1919—Can Mlynedd Yn Ôl
ERBYN 1919, ar ôl rhygnu yn ei flaen am bedair blynedd, roedd y Rhyfel Mawr (a alwyd wedyn y Rhyfel Byd Cyntaf) wedi dod i ben. Tua diwedd y flwyddyn cynt, stopiodd y cenhedloedd frwydro, ac ar 18 Ionawr 1919, cychwynnodd Cynhadledd Heddwch Paris. Un o’r pethau a gyflawnodd y gynhadledd honno oedd Cytundeb Versailles, a ddaeth â therfyn ar ryfel y Cynghreiriaid yn erbyn yr Almaen. Cafodd y cytundeb ei arwyddo ar 28 Mehefin 1919.
Gwnaeth y cytundeb hefyd sefydlu cyfundrefn newydd o’r enw Cynghrair y Cenhedloedd. Ei nod oedd “hyrwyddo cydweithrediad rhyngwladol a chyflawni heddwch a diogelwch rhyngwladol.” Roedd llawer o grefyddau gau Gristnogaeth yn cefnogi’r Gynghrair honno. Gwnaeth Cyngor Ffederal Eglwysi Crist yn America ei chanmol a dweud ei bod hi’n “fynegiant gwleidyddol o Deyrnas Dduw ar y ddaear.” Dangosodd y cyngor hwn ei gefnogaeth ar gyfer y Gynghrair drwy anfon cynrychiolwyr i Gynhadledd Heddwch Paris. Dywedodd un o’r cynrychiolwyr hynny fod y gynhadledd honno “yn ddechreuad oes newydd yn hanes y byd.”
Roedd oes newydd yn gwawrio, ond nid oherwydd y dynion a oedd yn rhan o’r gynhadledd heddwch. Ym 1919, dechreuodd oes newydd yn y gwaith pregethu pan roddodd Jehofa egni i’w bobl i bregethu yn fwy nag erioed o’r blaen. Ond, yn gyntaf, roedd rhaid i sefyllfa Myfyrwyr y Beibl newid mewn ffordd ddramatig.
PENDERFYNIAD ANODD
Roedd yr etholiad blynyddol i ddewis cyfarwyddwyr y Watch Tower Bible and Tract Society wedi ei drefnu ar gyfer dydd Sadwrn, 4 Ionawr 1919. Ar y pryd, roedd Joseph F. Rutherford, a oedd yn arwain pobl Jehofa, wedi ei garcharu am resymau annheg yn Atlanta, Georgia, UDA, ynghyd â saith brawd arall. Y cwestiwn oedd: A ddylai’r brodyr yn y carchar gael eu hailethol? Neu a ddylai ethol eraill yn eu lle?
Ac yntau yn ei gell yn y carchar, roedd y Brawd Rutherford yn pryderu am ddyfodol y gyfundrefn. Gwyddai fod rhai brodyr yn teimlo y byddai’n well dewis rhywun arall i fod yn llywydd. Oherwydd hynny, ysgrifennodd lythyr at y rhai oedd wedi ymgynnull, ac awgrymu y dylen nhw ddewis Evander J. Coward i fod yn llywydd. Gwnaeth Rutherford ddisgrifio Coward fel rhywun “tawel ei ysbryd,” “call,” ac “wedi ei gysegru i’r Arglwydd.” Fodd bynnag, roedd llawer o’r brodyr yn ffafrio ateb gwahanol, sef gohirio’r etholiad am chwe mis. Cytunodd y tîm cyfreithiol a oedd wedi pledio achos y brodyr yn y carchar.
Roedd hi’n drafodaeth emosiynol, gyda rhai o’r brodyr wedi cynhyrfu’n lân.Yna, digwyddodd rhywbeth a ddisgrifiwyd gan Richard H. Barber yn nes ymlaen fel ‘tawelu’r dyfroedd.’ Dyma un o’r brodyr a oedd yn bresennol yn dweud: “Dydw i ddim yn arbenigwr yn y gyfraith, ond dw i yn gwybod beth yw teyrngarwch. Mae Duw yn disgwyl inni fod yn deyrngar. Y ffordd orau o wneud hyn yw cael etholiad ac ailethol y Brawd Rutherford yn llywydd.”—Salm 18:25.
Yn hwyrach ymlaen, cofiodd A. H. Macmillan, un o’r brodyr yn y carchar, fod y Brawd Rutherford wedi cnocio ar wal ei gell y diwrnod wedyn a dweud, “Gwthia dy law allan.” Dyma’r Brawd Rutherford yn rhoi telegram iddo. Gwelodd Macmillan y neges gryno ac roedd yn gwybod ar unwaith beth roedd yn ei feddwl. Y neges oedd: “RUTHERFORD WISE VAN BARBER ANDERSON BULLY A SPILL CYFARWYDDWR TRI SWYDDOG CYNTAF CARIAD AT BAWB.” Roedd hyn yn golygu bod pob un o’r cyfarwyddwyr wedi cael eu hailethol ac roedd Joseph Rutherford a William Van Amburgh yn dal yn swyddogion. Felly, byddai’r Brawd Rutherford yn parhau yn llywydd.
EU GOLLWNG YN RHYDD!
Tra oedd yr wyth brawd yn y carchar, roedd Myfyrwyr y Beibl yn weithgar. Dosbarthodd y ffyddloniaid ddeiseb yn gofyn i’r brodyr hyn gael eu rhyddhau. Casglodd y brodyr a’r chwiorydd dewr hyn fwy na 700,000 o lofnodion. Ar ddydd Mercher, 26 Mawrth 1919, cyn i’r ddeiseb gael ei chyflwyno, cafodd y Brawd Rutherford a’r holl frodyr cyfrifol eraill eu rhyddhau.
Wrth annerch y rhai a’i croesawodd yn ôl, dywedodd y Brawd Rutherford: “Rydw i’n argyhoeddedig fod y profiad hwn wedi digwydd i’n paratoi ni ar gyfer amseroedd mwy anodd. . . . Nid brwydr i ryddhau eich brodyr o’r carchar oedd hyn. Nid dyna oedd gwir bwrpas yr holl waith. . . . Rydych chi wedi bod yn brwydro er mwyn tystiolaethu i’r Gwirionedd, ac mae’r rhai sydd wedi gwneud hyn wedi derbyn bendith ryfeddol.”
Gall amgylchiadau’r treial a wynebodd ein brodyr roi arwydd o arweiniad Jehofa. Ar 14 Mai 1919, penderfynodd y llys apêl: “Ni chafodd y diffynyddion yn yr achos hwn y . . . treial teg yr oedd ganddyn nhw’r hawl iddo ac, am y rheswm hwnnw, mae’r farnedigaeth wedi cael ei gwrth-droi.” Roedd y brodyr wedi cael eu barnu’n euog o droseddau difrifol, a byddai’r barnedigaethau hyn wedi aros ar eu cofnodion petasen nhw wedi cael eu maddau yn unig neu petai eu dedfrydau wedi cael eu lleihau. Ni chawson nhw unrhyw gyhuddiadau pellach. O ganlyniad, cadwodd y Barnwr Rutherford ei gymwysterau cyfreithiol i amddiffyn pobl Jehofa gerbron Goruchaf Lys yr Unol Daleithiau, rhywbeth a wnaeth lawer o weithiau ar ôl cael ei ryddhau.
YN BENDERFYNOL O BREGETHU
“Doedden ni ddim yn mynd i aros yn segur a gwneud dim byd wrth aros i’r Arglwydd ein
cymryd ni i’r nefoedd,” meddai’r Brawd Macmillan. “Fe sylweddolon ni y byddai’n rhaid inni wneud rhywbeth er mwyn dysgu beth oedd ewyllys yr Arglwydd mewn gwirionedd.”Ond doedd brodyr y pencadlys ddim yn gallu mynd yn ôl i’r gwaith yr oedden nhw wedi bod yn ei wneud ers blynyddoedd. Pam ddim? Oherwydd tra oedden nhw yn y carchar, dinistriwyd y platiau argraffu a oedd yn cael eu defnyddio i argraffu llenyddiaeth. Roedd hyn yn dorcalonnus, a dechreuodd rhai brodyr feddwl a oedd y gwaith pregethu wedi dod i ben.
A oedd gan unrhyw un bellach ddiddordeb yn neges y Deyrnas yr oedd Myfyrwyr y Beibl yn ei phregethu? I ateb y cwestiwn hwnnw, penderfynodd y Brawd Rutherford roi darlith. Byddai’r cyhoedd yn cael ei wahodd. “Petasai neb wedi dod i’r cyfarfod hwnnw,” meddai’r Brawd Macmillan, “fyddai hynny wedi bod yn ddiwedd ar y gwaith pregethu.”
Felly, ar ddydd Sul, 4 Mai 1919, er gwaethaf salwch difrifol, gwnaeth y Brawd Rutherford roi’r ddarlith “The Hope for Distressed Humanity” yn Los Angeles, California. Roedd ’na tua 3,500 yn bresennol, a chafodd cannoedd eu hanfon i ffwrdd oherwydd diffyg lle. Y diwrnod wedyn, roedd ’na 1,500 yn bresennol. Roedd y brodyr wedi cael eu hateb—yn sicr fe roedd gan bobl ddiddordeb!
Mae’r hyn a wnaeth y brodyr nesaf wedi effeithio ar sut mae Tystion Jehofa yn gwneud eu gwaith pregethu hyd heddiw.
YN BAROD AM FWY O GYNNYDD
Cyhoeddodd rhifyn 1 Awst 1919 o’r Tŵr Gwylio y byddai cynhadledd gyffredinol yn cael ei chynnal ar ddechrau mis Medi yn Cedar Point, Ohio. “Roedd pawb yn teimlo bod rhaid iddyn nhw fod yno,” meddai’r brawd ifanc, Clarence B. Beaty, Myfyriwr y Beibl o Missouri. Aeth mwy
na 6,000 o frodyr a chwiorydd i’r gynhadledd honno, llawer mwy nag yr oedden nhw’n ei ddisgwyl. Yn ychwanegu at hapusrwydd yr achlysur hwnnw, cafodd mwy na 200 eu bedyddio yn Llyn Erie gerllaw.Ar 5 Medi 1919, pumed diwrnod y gynhadledd, yn ei anerchiad “Address to Co-laborers,” gwnaeth y Brawd Rutherford gyhoeddi cylchgrawn newydd, o’r enw The Golden Age. * Byddai’n “trafod newyddion pwysig y dydd, gan roi esboniad Ysgrythurol ynglŷn â pham [roedd] y pethau hyn yn digwydd.”
Cafodd Myfyrwyr y Beibl i gyd eu hannog i bregethu’n hyderus â’r cylchgrawn newydd hwn. Dywedodd llythyr a oedd yn disgrifio sut byddai’r gwaith yn cael ei drefnu: “Gad i bob un sy’n gysegredig [wedi ei fedyddio] gofio ei bod hi’n fraint fawr i wasanaethu, ac i fanteisio ar y cyfle nawr i gael rhan yn y gwaith o roi’r dystiolaeth arbennig hon i’r byd.” Roedd yr ymateb yn rhyfeddol! Erbyn mis Rhagfyr, roedd cyhoeddwyr selog y Deyrnas wedi derbyn mwy na 50,000 o danysgrifiadau i’r cylchgrawn newydd.
Erbyn diwedd 1919, roedd pobl Jehofa wedi eu haildrefnu ac yn llawn egni. Yn ogystal â hynny, roedd nifer o broffwydoliaethau pwysig ynglŷn â’r dyddiau diwethaf wedi cael eu cyflawni. Roedd y broses o brofi a choethi pobl Dduw wedi ei chwblhau, fel y rhagfynegwyd yn Malachi 3:1-4. Roedd pobl Jehofa wedi eu rhyddhau o’u caethiwed symbolaidd i ‘Fabilon Fawr,’ ac roedd Iesu wedi penodi’r “gwas ffyddlon a chall.” * (Dat. 18:2, 4; Math. 24:45, BCND) Nawr, roedd Myfyrwyr y Beibl yn barod am y gwaith roedd Jehofa eisiau iddyn nhw ei wneud.
^ Par. 22 Cafodd The Golden Age ei ailenwi yn Consolation ym 1937 ac Awake! ym 1946 (wedi ei gyhoeddi yn Gymraeg ers 2017 yn dwyn yr enw Deffrwch!).