Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Ymddiried yn Ein Harweinydd Gweithgar—Crist

Ymddiried yn Ein Harweinydd Gweithgar—Crist

“Un meistr sydd gynnoch chi, a’r Meseia ydy hwnnw.”—MATHEW 23:10.

CANEUON: 16, 14

1, 2. Pa waith enfawr oedd gan Josua ar ôl i Moses farw?

DYWEDODD Jehofa wrth Josua: “Mae Moses fy ngwas wedi marw. Dos, a chroesi afon Iorddonen. Dw i eisiau i ti arwain y bobl yma i’r tir dw i’n ei roi i chi.” (Josua 1:1, 2) Am newid i Josua, ar ôl gwasanaethu Moses am 40 mlynedd bron!

2 Arweiniodd Moses yr Israeliaid am amser maith, ond nawr byddai Josua yn eu harwain. Mae’n debyg iddo feddwl a fyddai’r bobl yn ei dderbyn fel arweinydd. (Deuteronomium 34:8, 10-12) Gan gyfeirio at Josua 1:1, 2, dywed un cyfeirlyfr Beiblaidd mai un o’r cyfnodau mwyaf anodd yn hanes unrhyw genedl ydy’r adeg pan fydd un arweinydd yn cael ei ddisodli gan un arall.

3, 4. Sut bendithiodd Duw Josua am ymddiried ynddo, a pha gwestiwn y gallwn ni ei ofyn?

3 Roedd gan Josua reswm da dros boeni. Ond, ymddiriedodd Josua yn Jehofa ac roedd yn gyflym i ddilyn ei gyfarwyddiadau. (Josua 1:9-11) Bendithiodd Duw Josua am ymddiried ynddo a defnyddiodd angel i arwain Josua a’r Israeliaid. Mae’n debygol iawn mai’r angel hwnnw oedd y Gair, mab cyntaf-anedig Duw.—Exodus 23:20-23, BCND; Ioan 1:1.

4 Helpodd Jehofa genedl Israel i addasu’n dda i’r newidiadau a ddaeth o gael Josua yn arweinydd arnyn nhw. Yn ein dyddiau ni, mae ’na lawer o newidiadau. Gallwn feddwl: ‘Wrth i gyfundrefn Duw fwrw yn ei blaen, a oes rheswm da dros ymddiried yn ein Harweinydd penodedig, Iesu? (Darllen Mathew 23:10.) I ateb y cwestiwn hwn, edrychwn ar sut gwnaeth Jehofa arwain ei bobl yn ystod cyfnodau o newid.

ARWAIN POBL DDUW I MEWN I WLAD YR ADDEWID

5. Pa brofiad rhyfedd a gafodd Josua wrth ymyl Jericho? (Gweler y llun agoriadol.)

5 Yn fuan ar ôl i’r Israeliaid groesi’r Iorddonen, cafodd Josua brofiad rhyfedd. Wrth ymyl dinas Jericho, dyma’n cwrdd â dyn â chleddyf yn ei law. Gofynnodd Josua wrtho: “Wyt ti ar ein hochr ni, neu gyda’n gelynion ni?” Roedd Josua wedi synnu pan ddywedodd y dyn mai ef oedd “pennaeth byddin yr ARGLWYDD,” angel a oedd yn barod i amddiffyn pobl Dduw. (Darllen Josua 5:13-15.) Er bod yr hanes mewn llefydd eraill yn dweud mai Jehofa sy’n siarad yn uniongyrchol â Josua, mae hi’n ymddangos bod Duw yn defnyddio angel i siarad drosto, fel yr oedd yn aml yn ei wneud yn y gorffennol.—Exodus 3:2-4; Josua 4:1, 15; 5:2, 9; Actau 7:38; Galatiaid 3:19.

6-8. (a) Pam y gallai cyfarwyddiadau’r angel fod wedi ymddangos yn rhyfedd? (b) Sut rydyn ni’n gwybod bod y cyfarwyddiadau yn ddoeth ac yn amserol? (Gweler hefyd y troednodyn.)

6 Dywedodd yr angel yn union beth roedd yn rhaid iddo’i wneud i orchfygu Jericho. Ar yr olwg gyntaf, efallai roedd rhai o’r cyfarwyddiadau yn ymddangos yn rhyfedd. Er enghraifft, dywedodd yr angel wrth Josua am sicrhau bod y milwyr i gyd yn cael eu henwaedu. Golyga hyn nad oedden nhw’n gallu ymladd am rai dyddiau. Ai dyna oedd yr amser gorau i’r dynion hynny gael eu henwaedu?—Genesis 34:24, 25; Josua 5:2, 8.

7 Efallai roedd y milwyr yn gofyn: ‘Sut gallwn ni amddiffyn ein teuluoedd os bydd y gelyn yn ymosod?’ Yna, digwyddodd rhywbeth annisgwyl! Yn hytrach nag ymosod ar yr Israeliaid, daeth dynion Jericho yn ofnus ohonyn nhw. Darllenwn: “Roedd giatiau Jericho wedi’u cau’n dynn am fod ganddyn nhw ofn pobl Israel. Doedd neb yn cael mynd i mewn nac allan o’r ddinas.” (Josua 6:1) Byddai’r newyddion hyn wedi gwneud i’r Israeliaid ymddiried yng nghyfarwyddyd Jehofa yn fwy byth!

8 Dywedodd yr angel wrth Josua na ddylai’r Israeliaid ymosod ar Jericho. Yn hytrach, roedd yn rhaid gorymdeithio o amgylch y ddinas unwaith y diwrnod am chwe diwrnod ac yna saith gwaith ar y seithfed dydd. Efallai roedd y milwyr yn meddwl: ‘Am wastraff amser ac egni!’ Ond roedd Arweinydd anweledig Israel yn gwybod yn union beth roedd yn ei wneud! Roedd dilyn ei gyfarwyddiadau ond yn cryfhau ffydd yr Israeliaid a doedden nhw ddim yn gorfod ymladd yn erbyn milwyr Jericho.—Josua 6:2-5; Hebreaid 11:30. * (Gweler y troednodyn.)

9. Pam dylen ni ddilyn unrhyw gyfarwyddiadau gan gyfundrefn Jehofa? Rho esiampl.

9 Beth allwn ni ei ddysgu o’r hanes hwn? Weithiau, mae cyfundrefn Jehofa yn gwneud pethau mewn ffordd newydd, ac efallai dydyn ni ddim bob amser yn deall pam. Er enghraifft, mae’n bosib nad oedden ni’n wastad yn meddwl ei bod hi’n syniad da i ddefnyddio dyfeisiau electronig ar gyfer astudiaeth bersonol, y weinidogaeth, a’r cyfarfodydd. Ond, erbyn hyn, rydyn ni’n gweld y buddion sy’n dod o’u defnyddio os ydy hynny’n bosib. Pan fyddwn ni’n gweld y canlyniadau da sy’n dod o’r fath newidiadau, mae ein ffydd yn cryfhau ac rydyn ni, fel brodyr a chwiorydd, yn dod yn fwy unedig.

SUT GWNAETH CRIST ARWAIN Y CRISTNOGION CYNNAR?

10. Pwy mewn gwirionedd oedd wedi trefnu i’r corff llywodraethol ddod at ei gilydd yn Jerwsalem i drafod enwaedu?

10 Tua 13 blynedd ar ôl i Cornelius, dyn dienwaededig o’r cenhedloedd, ddod yn Gristion, roedd rhai Cristnogion Iddewig yn dal yn dweud bod enwaedu yn angenrheidiol. (Actau 15:1, 2) Yn ninas Antiochia, roedd brodyr yn ffraeo am hyn. Felly, trefnodd yr henuriaid i Paul fynd i’r corff llywodraethol yn Jerwsalem i holi am y mater. Ond pwy mewn gwirionedd oedd yn trefnu iddo fynd? Esboniodd Paul: “Euthum i fyny mewn ufudd-dod i ddatguddiad.” Yn amlwg, Crist oedd yn arwain pethau fel y byddai’r cwestiwn yn cael ei ateb gan y corff llywodraethol.—Galatiaid 2:1-3, BCND.

Crist oedd Arweinydd y gynulleidfa Gristnogol gynnar (Gweler paragraffau 10, 11)

11. (a) Beth oedd rhai Cristnogion Iddewig yn dal i’w gredu ynglŷn ag enwaedu? (b) Sut dangosodd Paul ostyngeiddrwydd drwy gefnogi’r henuriaid yn Jerwsalem? (Gweler hefyd y troednodyn.)

11 Crist wnaeth gyfarwyddo’r corff llywodraethol i esbonio’n glir nad oedd rhaid i Gristnogion o’r cenhedloedd gael eu henwaedu. (Actau 15:19, 20) Ond eto, flynyddoedd wedyn, roedd llawer o Gristnogion Iddewig yn dal yn trefnu i’w meibion gael eu henwaedu. Yna, clywodd yr henuriaid yn Jerwsalem fod ’na si ar led yn honni nad oedd Paul yn parchu Cyfraith Moses. Felly, gofynnodd yr henuriad i Paul wneud rhywbeth a fyddai’n dangos ei barch tuag at y Gyfraith. * (Gweler y troednodyn.) (Actau 21:20-26) Dywedon nhw wrtho am fynd â phedwar dyn i’r deml fel y gallai pobl weld bod Paul yn parchu’r Gyfraith. Gallai Paul fod wedi dweud: ‘Does dim synnwyr yn hynny o gwbl! Pam rydych chi’n gofyn imi wneud hyn? Y Cristnogion Iddewig, y nhw sydd ddim yn deall y pwnc enwaedu, dyna’r drwg.’ Ond roedd Paul yn deall bod yr henuriaid eisiau i bob Cristion fod yn unedig, felly dangosodd ostyngeiddrwydd a dilyn eu cyfarwyddiadau. Ond eto, gallwn ni feddwl tybed pam gwnaeth Iesu ganiatáu i enwaedu barhau i fod yn broblem am amser mor hir, er bod Cyfraith Moses wedi dod i ben pan fu farw Iesu.—Colosiaid 2:13, 14.

12. Pam efallai y gwnaeth Crist adael i amser fynd heibio cyn setlo’r mater o enwaedu?

12 Gall dod i ddeall rhywbeth newydd gymryd amser. Roedd angen amser ar rai o’r Cristnogion Iddewig i dderbyn y ffaith nad oedden nhw mwyach yn byw o dan y Gyfraith. (Ioan 16:12) Roedden nhw wedi arfer meddwl bod enwaedu yn arwydd o berthynas arbennig â Duw. (Genesis 17:9-12) Roedd eraill yn ofni y bydden nhw’n cael eu herlid yn eu cymunedau Iddewig am fod yn wahanol. (Galatiaid 6:12) Ond, ymhen amser, rhoddodd Crist fwy o gyfarwyddiadau iddyn nhw mewn llythyrau oddi wrth Paul.—Rhufeiniaid 2:28, 29; Galatiaid 3:23-25.

CRIST YN DAL YN ARWAIN EI GYNULLEIDFA

13. Beth all ein helpu i gefnogi arweiniad Crist heddiw?

13 Crist ydy Arweinydd y gynulleidfa Gristnogol hyd heddiw. Felly, os ydy’r gyfundrefn yn gwneud newid nad wyt ti’n ei ddeall, meddylia am y ffordd y gwnaeth Crist arwain pobl Dduw yn y gorffennol. P’un ai yn nyddiau Josua neu yn nyddiau’r apostolion, mae Crist bob amser wedi rhoi cyfarwyddyd doeth er mwyn amddiffyn pobl Dduw, cryfhau eu ffydd, a’u helpu i aros yn unedig.—Hebreaid 13:8.

Mae’r cyfarwyddyd y mae’r gwas ffyddlon a chall yn ei roi inni heddiw yn profi bod Iesu yn gofalu amdanon ni

14-16. Sut mae’r cyfarwyddyd sy’n dod o’r gwas ffyddlon a chall yn profi bod Crist eisiau ein helpu ni i gadw ein ffydd yn gryf?

14 Heddiw, mae’r gwas ffyddlon a chall yn rhoi’r cyfarwyddyd sydd ei angen arnon ni ar yr union adeg rydyn ni’n ei angen. (Mathew 24:45) Mae’r cyfarwyddyd hwn yn profi bod Iesu yn gofalu amdanon ni. Mae Marc, sydd â phedwar o blant, yn dweud: “Mae Satan yn ceisio gwanhau cynulleidfaoedd drwy ymosod ar deuluoedd. Heddiw, gyda’r anogaeth i gynnal addoliad teuluol bob wythnos, mae’r neges yn glir i bennau teuluoedd—gwarchod dy deulu!”

15 Pan fyddwn ni’n gweld sut mae Crist yn ein harwain ni, byddwn ni’n deall ei fod eisiau ein helpu ni i gadw ein ffydd yn gryf. Er enghraifft, mae henuriad o’r enw Patrick yn dweud: “Ar y cychwyn, roedd rhai yn ei chael hi’n anodd cwrdd mewn grwpiau bychain ar gyfer y weinidogaeth ar y penwythnos.” Ond mae’n dweud bod y newid hwn yn dangos sut mae Iesu yn gofalu am bawb yn y gynulleidfa. Er enghraifft, mae rhai brodyr sy’n swil ac sydd ddim yn mynd allan yn y weinidogaeth ryw lawer yn teimlo fel eu bod nhw’n fwy gwerthfawr. Mae hyn wedi cryfhau eu ffydd.

16 Hefyd, mae Crist yn ein helpu i ganolbwyntio ar ein gwaith pregethu, y gwaith mwyaf pwysig sy’n cael ei wneud ar y ddaear heddiw. (Darllen Marc 13:10.) Mae André, henuriad newydd, bob amser wedi ceisio dilyn unrhyw gyfarwyddyd newydd sy’n dod o gyfundrefn Jehofa. Mae’n dweud: “Mae cwtogi nifer y brodyr sy’n gweithio yn y swyddfeydd cangen yn ein hatgoffa ni fod cadw’r gwaith pregethu o flaen ein llygaid yn fater o frys.”

ALLWN NI GEFNOGI ARWEINIAD CRIST?

17, 18. Pam dylen ni ganolbwyntio ar y bendithion sy’n dod o fod yn barod i addasu i newidiadau?

17 Bydd y cyfarwyddyd rydyn ni’n ei dderbyn gan Iesu Grist, ein Brenin, yn ein helpu nawr ac yn y dyfodol. Ceisia ganolbwyntio ar y gwahanol ffyrdd rwyt ti wedi elwa oherwydd dy fod ti wedi addasu i newidiadau diweddar. Yn ystod dy addoliad teuluol, gelli di drafod sut mae’r newidiadau yn y cyfarfodydd neu yn y weinidogaeth wedi helpu dy deulu.

Wyt ti’n helpu dy deulu ac eraill i addasu i newidiadau yng nghyfundrefn Jehofa? (Gweler paragraffau 17, 18)

18 Os cofiwn ni fod dilyn cyfarwyddiadau sy’n dod o gyfundrefn Jehofa yn arwain at lawer o ganlyniadau da, bydd yn haws inni ddilyn y cyfarwyddyd hwnnw a bod yn hapus. Er enghraifft, oherwydd dydyn ni ddim yn argraffu cymaint o lenyddiaeth Feiblaidd fel o’r blaen, rydyn ni’n arbed arian. Ac oherwydd rydyn ni’n defnyddio technolegau newydd, rydyn ni’n gallu cyrraedd mwy o bobl gyda’r newyddion da. A allwn ni wneud mwy o ddefnydd o gyhoeddiadau a chyfryngau electronig? Dyma un ffordd y gallwn ni gefnogi Crist, sydd eisiau inni ddefnyddio’n ddoeth adnoddau’r gyfundrefn.

19. Pam dylen ni gefnogi arweiniad Crist?

19 Pan fyddwn ni’n cefnogi arweiniad Crist, rydyn ni’n helpu ein brodyr a’n chwiorydd i gryfhau eu ffydd a bod yn fwy unedig. Ynghylch y newidiadau sydd wedi digwydd yn ddiweddar ynglŷn â maint y teulu Bethel byd-eang, mae André yn dweud: “Mae’r ysbryd da a ddangoswyd gan gyn-aelodau Bethel sydd wedi ymaddasu i newidiadau o’r fath yn ennyn hyder a pharch ynof fi. Maen nhw’n mynd yr un mor gyflym â cherbyd Jehofa drwy lawenhau ym mhob aseiniad maen nhw’n ei gael.”

FFYDD A HYDER YN EIN HARWEINYDD

20, 21. (a) Pam gallwn ni ymddiried yng Nghrist, ein Harweinydd? (b) Pa gwestiwn y byddwn ni’n ei drafod yn yr erthygl nesaf?

20 Yn fuan, bydd ein Harweinydd, Iesu Grist, yn “ennill y frwydr” ac yn “cyflawni pethau rhyfeddol.” (Datguddiad 6:2; Salm 45:4) Ond hyd yn oed nawr mae’n ein paratoi ni ar gyfer byw yn y byd newydd ac ar gyfer y gwaith y byddwn ni’n ei wneud yno, pan fyddwn ni’n dysgu’r rhai sydd wedi eu hatgyfodi ac yn helpu i droi’r ddaear yn baradwys.

21 Cyn belled ag ein bod ni’n ymddiried yn ein Harweinydd a’n Brenin, dim ots beth sy’n digwydd, bydd yn ein harwain i mewn i’r byd newydd. (Darllen Salm 46:1-3.) Heddiw, gall newidiadau fod yn anodd, yn enwedig pan fyddan nhw’n effeithio arnon ni mewn ffyrdd annisgwyl. Pan fydd hynny’n digwydd, sut gallwn ni gadw ein heddwch meddwl a’n ffydd yn gryf yn Jehofa? Byddwn ni’n trafod y cwestiwn hwnnw yn yr erthygl nesaf.

^ Par. 8 Yn adfeilion dinas Jericho, gwnaeth archaeolegwyr ganfod llawer o ŷd a oedd wedi ei gynaeafu ond heb ei fwyta. Mae hyn yn cefnogi’r hanes yn y Beibl, sy’n dweud bod y gwarchae wedi bod yn fyr ac nad oedd yr Israeliaid yn cael bwyta ŷd Jericho. Roedd adeg y cynhaeaf felly yn amser delfrydol i’r Israeliaid orchfygu’r wlad oherwydd bod ’na ddigonedd o fwyd yn y meysydd.—Josua 5:10-12.

^ Par. 11 Gweler y blwch “Paul Humbly Meets a Test” yn y Tŵr Gwylio Saesneg, 15 Mawrth 2003, tudalen 24.