Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

C. Joseph F. Rutherford a brodyr eraill yn ystod ymweliad i Ewrop

1920—Can Mlynedd Yn Ôl

1920—Can Mlynedd Yn Ôl

WRTH i ddegawd y 1920au wawrio, roedd pobl Jehofa yn llawn brwdfrydedd am y gwaith o’u blaenau nhw. Eu dewis am destun y flwyddyn ar gyfer 1920 oedd “Yr ARGLWYDD yw fy nerth a’m cân.”—Salm 118:14, Beibl Cysegr-lân.

Fe wnaeth Jehofa gryfhau’r pregethwyr brwd hynny. Yn ystod y flwyddyn honno, cynyddodd nifer y colporteurs, neu arloeswyr, o 225 i 350. Ac am y tro cyntaf, rhoddodd mwy nag 8,000 o weithwyr dosbarth, neu gyhoeddwyr, adroddiad o’u gweinidogaeth i’r pencadlys. Gwnaeth Jehofa eu bendithio ag ymateb rhagorol.

DANGOS SÊL RYFEDDOL

Ar Fawrth 21, 1920, siaradodd Joseph F. Rutherford, a oedd yn cymryd y blaen ymysg Myfyrwyr y Beibl ar y pryd, ar y pwnc “Miliynau’n Awr yn Fyw Ni Fyddant Feirw Byth.” Gwnaeth Myfyrwyr y Beibl bopeth yn eu gallu i wahodd rhai gyda diddordeb i wrando ar yr anerchiad hwn. Gwnaethon nhw logi un o theatrau mwyaf Efrog Newydd a dosbarthu tua 320,000 o wahoddiadau.

Hysbyseb mewn papur newydd ar gyfer yr anerchiad “Miliynau’n Awr yn Fyw Ni Fyddant Feirw Byth”

Roedd ymateb y cyhoedd y tu hwnt i bob disgwyl. Roedd y theatr dan ei sang gyda chynulleidfa o dros 5,000, ac roedd rhaid troi cymaint â 7,000 i ffwrdd. Dywedodd y Tŵr Gwylio am y digwyddiad “dyma un o’r cyfarfodydd mwyaf llwyddiannus a gynhaliwyd erioed gan Fyfyrwyr y Beibl.”

Daeth Myfyrwyr y Beibl yn adnabyddus am gyhoeddi “miliynau’n awr yn fyw ni fyddant feirw byth.” Ar y pryd, doedden nhw ddim yn deall bod rhaid i neges y Deyrnas gael ei chyhoeddi’n ehangach fyth. Ond, roedd eu sêl yn rhyfeddol. Dywedodd Ida Olmstead, a ddechreuodd fynychu cyfarfodydd ym 1902, “Roedden ni’n gwybod bod bendithion gwych yn disgwyl y ddynoliaeth gyfan, a ddaru ni erioed ddal yn ôl rhag sôn am y newyddion da wrth y rhai oedden ni’n eu cyfarfod yn y weinidogaeth.”

CYNHYRCHU EIN LLENYDDIAETH EIN HUNAIN

I sicrhau bod ’na gyflenwad digonol o fwyd ysbrydol, dechreuodd y brodyr yn y Bethel argraffu rhywfaint o’r llenyddiaeth eu hunain. Prynon nhw offer a’i osod mewn adeilad oedden nhw’n rhentu yn 35 Myrtle Avenue, Brooklyn, Efrog Newydd, ddim yn bell o’r Bethel.

Cychwynnodd Leo Pelle a Walter Kessler wasanaethu yn y Bethel yn Ionawr 1920. “Pan gyrhaeddon ni,” meddai Walter, “edrychodd arolygwr yr argraffdy arnon ni a dweud, ‘Mae gynnoch chi awr a hanner tan amser cinio.’ Gofynnodd inni ddod â bocsys llawn llyfrau i fyny o’r islawr.”

Adroddodd Leo hanes y diwrnod wedyn: “Cawson ni’r gwaith o lanhau’r waliau ar lawr gwaelod yr adeilad. Dyna oedd y jòb fwyaf budr ges i erioed. Ond oedden ni’n gwneud gwaith yr Arglwydd, ac oedd hynny’n ei wneud yn werth chweil.”

Y wasg a gafodd ei defnyddio i argraffu’r Tŵr Gwylio

O fewn ychydig wythnosau’n unig, roedd y Tŵr Gwylio yn cael ei argraffu gan weinidogion gwirfoddol selog. Cafodd chwe deg mil copi o rifyn Chwefror 1, 1920, y Tŵr Gwylio eu hargraffu ar y wasg ar y llawr cyntaf. Yn y cyfamser, roedd y brodyr yn gosod gwasg ar yr islawr roedden nhw’n ei galw’n Battleship. Gan gychwyn gyda rhifyn Ebrill 14, 1920, roedd The Golden Age hefyd yn cael ei gynhyrchu. Roedd hi’n amlwg bod Jehofa wedi bendithio ymdrechion y gweithwyr parod hynny.

“Oedden ni’n gwneud gwaith yr Arglwydd, ac oedd hynny’n ei wneud yn werth chweil”

“GADEWCH INNI FYW’N GYTÛN”

Roedd pobl ffyddlon Jehofa yn mwynhau gweithgarwch a chyfeillgarwch o’r newydd. Ond, roedd rhai Myfyrwyr y Beibl wedi gadael y gyfundrefn yn y cyfnod aflonydd rhwng 1917 a 1919. Beth fyddai’n eu helpu?

Roedd rhifyn Ebrill 1, 1920 y Tŵr Gwylio yn cynnwys yr erthygl “Gadewch Inni Fyw’n Gytûn.” Ynddi, roedd yr anogaeth gariadus: “Rydyn ni’n sicr . . . fod pawb sydd ag ysbryd yr Arglwydd . . . yn fodlon anghofio beth sydd y tu ôl, . . . a byw gyda’i gilydd yn gytûn a symud ymlaen fel un corff unedig.”

Gwnaeth llawer ymateb yn gadarnhaol i’r geiriau caredig hynny. Ysgrifennodd un cwpl priod: “Rydyn ni bellach o’r farn fod sefyll yn segur tra bod eraill yn gwneud y gwaith pregethu dros y flwyddyn a mwy ddiwethaf wedi bod yn gamgymeriad. . . . Ein gobaith yw na fyddwn ni byth eto’n mynd ar gyfeiliorn.” Roedd gan y gweithwyr hyn a ddaeth yn weithredol unwaith eto ddigon o waith o’u blaenau.

DOSBARTHU’R “ZG”

Ar Fehefin 21, 1920, dechreuodd Myfyrwyr y Beibl ymgyrch fawr i ddosbarthu’r “ZG,” argraffiad clawr meddal o The Finished Mystery. * Roedd nifer mawr o’r llyfrau hyn wedi cael eu storio pan gafodd y llyfr ei wahardd ym 1918.

Cafodd pawb, yr arloeswyr a’r cyhoeddwyr, eu gwahodd i rannu yn y gwaith dosbarthu. “Dylai pob person bedyddiedig, ym mhob cynulleidfa, sy’n gallu cymryd rhan wneud hynny o’i wirfodd. Gad i’r canlynol fod yn slogan i bob un ohonoch chi: ‘Un peth a wnaf’—dosbarthaf y ZG.” Dywedodd Edmund Hooper mai’r ymgyrch hon oedd y tro cyntaf i lawer fynd o ddrws i ddrws. Ychwanegodd, “Oedden ni’n dechrau cael blas ar y gwaith oedd am ehangu y tu hwnt i bob disgwyl.”

AILDREFNU’R GWAITH YN EWROP

Gan fod cyfathrebu â Myfyrwyr y Beibl mewn gwledydd eraill wedi bod yn anodd yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, roedd y Brawd Rutherford eisiau annog y brodyr hyn ac aildrefnu’r gwaith pregethu. Felly, ar Awst 12, 1920, cychwynnodd gyda phedwar brawd arall ar daith hir o gwmpas Prydain, Ewrop, a’r Dwyrain Canol.

Y Brawd Rutherford yn yr Aifft

Pan ymwelodd Rutherford â Phrydain, cynhaliodd Myfyrwyr y Beibl dair cynhadledd a 12 cyfarfod cyhoeddus. Amcangyfrif y presenoldeb cyfan oedd 50,000. Wrth grynhoi’r ymweliad, dywedodd y Tŵr Gwylio: “Cafodd y brodyr a chwiorydd eu hadfywio a’u hannog. Roedden nhw’n fwy unedig mewn cariad a gwasanaeth, ac roedd hynny’n codi eu calonnau.” Ym Mharis, siaradodd y Brawd Rutherford eto ar y pwnc “Miliynau’n Awr yn Fyw Ni Fyddant Feirw Byth.” Pan ddechreuodd y ddarlith, roedd y neuadd yn llawn dop. Gofynnodd tri chant o bobl am fwy o wybodaeth.

Poster yn hysbysebu’r ddarlith yn y Royal Albert Hall, Llundain

Yn yr wythnosau canlynol, aeth rhai brodyr i Athen, Cairo, a Jerwsalem. Er mwyn meithrin y diddordeb a gafwyd yn y llefydd hyn, agorodd y Brawd Rutherford ddepo llenyddiaeth yn nhref Ramallah, ger Jerwsalem. Yna aeth yn ôl i Ewrop, a sefydlu Swyddfa Canolbarth Ewrop, yn ogystal â threfnu i lenyddiaeth gael ei argraffu yno.

DATGELU ANGHYFIAWNDER

Yn hydref 1920, gwnaeth Myfyrwyr y Beibl ryddhau Rhif 27 The Golden Age, rhifyn arbennig a oedd yn datgelu’r erledigaeth yn erbyn Myfyrwyr y Beibl yn ystod 1918. Roedd y Battleship, a soniwyd amdani gynt, yn rhedeg ddydd a nos i gynhyrchu mwy na phedwar miliwn copi o’r cylchgrawn hwn.

Llun yr heddlu o Emma Martin

Dysgodd darllenwyr y cylchgrawn hwnnw am achos anghyffredin Emma Martin. Roedd y chwaer Emma yn arloesi yn San Bernardino, Califfornia. Ar Fawrth 17, 1918, aeth hi a thri brawd, E. Hamm, E. J. Sonnenburg, ac E. A. Stevens, i gyfarfod bychan Myfyrwyr y Beibl.

Ond nid pawb oedd yno i ddysgu am y Beibl. Fel y cyfaddefodd un dyn yn ddiweddarach: “Es i i’r cyfarfod hwnnw o dan gyfarwyddyd swyddfa’r Cyfreithiwr erlyn. Es i yno gyda’r bwriad o sicrhau tystiolaeth.” Daeth o hyd i’r “dystiolaeth” roedd yn chwilio amdani, sef copi o The Finished Mystery. Rai dyddiau wedyn, cafodd Chwaer Emma a’r tri brawd eu harestio. Cawson nhw eu cyhuddo o droseddu yn erbyn y Ddeddf Ysbïo drwy ddosbarthu copïau o’r llyfr gwaharddedig.

Cafwyd Emma a’i ffrindiau yn euog, a’u dedfrydu i dair blynedd yn y carchar. Ar Fai 17, 1920, wedi iddyn nhw ddefnyddio pob cyfle i apelio, cawson nhw eu hanfon i’r carchar. Ond yn fuan, newidiodd pethau er gwell.

Ar Fehefin 20, 1920, adroddodd y Brawd Rutherford eu profiad mewn cynhadledd yn San Francisco. Wedi eu dychryn o glywed sut cafodd y Cristnogion hyn eu trin, anfonodd y gynulleidfa delegram at arlywydd yr Unol Daleithiau. Ysgrifennon nhw: “Rydyn ni’n ystyried dedfryd . . . Mrs. Martin . . . o dan y Ddeddf Ysbïo yn anghyfiawn . . . Rydyn ni’n teimlo’n gryf fod y ffordd y defnyddiodd y swyddogion Ffederal eu hawdurdod i . . . osod magl . . . ar gyfer Mrs. Martin . . . a’i chyhuddo ar gam er mwyn ei hanfon i’r carchar . . . yn hollol warthus.”

Y diwrnod wedyn, rhoddodd yr Arlywydd Woodrow Wilson bardwn i’r Chwaer Emma a’r Brodyr Hamm, Sonnenburg, a Stevens. Roedd eu carchariad annheg drosodd.

Wrth i 1920 dynnu at ei therfyn, roedd gan Fyfyrwyr y Beibl lawer i fod yn hapus amdano. Parhaodd gwaith y pencadlys i dyfu, a chyhoeddodd gwir Gristnogion yn fwy nag erioed o’r blaen y byddai Teyrnas Dduw yn datrys holl broblemau dynolryw. (Math. 24:14) Byddai’r flwyddyn ganlynol, 1921, yn un well fyth ar gyfer cyhoeddi gwirionedd y Deyrnas.

^ Par. 18 The Finished Mystery oedd seithfed gyfrol Studies in the Scriptures. “ZG” oedd yr argraffiad clawr meddal, a gafodd ei argraffu fel rhifyn Mawrth 1, 1918, y Tŵr Gwylio. Roedd “Z” yn cyfeirio at Zion’s Watch Tower, ac roedd “G,” seithfed lythyren yr wyddor Saesneg, yn cyfeirio at y seithfed gyfrol.