Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Mae angen rhybuddio pobl wrth i “storm” Duw agosáu!

Barnedigaethau Duw—Ydy Duw’n Wastad yn Rhoi Digon o Rybudd?

Barnedigaethau Duw—Ydy Duw’n Wastad yn Rhoi Digon o Rybudd?

MAE’R dyn tywydd yn craffu ar y ddelwedd sy’n troelli ar sgrin y radar. Mae ’na storm beryglus yn mwstro ac yn bygwth ardal boblog. Oherwydd bod diogelwch y bobl ar ei feddwl, mae’n eu rhybuddio’n ddiflino cyn ei bod hi’n rhy hwyr.

Yn debyg i hyn, mae Jehofa’n rhybuddio trigolion y ddaear am “storm” a fydd yn llawer gwaeth na’r hyn sydd i’w glywed mewn adroddiad tywydd. Sut mae ef yn mynd ati? A sut gallwn ni fod yn sicr ei fod yn rhoi digon o amser i bobl ymateb? I gael yr atebion, gad inni yn gyntaf, ystyried rhai o’r rhybuddion a roddodd Jehofa yn y gorffennol.

RHYBUDDION DUW YN Y GORFFENNOL

Yn ôl yn adeg y Beibl, rhybuddiodd Jehofa am amryw o “stormydd,” neu farnedigaethau, a fyddai’n dod yn erbyn y rhai a oedd yn mynd yn groes i’w orchmynion yn fwriadol. (Diar. 10:25; Jer. 30:23) Ym mhob achos, rhoddodd wybod i’r bobl dan sylw ymhell o flaen amser a’u gorchymyn i newid eu bywydau yn unol â’i ewyllys. (2 Bren. 17:12-15; Neh. 9:29, 30) Er mwyn cael yr ymateb iawn, fe fyddai’n defnyddio ei weision ffyddlon i helpu’r bobl i ddeall bod rhaid iddyn nhw weithredu ar unwaith.—Amos 3:7.

Un o’r gweision ffyddlon hynny oedd Noa. Am flynyddoedd, roedd yn rhybuddio pobl anfoesol a threisgar y cyfnod hwnnw am Ddilyw byd-eang a oedd ar fin dod. (Gen. 6:9-13, 17) Hefyd, fe ddywedodd wrthyn nhw am yr hyn roedd angen iddyn nhw ei wneud i gael eu hachub—roedd mor ddyfal yn hyn o beth nes y cyfeiriwyd ato fel “yr unig un oedd yn galw ar bobl i fyw yn ufudd i Dduw.”—2 Pedr 2:5.

Er gwaethaf ymdrechion Noa, anwybyddodd y bobl, a oedd yn byw cyn y Dilyw, ei neges ddwyfol. Doedd ganddyn nhw ddim ffydd o gwbl. O ganlyniad, buon nhw farw pan ddaeth y Dilyw a’u “hysgubo nhw i gyd i ffwrdd!” (Math. 24:39; Heb. 11:7) Wrth iddyn nhw wynebu eu diwedd, doedd ganddyn nhw ddim lle i honni bod Duw wedi methu eu rhybuddio.

Bryd arall, rhybuddiodd Jehofa unigolion ychydig cyn i “storm” ei farnedigaeth gychwyn. Er hynny, sicrhaodd y byddai’r rhai a fyddai’n cael eu heffeithio yn cael amser i ymateb. Er enghraifft, rhoddodd ddigon o rybudd ynglŷn â’r deg pla wnaeth trigolion yr Aifft gynt eu dioddef. Dyma un enghraifft, anfonodd Jehofa Moses ac Aaron i rybuddio Pharo a’i weision am y seithfed pla, storm o genllysg dinistriol. Gan y byddai’r cenllysg yn dechrau bwrw’r diwrnod wedyn, a oedd Duw wedi rhoi digon o amser i gael lloches i ymochel rhag y storm? Yn ôl y Beibl: “Dyma rai o swyddogion y Pharo yn credu beth ddwedodd yr ARGLWYDD, ac yn brysio allan i gasglu eu gweision a’u hanifeiliaid o’r caeau. Ond roedd eraill yn poeni dim am y peth, a dyma nhw’n gadael eu gweision a’u hanifeiliaid yn y caeau.” (Ex. 9:18-21) Mae’n amlwg felly fod Jehofa wedi rhoi digon o rybudd, achos cafodd y rhai a oedd wedi ymateb yn gyflym eu cadw’n ddiogel rhag effeithiau gwaethaf y pla hwnnw.

Yn yr un modd, cafodd Pharo a’i weision eu rhybuddio cyn y degfed pla. Ond, yn ffôl iawn, anwybyddon nhw’r rhybudd. (Ex. 4:22, 23) O ganlyniad, bu farw eu meibion cyntaf-anedig. Roedd hynny’n ofnadwy o drist! (Ex. 11:4-10; 12:29) A allen nhw fod wedi cymryd sylw o’r rhybudd mewn amser? Gallen! Heb unrhyw oedi rhybuddiodd Moses yr Israeliaid am y degfed pla oedd ar fin dod a dywedodd wrthyn nhw sut i achub eu teuluoedd. (Ex. 12:21-28) Faint o bobl a ufuddhaodd i gyfarwyddyd Moses? Yn ôl rhai amcangyfrifon, cafodd tair miliwn o bobl, gan gynnwys Israeliaid a ‘thyrfa gymysg o bobl,’ sef Eifftwyr ac eraill nad oedden nhw’n Israeliaid, eu cadw rhag barnedigaeth Duw pan gadawon nhw’r Aifft.—Ex. 12:38.

Yn ôl yr enghreifftiau hyn, mae’n glir fod Jehofa’n wastad yn sicrhau bod pawb yn cael digon o amser i ufuddhau i’w rybuddion. (Deut. 32:4) Beth oedd cymhelliad Duw dros wneud hynny? Esboniodd yr apostol Pedr nad yw Jehofa “eisiau i unrhyw un fynd i ddistryw. Mae e am roi cyfle i bawb newid eu ffyrdd.” (2 Pedr 3:9) Ie, gofalodd Duw am y bobl. Roedd eisiau iddyn nhw edifarhau a gweithredu ar ei gyngor cyn i’w farn gael ei gweithredu.—Esei. 48:17, 18; Rhuf. 2:4.

YMATEB I RYBUDD DUW HEDDIW

Mae’r un peth yn wir heddiw, mae’n rhaid i bawb ymateb i’r apêl frys sy’n cael ei chyhoeddi’n fyd-eang. Tra oedd ar y ddaear, rhybuddiodd Iesu y byddai’r system bresennol yn cael ei dinistrio yn ystod y gorthrymder mawr. (Math. 24:21) Wrth gyfeirio at y farn i ddod, rhoddodd broffwydoliaeth fanwl oedd yn disgrifio’r hyn gallai ei ddilynwyr ddisgwyl ei weld wrth i’r amser hwnnw agosáu. Felly, cyfeiriodd Iesu at ddigwyddiadau mawr ar draws y byd, rhai a welwn ni heddiw.—Math. 24:3-12; Luc 21:10-13.

Yn unol â’r broffwydoliaeth honno, mae Jehofa’n annog pawb i ildio i’w deyrnasiad cariadus. Mae’n dymuno i bobl ufudd gael bywyd gwell nawr yn ogystal ag yn y dyfodol yn ei fyd newydd cyfiawn. (2 Pedr 3:13) Er mwyn cael ffydd yn ei addewidion, mae Jehofa wedi darparu neges achubol sef y “newyddion da am deyrnasiad Duw,” a dywedodd Iesu y byddai’n “cael ei gyhoeddi drwy’r byd i gyd. Bydd pob gwlad yn ei glywed.” (Math. 24:14) Mae Duw wedi trefnu i’w wir addolwyr gyhoeddi’r dystiolaeth neu’r neges ddwyfol hon, mewn rhyw 240 o wledydd. Dymuna Jehofa i gymaint o bobl ag sy’n bosib wrando ar y rhybudd a ffoi rhag y storm o farnedigaeth gyfiawn.—Seff. 1:14, 15; 2:2, 3.

Dydyn ni ddim yn gofyn a yw Jehofa yn rhoi digon o amser i bobl ymateb i’w rybuddion. Mae’r dystiolaeth yn dangos yn glir ei fod bob amser yn gwneud hynny. Ond, dyma gwestiwn perthnasol: A fydd pobl yn ufuddhau i rybudd Duw tra bydd amser ar ôl? Gad i ni fel negeswyr Duw ddal ati i helpu cymaint o bobl ag sy’n bosib i oroesi diwedd yr hen system bresennol.