fe wnaeth rywbeth y byddai pobl eraill yn ei weld, rhywbeth a fyddai’n annog y bobl a oedd yn ailadeiladu teml Dduw. (Darllen Sechareia 6:9-12.) Dyma dri dyn yn cyrraedd o Fabilon, sef Cheldai, Tobeia, ac Idaïa. Dywedodd Jehofa wrth Sechareia am iddo gasglu arian ac aur oddi wrth y dynion hyn a’u defnyddio i greu “coron frenhinol.” (Sechareia 6:11) A oedd y goron ar gyfer y llywodraethwr Sorobabel a oedd yn dod o lwyth Jwda ac yn un o ddisgynyddion Dafydd? Nac oedd. Gorchmynnodd Jehofa i Sechareia roi’r goron ar ben yr Archoffeiriad, Josua. Byddai hyn wedi synnu’r rhai a oedd yn gwylio.

13 A oedd y ffaith fod yr Archoffeiriad Josua wedi ei goroni yn golygu ei fod yn frenin? Nac oedd. Doedd Josua ddim yn un o ddisgynyddion Dafydd, felly, nid oedd yn gymwys i fod yn frenin. Roedd ei goroni yn ddarlun o’r hyn a fyddai’n digwydd i frenin ac offeiriad tragwyddol yn y dyfodol, yr un sy’n dwyn yr enw “y Blaguryn.” Mae’r Beibl yn egluro mai Iesu Grist ydy’r blaguryn hwnnw, neu’r gangen honno.—Eseia 11:1; Mathew 2:23. * (Gweler y troednodyn.)

14. Pa waith mae Iesu’n ei wneud fel Brenin ac Archoffeiriad?

14 Mae Iesu’n Frenin a hefyd yn Archoffeiriad. Mae’n arwain byddin nefol Jehofa ac yn gweithio’n galed i sicrhau bod pobl Dduw yn teimlo’n ddiogel yn y byd treisgar hwn. (Jeremeia 23:5, 6) Ymhen dim, bydd Crist yn gorchfygu’r cenhedloedd wrth iddo gefnogi brenhiniaeth Duw ac amddiffyn pobl Jehofa. (Datguddiad 17:12-14; 19:11, 14, 15) Ond, cyn y diwrnod hwnnw, mae gan Iesu, neu’r Blaguryn, waith pwysig i’w wneud.

BYDD YN ADEILADU’R DEML

15, 16. (a) Sut mae pobl Dduw wedi cael eu hadfer a’u coethi heddiw, a chan bwy? (b) Sut bydd y ddaear ar ddiwedd Teyrnasiad Mil Blynyddoedd Crist?

15 Yn ogystal â bod yn Frenin ac yn Archoffeiriad, cafodd Iesu ei aseinio i “adeiladu teml yr ARGLWYDD!” (Darllen Sechareia 6:13.) Yn 1919, gwnaeth Iesu’r gwaith adeiladu hwn drwy ryddhau pobl Dduw o ddylanwad gau grefydd, sef Babilon Fawr. Adferodd y gynulleidfa a phenodi gwas ffyddlon a chall. Mae’r grŵp hwn o frodyr eneiniog yn arwain y gwaith pwysig sy’n cael ei wneud yn y rhan ddaearol o’r deml fawr ysbrydol. (Mathew 24:45) Hefyd, mae Iesu wedi bod yn coethi pobl Dduw, ac yn eu helpu i addoli mewn ffordd lân.—Malachi 3:1-3.

16 Bydd Iesu a’i 144,000 o gyd-frenhinoedd ac offeiriaid yn rheoli am fil o flynyddoedd. Yn ystod yr amser hwnnw, byddan nhw’n helpu pobl ffyddlon i gyrraedd perffeithrwydd. Unwaith i’r brenhinoedd a’r offeiriaid hynny orffen eu gwaith, dim ond addolwyr Jehofa fydd ar ôl ar y ddaear. O’r diwedd, bydd gwir addoliad wedi ei adfer yn llawn!

HELPA YN Y GWAITH ADEILADU

17. Pa gysur a roddodd Jehofa i’r Iddewon, a pha effaith a gafodd ei neges arnyn nhw?

17 Pa effaith a gafodd neges Sechareia ar yr Iddewon bryd hynny? Roedd Jehofa wedi addo y byddai’n eu helpu a’u hamddiffyn er mwyn iddyn nhw allu gorffen y deml. Rhoddodd y neges honno obaith iddyn nhw. Ond, efallai eu bod nhw’n dal i feddwl am sut gallai cyn lleied o bobl wneud cymaint o waith. Felly, dywedodd Sechareia rywbeth wrthyn nhw a fyddai’n cael gwared ar eu hofnau a’u hamheuon. Yn ogystal â phobl fel Cheldai, Tobeia, ac Idaïa, dywedodd Jehofa y byddai llawer mwy o bobl yn “dod o bell i adeiladu teml yr ARGLWYDD.” (Darllen Sechareia 6:15.) Roedd yr Iddewon yn sicr fod Jehofa yn cefnogi eu gwaith. Aethon nhw ati’n hyderus unwaith eto i ailadeiladu’r deml, er bod brenin Persia wedi gwahardd y gwaith yn swyddogol. Roedd y gwaharddiad hwnnw fel mynydd yn sefyll ar draws y ffordd, ond, cyn bo hir, roedd Jehofa wedi cael gwared arno. Yn y diwedd, cafodd y deml ei gorffen yn y flwyddyn 515 cyn Crist. (Esra 6:22; Sechareia 4:6, 7) Ond, mae’r geiriau hynny gan Jehofa hefyd yn disgrifio rhywbeth llawer iawn mwy sy’n digwydd heddiw.

Fydd Jehofa byth yn anghofio am ein cariad tuag ato! (Gweler paragraffau 18, 19)

18. Sut mae Sechareia 6:15 yn cael ei chyflawni heddiw?

18 Heddiw, mae miliynau o bobl yn addoli Jehofa. Mae pob un yn hapus i roi ei “gyfoeth” i Dduw, sef ei amser, ei egni, a’i bethau materol. Yn y modd hwn, maen nhw’n cefnogi teml fawr ysbrydol Jehofa. (Diarhebion 3:9) A gallwn fod yn sicr fod Jehofa’n gwerthfawrogi ein cefnogaeth ffyddlon. Cofia fod Cheldai, Tobeia, ac Idaïa wedi dod ag arian ac aur a bod Sechareia wedi creu coron o’r ddau fetel hynny. Roedd y goron “i atgoffa” pawb o’u cyfraniad tuag at wir addoliad. (Sechareia 6:14) Fydd Jehofa byth yn anghofio am ein gwaith caled nac am ein cariad tuag ato.—Hebreaid 6:10.

Rydyn ni’n falch i fod yn rhan o gyfundrefn sefydlog, cadarn, a thragwyddol

19. Sut dylai gweledigaethau Sechareia effeithio arnon ni?

19 Yn y dyddiau diwethaf hyn, mae pobl Jehofa wedi gallu gwneud llawer o waith da. Mae hyn wedi bod yn bosib oherwydd bendith Jehofa ac arweiniad Crist. Rydyn ni’n hapus i fod yn rhan o gyfundrefn sefydlog, gadarn, a thragwyddol, ac rydyn ni’n gwybod bod pwrpas Jehofa ar gyfer gwir addoliad am ddod yn wir. Felly, gwerthfawroga dy le ymhlith pobl Jehofa, a bydda’n “ufudd i’r ARGLWYDD.” Yna, bydd ein Brenin a’n Harchoffeiriad, a’r angylion, yn dy warchod di. Gwna bopeth a elli di i gefnogi gwir addoliad. Bydd Jehofa yn dy gadw di’n saff trwy gydol y system hon—ac am byth!

^ Par. 11 Am fwy o wybodaeth, gweler “Cwestiynau Ein Darllenwyr” yn y Tŵr Gwylio Saesneg, 15 Mai 2015, tudalennau 29-30.

^ Par. 13 Mae’r gair “Nasaread” yn dod o ymadrodd Hebraeg sy’n golygu “blaguryn,” neu “gangen.”