Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

ERTHYGL ASTUDIO 44

A Fydd Dy Blant yn Tyfu Fyny i Wasanaethu Duw?

A Fydd Dy Blant yn Tyfu Fyny i Wasanaethu Duw?

“Tyfodd Iesu’n fachgen doeth a chryf. Roedd ffafr Duw arno, ac roedd pobl hefyd yn hoff iawn ohono.”—LUC 2:52.

CÂN 134 Ymddiriedolaeth gan Jehofa Yw Plant

CIPOLWG *

1. Beth yw’r dewis gorau gall unrhyw un ei wneud?

YN AML, mae’r dewisiadau y mae rhieni yn eu gwneud yn effeithio ar eu plant am amser hir. Os bydd rhieni yn gwneud dewisiadau gwael, gallan nhw achosi problemau i’w plant. Ond, os byddan nhw’n gwneud dewisiadau doeth, byddan nhw’n rhoi’r cyfle gorau i’w plant gael bywyd hapus a bodlon. Wrth gwrs, mae’n rhaid i blant hefyd wneud dewisiadau da. Y dewis gorau gall unrhyw un ei wneud ydy gwasanaethu ein Tad nefol cariadus, Jehofa.—Salm 73:28.

2. Pa ddewisiadau da wnaeth Iesu a’i rieni?

2 Roedd rhieni Iesu yn benderfynol o helpu eu plant i wasanaethu Jehofa, ac roedd eu dewisiadau yn profi mai dyna oedd y peth pwysicaf yn eu bywydau nhw. (Luc 2:40, 41, 52) Gwnaeth Iesu hefyd benderfyniadau da a’i helpodd i gyflawni’r hyn roedd Jehofa eisiau iddo ei wneud. (Math. 4:1-10) Tyfodd Iesu fyny i fod yn ddyn caredig, ffyddlon, a dewr—mab a fyddai’n gwneud calon unrhyw riant sy’n caru Jehofa yn llawen ac yn falch.

3. Pa gwestiynau byddwn ni’n eu hateb yn yr erthygl hon?

3 Yn yr erthygl hon, byddwn ni’n ystyried y cwestiynau canlynol: Pa ddewisiadau da a wnaeth Jehofa ynglŷn â Iesu? Beth gall rhieni Cristnogol ei ddysgu o ddewisiadau Mair a Joseff? Beth gall Cristnogion ifanc ei ddysgu o ddewisiadau Iesu?

DYSGA ODDI WRTH JEHOFA

4. Pa ddewis pwysig wnaeth Jehofa ynglŷn â’i Fab?

4 Dewisodd Jehofa rieni ardderchog ar gyfer Iesu. (Math. 1:18-23; Luc 1:26-38) Mae geiriau diffuant Mair yn y Beibl yn datgelu ei chariad dwfn tuag at Jehofa a’i Air. (Luc 1:46-55) Ac mae’r ffordd y gwnaeth Joseff ymateb i arweiniad Jehofa yn dangos ei fod yn caru Duw ac eisiau ei blesio.—Math. 1:24.

5-6. Beth adawodd Jehofa i’w Fab ei brofi?

5 Sylwa na ddewisodd Jehofa rieni cyfoethog ar gyfer Iesu. Mae’r aberth a offrymodd Joseff a Mair ar ôl genedigaeth Iesu yn dangos eu bod nhw’n dlawd. (Luc 2:24) Mae’n bosib fod gan Joseff siop fach ger ei gartref yn Nasareth lle gweithiodd fel saer coed. Mae’n rhaid fod eu ffordd o fyw yn un syml, yn enwedig pan dyfodd y teulu i gynnwys o leiaf saith o blant.—Math. 13:55, 56.

6 Amddiffynnodd Jehofa Iesu rhag rhai peryglon, ond nid rhag pob her. (Math. 2:13-15) Er enghraifft, roedd gan Iesu berthnasau nad oedd yn credu ynddo. Dychmyga’r siom pan wrthododd aelodau o’i deulu ei hun gredu ar y cychwyn mai ef oedd y Meseia. (Marc 3:21; Ioan 7:5) Hefyd, mae’n debyg fod Iesu wedi gorfod ymdopi â marwolaeth Joseff, ei dad mabwysiadol. Efallai fod hynny wedi golygu bod rhaid i Iesu, y mab hynaf, gymryd drosodd busnes y teulu. (Marc 6:3) Wrth iddo dyfu, dysgodd Iesu sut i ofalu am ei deulu. Mae’n rhaid ei fod wedi gorfod gweithio’n galed i’w cynnal. Felly, roedd yn gwybod o’i brofiad ei hun beth oedd blino ar ôl diwrnod o waith.

Rieni, paratowch eich plant ar gyfer realiti bywyd drwy eu dysgu nhw sut i droi at Air Duw am gyngor (Gweler paragraff 7) *

7. (a) Pa gwestiynau bydd yn helpu cyplau priod i fagu eu plant? (b) Sut gall Diarhebion 2:1-6 helpu rhieni i hyfforddi eu plant?

7 Os ydych chi’n gwpl priod ac yn dymuno cael plant, gofynnwch i chi’ch hunain: ‘Ydyn ni’n bobl ysbrydol a gostyngedig; y math o bobl y byddai Jehofa’n dewis i ofalu am fywyd newydd gwerthfawr?’ (Salm 127:3, 4) Os wyt ti’n rhiant yn barod, gofynna i ti dy hun: ‘Ydw i’n dysgu fy mhlant bod gweithio’n galed yn beth da?’ (Preg. 3:12, 13, BCND) ‘Ydw i’n gwneud fy ngorau i amddiffyn fy mhlant rhag y peryglon corfforol a moesol maen nhw’n debyg o ddod ar eu traws ym myd Satan?’ (Diar. 22:3) Elli di ddim amddiffyn dy blant rhag pob her. Mae hynny’n amhosib. Ond, gelli di eu paratoi nhw ar gyfer problemau bywyd drwy barhau i’w dysgu mewn ffordd gariadus sut i ddibynnu ar Air Duw am gyngor. (Darllen Diarhebion 2:1-6.) Er enghraifft, os bydd perthynas yn dewis cefnu ar wir addoliad, helpa dy blant i ddysgu o Air Duw pam mae hi mor bwysig aros yn ffyddlon i Jehofa. (Salm 31:23) Neu, os bydd anwylyn yn marw, dangosa adnodau o’r Beibl i dy blant a fydd yn eu helpu i ymdopi â galar a chael heddwch.—2 Cor. 1:3, 4; 2 Tim. 3:16.

DYSGA ODDI WRTH JOSEFF A MAIR

8. Yn ôl Deuteronomium 6:6, 7, beth roedd rhaid i Joseff a Mair ei wneud?

8 Helpodd rhieni Iesu iddo dyfu fyny i fod yn oedolyn a oedd yn plesio Duw; roedden nhw’n dilyn cyfarwyddiadau Jehofa ar gyfer rhieni. (Darllen Deuteronomium 6:6, 7.) Roedd Joseff a Mair yn caru Jehofa o waelod eu calonnau, a’u blaenoriaeth oedd annog eu plant i feithrin yr un fath o gariad.

9. Pa benderfyniadau pwysig a wnaeth Joseff a Mair?

9 Penderfynodd Joseff a Mair gadw rwtîn ysbrydol da fel teulu. Heb os, aethon nhw i’r cyfarfodydd wythnosol yn synagog Nasareth, yn ogystal â’r Pasg blynyddol yn Jerwsalem. (Luc 2:41; 4:16) Hwyrach eu bod nhw wedi defnyddio’r teithiau teuluol hynny i Jerwsalem i ddysgu eu plant am hanes pobl Jehofa, gan efallai ymweld â llefydd sy’n cael eu henwi yn yr Ysgrythurau. Wrth i’w teulu nhw dyfu, mae’n rhaid ei bod hi’n anodd i Joseff a Mair gadw rwtîn ysbrydol da. Ond yn sicr, cawson nhw eu bendithio am wneud hynny! Am eu bod nhw’n rhoi addoliad Jehofa yn gyntaf, roedd eu teulu yn ffynnu’n ysbrydol.

10. Pa wersi gall rhieni Cristnogol eu dysgu oddi wrth Joseff a Mair?

10 Beth gall rhieni Cristnogol ei ddysgu oddi wrth Joseff a Mair? Yn bwysicaf oll, dangoswch i’ch plant drwy air a gweithred eich bod yn caru Jehofa yn fawr iawn. Yr anrheg orau gallwch chi ei rhoi iddyn nhw yw’r cyfle i garu Jehofa. Ac un o’r gwersi mwyaf gwerthfawr y gallwch chi ei dysgu iddyn nhw yw sut i gadw rwtîn ysbrydol da sy’n cynnwys astudio, gweddïo, mynychu cyfarfodydd, a rhannu yn y weinidogaeth. (1 Tim. 6:6) Wrth gwrs, mae’n rhaid ichi roi i’ch plant y pethau materol sydd eu hangen arnyn nhw. (1 Tim. 5:8) Ond cofiwch mai perthynas glòs eich plant â Jehofa, yn hytrach na’u pethau materol, fydd yn eu helpu nhw i oroesi diwedd yr hen system hon a chyrraedd byd newydd Duw. *Esec. 7:19; 1 Tim. 4:8.

Mae hi’n galonogol i weld rhieni Cristnogol yn gwneud penderfyniadau ysbrydol dros eu teuluoedd! (Gweler paragraff 11) *

11. (a) Sut bydd y cyngor a gawn yn 1 Timotheus 6:17-19 yn helpu rhieni i wneud penderfyniadau da wrth fagu eu plant? (b) Pa bethau allwch chi fel teulu eu hystyried fel nod, a pha fendithion allai ddod o hynny? (Gweler y blwch “ Pa Bethau Fyddwch Chi’n Anelu Atyn Nhw?”)

11 Mae’n codi calon rhywun i weld cymaint o rieni Cristnogol yn gwneud penderfyniadau da dros eu teuluoedd! Maen nhw’n addoli gyda’i gilydd yn rheolaidd. Maen nhw’n mynd i’r cyfarfodydd a’r cynadleddau. Ac maen nhw’n cael rhan yn y weinidogaeth. Mae rhai teuluoedd hyd yn oed yn gallu pregethu mewn tiriogaeth sydd ddim yn cael ei gweithio’n aml. Mae eraill yn ymweld â Bethel neu’n cefnogi prosiectau adeiladu theocrataidd. Os ydy teulu yn dewis gwneud y pethau hyn, maen nhw’n deall ei bod yn gofyn am aberth ariannol, a byddan nhw’n debygol o wynebu heriau. Ond bydd y bendithion a gân nhw yn eu gwneud yn ysbrydol gyfoethog. (Darllen 1 Timotheus 6:17-19.) Yn aml, mae plant sydd wedi cael eu magu mewn teulu o’r fath yn glynu wrth yr arferion da maen nhw wedi eu dysgu, ac maen nhw’n hapus fod eu rhieni wedi eu magu nhw fel hyn. *Diar. 10:22, BCND.

DYSGA ODDI WRTH IESU

12. Beth roedd Iesu’n gorfod ei wneud wrth dyfu fyny?

12 Mae Tad nefol Iesu wastad yn gwneud penderfyniadau da, ac roedd ei rieni ar y ddaear hefyd yn gwneud penderfyniadau doeth. Ond, wrth i Iesu dyfu fyny, roedd rhaid iddo wneud ei benderfyniadau ei hun. (Gal. 6:5) Fel ninnau, roedd ganddo ewyllys rhydd. Gallai fod wedi dewis bod yn hunanol a pheidio â gwneud ewyllys Duw. Ond yn hytrach, dewisodd gadw perthynas dda â Jehofa. (Ioan 8:29) Sut gall ei esiampl helpu rhai ifanc heddiw?

Bobl ifanc, peidiwch byth â gwrthod arweiniad eich rhieni (Gweler paragraff 13) *

13. Pa benderfyniad pwysig wnaeth Iesu tra oedd yn dal yn ifanc?

13 Pan oedd Iesu’n ifanc, dewisodd ufuddhau i’w rieni. Wnaeth ef erioed wrthod arweiniad ei rieni, gan feddwl ei fod yn gwybod yn well na nhw. Yn hytrach, arhosodd yn “ufudd iddyn nhw.” (Luc 2:51) Heb os, cymerodd Iesu ei gyfrifoldeb fel y mab hynaf o ddifri. Gweithiodd yn galed i ddysgu crefft gan ei dad mabwysiadol fel y gallai helpu i gynnal ei deulu.

14. Sut rydyn ni’n gwybod bod Iesu’n fyfyriwr da o Air Duw?

14 Mae’n debyg fod rhieni Iesu wedi dweud wrtho am ei enedigaeth wyrthiol a’r hyn a ddywedodd negeswyr Duw amdano. (Luc 2:8-19, 25-38) Man cychwyn oedd hyn; roedd Iesu hefyd yn astudio’r Ysgrythurau drosto’i hun. Sut rydyn ni’n gwybod bod Iesu’n fyfyriwr da o Air Duw? Oherwydd tra oedd yn dal yn fachgen, roedd athrawon Jerwsalem “yn rhyfeddu gymaint roedd yn ei ddeall.” (Luc 2:46, 47) A phan roedd yn 12 oed, roedd Iesu eisoes wedi profi mai Jehofa oedd ei Dad.—Luc 2:42, 43, 49.

15. Sut dangosodd Iesu ei fod wedi dewis gwneud ewyllys Jehofa?

15 Wrth i Iesu ddysgu am ei rôl ym mhwrpas Jehofa, penderfynodd dderbyn ei aseiniad. (Ioan 6:38) Gwyddai y byddai llawer yn ei gasáu. Ond, er bod hynny’n beth mawr iddo ystyried, dewisodd wneud ewyllys Jehofa. Pan gafodd Iesu ei fedyddio yn 29 OG, y peth pwysicaf yn ei fywyd oedd gwneud yr hyn roedd Jehofa yn gofyn ganddo. (Heb. 10:5-7) Hyd yn oed pan oedd yn marw ar y pren, roedd yn gwbl benderfynol o wneud ewyllys ei Dad.—Ioan 19:30.

16. Beth yw un wers gall plant ei dysgu oddi wrth Iesu?

16 Ufuddha i dy rieni. Fel Joseff a Mair, dydy dy rieni ddim yn berffaith. Ond, maen nhw wedi cael aseiniad gan Jehofa i dy amddiffyn, dy hyfforddi, a dy arwain di. Os byddi di’n gwerthfawrogi eu cyngor, ac yn parchu eu hawdurdod, “bydd pethau’n mynd yn dda i ti.”—Eff. 6:1-4.

17. Yn ôl Josua 24:15, pa benderfyniad sy’n rhaid i rai ifanc ei wneud drostyn nhw eu hunain?

17 Penderfyna pwy fyddi di’n ei wasanaethu. Mae’n rhaid iti brofi i ti dy hun pwy ydy Jehofa, beth mae ei bwrpas yn ei gynnwys, a sut mae ei ewyllys yn berthnasol yn dy fywyd di. (Rhuf. 12:2) Yna, byddi di’n gallu gwneud penderfyniad pwysicaf dy fywyd, sef y penderfyniad i wasanaethu Jehofa. (Darllen Josua 24:15; Preg. 12:1) Os byddi di’n darllen ac yn astudio’r Beibl yn rheolaidd, bydd dy gariad tuag at Jehofa yn parhau i dyfu a bydd dy ffydd ynddo yn cryfhau.

18. Pa benderfyniad sy’n rhaid i rai ifanc ei wneud, a beth fydd y canlyniad o wneud hynny?

18 Penderfyna roi ewyllys Jehofa’n gyntaf yn dy fywyd. Mae byd Satan yn addo y bydd defnyddio dy ddoniau er dy les dy hun yn dy wneud di’n hapus. Ond y gwir amdani yw, mae’r rhai sy’n canolbwyntio ar bethau materol yn “achosi pob math o loes a galar iddyn nhw eu hunain.” (1 Tim. 6:9, 10) Ar y llaw arall, os byddi di’n gwrando ar Jehofa ac yn rhoi ei ewyllys ef yn gyntaf yn dy fywyd, byddi di’n gwneud penderfyniadau doeth ac yn llwyddo yn dy fywyd.—Jos. 1:8.

BETH FYDD DY DDEWIS DI?

19. Beth sydd rhaid i rieni ei gofio?

19 Rieni, gwnewch eich gorau i helpu’ch teulu i wasanaethu Jehofa. Dibynnwch arno, ac fe fydd yn eich helpu i wneud penderfyniadau doeth. (Diar. 3:5, 6) Cofiwch, bydd yr hyn rydych chi’n ei wneud yn creu mwy o argraff ar eich plant na’r hyn rydych chi’n ei ddweud. Felly, gwnewch benderfyniadau a fydd yn helpu’ch plant i blesio Jehofa.

20. Pa fendithion bydd pobl ifanc yn eu cael o ddewis gwasanaethu Jehofa?

20 Os wyt ti’n ifanc, gall dy rieni dy helpu di i wneud penderfyniadau doeth mewn bywyd. Ond, mae hi i fyny i ti i ennill ffafr Duw. Felly, efelycha Iesu a dewis gwasanaethu dy Dad nefol cariadus. Os gwnei di hyn, bydd gen ti fywyd prysur, ystyrlon, a chyffrous nawr. (1 Tim. 4:16) Ac yn y dyfodol, byddi di’n mwynhau’r bywyd gorau posib!

CÂN 133 Addolwch Jehofa Chi Bobl Ifanc

^ Par. 5 Mae rhieni Cristnogol eisiau i’w plant dyfu fyny i wasanaethu Jehofa’n hapus. Pa ddewisiadau gall rhieni eu gwneud i helpu eu plant i gyrraedd y nod hwnnw? Pa ddewisiadau mae Cristnogion ifanc angen eu gwneud i gael gwir lwyddiant mewn bywyd? Bydd yr erthygl hon yn ateb y cwestiynau hynny.

^ Par. 11 Gweler y blwch “I Couldn’t Imagine Having Better Parents” yn rhifyn Hydref 2011 y Deffrwch! Saesneg, t. 20, a’r erthygl “A Special Letter to Their Parents” yn rhifyn Mawrth 8, 1999 y Deffrwch! Saesneg, t. 25.

^ Par. 66 DISGRIFIADAU O’R LLUNIAU: Mae’n rhaid fod Mair wedi dysgu’r Iesu ifanc i garu Jehofa’n fawr iawn. Yn yr un modd, gall mamau heddiw ddysgu eu plant i garu Jehofa.

^ Par. 68 DISGRIFIADAU O’R LLUNIAU: Mae’n rhaid fod Joseff wedi trysori mynd i’r synagog gyda’i deulu. Gall tadau heddiw drysori mynd i’r cyfarfodydd gyda’u teuluoedd.

^ Par. 70 DISGRIFIADAU O’R LLUNIAU: Dysgodd Iesu sgiliau ymarferol gan ei dad. Gall pobl ifanc heddiw ddysgu sgiliau gan eu tadau.