Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Dweud y Gwir

Dweud y Gwir

“Dwedwch y gwir wrth eich gilydd.”—SECHAREIA 8:16.

CANEUON: 56, 124

1, 2. Beth ddefnyddiodd y Diafol i achosi’r niwed mwyaf i ddynolryw?

MAE rhai dyfeisiau, fel y teleffon, y bylb golau, y car, a’r oergell, wedi gwneud bywyd yn haws. Mae dyfeisiau eraill fel powdwr gwn, ffrwydron tir, sigaréts, a bomiau atomig, wedi gwneud bywyd yn fwy peryglus. Ond mae ’na rywbeth sy’n hŷn na phob un o’r rhain ac sydd wedi brifo’r ddynoliaeth yn fwy na dim arall. Beth yw hynny? Celwydd! Mae dweud celwydd yn golygu dweud rhywbeth rydyn ni’n gwybod sydd ddim yn wir er mwyn twyllo rhywun. Pwy ddywedodd y celwydd cyntaf? Y Diafol! Dywedodd Iesu mai ef ydy “tad pob celwydd!” (Darllen Ioan 8:44.) Pryd y dywedodd y celwydd cyntaf?

2 Fe wnaeth hynny filoedd o flynyddoedd yn ôl yng ngardd Eden. Roedd Adda ac Efa yn mwynhau bywyd yn y Baradwys hardd roedd Jehofa wedi ei chreu ar eu cyfer. Dywedodd Duw wrthyn nhw y bydden nhw’n marw petaen nhw’n bwyta o’r “goeden sy’n rhoi gwybodaeth am bopeth—da a drwg.” Er bod Satan yn gwybod hyn, defnyddiodd neidr i ddweud wrth Efa: “Na! Fyddwch chi ddim yn marw.” Dyna oedd y celwydd cyntaf. Dywedodd Satan hefyd: “Mae Duw yn gwybod y byddwch chi’n gweld popeth yn glir pan wnewch chi fwyta ohoni. Byddwch chi’n gwybod am bopeth—da a drwg—fel Duw ei hun.”—Genesis 2:15-17; 3:1-5.

3. Pam roedd celwydd Satan mor faleisus, a beth ddigwyddodd o ganlyniad i’r celwydd hwnnw?

3 Roedd celwydd Satan yn faleisus oherwydd roedd yn gwybod y byddai Efa, petai hi’n ei gredu ac yn bwyta’r ffrwyth, yn marw. A dyna’n union a ddigwyddodd. Anufuddhaodd Efa i orchymyn Jehofa ac wedyn Adda, gyda’r ddau yn marw yn y pen draw. (Genesis 3:6; 5:5) Yn fwy na hynny, oherwydd pechod Adda, “mae pawb yn marw.” Yn wir, “roedd pobl yn marw . . . er eu bod nhw ddim wedi pechu yn union yn yr un ffordd ag Adda.” (Rhufeiniaid 5:12, 14) Dyna pam nad ydyn ni’n berffaith nac yn byw am byth yn ôl bwriad Duw. Yn hytrach, rydyn ni’n byw am oddeutu “saith deg o flynyddoedd, wyth deg os cawn ni iechyd,” ac mae ein bywydau yn “llawn trafferthion.” (Salm 90:10) Digwyddodd hyn oll oherwydd celwydd Satan!

4. (a) Pa gwestiynau sy’n rhaid inni eu hateb? (b) Yn ôl Salm 15:1, 2, pwy yn unig all fod yn ffrind i Jehofa?

4 Dywedodd Iesu fod Satan “heb lynu wrth y gwir, am fod dim lle i’r gwir ynddo.” Dydy Satan ddim wedi newid. Mae’n dal yn “twyllo’r byd i gyd” â’i gelwyddau. (Datguddiad 12:9) Ond dydyn ni ddim eisiau i Satan ein twyllo ni. Felly mae’n rhaid cael atebion i dri chwestiwn. Sut mae Satan yn camarwain pobl heddiw? Pam mae pobl yn dweud celwydd? A sut gallwn ni ddweud y gwir bob amser fel nad ydyn ni’n colli ein cyfeillgarwch â Jehofa, fel y gwnaeth Adda ac Efa?—Darllen Salm 15:1, 2.

SUT MAE SATAN YN CAMARWAIN POBL?

5. Sut mae Satan yn camarwain pobl heddiw?

5 Rydyn ni’n gallu osgoi cael ein camarwain gan Satan. Dywedodd yr apostol Paul: “Dŷn ni’n gwybod yn iawn am ei gastiau e!” (2 Corinthiaid 2:11) Rydyn ni’n gwybod bod Satan yn rheoli’r holl fyd, gan gynnwys gau grefydd, llywodraethau llwgr, a busnesau barus. (1 Ioan 5:19) Felly, nid yw’n syndod inni fod Satan a’i gythreuliaid yn dylanwadu ar bobl i fod yn “ddauwynebog a chelwyddog.” (1 Timotheus 4:1, 2) Er enghraifft, mae rhai yn y byd busnes yn dweud celwydd yn eu hysbysebion i werthu cynnyrch sy’n niweidio neu i dwyllo pobl a chymryd eu harian.

6, 7. (a) Pam mae hi’n eithriadol o ddrwg pan fydd arweinwyr crefyddol yn dweud celwydd? (b) Pa gelwyddau rwyt ti wedi clywed arweinwyr crefyddol yn eu dweud?

6 Mae hi’n eithriadol o ddrwg pan fydd arweinwyr crefyddol yn dweud celwydd. Pam? Oherwydd os ydy rhywun yn credu yn eu gau ddysgeidiaethau ac yn gwneud pethau mae Duw yn eu casáu, gall y person hwnnw golli’r cyfle i fyw am byth. (Hosea 4:9) Roedd Iesu yn gwybod bod arweinwyr crefyddol yn ei ddyddiau ef yn twyllo’r bobl. Dywedodd wrthyn nhw’n eofn: “Gwae chi’r arbenigwyr yn y Gyfraith a Phariseaid! Dych chi mor ddauwynebog! Dych chi’n barod i deithio dros fôr a thir i gael un person i gredu yr un fath â chi. Wrth wneud hynny dych chi’n ei droi’n blentyn uffern,” hynny yw, yn rhywun sy’n mynd i gael ei ddinistrio’n dragwyddol. (Mathew 23:15) Dywedodd Iesu fod yr arweinwyr crefyddol hynny yn union fel eu tad y Diafol, sy’n “llofrudd.”—Ioan 8:44.

7 Mae ’na lawer o arweinwyr crefyddol yn ein dyddiau ninnau hefyd. Efallai eu bod nhw’n defnyddio teitlau fel gweinidog, offeiriad, rabi, neu deitlau eraill. Fel y Phariseaid, dydyn nhw ddim yn dysgu’r gwirionedd o Air Duw ond maen nhw “wedi credu celwydd yn lle credu beth sy’n wir am Dduw!” (Rhufeiniaid 1:18, 25) Rhai o’u celwyddau ydy “eich achub unwaith, eich achub am byth,” anfarwoldeb yr enaid, y meirw yn cael eu hailymgnawdoli, y syniad fod Duw yn derbyn ffordd o fyw hoyw a phriodasau unrhyw.

8. Pa gelwydd y bydd yr arweinwyr gwleidyddol yn fuan yn ei ddweud, ond sut dylen ni ymateb iddo?

8 Mae gwleidyddion hefyd wedi dweud celwyddau i dwyllo pobl. Yn fuan, un o’r celwyddau mwyaf y byddan nhw’n ei ddweud am gyflwr y byd ydy: “Dyma dangnefedd a diogelwch.” Ond, “dyna’r pryd y daw dinistr disymwth.” Felly, ddylen ni ddim credu yn yr arweinwyr gwleidyddol hyn sy’n dweud bod pethau yn gwella. Y gwir yw ein bod ni’n gwybod “mai fel lleidr yn y nos y daw Dydd yr Arglwydd.”—1 Thesaloniaid 5:1-4, Beibl Cymraeg Diwygiedig.

PAM MAE POBL YN DWEUD CELWYDD?

9, 10. (a) Pam mae pobl yn dweud celwydd, a beth yw’r canlyniadau? (b) Beth ddylen ni ei gofio am Jehofa?

9 Heddiw, nid pobl bwerus yw’r unig rai sy’n dweud celwydd. Yn ôl yr erthygl “Why We Lie,” gan Y. Bhattacharjee, mae “dweud celwydd yn cael ei gydnabod fel rhan annatod o fodau dynol.” Mewn geiriau eraill, mae pobl yn meddwl bod dweud celwydd yn naturiol ac yn normal. Mae pobl yn aml yn dweud celwydd i’w hamddiffyn eu hunain, efallai i guddio camgymeriadau maen nhw wedi eu gwneud neu droseddau maen nhw wedi eu cyflawni. Maen nhw hefyd yn dweud celwydd i wneud arian neu i gael mantais mewn rhyw ffordd arall. Mae’r erthygl hefyd yn dweud nad oes gan rai pobl unrhyw broblem yn dweud celwydd “wrth bobl ddiarth, cyd-weithwyr, ffrindiau, ac anwyliaid.”

Pan fydd pobl yn dweud celwydd, maen nhw’n twyllo pobl eraill, ond ni allan nhw dwyllo Jehofa

10 Beth yw canlyniad yr holl gelwyddau hyn? Dydy pobl ddim yn trystio ei gilydd, a’r berthynas rhyngddyn nhw’n cael ei chwalu. Er enghraifft, dychmyga pa mor dorcalonnus y byddai hi i ŵr ffyddlon ddarganfod bod ei wraig wedi bod yn caru ar y slei ac yna wedi dweud celwydd wrtho er mwyn cuddio’r peth. Neu dychmyga pa mor ofnadwy y byddai hi petai dyn yn cam-drin ei wraig a’i blant yn y cartref, ond yn cogio bod yn gariadus ac yn garedig tuag atyn nhw o gwmpas pobl eraill. Gall pobl o’r fath dwyllo pobl eraill, ond dylen ni gofio nad ydyn nhw’n gallu twyllo Jehofa. Dywed y Beibl fod Duw yn “gweld popeth yn glir.”—Hebreaid 4:13.

11. Beth mae esiampl ddrwg Ananias a Saffeira yn ei ddysgu inni? (Gweler y llun agoriadol.)

11 Yn y Beibl, ceir hanes am Satan yn dylanwadu ar gwpl priod Cristnogol i ddweud celwydd wrth Dduw. Ceisiodd Ananias a Saffeira dwyllo’r apostolion. Gwerthon nhw ychydig o’u heiddo ac yna rhoi dim ond rhan o’r arian i’r apostolion. Roedd Ananias a Saffeira eisiau gwneud argraff ar eraill yn y gynulleidfa, felly dywedon nhw wrth yr apostolion eu bod nhw wedi rhoi’r holl arian. Ond roedd Jehofa yn gwybod eu bod nhw’n dweud celwydd, ac fe’u cosbodd nhw.—Actau 5:1-10.

12. Beth fydd yn digwydd i bobl sy’n dweud celwydd maleisus ac sydd ddim yn edifarhau, a pham?

12 Sut mae Jehofa yn teimlo am bobl sy’n dweud celwydd? Bydd pawb sy’n dweud celwydd maleisus ac sydd ddim yn edifarhau yn cael eu taflu i’r “llyn tân,” fel Satan. Mewn geiriau eraill, byddan nhw’n cael eu dinistrio am byth. (Datguddiad 20:10; 21:8; Salm 5:6) Pam? Oherwydd bod Jehofa yn ystyried y rhai celwyddog hyn yn yr un ffordd ag y mae’n ystyried pobl sy’n ymddwyn fel “cŵn,” hynny yw, pobl y mae eu harferion yn ffiaidd yng ngolwg Jehofa.—Datguddiad 22:15.

13. Beth rydyn ni’n ei wybod am Jehofa, a beth mae hynny’n ein hysgogi ni i’w wneud?

13 “Nid dyn sy’n dweud celwydd” ydy Jehofa ac mae hi’n “amhosib i Dduw ddweud celwydd.” (Numeri 23:19; Hebreaid 6:18) Mae Jehofa yn casáu “tafod celwyddog.” (Diarhebion 6:16, 17) Os ydyn ni eisiau ei blesio, mae’n rhaid inni ddweud y gwir. Felly, pwysig ydy “stopio dweud celwydd.”—Colosiaid 3:9.

RYDYN NI’N DWEUD Y GWIR

14. (a) Beth sy’n gwneud gwir Gristnogion yn wahanol i aelodau gau grefyddau? (b) Esbonia’r egwyddor yn Luc 6:45.

14 Beth ydy un ffordd y mae gwir Gristnogion yn wahanol i aelodau o gau grefyddau? Rydyn ni’n dweud y gwir. (Darllen Sechareia 8:16, 17.) Dywedodd Paul: “Dŷn ni am ddangos yn glir mai gweision Duw ydyn ni . . . drwy gyhoeddi’r gwir yn ffyddlon.” (2 Corinthiaid 6:4, 7) A dywedodd Iesu fod “beth mae pobl yn ei ddweud yn dangos beth sydd yn eu calonnau nhw.” (Luc 6:45) Golyga hyn y bydd person gonest yn dweud y gwir. Bydd yn dweud y gwir wrth bobl ddiarth, cyd-weithwyr, ffrindiau, ac anwyliaid. Gad inni drafod sut gallwn ni ddangos ein bod ni’n ceisio bod yn onest ym mhob peth.

Wyt ti’n gweld problem â ffordd o fyw’r chwaer ifanc hon? (Gweler paragraffau 15, 16)

15. (a) Pam mae byw bywyd dwbl yn ddrwg? (b) Beth all helpu pobl ifanc i wrthsefyll pwysau gan gyfoedion?

15 Os wyt ti’n berson ifanc, mae’n debyg dy fod ti eisiau cael dy dderbyn gan dy gyfoedion. Ond eto, oherwydd y dyhead hwn, mae rhai pobl ifanc yn byw bywyd dwbl. Maen nhw’n cogio bod yn foesol lân pan fyddan nhw gyda’r teulu a’r gynulleidfa ond maen nhw’n gwbl wahanol pan fyddan nhw ar y cyfryngau cymdeithasol neu yng nghwmni pobl sydd ddim yn gwasanaethu Jehofa. Maen nhw’n rhegi, yn gwisgo dillad anweddus, yn gwrando ar gerddoriaeth sy’n cynnwys geiriau anfoesol, yn meddwi, yn cymryd cyffuriau, yn canlyn ar y slei, neu’n gwneud pethau drwg eraill. Maen nhw’n dweud celwydd wrth eu rhieni, wrth eu brodyr a’u chwiorydd, ac wrth Jehofa. (Salm 26:4, 5) Ond mae Jehofa yn gwybod pan fyddan ni’n honni ein bod ni’n ei anrhydeddu ond yn gwneud pethau y mae’n ei gasáu. (Marc 7:6) Llawer gwell ydy gwneud beth mae’r ddihareb yn ei ddweud: “Paid cenfigennu wrth y rhai sy’n pechu—bydd di’n ffyddlon i Dduw bob amser.”—Diarhebion 23:17. * (Gweler y troednodyn.)

16. Sut dylen ni ateb cwestiynau sydd ar y ffurflen gais ar gyfer gwasanaeth llawn amser?

16 Os wyt ti eisiau bod yn arloeswr llawn amser neu yn y gwasanaeth llawn-amser arbennig, er enghraifft yn y Bethel, mae’n rhaid cwblhau ffurflen gais. Mae’n bwysig iawn dy fod ti’n rhoi atebion gonest i’r cwestiynau am dy iechyd, y math o adloniant rwyt ti’n ei ddewis, a dy foesau. (Hebreaid 13:18) Ond beth petaet ti wedi gwneud rhywbeth y mae Jehofa yn ei gasáu neu rywbeth sy’n poeni dy gydwybod a dwyt ti ddim wedi siarad â’r henuriaid amdano? Gofynna iddyn nhw am help fel y gelli di wasanaethu Jehofa â chydwybod lân.—Rhufeiniaid 9:1; Galatiaid 6:1.

17. Beth ddylen ni ei wneud pan fydd rhai sy’n ein herlid yn gofyn cwestiynau am ein brodyr?

17 Beth ddylet ti ei wneud os ydy ein gwaith wedi ei wahardd lle rwyt ti’n byw ac mae’r awdurdodau yn dy arestio ac yn gofyn cwestiynau iti am dy frodyr? Ddylet ti ddweud popeth wrthyn nhw? Beth wnaeth Iesu pan gafodd ei gwestiynu gan lywodraethwr Rhufeinig? Rhoddodd Iesu ar waith yr egwyddor Feiblaidd sy’n sôn am “amser i gadw’n dawel ac amser i siarad” ac weithiau ni ddywedodd yr un gair! (Pregethwr 3:1, 7; Mathew 27:11-14) Os ydyn ni mewn sefyllfa debyg, mae’n rhaid inni fod yn gall ac yn ofalus fel nad ydyn ni’n peryglu ein brodyr.—Diarhebion 10:19; 11:12.

Sut byddet ti’n penderfynu pryd i aros yn ddistaw a phryd i ddweud yr holl wir? (Gweler paragraffau 17, 18)

18. Beth ydy ein cyfrifoldeb os ydy’r henuriaid yn gofyn cwestiynau am ein brodyr?

18 Ond beth petai person yn y gynulleidfa wedi pechu’n ddifrifol a thithau’n gwybod amdano? Mae gan yr henuriaid y cyfrifoldeb i gadw’r gynulleidfa’n foesol lân, felly mae’n debyg y byddan nhw’n gofyn iti am yr hyn rwyt ti’n ei wybod. Ond beth wnei di os ydy’r unigolyn yn ffrind agos neu’n perthyn iti? Dywed y Beibl: “Mae tyst gonest yn dweud y gwir.” (Diarhebion 12:17; 21:28) Felly, mae gen ti’r gyfrifoldeb o ddweud y gwir i gyd wrth yr henuriaid heb guddio unrhyw ffeithiau. Mae gan yr henuriaid yr hawl i wybod y ffeithiau er mwyn gwybod sut i helpu’r unigolyn yn y ffordd orau i adfer ei berthynas â Jehofa.—Iago 5:14, 15.

19. Beth fydd pwnc yr erthygl nesaf?

19 Gweddïodd Dafydd ar Jehofa: “Rwyt ti eisiau gonestrwydd y tu mewn.” (Salm 51:6) Roedd Dafydd yn gwybod mai’r person mewnol sy’n cyfrif. Bob amser, mae gwir Gristnogion yn dweud y gwir wrth ei gilydd. Ffordd arall o ddangos ein bod ni’n wahanol i aelodau gau grefyddau ydy dysgu’r gwirionedd o’r Beibl. Yn yr erthygl nesaf, trafodwn sut i wneud hyn yn ein gweinidogaeth.

^ Par. 15 Gweler cwestiwn 6, “Sut Galla’ i Wrthsefyll Pwysau gan Gyfoedion?” yn y llyfryn 10 Ateb i Gwestiynau Pobl Ifanc a phennod 16, “A Double Life—Who Has to Know?,” yn y llyfr Questions Young People Ask—Answers That Work, Volume 2.