Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Dysgu Eraill y Gwirionedd

Dysgu Eraill y Gwirionedd

“O ARGLWYDD, . . . hanfod dy air yw gwirionedd.”—SALM 119:159, 160, BCND.

CANEUON: 29, 53

1, 2. (a) Beth oedd y gwaith pwysicaf ym mywyd Iesu, a pham? (b) Beth sy’n rhaid inni ei wneud er mwyn llwyddo “fel cydweithwyr” i Dduw?

ROEDD Iesu Grist yn saer coed ac yn nes ymlaen yn athro. (Marc 6:3; Ioan 13:13) Gwnaeth y ddau beth yn berffaith. Fel saer, dysgodd sut i ddefnyddio tŵls i greu pethau defnyddiol allan o bren. Fel athro, defnyddiodd ei ddealltwriaeth ddofn o’r Ysgrythurau i helpu’r bobl gyffredin i ddeall y gwirionedd o Air Duw. (Mathew 7:28; Luc 24:32, 45) Pan oedd Iesu’n 30 oed, rhoddodd y gorau i weithio fel saer coed er mwyn bod yn athro oherwydd iddo wybod mai dyna oedd y gwaith pwysicaf y gallai ei wneud. Dywedodd fod pregethu’r newyddion da am Deyrnas Dduw yn un o’r rhesymau dros gael ei anfon i’r ddaear gan Dduw. (Mathew 20:28; Luc 3:23; 4:43) Canolbwynt bywyd Iesu oedd pregethu’r newyddion da, ac roedd eisiau i bobl eraill wneud yr un peth.—Mathew 9:35-38.

2 Nid seiri coed ydy’r rhan fwyaf ohonon ni, ond rydyn ni i gyd yn athrawon sy’n dysgu’r newyddion da i eraill. Mae’r gwaith hwn mor bwysig oherwydd ei fod yn rhan o ewyllys Duw. Yn wir, rydyn ni “fel cydweithwyr” i Dduw. (1 Corinthiaid 3:9, BCND; 2 Corinthiaid 6:4) Rydyn ni’n cytuno â’r salmydd a ddywedodd: “Hanfod dy air yw gwirionedd.” (Salm 119:159, 160, BCND) Gair Jehofa ydy’r gwirionedd. Dyna pam rydyn ni eisiau sicrhau ein bod ni’n “esbonio’r gwir yn iawn” yn y weinidogaeth. (Darllen 2 Timotheus 2:15.) Felly, rydyn ni’n ymdrechu o hyd i wella ein sgiliau dysgu wrth ddefnyddio’r Beibl, y twlsyn mwyaf pwysig ar gyfer dysgu pobl am Jehofa, Iesu, a’r Deyrnas. Er mwyn ein helpu i lwyddo yn ein gweinidogaeth, mae cyfundrefn Jehofa wedi rhoi tŵls defnyddiol eraill inni, ac mae angen inni wybod sut i’w defnyddio. Mae’r tŵls hyn yn ein Bocs Tŵls Dysgu.

3. Ar beth ddylen ni ei ganolbwyntio yn ein gweinidogaeth, a sut mae Actau 13:48 yn ein helpu i wneud hynny?

3 Efallai dy fod ti’n gofyn pam rydyn ni’n dweud Bocs Tŵls Dysgu yn hytrach na Bocs Tŵls Pregethu. Y rheswm ydy bod “pregethu” yn golygu cyhoeddi neges, ond mae “dysgu” yn golygu esbonio’r neges honno fel bod y person yn deall yr hyn mae’n ei glywed ac yna’n cael ei ysgogi i weithredu ar yr hyn mae’n ei ddysgu. Yn ystod yr amser byr sydd ar ôl yn y system hon, mae’n rhaid inni ganolbwyntio ar gychwyn astudiaethau Beiblaidd a dysgu’r gwirionedd i bobl fel eu bod nhw’n gallu dod yn ddisgyblion i Grist. Mae hyn yn golygu y dylen ni chwilio’n selog am bob un sydd “â’r agwedd gywir tuag at fywyd tragwyddol” a’u helpu i ddechrau gwasanaethu Jehofa.—Darllen Actau 13:44-47, 48 o’r troednodyn. *

4. Sut gallwn ni ddod o hyd i’r rhai sydd “â’r agwedd gywir tuag at fywyd tragwyddol”?

4 Sut gallwn ni ddod o hyd i’r rhai sydd “â’r agwedd gywir tuag at fywyd tragwyddol”? Yn adeg y Cristnogion cyntaf, yr unig ffordd oedd pregethu. Dywedodd Iesu wrth ei ddisgyblion: “Ble bynnag ewch chi, i dref neu bentref, edrychwch am rywun sy’n barod i’ch croesawu.” (Mathew 10:11) Mae angen inni wneud yr un peth heddiw. Wrth gwrs, os ydy pobl yn falch, neu dydyn nhw ddim yn ddiffuant nac yn dangos diddordeb yn Nuw, dydyn ni ddim yn disgwyl iddyn nhw wrando ar y newyddion da. Rydyn ni’n edrych am bobl sy’n ddiffuant, sy’n ostyngedig, ac sydd wir eisiau gwybod y gwirionedd. Gallwn gymharu’r ffordd rydyn ni’n chwilio am bobl â’r hyn roedd yn rhaid i Iesu ei wneud pan oedd yn saer coed. Cyn iddo greu darn o ddodrefn, drws, iau, neu rywbeth arall, roedd rhaid iddo yn gyntaf ddarganfod y pren iawn. Yna, byddai’n gallu nôl ei focs tŵls, defnyddio ei sgiliau, a chreu’r peth. Yn yr un modd heddiw, mae’n rhaid i ninnau ddod o hyd i bobl ddiffuant yn gyntaf, yna gallwn ni ddefnyddio ein tŵls a’n sgiliau i’w helpu i ddod yn ddisgyblion.—Mathew 28:19, 20.

5. Beth sy’n rhaid inni ei wybod am y tŵls yn ein Bocs Tŵls Dysgu? Eglura. (Gweler y lluniau agoriadol.)

5 Mewn bocs tŵls, mae gan bob twlsyn ei waith penodol. Er enghraifft, meddylia am y tŵls roedd Iesu’n eu defnyddio fel saer coed. * (Gweler y troednodyn.) Roedd angen tŵls arno ar gyfer mesur, marcio, torri, drilio, a siapio’r pren, yn ogystal â’r tŵls i lefelu’r darnau a’u rhoi at ei gilydd. Mewn ffordd debyg, mae gan bob twlsyn yn ein Bocs Tŵls Dysgu ei waith penodol. Felly, gad inni weld sut i ddefnyddio’r tŵls pwysig hyn.

TŴLS SY’N DWEUD PWY YDYN NI

6, 7. (a) Sut rwyt ti wedi defnyddio’r cardiau cyswllt? (b) Pam rydyn ni’n defnyddio’r gwahoddiadau i’n cyfarfodydd?

6 Cardiau cyswllt. Tŵls bychain ydy’r rhain ond maen nhw’n effeithiol iawn ar gyfer dangos i bobl pwy ydyn ni ac i’w cyfeirio at ein gwefan jw.org. Ar ein gwefan, gallan nhw ddysgu mwy amdanon ni a hyd yn oed llenwi cais am astudiaeth Feiblaidd. Mae dros 400,000 o bobl wedi gofyn am astudiaeth Feiblaidd hyd yn hyn ar jw.org, ac mae cannoedd mwy yn gwneud hyn bob dydd! Gelli di gario ychydig o’r cardiau cyswllt arnat ti a’u defnyddio wrth siarad â phobl yn ystod y dydd.

7 Gwahoddiadau. Mae’r gwahoddiad printiedig i’n cyfarfodydd yn dweud: “Eich gwahoddiad i astudio’r Beibl gyda Thystion Jehofa.” Wedyn mae’n dweud y gelli di wneud hyn “yn ein cyfarfodydd” neu “gyda chymorth personol.” Felly, mae’r gwahoddiad yn dweud pwy ydyn ni ac yn gwahodd y rhai sy’n teimlo’n annigonol yn ysbrydol i astudio’r Beibl gyda ni. (Mathew 5:3) Wrth gwrs, mae croeso i bobl fynychu ein cyfarfodydd p’un a ydyn nhw’n derbyn astudiaeth Feiblaidd neu beidio. Pan fyddan nhw’n dod i’n cyfarfodydd, byddan nhw’n gweld cymaint maen nhw’n gallu ei ddysgu am y Beibl.

8. Pam mae’n bwysig i bobl ddod i o leiaf un o’n cyfarfodydd? Rho esiampl.

8 Pwysig iawn ydy dal ati i wahodd pobl i fynychu ein cyfarfodydd o leiaf unwaith. Pam? Oherwydd pan fyddan nhw’n dod, byddan nhw’n gweld bod Tystion Jehofa yn dysgu’r gwirionedd o’r Beibl ac yn helpu pobl i ddod i adnabod Duw, ond dydy gau grefyddau ddim yn gwneud hynny. (Eseia 65:13) Er enghraifft, gwnaeth cwpl priod yn yr Unol Daleithiau o’r enw Ray a Linda sylwi ar y gwahaniaeth hwnnw rai blynyddoedd yn ôl. Roedden nhw’n credu yn Nuw ac eisiau dod i’w adnabod yn well. Felly, penderfynon nhw ymweld â phob eglwys yn eu dinas gan edrych allan am ddau beth cyn penderfynu ymuno ag un ohonyn nhw. Yn gyntaf, byddai’n rhaid iddyn nhw ddysgu rhywbeth yn yr eglwys honno ac, yn ail, byddai’n rhaid i aelodau’r eglwys wisgo fel pobl sy’n honni eu bod nhw’n gwasanaethu Duw. Cymerodd sawl blwyddyn oherwydd bod cymaint o eglwysi yn y ddinas. Ond, roedden nhw’n siomedig iawn. Doedden nhw heb ddysgu dim byd, ac roedd aelodau’r eglwysi yn gwisgo mewn ffordd amharchus iawn. Ar ôl iddyn nhw ymweld â’r eglwys olaf ar eu rhestr, aeth Linda i’w gwaith ac aeth Ray adref. Ar ei ffordd adref, gyrrodd heibio Neuadd y Deyrnas. Meddyliodd, ‘Gad imi fynd i mewn a gweld beth sy’n digwydd yno.’ Wrth gwrs, hwn oedd y profiad gorau oll! Roedd pawb yn y neuadd yn garedig, yn gyfeillgar, ac yn gwisgo’n smart iawn. Eisteddodd Ray ar y rhes flaen ac roedd wrth ei fodd â’r hyn a ddysgodd! Mae hyn yn ein hatgoffa o sut gwnaeth yr apostol Paul ddisgrifio rhywun sy’n dod i un o’r cyfarfodydd am y tro cyntaf ac yn dweud: “Mae’n wir!—mae Duw yn eich plith chi!” (1 Corinthiaid 14:23-25) Ar ôl hynny, aeth Ray i’r cyfarfodydd bob dydd Sul. Wedyn, dechreuodd fynychu pob cyfarfod canol wythnos. Dechreuodd Linda hefyd fynychu’r cyfarfodydd, ac er eu bod nhw yn eu 70au, gwnaethon nhw astudio’r Beibl a chawson nhw eu bedyddio.

TŴLS AR GYFER CYCHWYN SGYRSIAU

9, 10. (a) Pam mae’r taflenni yn hawdd eu defnyddio? (b) Esbonia sut i ddefnyddio’r daflen Beth Yw Teyrnas Dduw?

9 Taflenni. Wyth taflen sydd gennyn ni yn ein bocs tŵls. Maen nhw’n hawdd eu defnyddio, ac maen nhw’n effeithiol iawn ar gyfer cychwyn sgyrsiau. Ers i’r un cyntaf gael ei ryddhau yn 2013, mae tua phum biliwn ohonyn nhw wedi cael eu hargraffu! Mae’r taflenni hyn i gyd yn dilyn yr un fformat. Felly, unwaith iti ddysgu sut i ddefnyddio un ohonyn nhw, rwyt ti’n gallu eu defnyddio nhw i gyd! Sut gelli di ddefnyddio taflen i gychwyn sgwrs â rhywun?

10 Efallai dy fod ti eisiau defnyddio’r daflen Beth Yw Teyrnas Dduw? Dangosa’r cwestiwn ar y tu blaen i’r person a gofynna: “Ydych chi erioed wedi meddwl am beth ydy Teyrnas Dduw? Ydy hi’n . . . ?” Yna, gofynna am ba un o’r tri ateb y byddai’n ei ddewis. Yn hytrach na dweud a ydy ei ateb yn gywir neu’n anghywir, agora’r daflen i’r rhan “Mae’r Beibl yn Dweud” ar y tu mewn a darllena’r ysgrythurau sydd yno, sef Daniel 2:44 ac Eseia 9:6, 7. Ar ddiwedd y sgwrs, gofynna’r cwestiwn ar gefn y daflen o dan yr is-bennawd “Cwestiwn i Feddwl Amdano”: “Sut bydd bywyd yn wahanol pan ddaw Teyrnas Dduw?” Gelli di ateb y cwestiwn hwnnw yn ystod eich sgwrs nesaf. Pan fyddwch yn cwrdd â’ch gilydd eto, gelli di ddefnyddio pennod 7 y llyfryn Newyddion Da Oddi Wrth Dduw!, sy’n un o’r tŵls ar gyfer cychwyn astudiaethau Beiblaidd.

TŴLS SY’N ENNYN DIDDORDEB YN Y BEIBL

11. Beth ydy pwrpas ein cylchgronau, a beth ddylen ni ei wybod amdanyn nhw?

11 Cylchgronau. Mae’r Tŵr Gwylio a Deffrwch! yn cael eu cyfieithu a’u dosbarthu’n fwy helaeth nag unrhyw gylchgronau eraill yn y byd! Oherwydd bod pobl o wahanol wledydd yn darllen y cylchgronau hyn, mae’r pynciau ar y clawr wedi eu dylunio i fod o ddiddordeb i bobl ym mhobman. Dylen ni ddefnyddio’r cylchgronau hyn i helpu pobl i ganolbwyntio ar yr hyn sy’n fwyaf pwysig mewn bywyd heddiw. Ond, yn gyntaf, mae angen inni wybod ar gyfer pa fath o berson mae pob un cylchgrawn wedi ei ysgrifennu.

12. (a) Ar gyfer pwy mae Deffrwch! wedi ei ddylunio, a beth yw ei bwrpas? (b) Pa brofiadau da rwyt ti wedi eu cael yn ddiweddar wrth ddefnyddio’r twlsyn hwn?

12 Mae Deffrwch! wedi ei ddylunio ar gyfer pobl sy’n gwybod fawr ddim am y Beibl. Efallai nad ydyn nhw’n gwybod unrhyw beth am ddysgeidiaethau Cristnogol, efallai dydyn nhw ddim yn wir yn trystio crefyddau, neu efallai dydyn nhw ddim yn sylweddoli bod y Beibl yn gallu eu helpu nhw yn eu bywydau personol. Un o brif amcanion Deffrwch! ydy profi i’r darllenwr fod Duw yn bodoli. (Rhufeiniaid 1:20; Hebreaid 11:6) Y mae hefyd yn helpu’r darllenwr i gredu mai “gair Duw” ydy’r Beibl mewn gwirionedd. (1 Thesaloniaid 2:13, BCND) Dyma deitlau’r tri rhifyn yn 2018: “Y Ffordd i Hapusrwydd,” “12 Cyfrinach Teuluoedd Llwyddiannus,” a “Help ar Gyfer y Rhai Sy’n Galaru.”

13. (a) Ar gyfer pwy mae’r rhifyn cyhoeddus o’r Tŵr Gwylio wedi ei ddylunio? (b) Pa brofiadau da rwyt ti wedi eu cael yn ddiweddar wrth ddefnyddio’r twlsyn hwn?

13 Prif amcan rhifyn cyhoeddus y Tŵr Gwylio ydy esbonio dysgeidiaethau’r Beibl i bobl sydd eisoes â rhywfaint o barch tuag at Dduw a’r Beibl. Efallai eu bod nhw’n gwybod rhai pethau am y Beibl, ond dydyn nhw ddim yn deall yn union beth mae’n ei ddysgu. (Rhufeiniaid 10:2; 1 Timotheus 2:3, 4) Mae’r ddau rifyn ar gyfer 2018 yn ateb y cwestiynau: “Beth Sydd o’ch Blaen Chi?” ac “Ydy Duw yn Gofalu Amdanoch Chi?

TŴLS SY’N YSGOGI

14. (a) Ar gyfer beth mae’r pedwar fideo yn ein Bocs Tŵls Dysgu wedi ei ddylunio? (b) Pa brofiadau da rwyt ti wedi eu cael wrth ddangos y fideos hyn?

14 Fideos. Yn nyddiau Iesu, tŵls llaw oedd yr unig rhai ar gael i’r saer coed. Ond nawr, mae gan seiri coed dŵls sy’n defnyddio trydan, fel llifiau, driliau, a pheiriannau sandio. Pan fyddwn ni’n pregethu heddiw, yn ogystal â llenyddiaeth brintiedig, mae gennyn ni fideos hyfryd i’w dangos i bobl. Mae pedwar ohonyn nhw yn ein bocs tŵls: Pam Astudio’r Beibl?, Beth Sy’n Digwydd ar Astudiaeth Feiblaidd?, Beth Sy’n Digwydd yn Neuadd y Deyrnas?, a Tystion Jehofa—Pwy Ydyn Ni? Gallai’r fideos byrion gael eu chwarae mewn llai na dau funud ac maen nhw’n dda ar gyfer yr alwad gyntaf. Gallai’r fideos hirach gael eu defnyddio ar ail alwadau neu gyda phobl sydd â mwy o amser. Tŵls bendigedig ydy’r rhain oherwydd maen nhw’n gallu ysgogi pobl i astudio’r Beibl ac i ddod i’n cyfarfodydd.

15. Pa effaith gall gwylio un o’n fideos yn ei iaith ei hun ei gael ar rywun? Rho esiamplau.

15 Fel enghraifft, gwnaeth un chwaer gyfarfod dynes a oedd wedi symud o Meicronesia a’i hiaith gyntaf oedd Iapeg. Dangosodd y chwaer y fideo Pam Astudio’r Beibl? iddi yn yr iaith Iapeg. Pan gychwynnodd y fideo, dyma’r ddynes yn dweud: “Fy iaith i yw hon. Fedra’ i ddim credu’r peth! Dw i’n gwybod o’i acen ei fod yn dod o’r un ynys â fi. Mae’n siarad fy iaith i!” Ar ôl hynny, dywedodd y ddynes ei bod hi am ddarllen a gwylio popeth ar jw.org a oedd yn ei hiaith hi. (Actau 2:8, 11) Esiampl arall ydy chwaer yn yr Unol Daleithiau sydd â nai yn byw ar gyfandir arall. Anfonodd hi linc ato i’r un fideo yn ei iaith ef. Gwyliodd y fideo ac anfonodd e-bost ati hi: “Ddaru’r rhan am rym drwg yn rheoli’r byd ddal fy sylw yn enwedig. Dw i wedi llenwi cais am astudiaeth Feiblaidd.” Mae hyn yn hynod o gyffrous oherwydd ei fod yn byw mewn gwlad lle mae ein gwaith wedi ei gyfyngu!

TŴLS SY’N DYSGU’R GWIRIONEDD

16. Esbonia bwrpas arbennig y llyfrynnau hyn: (a) Gwrando ar Dduw a Byw am Byth. (b) Newyddion Da Oddi Wrth Dduw! (c) Pwy Sy’n Gwneud Ewyllys Jehofa Heddiw?

16 Llyfrynnau. Sut gallwn ni ddysgu’r gwirionedd i rywun sydd ddim yn darllen yn dda neu sydd ddim â chyhoeddiadau am y Beibl yn ei iaith? Gallwn ddefnyddio’r llyfryn Gwrando ar Dduw a Byw am Byth. * (Gweler y troednodyn.) Twlsyn arbennig ar gyfer cychwyn astudiaethau Beiblaidd ydy’r llyfryn Newyddion Da Oddi Wrth Dduw! Gelli di ddangos i rywun yr 14 pwnc ar y clawr cefn a gofyn iddo pa un sydd o’r diddordeb mwyaf. Yna, gelli di gychwyn yr astudiaeth yn y wers honno. Wyt ti wedi trio hyn ar dy ail alwadau? Y trydydd llyfryn yn ein bocs tŵls ydy Pwy Sy’n Gwneud Ewyllys Jehofa Heddiw? Mae’r llyfryn hwn wedi ei ddylunio i ddysgu myfyrwyr y Beibl am ein cyfundrefn. Er mwyn dysgu sut i ddefnyddio’r llyfryn hwn ar bob astudiaeth Feiblaidd, gweler rhifyn Mawrth 2017 Ein Bywyd a’n Gweinidogaeth Gristnogol—Gweithlyfr y Cyfarfodydd.

17. (a) Beth ydy pwrpas penodol pob llyfr astudio? (b) Beth sydd angen i bob un sy’n cael ei fedyddio ei wneud, a pham?

17 Llyfrau. Ar ôl iti gychwyn astudiaeth â rhywun gan ddefnyddio llyfryn, gelli di symud yr astudiaeth unrhyw adeg i’r llyfr Beth Allwn Ni ei Ddysgu o’r Beibl? Gall y llyfr hwn helpu pobl i ddysgu mwy am ddysgeidiaethau sylfaenol y Beibl. Os ydy’r myfyriwr yn gwneud cynnydd ac yn gorffen y llyfr hwnnw, gelli di barhau i astudio gan ddefnyddio’r llyfr Cadwch Eich Hunain yng Nghariad Duw.” Bydd y twlsyn hwn yn dysgu’r myfyriwr sut i roi ar waith egwyddorion y Beibl yn ei fywyd bob dydd. Cofia, hyd yn oed ar ôl iddo gael ei fedyddio, bydd angen i rywun newydd yn y gwir barhau i astudio nes iddo orffen y ddau lyfr. Bydd hyn yn ei helpu i feithrin ffydd gref yn Jehofa ac i aros yn ffyddlon iddo.—Darllen Colosiaid 2:6, 7.

18. (a) Beth mae 1 Timotheus 4:16 yn ein hannog ni i’w wneud fel pobl sy’n dysgu’r gwirionedd i eraill, gyda pha ganlyniad? (b) Beth ydy ein nod wrth ddefnyddio’r Bocs Tŵls Dysgu?

18 Fel Tystion Jehofa, arnon ni mae’r cyfrifoldeb i ddysgu’r gwirionedd i bobl, sef y newyddion da, sy’n gallu eu harwain at fywyd tragwyddol. (Colosiaid 1:5; Darllen 1 Timotheus 4:16.) I’n helpu yn hyn o beth, mae gennyn ni’r Bocs Tŵls Dysgu sydd â’r tŵls rydyn ni’n eu hangen. (Gweler y blwch “ Bocs Tŵls Dysgu.”) Gad inni ddefnyddio’r tŵls hyn orau ag y medrwn ni. Gall pob un ohonon ni ddewis pa un o’r tŵls i’w ddefnyddio a phryd. Ond cofia, nid dosbarthu llenyddiaeth yw ein hunig nod, a dydyn ni ddim eisiau rhoi cyhoeddiadau i bobl sydd â dim diddordeb yn ein neges. Ein nod ydy gwneud disgyblion o bobl sy’n ddiffuant, sy’n ostyngedig, ac sydd wir eisiau adnabod Duw, pobl sydd “â’r agwedd gywir tuag at fywyd tragwyddol.”—Actau 13:48, NW; Mathew 28:19, 20.

^ Par. 3 Actau 13:48, NW: “Pan glywodd y cenhedloedd hyn, dechreuon nhw lawenhau a gogoneddu gair Jehofa, a daeth pawb a oedd â’r agwedd gywir tuag at fywyd tragwyddol yn gredinwyr.”

^ Par. 5 Gweler yr erthygl “The Carpenter” a’r blwch “The Carpenter’s Toolbox” yn rhifyn 1 Awst 2010 o’r Tŵr Gwylio Saesneg.

^ Par. 16 Os nad ydy’r person yn gallu darllen, gelli di ofyn iddo ddilyn yn y llyfryn Gwrando ar Dduw, sy’n cynnwys lluniau yn bennaf.