Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

ERTHYGL ASTUDIO 41

Arhosa’n Ffyddlon Trwy’r Gorthrymder Mawr

Arhosa’n Ffyddlon Trwy’r Gorthrymder Mawr

“Carwch yr ARGLWYDD, chi sy’n ei ddilyn yn ffyddlon! Mae’r ARGLWYDD yn amddiffyn y rhai sy’n ffyddlon iddo.”—SALM 31:23.

CÂN 129 Dyfalbarhawn

CIPOLWG *

1-2. (a) Beth bydd y cenhedloedd yn ei gyhoeddi yn fuan? (b) Pa gwestiynau bydd yn cael eu hateb?

DYCHMYGA fod y cenhedloedd newydd gyhoeddi “heddwch a diogelwch.” Maen nhw’n brolio nad ydy’r byd erioed wedi bod mor saff. Bydd y cenhedloedd eisiau inni feddwl eu bod nhw’n gallu datrys holl broblemau’r byd. Ond, fyddan nhw ddim yn gallu rheoli o gwbl beth fydd yn digwydd nesaf! Sut felly? Yn ôl un o broffwydoliaethau’r Beibl: “Yn sydyn bydd dinistr yn dod. . . . Fydd dim dianc!”—1 Thes. 5:3.

2 Mae angen atebion i gwestiynau pwysig: Beth fydd yn digwydd yn ystod y gorthrymder mawr? Beth bydd Jehofa yn disgwyl inni ei wneud yn ystod yr amser hwnnw? A sut gallwn ni ymbaratoi er mwyn aros yn ffyddlon drwy’r gorthrymder mawr?—Math. 24:21.

BETH FYDD YN DIGWYDD YN YSTOD Y GORTHRYMDER MAWR?

3. Yn ôl Datguddiad 17:5, 15-18, sut bydd Duw yn dinistrio “Babilon Fawr”?

3 Darllen Datguddiad 17:5, 15-18. Bydd “Babilon Fawr” yn cael ei dinistrio! Fel y soniwyd amdano yn gynharach, ni fydd y cenhedloedd yn gallu rheoli beth sy’n digwydd yn ystod y cyfnod hwn. Pam lai? Oherwydd bydd ‘Duw [yn] plannu’r syniad yn eu meddyliau nhw er mwyn cyflawni ei bwrpas.’ Beth yw’r syniad hwnnw? Dinistrio’r ymerodraeth gau grefyddol fyd eang, gan gynnwys y Gwledydd Cred. * Bydd Duw yn plannu’r syniad ym meddwl “y deg corn” sy’n perthyn i’r “anghenfil ysgarlad.” Mae’r deg corn yn cynrychioli’r holl lywodraethau sy’n cefnogi’r “anghenfil”—y Cenhedloedd Unedig. (Dat. 17:3, 11-13; 18:8) Pan fydd y grymoedd gwleidyddol hynny’n ymosod ar gau grefydd, bydd hynny’n arwydd fod y gorthrymder mawr wedi dechrau. Bydd y digwyddiad byd eang hwnnw yn un arswydus.

4. (a) Beth gall y cenhedloedd ei ddweud i gyfiawnhau ymosod ar gau grefydd? (b) Beth bydd cyn-aelodau’r crefyddau hynny’n debygol o’i wneud?

4 Dydyn ni ddim yn gwybod pa resymau y bydd y cenhedloedd yn eu rhoi dros gyfiawnhau ymosod ar Fabilon Fawr. Efallai y byddan nhw’n dweud bod crefyddau’r byd yn rhwystr i heddwch a’u bod nhw’n ceisio dylanwadu o hyd ar faterion gwleidyddol. Neu y byddan nhw’n dweud bod y cyfundrefnau crefyddol hynny wedi casglu gormod o gyfoeth ac eiddo. (Dat. 18:3, 7) Cwbl resymol yw meddwl na fydd yr ymosodiad hwn yn golygu y bydd holl aelodau’r crefyddau hynny yn cael eu dinistrio. Yn hytrach, mae’n ymddangos mai cael gwared ar y cyfundrefnau crefyddol y bydd y cenhedloedd. Unwaith i’r cyfundrefnau hynny fynd, bydd y cyn-aelodau yn sylweddoli bod eu harweinwyr crefyddol wedi eu siomi ac yn debygol o ymbellhau oddi wrth y crefyddau hynny.

5. Beth mae Jehofa wedi ei addo ynglŷn â’r gorthrymder mawr, a pham?

5 Dydy’r Beibl ddim yn datgelu pa mor hir y bydd dinistrio Babilon Fawr yn ei gymryd, ond rydyn ni’n gwybod y bydd yn digwydd o fewn cyfnod eithaf byr. (Dat. 18:10, 21) Mae Jehofa wedi addo y bydd yn gwneud y gorthrymder “yn gyfnod byr” er mwyn i’r “bobl mae wedi’u dewis” a gwir addoliad oroesi. (Marc 13:19, 20) Ond beth bydd Jehofa yn disgwyl inni ei wneud rhwng dechrau’r gorthrymder mawr a rhyfel Armagedon?

ARHOSA YN Y WIR GREFYDD

6. Pam nad ydy stopio bod yn rhan o gau grefydd yn ddigon ynddo’i hun?

6 Fel y trafodwyd yn yr erthygl flaenorol, mae Jehofa yn disgwyl i’w addolwyr stopio bod yn rhan o gau grefydd. Fodd bynnag, nid yw hyn yn ddigon. Mae’n rhaid inni fod yn benderfynol o aros yn y wir grefydd drwy barhau i wasanaethu Jehofa. Rho sylw i ddwy ffordd y gallwn ni wneud hynny.

Ddylen ni byth roi’r gorau i gwrdd gyda’n gilydd, hyd yn oed o dan amgylchiadau anodd (Gweler paragraff 7) *

7. (a) Sut gallwn ni ufuddhau’n llwyr i safonau moesol cyfiawn Jehofa? (b) Pam mae Hebreaid 10:24, 25 yn dweud y dylen ni gwrdd gyda’n gilydd, a pham mae hynny’n bwysig iawn heddiw?

7 Yn gyntaf, mae’n rhaid inni ufuddhau yn llwyr i safonau moesol cyfiawn Jehofa. Ni allwn ni dderbyn safonau a gwerthoedd y byd. Er enghraifft, dydyn ni ddim yn cymeradwyo anfoesoldeb rhywiol o unrhyw fath, gan gynnwys priodasau un-rhyw, nac ymddygiad cyfunrhywiol arall. (Math. 19:4, 5; Rhuf. 1:26, 27) Yn ail, mae’n rhaid inni barhau i addoli gyda’n brodyr a’n chwiorydd. Rydyn ni’n gwneud hyn le bynnag y gallwn ni, naill ai yn Neuadd y Deyrnas neu, pan fo’r angen, mewn cartrefi ein brodyr a’n chwiorydd neu hyd yn oed yn y dirgel. Dim ots beth fydd yn digwydd, ni allwn ni roi’r gorau i’r drefn o ddod at ein gilydd i addoli. Yn wir, mae’n rhaid cwrdd gyda’n gilydd “yn arbennig am fod Iesu’n dod yn ôl i farnu yn fuan.”—Darllen Hebreaid 10:24, 25.

8. Sut bydd ein neges yn debygol o newid yn y dyfodol?

8 Yn ystod y gorthrymder mawr, bydd y neges rydyn ni’n ei chyhoeddi yn debygol o newid. Ar hyn o bryd, rydyn ni’n pregethu’r newyddion da am y Deyrnas ac yn ceisio gwneud disgyblion. Ond, y pryd hwnnw, efallai y byddwn ni’n cyhoeddi neges a fydd yn taro ergyd mor drom â chenllysg. (Dat. 16:21) Efallai y byddwn ni’n cyhoeddi bod byd Satan ar fin cael ei ddinistrio. Ymhen amser, byddwn ni’n dod i wybod beth yn union fydd ein neges a sut y byddwn ni’n ei chyhoeddi. A fyddwn ni’n defnyddio yr un dulliau rydyn ni wedi eu defnyddio am ganrif a mwy i gyflawni ein gweinidogaeth? Neu a fyddwn ni’n defnyddio dulliau eraill? Amser a ddengys. P’run bynnag, mae’n ymddangos y bydd gennyn ni’r fraint o gyhoeddi’n ddewr farnedigaethau Jehofa!—Esec. 2:3-5.

9. Sut efallai y bydd y cenhedloedd yn ymateb i’n neges, ond beth gallwn ni fod yn sicr ohono?

9 Yn fwy na thebyg, bydd ein neges yn achosi’r cenhedloedd i geisio rhoi taw arnon ni unwaith ac am byth. Fel yr ydyn ni’n dibynnu ar Jehofa am ei gefnogaeth yn y weinidogaeth heddiw, bydd rhaid inni ddibynnu arno bryd hynny. Gallwn fod yn gwbl sicr y bydd Duw yn ein llenwi ni â’i nerth er mwyn inni gyflawni ei ewyllys.—Mich. 3:8.

BYDDA’N BAROD AM YR YMOSODIAD AR BOBL DDUW

10. Fel y rhagfynegwyd yn Luc 21:25-28, sut bydd y rhan fwyaf o bobl yn ymateb i’r hyn sy’n digwydd yn ystod y gorthrymder mawr?

10 Darllen Luc 21:25-28. Yn ystod y gorthrymder mawr, bydd pobl wedi synnu wrth iddyn nhw weld popeth yn y byd a oedd yn ymddangos yn sefydlog yn dechrau cwympo o’u cwmpas. Bydd pawb “mewn cynnwrf” ac yn ofni am eu bywydau yn ystod y cyfnod mwyaf du yn hanes dynolryw. (Seff. 1:14, 15) Bryd hynny, bydd bywyd yn debygol o fod yn anodd iawn hyd yn oed i bobl Jehofa. Oherwydd nad ydyn ni’n rhan o’r byd, mae’n debyg y byddwn ninnau’n wynebu anawsterau. Efallai bydd rhaid inni fynd heb rai o anghenion bywyd.

11. (a) Pam bydd Tystion Jehofa yn denu sylw arweinwyr y byd? (b) Pam nad oes rhaid inni ofni’r gorthrymder mawr?

11 Ar ryw adeg benodol, bydd y bobl a welodd eu crefyddau yn cael eu dinistrio yn digio oherwydd bod Tystion Jehofa yn dal i ymarfer eu crefydd. Gallwn ond ddychmygu’r stŵr y byddai hyn yn ei achosi, yn enwedig ar y cyfryngau cymdeithasol. Bydd y cenhedloedd a’u rheolwr, Satan, yn ein casáu ni oherwydd ein crefydd ni fydd yr unig un ar ôl. Ni fyddan nhw wedi llwyddo i gael gwared ar bob crefydd oddi ar wyneb y ddaear. O ganlyniad, byddan nhw’n hoelio eu sylw arnon ni. Ar yr adeg honno, bydd y cenhedloedd yn chwarae rhan Gog o dir Magog. * Byddan nhw’n dod at ei gilydd i ymosod yn chwyrn ar bobl Jehofa â’u holl nerth. (Esec. 38:2, 14-16) Gall fod yn destun pryder i feddwl am yr holl bosibiliadau hynny pan na allwn ni fod yn sicr o’r holl fanylion. Fodd bynnag, mae un peth yn sicr: Does dim rhaid inni ofni’r gorthrymder mawr. Bydd Jehofa yn rhoi cyfarwyddiadau inni a fydd yn achub ein bywydau. (Salm 34:19) Byddwn ni’n gallu ufuddhau i’r geiriau hyn: “Safwch ar eich traed a daliwch eich pennau’n uchel.” A hynny oherwydd ein bod ni’n gwybod bod “rhyddid ar ei ffordd!” *

12. Sut mae’r “gwas ffyddlon a chall” wedi bod yn ein paratoi ni am yr hyn sy’n dod yn y dyfodol?

12 Mae’r “gwas ffyddlon a chall” wedi bod yn ein paratoi ni ar gyfer aros yn ffyddlon drwy’r gorthrymder mawr. (Math. 24:45, BCND) Gwnaethpwyd hyn mewn amryw ffyrdd ond ystyria un esiampl: ein rhaglenni amserol ar gyfer ein cynadleddau rhwng y blynyddoedd 2016 a 2018. Trwy gyfrwng y rhaglenni hyn, fe gawson ni’n hannog i gryfhau’r rhinweddau hanfodol hynny y mae’n rhaid inni eu cael wrth i ddydd Jehofa agosáu. Gad inni adolygu’n fyr y rhinweddau hynny.

PARHA I DDATBLYGU FFYDDLONDEB, DYFALBARHAD, A DEWRDER

Paratoa nawr ar gyfer goroesi’r gorthrymder mawr (Gweler paragraffau 13-16) *

13. Sut gallwn ni gryfhau ein ffyddlondeb i Jehofa, a beth sy’n rhaid inni ei wneud nawr?

13 Ffyddlondeb: Thema cynhadledd 2016 oedd “Aros yn Ffyddlon i Jehofa.” Roedd y rhaglen hon yn ein dysgu am y pwysigrwydd o gael perthynas glòs â Jehofa er mwyn aros yn ffyddlon iddo. Cawson ni’n hatgoffa o sut gallwn ni agosáu at Jehofa drwy weddïo’n daer a thrwy astudio ei Air yn drylwyr. Mae gwneud hyn yn rhoi’r nerth inni fedru codi uwchlaw hyd yn oed y rhwystrau mwyaf heriol. Wrth i system Satan ddod i’w therfyn, gallwn ddisgwyl y bydd ein ffyddlondeb i Dduw a’i Deyrnas yn cael ei brofi’n fwy byth. Mae’n debyg bydd pobl yn dal i wneud hwyl am ein pennau. (2 Pedr 3:3, 4) Mae hyn yn siŵr o ddigwydd wrth i’n niwtraliaeth ddod o dan y lach yn fwy ac yn fwy. Mae’n rhaid i’n niwtraliaeth gael ei chryfhau nawr er mwyn inni aros yn ffyddlon yn ystod y gorthrymder mawr.

14. (a) Beth fydd yn digwydd i’r brodyr sy’n arwain y gynulleidfa ar y ddaear? (b) Pam byddwn ni’n gorfod bod yn ufudd ar yr adeg honno?

14 Yn ystod y gorthrymder mawr, bydd newid yn digwydd o ran y brodyr sy’n arwain y gynulleidfa ar y ddaear. Ar ryw adeg benodol, bydd y rhai eneiniog sydd yn dal i fod ar y ddaear yn cael eu casglu i’r nefoedd i frwydro yn rhyfel Armagedon. (Math. 24:31; Dat. 2:26, 27) Bydd hyn yn golygu na fydd y Corff Llywodraethol gyda ni mwyach ar y ddaear. Sut bynnag, bydd y dyrfa fawr yn dal i fod yn drefnus. Bydd brodyr cymwys o blith y defaid eraill yn arwain y ffordd inni. Bydd rhaid inni ddangos ein bod ni’n ffyddlon drwy gefnogi’r brodyr hyn a dilyn eu cyfarwyddiadau a fydd yn dod oddi wrth Dduw. Bydd goroesi neu beidio yn dibynnu ar hyn!

15. Sut gallwn ni gryfhau ein dyfalbarhad, a pham mae’n bwysig gwneud hynny nawr?

15 Dyfalbarhad: Thema cynhadledd 2017 oedd “Daliwch Ati!” Gwnaeth y rhaglen hon ein helpu ni i ddal ati yn wyneb treialon. Fe ddysgon ni nad ydy dyfalbarhad yn dibynnu ar amgylchiadau ffafriol. Fe fedrwn ni gryfhau ein dyfalbarhad drwy ddibynnu ar Jehofa. (Rhuf. 12:12) Ddylen ni byth anghofio addewid Iesu: ‘Bydd yr un sy’n sefyll yn gadarn i’r diwedd un yn cael ei achub.’ (Math. 24:13) Mae’r addewid hwn yn golygu ein bod ni’n gorfod aros yn ffyddlon, er gwaethaf anawsterau. Bydd dal ati yn wyneb pob treial yn ein gwneud ni’n gryfach a hynny cyn i’r gorthrymder mawr ddechrau.

16. Beth sydd yn ein gwneud ni’n ddewr, a sut gallwn ni fod yn fwy dewr heddiw?

16 Dewrder: Thema cynhadledd 2018 oedd “Bydda’n Ddewr!” Roedd y rhaglen hon yn ein dysgu nad yw bod yn ddewr yn dibynnu ar ein galluoedd ni’n hunain. Fel yn achos dyfalbarhad, mae gwir ddewrder yn dod o ddibynnu ar Jehofa. Sut gallwn ni ddysgu i ddibynnu ar Jehofa yn fwy byth? Trwy ddarllen ei Air bob diwrnod a myfyrio ar sut achubodd Jehofa ei bobl yn y gorffennol. (Salm 68:20; 2 Pedr 2:9) Pan fydd y cenhedloedd yn ymosod arnon ni yn ystod y gorthrymder mawr, bydd yn rhaid inni fod yn ddewr ac ymddiried yn Jehofa yn fwy nag erioed o’r blaen. (Salm 112:7, 8; Heb. 13:6) Os dibynnwn ar Jehofa nawr, fe fyddwn ni’n ddigon dewr i wynebu ymosodiad Gog. *

EDRYCHA YMLAEN AT GAEL DY ACHUB

Iesu a’i fyddin nefol yn marchogaeth ar geffylau gwynion i frwydr Armagedon er mwyn dinistrio gelynion Duw! (Gweler paragraff 17)

17. Pam nad oes rhaid inni ofni Armagedon? (Gweler y llun ar y clawr.)

17 Fel y soniwyd amdano yn yr erthygl flaenorol, mae’r rhan fwyaf ohonon ni wedi byw ein bywydau cyfan yn ystod y dyddiau diwethaf. Ond, rydyn ni hefyd yn gobeithio goroesi’r gorthrymder mawr. Rhyfel Armagedon fydd yn dod â’r system hon i ben. Fodd bynnag, does gennyn ni ddim byd i’w ofni. Sut felly? Oherwydd Duw fydd yn brwydro. (Diar. 1:33; Esec. 38:18-20; Sech. 14:3) Pan fydd Jehofa yn rhoi’r gorchymyn, Iesu Grist fydd yn arwain byddin Duw i faes y gad. Wrth ei ochr, bydd y rhai eneiniog atgyfodedig a myrddiynau o angylion. Gyda’i gilydd, byddan nhw’n rhyfela yn erbyn Satan, ei gythreuliaid, a’u lluoedd daearol.—Dan. 12:1; Dat. 6:2; 17:14.

18. (a) Beth mae Jehofa wedi ei warantu? (b) Pam mae Datguddiad 7:9, 13-17 yn dy helpu i fod yn hyderus am y dyfodol?

18 Mae Jehofa wedi gwarantu hyn: “Ond fydd yr arfau sydd wedi’u llunio i dy daro di ddim yn llwyddo.” (Esei. 54:17) Bydd “tyrfa enfawr” o addolwyr ffyddlon Jehofa yn byw trwy’r gorthrymder mawr ac yn goroesi! Yna, byddan nhw’n parhau i wasanaethu Jehofa. (Darllen Datguddiad 7:9, 13-17.) Mae’r Beibl yn rhoi llawer o resymau dros fod yn hyderus am y dyfodol! Fe wyddon ni fod Jehofa “yn amddiffyn y rhai sy’n ffyddlon iddo.” (Salm 31:23) Bydd pawb sy’n caru ac yn moli Jehofa wrth eu boddau yn ei weld ef yn cyfiawnhau ei enw sanctaidd.—Esec. 38:23.

19. Pa ddyfodol disglair y byddwn ni’n ei gael yn fuan iawn?

19 Meddylia am beth y byddai 2 Timotheus 3:2-5 yn ei ddweud petai’n disgrifio pobl yn y byd newydd, pobl heb eu dylanwadu gan Satan. (Gweler y blwch “ Sut Bydd Pobl Bryd Hynny.”) Roedd y brawd George Gangas, * a wasanaethodd ar y Corff Llywodraethol, yn disgrifio’r sefyllfa fel hyn: “Bydd y byd yn lle hardd pan fydd pawb yn frodyr neu’n chwiorydd! Yn fuan, bydd gennych chi’r fraint o fyw yn y system newydd honno. Byddwch yn byw cyhyd ag y mae Jehofa yn byw. Rydyn ni’n mynd i fyw am byth.” Am obaith hyfryd!

CÂN 122 Safwch yn Gadarn!

^ Par. 5 Rydyn ni’n gwybod y bydd pawb ar y ddaear yn wynebu’r gorthrymder mawr yn y dyfodol agos. Beth bydd hynny’n ei olygu i ni? Beth bydd Jehofa yn disgwyl inni ei wneud yr adeg honno? Pa rinweddau y byddwn ni’n eu hangen er mwyn aros yn ffyddlon? Cawn wybod yr atebion yn yr erthygl hon.

^ Par. 3 ESBONIAD: Mae’r Gwledydd Cred yn cynnwys crefyddau sy’n honni bod yn rhai Cristnogol ond dydyn nhw ddim yn dysgu pobl i addoli Jehofa mewn ffordd sy’n unol â’i safonau.

^ Par. 11 ESBONIAD: Mae’r term Gog o dir Magog (a’r ffurf fer, Gog) yn cyfeirio at grŵp o genhedloedd a fydd yn brwydro yn erbyn gwir addoliad yn ystod y gorthrymder mawr.

^ Par. 11 Am drafodaeth lawnach ar yr holl ddigwyddiadau sy’n arwain at ryfel Armagedon, gweler pennod 21 y llyfr God’s Kingdom Rules! Am ragor o fanylion ynglŷn â Gog o dir Magog a sut bydd Jehofa yn amddiffyn ei bobl yn ystod Armagedon, gweler penodau 17 ac 18 y llyfr Pure Worship of Jehovah—Restored At Last!

^ Par. 16 Mae thema cynhadledd 2019, “Dydy Cariad Byth Yn Darfod!” yn dangos ei bod hi’n bosib inni aros yn saff o dan warchodaeth gariadus Jehofa.—1 Cor. 13:8.

^ Par. 19 Gweler yr erthygl “His Deeds Follow Him” yn rhifyn 1 Rhagfyr 1994 o’r Tŵr Gwylio Saesneg.

^ Par. 65 DISGRIFIAD O’R LLUN: Yn ystod y gorthrymder mawr, mae grŵp bychan o Dystion yn cwrdd yn ddewr mewn coedwig er mwyn cynnal cyfarfod cynulleidfaol.

^ Par. 67 DISGRIFIAD O’R LLUN: Bydd tyrfa fawr o addolwyr ffyddlon Jehofa wrth eu boddau oherwydd iddyn nhw oroesi’r gorthrymder mawr!