Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

ERTHYGL ASTUDIO 42

Sut i Helpu Myfyriwr y Beibl i Gyrraedd Bedydd—Rhan Dau

Sut i Helpu Myfyriwr y Beibl i Gyrraedd Bedydd—Rhan Dau

“Cadw lygad ar sut rwyt ti’n byw a beth rwyt ti’n ei ddysgu.”—1 TIM. 4:16.

CÂN 77 Goleuni Mewn Byd Tywyll

CIPOLWG *

1. Sut rydyn ni’n gwybod bod y gwaith o wneud disgyblion yn waith sy’n achub bywydau?

MAE’R gwaith o wneud disgyblion yn waith sy’n achub bywydau! Sut rydyn ni’n gwybod? Pan roddodd Iesu’r gorchymyn yn Mathew 28:19, 20, dywedodd: “Ewch i wneud pobl . . . yn ddisgyblion i mi, a’u bedyddio nhw.” Beth rydyn ni’n ei wybod am bwysigrwydd bedydd? Mae’n rhaid inni gael ein bedyddio os ydyn ni eisiau cael ein hachub. Mae’n rhaid i rywun sydd eisiau cael ei fedyddio gredu bod bywyd tragwyddol ond yn bosib am fod Iesu wedi marw droston ni. Dyna pam dywedodd yr apostol Pedr wrth ei gyd-Gristnogion: “Mae . . . bedydd yn achub am fod Iesu, y Meseia, wedi ei godi yn ôl yn fyw.” (1 Pedr 3:21) Felly pan fydd disgybl newydd yn cael ei fedyddio, gall obeithio byw am byth.

2. Yn ôl 2 Timotheus 4:1, 2, sut fath o athrawon dylen ni fod?

2 Er mwyn gwneud disgyblion, mae’n rhaid inni ddatblygu ein sgiliau dysgu. (Darllen 2 Timotheus 4:1, 2.) Pam? Oherwydd gorchmynnodd Iesu: “Ewch i wneud pobl . . . yn ddisgyblion i mi.” Dywedodd yr apostol Paul y dylen ni ‘ddal ati’ yn y gwaith hwn, oherwydd “wedyn byddi’n gwneud yn siŵr dy fod ti dy hun a’r rhai sy’n gwrando arnat ti yn cael eu hachub.” Felly roedd ganddo reswm da dros ddweud: ‘Cadw lygad ar sut rwyt ti’n dysgu.’ (1 Tim. 4:16) A gan fod dysgu yn gysylltiedig â gwneud disgyblion, rydyn ni eisiau i’n dysgu fod o’r safon orau.

3. Yn yr erthygl hon, beth byddwn ni’n ei drafod ynglŷn â chynnal astudiaethau Beiblaidd?

3 Rydyn ni’n cynnal miliynau o astudiaethau Beiblaidd ar draws y byd. Ond fel dywedodd yr erthygl flaenorol, rydyn ni eisiau gwybod sut gallwn ni helpu mwy ohonyn nhw i ddod yn ddisgyblion bedyddiedig i Iesu Grist. Yn yr erthygl hon, byddwn ni’n trafod pum peth ychwanegol mae’n rhaid i bob athro ei wneud i helpu myfyriwr i weithio tuag at fedydd.

GAD I’R BEIBL WNEUD Y DYSGU

Gofynna i athro profiadol dy helpu i ddefnyddio’r Beibl yn fwy effeithiol (Gweler paragraffau 4-6) *

4. Pam mae’n rhaid i athro ddangos hunanreolaeth wrth gynnal astudiaeth Feiblaidd? (Gweler hefyd y troednodyn.)

4 Rydyn ni wrth ein boddau â’r hyn rydyn ni’n ei ddysgu o Air Duw. Felly mae ’na demtasiwn i siarad gormod am yr hyn rydyn ni mor hoff ohono. P’un a ydy rhywun yn arwain yr Astudiaeth o’r Tŵr Gwylio, Astudiaeth Feiblaidd y Gynulleidfa, neu astudiaeth Feiblaidd yn y cartref, ni ddylai’r arweinydd siarad gormod. Er mwyn gadael i’r Beibl wneud y dysgu, mae’n rhaid i’r athro ddangos hunanreolaeth, a pheidio â cheisio esbonio popeth mae’n ei wybod am ryw bwnc neu adnod o’r Beibl. * (Ioan 16:12) Meddylia faint roeddet ti’n ei wybod am y Beibl pan gest ti dy fedyddio, a chymaint mwy rwyt ti’n ei wybod nawr. Mae’n debyg mai dim ond pethau sylfaenol y Beibl oeddet ti’n eu deall bryd hynny. (Heb. 6:1) Mae wedi cymryd blynyddoedd iti ddysgu’r hyn rwyt ti’n ei wybod heddiw, felly paid â cheisio dysgu popeth ar unwaith i fyfyriwr newydd.

5. (a) Yn unol â 1 Thesaloniaid 2:13, beth rydyn ni eisiau i’n myfyriwr ddeall o’i astudiaeth? (b) Sut gallwn ni annog myfyriwr i siarad am yr hyn mae’n ei ddysgu?

5 Rydyn ni eisiau i’n myfyriwr ddeall bod yr hyn mae’n ei ddysgu yn dod o’r Beibl. (Darllen 1 Thesaloniaid 2:13.) Sut gallwn ni wneud hynny? Anoga’r myfyriwr i siarad am beth mae’n ei ddysgu. Yn hytrach nag esbonio adnodau’r Beibl i’r myfyriwr bob tro, gofynna iddo esbonio rhai ohonyn nhw i ti. Helpa’r myfyriwr i weld sut mae Gair Duw yn berthnasol iddo ef. Gofynna gwestiynau arweiniol a chwestiynau safbwynt a fydd yn ei helpu i fynegi ei farn a’i deimladau am yr adnodau mae’n eu darllen. (Luc 10:25-28) Er enghraifft, gofynna iddo: “Sut mae’r adnod hon wedi dy helpu i weld un o rinweddau Jehofa?” “Sut gall y pethau wyt ti newydd eu dysgu o’r Beibl dy helpu di?” “Sut wyt ti’n teimlo am beth wyt ti newydd ddysgu?” (Diar. 20:5) Nid faint mae myfyriwr yn ei wybod sy’n bwysig, ond i ba raddau mae’n gwerthfawrogi ac yn rhoi ar waith yr hyn mae’n ei wybod.

6. Pam gall mynd ag athro profiadol gyda ni ar astudiaeth Feiblaidd fod yn fuddiol?

6 Wrth gynnal astudiaeth Feiblaidd, a fyddi di’n mynd â chyhoeddwyr sy’n athrawon profiadol gyda ti weithiau? Os felly, gelli di ofyn eu barn am y ffordd rwyt ti’n cynnal yr astudiaeth a pha mor dda wyt ti am adael i’r Beibl wneud y dysgu. Mae’n rhaid iti fod yn ostyngedig os wyt ti am wella dy sgiliau dysgu. (Cymhara Actau 18:24-26.) Wedyn, gofynna i’r cyhoeddwr profiadol os ydy’r myfyriwr yn deall beth mae’n ei ddysgu. Gelli di hefyd ofyn i’r un cyhoeddwr gynnal yr astudiaeth drostot ti os byddi di i ffwrdd am wythnos neu fwy. Bydd hynny’n cadw’r astudiaeth yn rheolaidd ac yn pwysleisio i’r myfyriwr pa mor bwysig yw’r astudiaeth. Paid byth â meddwl mai “ti biau’r” astudiaeth a chaiff neb arall ei chynnal hi. Wedi’r cwbl, rwyt ti eisiau’r gorau i’r myfyriwr er mwyn iddo allu parhau i ddysgu mwy am y gwir.

DYSGA GYDA BRWDFRYDEDD AC ARGYHOEDDIAD

Rhanna brofiadau go iawn i helpu dy fyfyriwr i ddeall sut i roi egwyddorion y Beibl ar waith (Gweler paragraffau 7-9) *

7. Beth fydd yn helpu myfyriwr i weld bod yr hyn mae’n ei ddysgu yn gyffrous?

7 Mae myfyriwr angen gweld dy frwdfrydedd a dy fod ti wir yn credu’r hyn rwyt ti’n ei ddysgu. (1 Thes. 1:5) Yna, bydd ef ei hun yn fwy tebygol o weld bod yr hyn mae’n ei ddysgu yn gyffrous. Os yw’n briodol, dyweda wrtho sut mae’r Beibl wedi gwella dy fywyd di. Yna, bydd yn sylweddoli y gall y Beibl ei helpu yntau hefyd.

8. Beth arall gelli di ei wneud i helpu fy fyfyriwr, a beth yw’r fantais o wneud hynny?

8 Yn ystod yr astudiaeth Feiblaidd, sonia wrth dy fyfyriwr am rai a drechodd heriau tebyg i’w rai ef. Gallet ti ddod â rhywun o’r gynulleidfa ar yr astudiaeth, rhywun y bydd y myfyriwr yn elwa o’i esiampl. Neu gallet ti ffeindio profiadau calonogol ar jw.org yn y gyfres “Mae’r Beibl yn Newid Bywydau.” * Bydd erthyglau a fideos o’r fath yn helpu dy fyfyriwr i weld pa mor ddoeth ydy rhoi egwyddorion y Beibl ar waith yn ei fywyd.

9. Sut gelli di annog myfyriwr i rannu’r hyn mae’n ei ddysgu â’i deulu a’i ffrindiau?

9 Os yw’r myfyriwr yn briod, ydy ei gymar hefyd yn astudio? Os ddim, gofynna i’w gymar ymuno yn yr astudiaeth. Anoga dy fyfyriwr i rannu’r hyn mae’n ei ddysgu â’i deulu a’i ffrindiau. (Ioan 1:40-45) Sut? Gallet ti ofyn: “Sut fyset ti’n esbonio’r syniad hwn i dy deulu?” neu “Pa adnod fyset ti’n ddefnyddio i brofi hyn i ffrind?” Fel hyn, byddi di’n hyfforddi dy fyfyriwr i fod yn athro. Yna, pan fydd yn gymwys, gall ddechrau cael rhan yn y weinidogaeth fel cyhoeddwr difedydd. Gallet ti ofyn i’r myfyriwr os yw’n gwybod am rywun arall a fyddai’n hoffi astudio’r Beibl. Os oes ’na rywun, cysyllta â’r person hwnnw yn syth a chynnig astudiaeth iddo. Dangosa’r fideo Beth Sy’n Digwydd ar Astudiaeth Feiblaidd? * iddo.

ANOGA DY FYFYRIWR I WNEUD FFRINDIAU YN Y GYNULLEIDFA

Anoga’r myfyriwr i wneud ffrindiau yn y gynulleidfa (Gweler paragraffau 10-11) *

10. Yn ôl 1 Thesaloniaid 2:7, 8, sut gall athro efelychu esiampl Paul?

10 Mae’n rhaid i athrawon ddangos diddordeb personol a diffuant yn eu myfyrwyr. Cofia, gallen nhw fod yn frodyr a chwiorydd yn y gynulleidfa cyn bo hir. (Darllen 1 Thesaloniaid 2:7, 8.) Dydy hi ddim yn hawdd iddyn nhw stopio cymdeithasu gyda’u ffrindiau yn y byd a gwneud yr holl newidiadau angenrheidiol i wasanaethu Jehofa. Rydyn ni angen eu helpu nhw i wneud ffrindiau go iawn yn y gynulleidfa. Bydda’n ffrind i dy fyfyriwr drwy dreulio amser gydag ef, nid yn unig yn ystod yr astudiaeth, ond hefyd ar adegau eraill. Mae galwad ffôn, neges destun, neu ymweliad bach rhwng astudiaethau yn dangos dy fod ti’n ei garu.

11. Beth rydyn ni eisiau i’n myfyrwyr gael hyd iddo yn y gynulleidfa, a pham?

11 Maen nhw’n dweud: “Mae angen pentref cyfan i fagu plentyn.” Gallen ni ddweud: “Mae angen gynulleidfa i wneud disgybl.” Dyna pam bydd athrawon y Beibl effeithiol yn helpu eu myfyrwyr i ddod i adnabod eraill yn y gynulleidfa a all fod yn esiampl dda iddyn nhw. Wedyn, gall y myfyriwr mwynhau cymdeithasu gyda phobl Duw, a all rhoi cefnogaeth ysbrydol ac emosiynol iddyn nhw. Rydyn ni eisiau i bob myfyriwr deimlo ei fod yn perthyn i’n cynulleidfa ac yn rhan o’n teulu ysbrydol. Rydyn ni eisiau iddo gael ei ddenu gan ein brawdoliaeth Gristnogol gariadus a chynnes. Yna, bydd yn haws iddo stopio cymdeithasu’n agos gyda phobl sydd ddim yn ei helpu i garu Jehofa. (Diar. 13:20) Os bydd ei ffrindiau yn cefnu arno, bydd yn gwybod y gall gael hyd i ffrindiau go iawn yng nghyfundrefn Jehofa.—Marc 10:29, 30; 1 Pedr 4:4.

PWYSLEISIA’R NOD O YMGYSEGRIAD A BEDYDD

Fesul tipyn, gall myfyriwr y Beibl gyrraedd ei nod o gael ei fedyddio! (Gweler paragraffau 12-13)

12. Pam dylen ni siarad am ymgysegriad a bedydd â’n myfyriwr?

12 Siarada’n aml am ba mor bwysig ydy hi i rywun ymgysegru ei fywyd i Jehofa a chael ei fedyddio. Wedi’r cwbl, y rheswm rydyn ni’n cynnal astudiaeth yw i helpu’r person hwnnw i fod yn ddisgybl bedyddiedig. O fewn cwpl o fisoedd o gael astudiaeth Feiblaidd reolaidd, ac yn enwedig ar ôl iddo ddechrau dod i’r cyfarfodydd, dylai’r myfyriwr ddeall mai pwrpas yr astudiaeth yw ei helpu i ddechrau wasanaethu Jehofa fel un o’i Dystion.

13. Pa gamau bydd myfyriwr yn eu cymryd wrth iddo weithio tuag at fedydd?

13 Fesul tipyn, mae’n bosib i fyfyriwr y Beibl gyrraedd ei nod o gael ei fedyddio! Yn gyntaf, mae’r myfyriwr yn dod i adnabod Jehofa, ei garu, a rhoi ffydd ynddo. (Ioan 3:16; 17:3) Yna, bydd y myfyriwr yn ffurfio perthynas â Jehofa ac yn dechrau closio at y gynulleidfa. (Heb. 10:24, 25; Iago 4:8) Yn y pen draw, bydd y myfyriwr yn troi ei gefn ar arferion drwg ac yn edifarhau am ei bechodau. (Act. 3:19) Yn y cyfamser, mae ei ffydd yn ei gymell i rannu’r gwir ag eraill. (2 Cor. 4:13) Yna, bydd yn cysegru ei hun i Jehofa a symboleiddio ei ymgysegriad drwy gael ei fedyddio. (1 Pedr 3:21; 4:2) A dyna ichi ddiwrnod llawen i bawb! Wrth i’r myfyriwr gamu at ei nod, bydda’n hael yn dy ganmoliaeth a’i annog i ddal ati i wneud y pethau hyn.

ASESA GYNNYDD Y MYFYRIWR BOB HYN A HYN

14. Sut gall athro asesu cynnydd myfyriwr?

14 Mae’n rhaid inni fod yn amyneddgar wrth helpu myfyriwr i weithio tuag at ymgysegriad a bedydd. Ond fe ddaw amser pan fydd rhaid ffeindio allan os yw’n dymuno gwasanaethu Jehofa Dduw. Ydy’r myfyriwr yn dangos ei fod yn ceisio ufuddhau i orchmynion Iesu? Neu, a ydy ef ond eisiau dysgu ffeithiau o’r Beibl?

15. Pa arwyddion o gynnydd dylai athro edrych amdanyn nhw mewn myfyriwr?

15 Ystyria gynnydd y myfyriwr yn rheolaidd. Er enghraifft, ydy ef yn mynegi ei deimladau am Jehofa? Ydy ef yn gweddïo ar Jehofa? (Salm 116:1, 2) A yw’n mwynhau darllen y Beibl? (Salm 119:97) A yw’n mynd i’r cyfarfodydd yn rheolaidd? (Salm 22:22) A ydy ef wedi gwneud unrhyw newidiadau angenrheidiol yn ei ffordd o fyw? (Salm 119:112) Ydy ef wedi dechrau rhannu’r hyn mae’n ei ddysgu â’i deulu a’i ffrindiau? (Salm 9:1) Yn bwysicaf oll, ydy ef eisiau bod yn un o Dystion Jehofa? (Salm 40:8, BCND) Os nad yw’r myfyriwr yn gwneud cynnydd yn un o’r ffyrdd hyn, ceisia ddefnyddio tact a darganfod pam, ac yna trafoda’r mater yn gwbl agored ond yn garedig. *

16. Pryd dylet ti stopio astudio gyda rhywun?

16 Gofynna i ti dy hun o bryd i’w gilydd a ddylet ti barhau i astudio â’r unigolyn. Ystyria hyn: ‘A ydy’r myfyriwr yn paratoi ar gyfer ei astudiaeth? Ydy ef eisiau dod i’r cyfarfodydd? Ydy ef wedi cael gwared ar ei arferion drwg? Ydy ef wedi cefnu ar gau grefydd? Os mai ‘nac ydy’ yw’r ateb, byddai parhau i astudio ag ef fel ceisio rhoi gwersi nofio i rywun sydd ddim eisiau gwlychu! Os nad yw’r myfyriwr wir yn gwerthfawrogi’r hyn mae’n ei ddysgu, ac os nad yw’n fodlon gwneud newidiadau, pam parhau â’r astudiaeth?

17. Yn ôl 1 Timotheus 4:16, beth sydd rhaid i bob athro’r Beibl ei wneud?

17 Cymerwn ein cyfrifoldeb o wneud disgyblion o ddifri, ac rydyn ni eisiau helpu ein myfyrwyr y Beibl i weithio tuag at fedydd. Dyna pam byddwn ni’n gadael i’r Beibl wneud y dysgu, a byddwn ni’n dysgu eraill gyda brwdfrydedd ac argyhoeddiad. Byddwn ni’n annog y myfyriwr i wneud ffrindiau yn y gynulleidfa. A byddwn ni’n pwysleisio’r nod o ymgysegriad a bedydd, gan bwyso a mesur cynnydd y myfyriwr o bryd i’w gilydd. (Gweler y blwch  “Beth Sydd Rhaid i Athrawon ei Wneud i Arwain Myfyrwyr at Fedydd?”) Rydyn ni wrth ein boddau yn cael rhan yn y gwaith o achub bywydau! Gad inni fod yn benderfynol o wneud ein gorau glas i gynnal astudiaethau Beiblaidd sy’n arwain myfyrwyr at fedydd.

CÂN 79 Dysgu Eraill i Sefyll yn Gadarn

^ Par. 5 Pan fyddwn ni’n cynnal astudiaethau Beiblaidd, mae gynnon ni’r fraint o helpu pobl i ddysgu sut mae Jehofa eisiau iddyn nhw ddechrau meddwl, teimlo, ac ymddwyn. Bydd yr erthygl hon yn esbonio ymhellach sut gallwn ni wella ein sgiliau dysgu.

^ Par. 4 Gweler yr erthygl “Maglau i’w Hosgoi Wrth Gynnal Astudiaeth Feiblaidd” yn rhifyn Medi 2016 Gweithlyfr y Cyfarfodydd.

^ Par. 8 Dos i AMDANON NI > PROFIADAU.

^ Par. 9 Yn JW Library®, dos i CYFRYNGAU > EIN CYFARFODYDD A’N GWEINIDOGAETH > ADNODDAU AR GYFER Y WEINIDOGAETH.

^ Par. 15 Gweler yr erthyglau “Bydd Caru Jehofa a’i Werthfawrogi yn Dy Arwain at Fedydd” ac “A Wyt Ti’n Barod i Gael Dy Fedyddio?” yn rhifyn Mawrth 2020 y Tŵr Gwylio.

^ Par. 77 DISGRIFIADAU O’R LLUNIAU: Rywdro ar ôl yr astudiaeth Feiblaidd, mae chwaer brofiadol yn helpu’r un oedd yn cynnal yr astudiaeth i weld y fantais o beidio â siarad gormod yn ystod yr astudiaeth.

^ Par. 79 DISGRIFIADAU O’R LLUNIAU: Yn ystod yr astudiaeth, mae’r fyfyrwraig yn dysgu sut i fod yn wraig well. Yn hwyrach, mae hi’n rhannu’r hyn mae hi wedi ei ddysgu â’i gŵr.

^ Par. 81 DISGRIFIADAU O’R LLUNIAU: Mae’r fyfyrwraig a’i gŵr yn mwynhau cymdeithasu yng nghartref un o’i ffrindiau newydd o’r gynulleidfa.