Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

ERTHYGL ASTUDIO 43

Mae Jehofa’n Arwain Ei Gyfundrefn

Mae Jehofa’n Arwain Ei Gyfundrefn

“‘Nid grym na chryfder sy’n llwyddo, ond fy Ysbryd i.’ Ie, dyna mae’r ARGLWYDD holl-bwerus yn ei ddweud.”—SECH. 4:6.

CÂN 40 I Bwy Rydyn Ni’n Perthyn?

CIPOLWG *

1. Beth mae’n rhaid i Gristnogion bedyddiedig ddal ati i’w wneud?

WYT ti wedi cael dy fedyddio? Os felly, rwyt ti wedi dangos yn gyhoeddus fod gen ti ffydd yn Jehofa a dy fod ti’n barod i wasanaethu gyda’i gyfundrefn. * Wrth gwrs, mae’n rhaid i dy ffydd yn Jehofa barhau i dyfu. Ac rwyt ti angen atgyfnerthu dy ffydd yn y ffaith fod Jehofa yn defnyddio ei gyfundrefn i gyflawni ei bwrpas heddiw.

2-3. Sut mae Jehofa yn arwain ei gyfundrefn heddiw? Rho enghreifftiau.

2 Heddiw, mae Jehofa yn arwain ei gyfundrefn mewn ffordd sy’n adlewyrchu ei bersonoliaeth, ei fwriad, a’i safonau. Gad inni ystyried tair o rinweddau Jehofa sy’n cael eu hadlewyrchu yn ei gyfundrefn.

3 Yn gyntaf, dydy “Duw ddim yn dangos ffafriaeth!” (Act. 10:34) Cariad a ysgogodd Jehofa i roi ei Fab yn “bridwerth dros bawb.” (1 Tim. 2:6, BCND; Ioan 3:16) Mae Jehofa yn defnyddio ei bobl i bregethu’r newyddion da i bawb sy’n fodlon gwrando, a thrwy hynny yn helpu gymaint â phosib i elwa ar y pridwerth. Yn ail, mae Jehofa yn Dduw trefnus a heddychlon. (1 Cor. 14:33, 40) Felly, dylen ni ddisgwyl y byddai ei addolwyr yn ei addoli fel grŵp trefnus a heddychlon. Yn drydydd, Jehofa yw’r Addysgwr Mawr. (Esei. 30:20, 21) Felly, mae ei gyfundrefn yn canolbwyntio ar ddysgu eraill am ei Air ysbrydoledig, yn y gynulleidfa ac yn y weinidogaeth gyhoeddus. Sut gwnaeth y gynulleidfa Gristnogol gynnar efelychu’r tair rhinwedd hon? Sut mae pobl Jehofa yn efelychu’r rhinweddau hyn yn ein hamser ni? A sut gall ysbryd glân dy helpu di wrth iti wasanaethu gyda chyfundrefn Jehofa heddiw?

DYDY DUW DDIM YN DANGOS FFAFRIAETH

4. Beth gorchmynnodd Iesu i’w ddilynwyr ei wneud yn Actau 1:8, a pha help bydden nhw’n ei gael?

4 Yn y ganrif gyntaf. Rhoddodd y neges a bregethodd Iesu obaith i’r holl ddynolryw. (Luc 4:43) Gorchmynnodd ei ddilynwyr i barhau â’r gwaith a ddechreuodd, sef tystiolaethu “drwy’r byd i gyd.” (Darllen Actau 1:8.) Wrth gwrs, allen nhw ddim gwneud y gwaith yn eu nerth eu hunain. Bydden nhw angen yr ysbryd glân—yr helpwr roedd Iesu’n ei addo.—Ioan 14:26; Sech. 4:6.

5-6. Ym mha ffyrdd gwnaeth yr ysbryd glân helpu dilynwyr Iesu?

5 Ym Mhentecost 33 OG cafodd dilynwyr Iesu’r ysbryd glân. Gyda help yr ysbryd hwnnw, dechreuon nhw bregethu ar unwaith, ac o fewn cyfnod byr, derbyniodd miloedd y newyddion da. (Act. 2:41; 4:4) Pan gododd gwrthwynebiad yn eu herbyn, wnaeth y disgyblion ddim ildio i ofn, ond yn hytrach, gwnaethon nhw droi at Dduw am help. Gweddïon nhw: “Rho’r gallu i dy weision i gyhoeddi dy neges di yn gwbl ddi-ofn.” Yna, cawson nhw eu llenwi ag ysbryd glân a dalion nhw ati i ‘gyhoeddi neges Duw yn gwbl ddi-ofn.’—Act. 4:18-20, 29, 31.

6 Wynebodd disgyblion Iesu heriau eraill hefyd. Er enghraifft, roedd copïau o’r Ysgrythurau yn brin. Doedd ’na ddim adnoddau astudio fel sydd gynnon ni heddiw. Ac roedd rhaid i’r disgyblion bregethu i bobl oedd yn siarad llawer o wahanol ieithoedd. Er gwaethaf yr holl heriau, fe lwyddodd y disgyblion selog hynny i wneud yr hyn oedd yn ymddangos yn amhosib—o fewn ychydig ddegawdau yn unig, roedden nhw wedi pregethu’r newyddion da “drwy’r byd i gyd.”—Col. 1:6, 23.

7. Dros ganrif yn ôl, sut gwyddai gweision Jehofa beth yr oedd yn ei ofyn ganddyn nhw, a sut gwnaethon nhw ymateb?

7 Yn yr oes fodern. Mae Jehofa yn parhau i arwain ei bobl a’u hatgyfnerthu. Wrth gwrs, mae’r arweiniad hwnnw’n dod yn bennaf drwy’r Beibl a gafodd ei ysgrifennu gyda help yr ysbryd glân. Yno cawn gofnod o weinidogaeth Iesu a’i orchymyn i’w ddilynwyr barhau â’r gwaith a gychwynnodd. (Math. 28:19, 20) Mor bell yn ôl â Gorffennaf 1881, dywedodd y cylchgrawn hwn: “Ni chawson ni ein galw, na’n heneinio i dderbyn anrhydedd a chasglu cyfoeth ond i ddefnyddio popeth sydd gynnon ni i bregethu y newyddion da.” Dywedodd y llyfryn To Whom the Work Is Entrusted, a gyhoeddwyd ym 1919: “Mae’r gwaith yn ymddangos yn aruthrol o fawr, ond gwaith yr Arglwydd ydyw, ac yn ei nerth ef byddwn yn ei gyflawni.” Ie, fel y Cristnogion cynnar, roedd y brodyr hyn yn ddewr ac yn gweithio’n galed iawn, am eu bod nhw’n hollol sicr y byddai’r ysbryd glân yn eu helpu nhw i bregethu i bob math o bobl. Mae gynnon ni’r un hyder heddiw.

Mae cyfundrefn Jehofa wedi defnyddio’r adnoddau gorau sydd ar gael i ledaenu’r newyddion da (Gweler paragraffau 8-9)

8-9. Pa ddulliau mae cyfundrefn Jehofa wedi eu defnyddio i ledaenu’r newyddion da?

8 Mae cyfundrefn Jehofa wedi defnyddio’r adnoddau gorau sydd ar gael i ledaenu’r newyddion da. Ymhlith yr adnoddau sydd wedi cael eu defnyddio y mae cyhoeddiadau printiedig, y “Photo-Drama of Creation,” ffonograffau, ceir sain, darllediadau radio, ac yn fwy diweddar, technoleg ddigidol. Mae cyfundrefn Duw hefyd yn brysur yn y gwaith cyfieithu mwyaf erioed! Pam? Er mwyn i bob math o bobl gael clywed y newyddion da yn eu mamiaith. Dydy Jehofa ddim yn dangos ffafriaeth; rhagfynegodd y byddai’r newyddion da yn cael ei gyhoeddi “i bobl o bob cenedl, llwyth, iaith, a hil.” (Dat. 14 :6, 7 ) Mae’n dymuno i neges y Deyrnas fod ar gael i bawb.

9 Beth am y rhai sydd yn anodd eu cyrraedd, efallai oherwydd systemau diogelwch neu giatiau wedi eu cloi? Gyda’r nod o gyrraedd mwy o’r bobl hynny, cafodd cyfundrefn Jehofa ei sbarduno i ystyried gwahanol fathau o dystiolaethu cyhoeddus. Er enghraifft, yn 2001, cymeradwyodd y Corff Llywodraethol y defnydd o drolïau llenyddiaeth ac arddangosfeydd eraill yn Ffrainc, a hwyrach ymlaen mewn llefydd eraill hefyd. Roedd y canlyniadau yn bositif. Yn 2011 cychwynnodd rhaglen arbrofol yn yr Unol Daleithiau yn un o ardaloedd prysuraf Efrog Newydd. Yn ystod y flwyddyn gyntaf, cafodd 102,129 o lyfrau a 68,911 o gylchgronau eu gosod. A gofynnodd 4,701 o bobl am astudiaeth Feiblaidd! Yn amlwg, roedd yr ysbryd glân yn cefnogi’r gwaith. Felly, cymeradwyodd y Corff Llywodraethol y defnydd o drolïau ac arddangosfeydd llenyddiaeth eraill ar draws y byd.

10. Beth gallwn ni ei wneud i wella ein gweinidogaeth?

10 Beth gelli di ei wneud. Manteisia’n llawn ar yr hyfforddiant mae Jehofa yn ei ddarparu yn y cyfarfodydd. Pregetha’n rheolaidd gyda dy grŵp gweinidogaeth. Gall y brodyr a chwiorydd yn dy grŵp dy helpu i wella dy sgiliau pregethu a dysgu, a dy annog drwy eu hesiampl dda. Dal ati yn y weinidogaeth. Fel mae ein prif adnod yn ein hatgoffa, rydyn ni’n cyflawni ewyllys Duw, nid yn ein nerth ein hunain, ond drwy ysbryd glân. (Sech. 4:6) Wedi’r cwbl, rydyn ni’n gwneud gwaith Duw.

MAE JEHOFA’N DDUW TREFNUS A HEDDYCHLON

11. Sut gwnaeth corff llywodraethol y ganrif gyntaf weithio gyda’i gilydd i gadw trefn ymhlith pobl Dduw?

11 Yn y ganrif gyntaf. Roedd y corff llywodraethol yn Jerwsalem yn gweithio’n unedig i gadw trefn a heddwch ymhlith pobl Dduw. (Act. 2:42) Er enghraifft, tua 49 OG, pan ddaeth y mater o enwaedu yn bwnc dadl, gwnaeth y corff llywodraethol ei ystyried o dan arweiniad yr ysbryd glân. Petasai’r gynulleidfa wedi aros yn rhanedig dros y mater, byddai hynny wedi amharu ar y gwaith pregethu. Er eu bod yn Iddewon, ni chafodd yr apostolion a’r henuriaid eu dylanwadu gan draddodiad Iddewig na’r rhai oedd yn ei hyrwyddo. Yn hytrach, gwnaethon nhw droi at Air Duw a gofyn am ei ysbryd glân i’w helpu i wneud y penderfyniad iawn. (Act. 15:1, 2, 5-20, 28) A’r canlyniad? Bendithiodd Jehofa eu penderfyniad, roedd ’na heddwch ac undod yn y gynulleidfa, a symudodd y gwaith pregethu yn ei flaen.—Act. 15:30, 31; 16:4, 5.

12. Beth sy’n dangos bod cyfundrefn Jehofa yn drefnus ac yn heddychlon heddiw?

12 Yn yr oes fodern. Mae cyfundrefn Jehofa wedi gweithio i gadw trefn a heddwch ymhlith pobl Jehofa. Mor bell yn ôl â Tachwedd 15, 1895, roedd gan Zion’s Watch Tower and Herald of Christ’s Presence erthygl o’r enw “Yn Weddus ac yn Drefnus,” yn seiliedig ar 1 Corinthiaid 14:40. Dywedodd yr erthygl: “Roedd gan yr apostolion lawer i ddweud wrth y gynulleidfa gynnar ynglŷn â threfn . . . Mae’n bwysig i ddal ati i ddilyn ‘y pethau cafodd eu hysgrifennu yn y gorffennol i’n dysgu ni.’” (Rhuf. 15:4) Ie, mae’r un awydd am drefn a heddwch a oedd yn amlwg ymhlith y Cristnogion cynnar yn amlwg yng nghyfundrefn Jehofa heddiw. Er enghraifft: Petaset ti’n mynd i Astudiaeth o’r Tŵr Gwylio mewn cynulleidfa arall—hyd yn oed mewn gwlad arall—byddet ti’n gwybod sut byddai’r astudiaeth yn cael ei chynnal a pha erthygl byddai’n cael ei thrafod. Byddet ti’n teimlo’n gartrefol ar unwaith! Beth arall ond ysbryd Duw all wneud y fath undod yn bosib?—Seff. 3:9.

13. Gan gofio Iago 3:17, pa gwestiynau dylen ni ofyn i’n hunain?

13 Beth gelli di ei wneud. Mae Jehofa eisiau i’w bobl “ddangos bod yr Ysbryd Glân wedi eich gwneud chi’n un, a’i fod yn eich clymu chi gyda’ch gilydd mewn heddwch.” (Eff. 4:1-3) Gofynna i ti dy hun: ‘Ydw i’n hyrwyddo heddwch yn y gynulleidfa? Ydw i’n ufudd i’r rhai sy’n arwain? Ydy eraill yn gallu dibynnu arna i, yn enwedig os oes gen i gyfrifoldebau yn y gynulleidfa? Ydw i’n brydlon, yn barod i helpu, ac yn awyddus i wasanaethu?’ (Darllen Iago 3:17.) Os gweli di le i wella, gweddïa am ysbryd glân. Y mwyaf rwyt ti’n caniatáu iddo fowldio dy bersonoliaeth a dy weithredoedd, y mwyaf bydd dy frodyr a chwiorydd yn dy garu ac yn dy werthfawrogi.

MAE JEHOFA YN RHOI ADDYSG AC ADNODDAU INNI

14. Yn ôl Colosiaid 1:9, 10, sut addysgodd Jehofa ei bobl yn y ganrif gyntaf?

14 Yn y ganrif gyntaf. Mae Jehofa wrth ei fodd yn addysgu ei bobl. (Salm 32:8) Mae’n dymuno inni ei adnabod, ei garu, a byw am byth fel plant annwyl iddo. Byddai hyn i gyd yn amhosib oni bai am yr addysg mae’n ei darparu. (Ioan 17:3) Defnyddiodd Jehofa gynulleidfa Gristnogol y ganrif gyntaf i addysgu ei bobl. (Darllen Colosiaid 1:9, 10.) Chwaraeodd yr ysbryd glân, sef yr “helpwr” a addawodd Iesu, rôl bwysig. (Ioan 14:16) Helpodd yr ysbryd glân y disgyblion i ddeall Gair Duw a chofio geiriau a gweithredoedd Iesu, pethau a gafodd eu cofnodi yn yr Efengylau yn hwyrach ymlaen. Gwnaeth y wybodaeth gryfhau ffydd y Cristnogion cynnar yn ogystal â’u cariad tuag at Dduw, ei Fab, a’i gilydd.

15. Ym mha ffyrdd rwyt ti wedi gweld Jehofa yn cyflawni ei addewid yn Eseia 2:2, 3?

15 Yn yr oes fodern. Rhagfynegodd Jehofa am y dyddiau diwethaf y byddai pobl o bob cenedl yn heidio i’w fynydd ffigurol i gael eu dysgu am ei ffyrdd. (Darllen Eseia 2:2, 3.) Gwelwn y broffwydoliaeth honno yn cael ei chyflawni heddiw. Gallwn weld bod gwir addoliad yn llawer uwch nag unrhyw fath o gau addoliad. A dyna ichi wledd ysbrydol mae Jehofa yn ei darparu! (Esei. 25:6) Drwy gyfrwng y gwas ffyddlon a chall, rydyn ni’n cael digonedd o fwyd ysbrydol ond hefyd amrywiaeth anhygoel ohono, o erthyglau ac anerchiadau i animeiddiadau a fideos digidol. (Math. 24:45) Rydyn ni’n teimlo’n debyg i Elihw, ffrind Job, a oedd yn llygad ei le pan ddywedodd: “Pwy sy’n athro tebyg [i Dduw]?”—Job 36:22.

Sicrha fod y gwir yn cyrraedd dy galon, a’i roi ar waith yn dy fywyd (Gweler paragraff 16) *

16. Beth gelli di ei wneud i dyfu yn ysbrydol?

16 Beth gelli di ei wneud. Bydd ysbryd Duw yn dy helpu i roi ar waith yr hyn rwyt ti’n ei ddarllen a’i astudio yng Ngair Duw. Gweddïa fel y gwnaeth y salmydd: “Dysga fi sut i fyw, O ARGLWYDD, i mi dy ddilyn di’n ffyddlon. Gwna fi’n benderfynol o dy addoli di’n iawn.” (Salm 86:11) Felly, dalia ati i ddarllen ac astudio’r bwyd ysbrydol mae Jehofa yn ei ddarparu drwy ei Air a’i gyfundrefn. Wrth gwrs, nid casglu gwybodaeth yn unig yw dy nod. Rwyt ti eisiau i’r gwir gyrraedd dy galon, a’i roi ar waith yn dy fywyd. Gall ysbryd Jehofa dy helpu i wneud hynny. Rwyt ti hefyd eisiau annog dy frodyr a chwiorydd. (Heb. 10:24, 25) Pam? Am eu bod nhw’n deulu ysbrydol iti. Gweddïa am ysbryd Duw i dy helpu di i ateb o’r galon yn y cyfarfodydd ac i wneud dy orau glas pan fydd gen ti ran yn y cyfarfod. Wrth wneud hyn, rwyt ti’n dangos i Jehofa a’i Fab dy fod ti’n caru eu ‘defaid’ gwerthfawr.—Ioan 21:15-17.

17. Sut gelli di ddangos dy fod ti’n cefnogi cyfundrefn Jehofa yn ffyddlon?

17 Cyn bo hir, yr unig gyfundrefn fydd ar ôl ar y ddaear bydd yr un sy’n cael ei harwain gan ysbryd Duw. Felly, gweithia’n selog gyda chyfundrefn Jehofa. Dangosa dy fod ti’n caru pob math o bobl fel y mae Duw drwy gyhoeddi’r newyddion da i bawb. Bydda yr un mor hoff o drefn a heddwch ag y mae Duw drwy hybu undod yn y gynulleidfa. A gwranda ar dy Addysgwr Mawr drwy fanteisio’n llawn ar y wledd ysbrydol mae’n ei darparu. Yna, pan fydd byd Satan yn dod at ei ddiwedd, fyddi di ddim yn ofni. Yn hytrach, byddi di’n sefyll yn hyderus ymysg y rhai sy’n gwasanaethu’n ffyddlon gyda chyfundrefn Jehofa.

CÂN 3 Ein Nerth, Ein Gobaith, Ein Hyder

^ Par. 5 A wyt ti’n hollol sicr fod Jehofa yn arwain ei gyfundrefn heddiw? Yn yr erthygl hon, byddwn ni’n ystyried sut arweiniodd Jehofa y gynulleidfa Gristnogol gynnar, a sut mae’n parhau i arwain ei bobl heddiw.

^ Par. 1 ESBONIAD: Mae gan gyfundrefn Jehofa ran nefol a rhan ddaearol. Yn yr erthygl hon, mae’r gair “cyfundrefn” yn cyfeirio at y rhan ddaearol.

^ Par. 52 DISGRIFIAD O’R LLUN: Ar ôl gwylio fideos a gweld eraill sy’n gwasanaethu mewn gwledydd lle mae’r angen yn fwy, mae arloeswraig yn cael ei chymell i ddilyn eu hesiampl. Yn y pen draw mae hi’n cyrraedd ei nod o wasanaethu mewn gwlad o’r fath.