Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Cadw Dy Heddwch Mewnol er Gwaethaf Newidiadau

Cadw Dy Heddwch Mewnol er Gwaethaf Newidiadau

“Dw i wedi dysgu bod yn dawel a diddig.”—SALM 131:2.

CANEUON: 128, 129

1, 2. (a) Sut gall newidiadau sydyn mewn bywyd effeithio arnon ni? (Gweler y llun agoriadol.) (b) Yn ôl Salm 131, beth all ein helpu i aros yn dawel ein meddwl?

AR ÔL i Lloyd ac Alexandra wasanaethu yn y Bethel am dros 25 mlynedd, fe’u hailaseiniwyd i’r maes. Ar y dechrau, roedden nhw’n drist. Dywed Lloyd: “Roeddwn i’n teimlo bod Bethel a fy aseiniad wedi dod yn rhan ohonof i. Roeddwn i’n deall y rhesymau dros y newid, ond wrth i amser fynd heibio, yn aml teimlais fel fy mod i wedi cael fy ngwrthod.” Un munud roedd Lloyd yn teimlo’n bositif, a’r munud nesaf roedd yn teimlo’n isel.

2 Weithiau, bydd newidiadau annisgwyl yn digwydd yn ein bywydau, ac efallai bydden nhw’n achosi inni boeni’n fawr iawn. (Diarhebion 12:25) Pan fyddwn ni’n ei chael hi’n anodd derbyn ac addasu i newidiadau, sut gallwn ni beidio â chynhyrfu? (Darllen Salm 131:1-3.) Gad inni weld sut mae rhai o weision Jehofa, ddoe a heddiw, wedi gallu cadw heddwch meddwl wrth wynebu newidiadau sydyn yn eu bywydau.

SUT MAE HEDDWCH DUW YN EIN HELPU?

3. Sut gwnaeth bywyd Joseff newid yn sydyn?

3 Joseff oedd hoff fab Jacob. Achosodd hyn i’w frodyr fod yn genfigennus ohono. Pan oedd Joseff yn 17, gwnaethon nhw ei werthu fel caethwas. (Genesis 37:2-4, 23-28) Am tua 13 mlynedd, roedd yn dioddef yn yr Aifft, yn gyntaf fel caethwas ac yn hwyrach ymlaen fel carcharor. Roedd Joseff yn bell i ffwrdd o’i dad, sefyllfa a fyddai wedi gallu gwneud iddo deimlo’n ddigalon ac yn flin. Ond ni ddigwyddodd hynny. Beth helpodd Joseff?

4. (a) Beth wnaeth Joseff tra oedd yn y carchar? (b) Sut atebodd Jehofa weddïau Joseff?

4 Tra oedd Joseff yn y carchar, mae’n rhaid ei fod wedi canolbwyntio ar sut roedd Jehofa yn ei helpu. (Genesis 39:21; Salm 105:17-19) Efallai ei fod wedi meddwl am y breuddwydion proffwydol a gafodd pan oedd yn ifanc gan deimlo bod Jehofa gydag ef. (Genesis 37:5-11) Mae’n debyg ei fod wedi gweddïo’n aml ar Jehofa a mynegi popeth yn ei galon. (Salm 145:18) Ac atebodd Jehofa ei weddïau drwy roi’r hyder iddo y byddai Ef “gyda Joseff” beth bynnag a ddaw.—Actau 7:9, 10. * (Gweler y troednodyn.)

5. Sut gall heddwch Duw ein gwneud ni’n fwy penderfynol o wasanaethu Jehofa?

5 Dim ots pa mor anodd ydy ein sefyllfa, gallwn gael yr “heddwch perffaith mae Duw’n ei roi” sy’n gwarchod ein calonnau a’n meddyliau. (Darllen Philipiaid 4:6, 7.) Pan ydyn ni’n teimlo o dan straen, gall heddwch Duw ein cryfhau ni i ddal ati i wasanaethu Jehofa ac i beidio â rhoi’r gorau iddi. Gad inni ddysgu am esiamplau modern o frodyr a chwiorydd sydd wedi profi hyn.

GOFYNNA I JEHOFA DY HELPU I ADENNILL DY HEDDWCH

6, 7. Sut gall ein gweddïau ein helpu i adennill ein heddwch meddwl? Rho esiampl.

6 Pan glywodd Ryan a Juliette fod eu haseiniad fel arloeswyr arbennig dros dro wedi dod i ben, roedden nhw’n ddigalon. Mae Ryan yn dweud: “Gwnaethon ni droi’n syth at Jehofa mewn gweddi. Roedden ni’n gwybod bod gennyn ni’r cyfle i ddangos ein bod ni’n dibynnu arno. Roedd llawer yn ein cynulleidfa yn newydd yn y gwir, felly gwnaethon ni weddïo am i Jehofa ein helpu i osod esiampl dda o ran ffydd.”

7 Sut atebodd Jehofa eu gweddi? Mae Ryan yn dweud: “Yn syth ar ôl y weddi, gwnaeth y teimladau negyddol a’r pryderon roedden ni’n eu profi ar y cychwyn ddiflannu. Roedd heddwch Duw yn gwarchod ein calonnau a’n meddyliau. Sylweddolon ni ein bod ni’n dal yn gallu bod yn ddefnyddiol i Jehofa os oedden ni’n cadw’r agwedd gywir.”

8-10. (a) Sut gall ysbryd Duw ein helpu pan fyddwn ni o dan straen? (b) Sut gall Jehofa ein helpu pan fyddwn ni’n canolbwyntio ar ei wasanaethu ef?

8 Gall ysbryd Duw wneud inni deimlo’n dawel, gallai hefyd ein harwain at adnodau yn y Beibl a fydd yn ein helpu i ddeall beth sy’n bwysig mewn bywyd. (Darllen Ioan 14:26, 27.) Ystyria’r hyn a ddigwyddodd i Philip a Mary, cwpl priod a oedd wedi bod yn y Bethel am bron i 25 mlynedd. O fewn pedwar mis, roedd mamau’r ddau ohonyn nhw wedi marw ynghyd â pherthynas arall iddyn nhw, ac roedden nhw hefyd yn gorfod gofalu am dad Mary, a oedd yn dioddef o dementia.

9 Dywed Philip: “Roeddwn i’n meddwl fy mod i’n ymdopi’n dda i ryw raddau, ond roedd rhywbeth ar goll. Gwelais Colosiaid 1:11, 12 yn y Tŵr Gwylio. Roeddwn i’n ymdopi, ond nid yn yr ystyr llawn. Roedd angen ‘dal ati yn amyneddgar’ ac yn llawen. Gwnaeth yr adnodau hyn fy atgoffa bod fy llawenydd mewn bywyd yn dibynnu, nid ar fy amgylchiadau, ond ar yr effaith mae ysbryd Duw yn ei chael yn fy mywyd.”

10 Oherwydd i Philip a Mary ganolbwyntio ar wasanaethu Jehofa, cawson nhw eu bendithio mewn llawer o ffyrdd. Yn fuan ar ôl gadael y Bethel, cychwynnodd y ddau ohonyn nhw astudiaethau Beiblaidd gyda phobl a oedd yn gwneud cynnydd da ac a oedd eisiau astudio mwy nag unwaith yr wythnos. Mae Mary yn dweud: “Cawson ni lawenydd trwyddyn nhw ac roedd Jehofa’n dangos bod popeth yn mynd i fod yn iawn.”

GWNA RYWBETH Y GALL JEHOFA EI FENDITHIO

Sut gallwn ni efelychu Joseff beth bynnag sy’n digwydd yn ein bywyd? (Gweler paragraffau 11-13)

11, 12. (a) Sut gwnaeth Joseff rywbeth roedd Jehofa yn gallu ei fendithio? (b) Sut gwnaeth Jehofa wobrwyo Joseff?

11 Pan fydd bywyd yn newid yn sydyn, gallwn ni bryderu cymaint nes ein bod ni’n meddwl dim ond am ein problemau ni’n hunain. Gallai hynny fod wedi digwydd i Joseff. Yn hytrach, dewisodd wneud y gorau o’i sefyllfa. Fel roedd Joseff wedi gweithio’n galed i Potiffar, gweithiodd yn galed yn y carchar ym mhob aseiniad a gafodd gan warden y carchar.—Genesis 39:21-23.

12 Un diwrnod, cafodd Joseff ei aseinio i ofalu am ddau garcharor a oedd wedi gwasanaethu yn llys y Pharo. Roedd Joseff yn garedig wrthyn nhw, ac roedd y dynion yn teimlo’n ddigon cyfforddus i sôn wrtho am eu pryderon ac am y breuddwydion annifyr roedden nhw wedi eu cael y noson cynt. (Genesis 40:5-8) Doedd Joseff ddim yn gwybod ar y pryd, ond byddai’r sgwrs hwnnw yn arwain yn y pen draw at ei ryddhad. Dwy flynedd yn ddiweddarach, cafodd ei ryddhau o’r carchar ac fe ddaeth yn rheolwr grymus yn yr Aifft. Dim ond y Pharo oedd â mwy o awdurdod na Joseff!—Genesis 41:1, 14-16, 39-41.

13. Sut gallwn ni ymddwyn mewn ffordd a fydd yn dod â bendith Jehofa, beth bynnag ydy ein sefyllfa?

13 Fel Joseff, efallai byddwn ni mewn sefyllfa dydyn ni ddim yn gallu ei rheoli. Ond, os ydyn ni’n amyneddgar ac yn gwneud y gorau a fedrwn ni, bydd Jehofa yn ein bendithio. (Salm 37:5) Hyd yn oed pan ydyn ni’n teimlo’n ddryslyd ac yn bryderus, fyddwn ni ddim yn “anobeithio.” (2 Corinthiaid 4:8) Bydd Jehofa gyda ni, yn enwedig os ydyn ni’n canolbwyntio ar y weinidogaeth.

PARHAU I GANOLBWYNTIO AR DY WEINIDOGAETH

14-16. Sut gwnaeth Philip yr efengylwr ganolbwyntio ar ei weinidogaeth er gwaethaf newidiadau?

14 Roedd Philip yr efengylwr yn esiampl wych o rywun a wnaeth barhau i ganolbwyntio ar ei weinidogaeth pa bynnag newidiadau a ddigwyddodd yn ei fywyd. Ar un adeg, roedd yn mwynhau aseiniad newydd yn Jerwsalem. (Actau 6:1-6) Yna, newidiodd popeth. Ar ôl i Steffan gael ei lofruddio, roedd ’na erledigaeth ffyrnig yn erbyn y Cristnogion, a gwnaethon nhw ffoi o Jerwsalem. Oherwydd roedd Philip eisiau cadw’n brysur yn gwasanaethu Jehofa, aeth i ddinas Samaria, lle roedd angen i bobl glywed y newyddion da.—Mathew 10:5; Actau 8:1, 5.

15 Roedd Philip yn barod i fynd le bynnag roedd ysbryd Duw yn ei arwain. Felly, gwnaeth Jehofa ei ddefnyddio i bregethu mewn ardaloedd lle nad oedd pobl wedi clywed y newyddion da eto. Roedd llawer o Iddewon yn edrych i lawr ar y Samariaid ac yn eu trin nhw’n ddrwg. Ond, doedd Philip ddim yn dangos rhagfarn, ac roedd yn awyddus i rannu’r newyddion da gyda nhw. A gwnaeth y Samariaid wrando arno gyda’i gilydd.—Actau 8:6-8.

16 Nesaf, cafodd Philip ei arwain gan yr ysbryd glân i bregethu yn ninasoedd Asdod a Cesarea, ble roedd llawer o bobl o’r Cenhedloedd. (Actau 8:39, 40) Wedyn, newidiodd fywyd Philip eto. Fe wnaeth setlo i lawr a dechrau teulu. Ond, sut bynnag roedd bywyd Philip yn newid, arhosodd yn brysur yn y weinidogaeth, a gwnaeth Jehofa barhau i’w fendithio ef a’i deulu.—Actau 21:8, 9.

17, 18. Pan fydd ein bywyd yn newid mewn rhyw ffordd, sut bydd canolbwyntio ar y weinidogaeth yn ein helpu?

17 Mae llawer sy’n gwasanaethu’n llawn amser yn dweud bod canolbwyntio ar y weinidogaeth yn eu helpu i aros yn hapus ac yn bositif hyd yn oed pan fydd eu hamgylchiadau yn newid. Er enghraifft, pan wnaeth cwpl o Dde Affrica, Osborne a Polite, adael y Bethel, roedden nhw’n meddwl y byddai’n hawdd dod o hyd i waith rhan amser a rhywle i fyw. Ond, mae Osborne yn dweud: “Yn anffodus, cymerodd hi fwy o amser nag yr oedden ni’n gobeithio i ffeindio gwaith.” Mae Polite yn dweud: “Wnaethon ni ddim ffeindio gwaith am dri mis, a doedd gennyn ni ddim cynilion. Roedd hi’n sialens fawr.”

18 Beth helpodd Osborne a Polite yn y sefyllfa bryderus hon? Mae Osborne yn dweud: “Roedd pregethu gyda’r gynulleidfa yn ein helpu’n fawr iawn i ganolbwyntio ac i aros yn bositif.” Yn hytrach nag aros adref yn poeni, penderfynon nhw gadw’n brysur yn y weinidogaeth. Roedden nhw’n llawen iawn ar ôl gwneud hyn! Mae Osborne yn ychwanegu: “Gwnaethon ni chwilio ym mhobman am swyddi, ac yn y pen draw gwnaethon ni ddod o hyd i waith.”

YMDDIRIED YN LLWYR YN JEHOFA

19-21. (a) Beth fydd yn ein helpu i gadw ein heddwch meddwl? (b) Sut byddwn ni ar ein hennill o addasu i newidiadau annisgwyl?

Gall y ffordd rydyn ni’n addasu i ryw newid penodol gryfhau ein cyfeillgarwch â Jehofa

19 Fel rydyn ni wedi ei weld, os ydyn ni’n gwneud y gorau o’n hamgylchiadau ac yn ymddiried yn llwyr yn Jehofa, byddwn ni’n gallu cadw ein heddwch meddwl beth bynnag sy’n digwydd. (Darllen Micha 7:7.) Mewn amser, efallai byddwn ni’n sylweddoli bod y ffordd y gwnaethon ni addasu i newidiadau wedi cryfhau ein cyfeillgarwch â Jehofa. Mae Polite yn esbonio bod cael ei hailaseinio o’r Bethel wedi dysgu iddi beth mae dibynnu ar Jehofa, hyd yn oed pan fydd bywyd yn anodd, yn ei wir olygu. Mae’n dweud: “Mae fy mherthynas ag ef wedi cryfhau.”

20 Mae Mary, a ddyfynnwyd yn gynharach, yn dal i ofalu am ei thad oedrannus ac yn arloesi. Mae hi’n dweud: “Dw i wedi dysgu bod angen imi stopio a gweddïo pan dw i’n teimlo’n bryderus, ac yna ymlacio. Yn ôl pob tebyg, gadael pethau yn nwylo Jehofa ydy’r wers fwyaf dw i wedi ei dysgu, a bydd yn hanfodol iawn yn y dyfodol.”

21 Mae Lloyd ac Alexandra yn cyfaddef bod y newidiadau yn eu bywydau nhw wedi rhoi prawf ar eu ffydd mewn ffyrdd annisgwyl. Ond maen nhw’n gallu gweld sut mae’r profion hynny wedi eu helpu nhw. Nawr, maen nhw’n gwybod bod eu ffydd yn ddigon cryf i ddod â chysur iddyn nhw pan fydd ganddyn nhw broblemau, ac maen nhw’n teimlo eu bod nhw wedi dod yn bobl well.

Gall newidiadau annisgwyl ddod â bendithion annisgwyl! (Gweler paragraffau 19-21)

22. Os gwnawn ni ein gorau yn ôl ein hamgylchiadau, beth gallwn ni fod yn sicr ohono?

22 Yn y system hon, gall ein bywydau newid yn sydyn. Efallai cawn ni aseiniad newydd yng ngwasanaeth Jehofa, problemau iechyd, neu efallai bydd angen gofalu am aelod o’r teulu mewn rhyw ffordd neu’i gilydd. Ond, beth bynnag a all ddigwydd, bydda’n hyderus fod Jehofa yn gofalu amdanat ti ac y bydd yn dy helpu ar yr amser iawn. (Hebreaid 4:16; 1 Pedr 5:6, 7) Ac yn y cyfamser, gwna’r gorau a elli di yn dy sefyllfa. Gweddïa ar dy Dad, Jehofa, a dysga sut i ddibynnu’n llwyr arno. Drwy wneud hyn, sut bynnag mae dy amgylchiadau’n newid, bydd yr heddwch meddwl sy’n dod oddi wrth Jehofa arnat ti drwy’r amser.

^ Par. 4 Flynyddoedd wedyn, rhoddodd Joseff yr enw Manasse i’w fab cyntaf anedig oherwydd, fel y dywedodd: “Mae Duw wedi gwneud i mi anghofio fy holl drafferthion.” Deallodd fod ei fab yn rhodd oddi wrth Jehofa i’w gysuro.—Genesis 41:51.