Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

ERTHYGL ASTUDIO 43

Addola Jehofa yn Unig

Addola Jehofa yn Unig

“Mae’r ARGLWYDD yn Dduw eiddigeddus.”—NAH. 1:2.

CÂN 51 I Dduw Mae Ein Hymgysegriad!

CIPOLWG *

1. Pam dylen ni addoli Jehofa yn unig?

MAE Jehofa yn haeddu ein defosiwn llwyr gan mai ef yw’n Creawdwr a’r un a roddodd bywyd inni. (Dat. 4:11) Ond mae ’na beryg. Er inni garu Jehofa a’i barchu, gall pethau eraill mewn bywyd ein denu a’n rhwystro ni rhag addoli Jehofa fel y dylen ni. Rhaid inni ddeall sut gall hynny ddigwydd. Yn gyntaf, gad inni ystyried beth mae’n ei olygu i addoli Jehofa yn unig.

2. Yn ôl Exodus 34:14, beth byddwn ni yn ei wneud os ydyn ni wedi ymroi’n llwyr i Jehofa?

2 Yn y Beibl, mae cariad dwfn tuag at Jehofa a gwasanaethu ef yn unig yn mynd law yn llaw. Fyddwn ni ddim yn gadael i unrhyw un nac unrhyw beth ddisodli ein defosiwn iddo yn ein calonnau.—Darllen Exodus 34:14. *

3. Pam mae gennyn ni resymau da dros fod yn ffyddlon i Jehofa?

3 Mae gennyn ni resymau da dros fod yn ffyddlon i Jehofa. Pam felly? Oherwydd bod y ffyddlondeb hwnnw wedi ei seilio ar ffeithiau rydyn ni wedi eu dysgu am Jehofa yn barod. Rydyn ni’n edmygu ei rinweddau hardd. Fe wyddon ni’n iawn beth sy’n ei blesio a beth mae’n ei gasáu ac rydyn ni’n meddwl yr un fath ag ef. Deallwn ei bwrpas ar gyfer y ddynoliaeth ac rydyn ni’n ei gefnogi. Mae’n fraint fawr inni gael bod yn ffrind iddo. (Salm 25:14) Mae popeth a ddysgwn am ein Creawdwr yn gwneud inni glosio ato.—Iago 4:8.

4. (a) Beth mae’r Diafol yn ei ddefnyddio i danseilio ein defosiwn i Jehofa? (b) Beth byddwn ni’n ei drafod yn yr erthygl hon?

4 Y Diafol sy’n rheoli’r system bresennol, ac mae’n ei defnyddio i apelio at ein dymuniadau naturiol a’n gwendidau cnawdol. (Eff. 2:1-3; 1 Ioan 5:19) Ei nod yw gwanhau ein cariad fel nad ydyn ni’n llwyr ffyddlon i Jehofa. Gad inni ystyried dwy ffordd y gall y Diafol wneud hyn. Yn gyntaf, mae’n ein temtio i geisio cyfoeth ac, yn ail, mae’n ceisio dylanwadu arnon ni i wneud penderfyniadau gwael ynglŷn â’n hadloniant.

GWARCHOD RHAG CARU ARIAN

5. Pam mae’n rhaid inni warchod rhag caru arian?

5 Yn naturiol ddigon, rydyn ni eisiau digon i’w fwyta, dillad addas i’w gwisgo, a lle addas i fyw. Er hynny, mae’n rhaid inni fod yn ofalus i beidio â charu arian. Mae llawer sy’n rhan o fyd Satan “yn byw er mwyn gwneud arian” ac yn caru’r hyn y gall arian ei brynu. (2 Tim. 3:2) Fe wyddai Iesu y gallai ei ddilynwyr gael eu temtio i ddatblygu’r cariad hwn. “Does neb yn gallu gweithio i ddau feistr gwahanol ar yr un pryd,” meddai Iesu, “mae un yn siŵr o gael y flaenoriaeth ar draul y llall. Allwch chi ddim bod yn was i Dduw ac i arian ar yr un pryd.” (Math. 6:24) Byddai rhywun sy’n addoli Jehofa ac yn defnyddio gormod o amser ac egni yn ceisio bod yn gyfoethog, yn ceisio gwasanaethu dau feistr. Ni fyddai wedi ymroi yn llwyr i Jehofa.

Sut roedd rhai Laodiceaid yn eu gweld eu hunain . . . a sut roedd Jehofa ac Iesu yn eu gweld nhw (Gweler paragraff 6)

6. Pa wers gallwn ni ei dysgu oddi wrth eiriau Iesu i gynulleidfa Laodicea?

6 Tua diwedd y ganrif gyntaf OG, broliodd aelodau’r gynulleidfa yn ninas Laodicea: “Dw i’n gyfoethog; dw i wedi ennill cymaint o gyfoeth does gen i angen dim byd.” Ond yn llygaid Jehofa ac Iesu, roedden nhw’n “dlawd yn ddall ac yn noeth!” Fe gawson nhw gyngor gan Iesu, nid am eu bod nhw’n gyfoethog, ond oherwydd bod eu cariad at arian yn niweidio eu perthynas â Jehofa. (Dat. 3:14-17) Os ydyn ni’n synhwyro ein bod ni’n dechrau dyheu am gyfoeth yn ein calonnau, mae’n rhaid inni weithredu’n gyflym i gywiro ein ffordd o feddwl. (1 Tim. 6:7, 8) Os na wnawn ni hynny, bydd ein calonnau yn rhanedig a bydd Jehofa yn gwrthod ein haddoliad. “Mae’n Dduw eiddigeddus!” (Deut. 4:24) Sut gallwn ni golli ein cydbwysedd ynglŷn â’n hagwedd tuag at arian?

7-9. Beth rwyt ti wedi ei ddysgu o brofiad David?

7 Ystyria esiampl David, henuriad gweithgar sy’n byw yn yr Unol Daleithiau. “Roeddwn i’n weithiwr ymroddedig,” meddai. Cafodd ei ddyrchafu o fewn y cwmni a chael ei gydnabod drwy’r wlad i gyd fel un o’r gweithwyr gorau yn ei faes. “Ar y pryd, roeddwn i’n meddwl bod y pethau hyn yn arwydd o fendith Jehofa.” Ond a oedden nhw mewn gwirionedd?

8 Dechreuodd David weld arwyddion a oedd yn dangos bod ei waith yn niweidio ei berthynas â Jehofa. “Yng nghyfarfodydd y gynulleidfa ac yn y weinidogaeth, roeddwn i’n meddwl am broblemau gwaith,” meddai. “Roeddwn i’n gwneud llawer o arian, ond roeddwn i o dan straen aruthrol, ac roedd fy mhriodas yn dioddef.”

9 Sylweddolodd David fod angen iddo adolygu ei flaenoriaethau. “Wnes i benderfynu cywiro’r sefyllfa,” meddai. Roedd David eisiau aildrefnu ei amserlen waith, a dangosodd ei gynllun i’w gyflogwr. A’r canlyniad? Fe gollodd David ei swydd! Beth oedd ei ymateb? “Y diwrnod wedyn, wnes i roi cais i mewn i fod yn arloeswr cynorthwyol parhaol.” Dechreuodd David a’i wraig wneud gwaith glanhau i’w cynnal eu hunain. Ymhen amser, dechreuodd arloesi’n llawn amser a, maes o law, daeth ei wraig yn arloeswr hefyd. Dewisodd y cwpl hwn wneud gwaith seciwlar yr oedd llawer yn edrych i lawr arno ond, iddyn nhw, dydy hi ddim yn bwysig pa fath o waith maen nhw yn ei wneud. Er bod eu hincwm wedi gostwng naw deg y cant, mae ganddyn nhw ddigon i dalu eu costau bob mis. Maen nhw eisiau rhoi Jehofa’n gyntaf, ac maen nhw wedi dysgu o brofiad ei fod yn gofalu am y rhai sy’n rhoi buddiannau’r Deyrnas yn gyntaf.—Math. 6:31-33.

10. Sut gallwn ni warchod ein calonnau?

10 P’un a oes gennyn ni ychydig neu lawer yn faterol, mae’n rhaid inni warchod ein calonnau. Sut? Paid â dechrau caru cyfoeth. A phaid â chaniatáu i dy waith seciwlar fod yn bwysicach na dy wasanaeth i Jehofa. Sut gelli di wybod a yw hyn yn digwydd i ti? Dyma ambell gwestiwn iti feddwl amdano: ‘Ydw i’n meddwl am fy ngwaith seciwlar pan fyddaf yn y cyfarfodydd neu ar y weinidogaeth? Ydw i’n poeni am gael digon o arian yn y dyfodol? Ydy arian ac eiddo materol yn achosi problemau i mi a’m cymar? A fyddwn i’n fodlon gwneud gwaith seciwlar y mae eraill yn edrych i lawr arno petai hynny’n caniatáu imi dreulio mwy o amser yn gwasanaethu Jehofa?’ (1 Tim. 6:9-12) Wrth ystyried y cwestiynau hynny, gad inni gofio bod Jehofa yn ein caru ac yn addo i’r rhai sydd wedi ymroi yn llwyr iddo: “Wna i byth eich siomi chi, na throi fy nghefn arnoch chi.” Dyna pam ysgrifennodd yr apostol Paul: “Peidiwch gadael i gariad at arian eich meddiannu chi!”—Heb. 13:5, 6.

DEWISA DY ADLONIANT YN DDOETH

11. Pa effaith gall adloniant ei chael ar rywun?

11 Mae Jehofa eisiau inni fwynhau bywyd, a gall adloniant ein helpu yn hynny o beth. Ac mae Gair Duw ei hun yn dweud: “Y peth gorau all rhywun ei wneud ydy bwyta, yfed a mwynhau ei waith.” (Preg. 2:24) Sut bynnag, mae’r rhan fwyaf o adloniant y byd yn gallu cael effaith ddrwg arnon ni. Mae’n tanseilio safonau moesol pobl, gan achosi iddyn nhw oddef neu hyd yn oed caru’r pethau y mae Gair Duw yn eu condemnio.

Pwy sy’n paratoi dy adloniant? (Gweler paragraffau 11-14) *

12. Yn ôl 1 Corinthiaid 10:21, 22, pam dylen ni ddewis ein hadloniant yn ofalus?

12 Rydyn ni eisiau ymroi’n llwyr i Jehofa, felly ni allwn ni fwyta “wrth fwrdd yr Arglwydd” ac “wrth fwrdd cythreuliaid.” (Darllen 1 Corinthiaid 10:21, 22.) Mae bwyta pryd o fwyd gyda rhywun yn arwydd o gyfeillgarwch. Os ydyn ni’n dewis adloniant sy’n hyrwyddo trais, ysbrydegaeth, anfoesoldeb, neu chwantau ac agweddau cnawdol, y gwir yw rydyn ni’n cael pryd o fwyd sydd wedi ei baratoi gan elynion Duw. Ac, o ganlyniad, rydyn ni’n niweidio ein hunain ac yn difetha ein perthynas â Jehofa.

13-14. Yn ôl Iago 1:14, 15, pam dylen ni fod yn ofalus i beidio â bwydo chwantau drwg? Rho enghraifft.

13 Ystyria rai ffyrdd penodol y mae adloniant yn debyg i fwyd go iawn. Pan ydyn ni’n bwyta, gallwn ddewis beth rydyn ni’n ei roi yn ein cegau. Ond, unwaith mae’r bwyd wedi ei lyncu, allwn ni ddim dewis sut bydd y bwyd yn effeithio ar ein cyrff. Gall deiet da ein gwneud ni’n iachach; bydd deiet gwael yn cael effaith negyddol ar ein hiechyd. Efallai fyddwn ni ddim yn sylwi ar yr effaith yn syth, ond bydd hyn yn dod yn amlwg mewn amser.

14 Yn debyg i hyn, pan fyddwn ni’n dewis ein hadloniant, gallwn ni ddewis beth gymerwn ni i mewn i’r meddwl. Wedyn, bydd yr adloniant hwnnw yn effeithio ar y meddwl a’r galon. Gall adloniant da ein hadfywio; ond bydd adloniant drwg yn ein niweidio. (Darllen Iago 1:14, 15.) Efallai na fydd sgileffeithiau adloniant drwg i’w gweld ar y cychwyn ond, ymhen amser, fe ddôn nhw’n amlwg. Dyna pam mae’r Beibl yn ein rhybuddio: “Peidiwch twyllo’ch hunain: Allwch chi ddim chwarae gemau gyda Duw. Mae pobl yn medi beth maen nhw’n ei hau. Bydd y rhai sy’n byw i foddhau eu chwantau pechadurus yn medi canlyniadau hynny, sef dinistr.” (Gal. 6:7, 8) Felly mae’n hynod o bwysig inni wrthod pob adloniant sy’n hyrwyddo pethau y mae Jehofa yn eu casáu!—Salm 97:10.

15. Pa rodd rydyn ni wedi ei chael gan Jehofa?

15 Mae llawer o bobl Jehofa yn mwynhau gwylio JW Broadcasting®, ein gorsaf deledu ar y We. Yn ôl chwaer o’r enw Marilyn: “Mae JW Broadcasting wedi fy helpu i fod yn fwy positif, a does dim rhaid imi ddewis a dethol y rhaglenni; mae’r cwbl yn dda imi. Pan fyddaf yn teimlo’n unig neu’n ddigalon, dw i’n chwilio am anerchiad calonogol neu raglen Addoliad y Bore i’w gwylio. Mae hynny’n gwneud imi deimlo’n nes at Jehofa a’i gyfundrefn. Mae JW Broadcasting wedi newid fy mywyd yn llwyr.” A wyt ti’n manteisio ar rodd Jehofa? Yn ychwanegol i’r rhaglen newydd bob mis, mae gan JW Broadcasting nifer o wahanol raglenni sain a fideo yn ogystal â chaneuon adeiladol y mae’n bosib eu gwylio neu wrando arnyn nhw ar unrhyw adeg.

16-17. Pam dylen ni reoli faint o amser rydyn ni’n ei dreulio ar adloniant, a sut gallwn ni wneud hynny?

16 Mae’n rhaid inni fod yn ofalus i reoli nid yn unig y math o adloniant a fwynhawn ond hefyd faint o amser a dreuliwn yn gwneud hynny. Os na wnawn ni hynny, gallwn dreulio mwy o amser yn ein difyrru’n hunain nag yr ydyn ni’n gwasanaethu Jehofa. Mae llawer yn ei chael hi’n anodd rheoli faint o amser maen nhw’n ei dreulio ar adloniant. Yn ôl chwaer 18 oed o’r enw Abigail: “Mae gwylio’r teledu yn fy helpu i ymlacio ar ddiwedd diwrnod prysur. Ond, os nad ydw i’n ofalus, galla’ i dreulio oriau o flaen y sgrin.” Dywed brawd ifanc o’r enw Samuel: “Weithiau byddaf yn gwylio llawer o fideos byr ar y We. Byddaf yn dechrau drwy wylio jest un, a chyn pen dim, mae tair neu bedair awr wedi mynd heibio.”

17 Sut gelli di reoli faint o amser rwyt ti’n treulio ar adloniant? Y cam cyntaf fyddai gweithio allan faint o amser rwyt ti’n ei dreulio arno. Beth am gadw cofnod am un wythnos? Ysgrifenna ar galendr sawl awr rwyt ti yn ei threulio yn gwylio’r teledu, yn syrffio’r We, ac yn chwarae gemau ar dy ddyfais symudol. Os wyt ti’n meddwl dy fod ti’n treulio gormod o amser yn gwneud hynny, gwna raglen. Penoda amser i’r pethau pwysicaf yn gyntaf, ac wedyn gelli di neilltuo amser ar gyfer adloniant. Nesaf, gofynna i Jehofa dy helpu i lynu wrth dy amserlen. Wrth wneud hynny, fe gei di’r amser a’r egni ar gyfer astudiaeth Feiblaidd bersonol, addoliad teuluol, cyfarfodydd cynulleidfaol, a gwasanaethu Jehofa yn y gwaith pregethu. A byddi di’n mwynhau dy amser hamdden yn fwy am dy fod ti wedi rhoi Jehofa’n gyntaf.

YMROI’N LLWYR I JEHOFA BOB AMSER

18-19. Sut gallwn ni brofi ein bod ni wedi ymroi yn llwyr i Jehofa?

18 Ar ôl ysgrifennu am ddiwedd byd Satan a’r byd newydd sydd i ddod, dywedodd yr apostol Pedr: “Ffrindiau annwyl, gan mai dyna dych chi’n edrych ymlaen ato, gwnewch eich gorau glas i fyw bywydau sy’n lân a di-fai, ac mewn perthynas iawn gyda Duw.” (2 Pedr 3:14) Pan ufuddhawn i’r cyngor hwnnw a gwneud ein gorau i aros yn foesol ac yn ysbrydol lân, rydyn ni’n profi ein bod ni wedi ymroi yn llwyr i Jehofa.

19 Fe fydd Satan a’i system yn parhau i’n temtio ni i newid ein blaenoriaethau. (Luc 4:13) Ond er gwaethaf yr heriau, wnawn ni ddim caniatáu i unrhyw un nac unrhyw beth ddisodli lle Jehofa yn ein calonnau. Rydyn ni’n benderfynol o roi i Jehofa yr hyn y mae ef yn unig yn ei haeddu, sef ein hymroddiad llwyr!

CÂN 30 Fy Nhad, Fy Nuw a’m Ffrind

^ Par. 5 Rydyn ni wrth ein boddau yn gwasanaethu Jehofa. Ond a ydyn ni’n gwbl ymroddedig iddo? Fe fydd ein penderfyniadau yn ateb y cwestiwn hwnnw. Gad inni ystyried dwy ran benodol o’n bywydau i’n helpu ni i bwyso a mesur ein defosiwn i Jehofa.

^ Par. 2 Pan fydd y Beibl yn disgrifio Jehofa fel Duw eiddigeddus, mae’n golygu bod Duw eisiau inni addoli ef yn unig.

^ Par. 54 DISGRIFIAD O’R LLUN: Ni fydden ni eisiau bwyta bwyd sydd wedi ei lygru mewn cegin fudr. Pam bydden ni eisiau gwylio adloniant sydd wedi ei lygru â thrais, ysbrydegaeth, neu anfoesoldeb?