Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

ERTHYGL ASTUDIO 41

Sut i Helpu Myfyriwr y Beibl i Gyrraedd Bedydd—Rhan Un

Sut i Helpu Myfyriwr y Beibl i Gyrraedd Bedydd—Rhan Un

“Yr ydych yn dangos yn eglur mai llythyr Crist ydych, llythyr a gyflwynwyd gennym ni.”—2 COR. 3:3, BCND.

CÂN 78 Dysgu Gair Duw i Eraill

CIPOLWG *

Mae’n rhoi dipyn o wefr i’r gynulleidfa i gyd pan fyddan nhw’n gweld myfyriwr y Beibl maen nhw wedi dod i’w garu yn cael ei fedyddio! (Gweler paragraff 1)

1. Sut mae 2 Corinthiaid 3:1-3 yn ein helpu i werthfawrogi’r fraint sydd gynnon ni o gynnal astudiaeth Feiblaidd sy’n arwain at fedydd? (Gweler y llun ar y clawr.)

SUT wyt ti’n teimlo wrth weld myfyriwr y Beibl o dy ardal di yn cael ei fedyddio? Heb os, mae’n dy wneud di’n hapus iawn. (Math. 28:19) Ac os mai ti a astudiodd gyda’r disgybl newydd, mae’n siŵr y byddi di wrth dy fodd yn ei weld yn cael ei fedyddio! (1 Thes. 2:19, 20) Mae disgyblion sydd newydd gael eu bedyddio yn “llythyrau cymeradwyaeth,” nid yn unig i’r rhai a astudiodd gyda nhw, ond hefyd i’r gynulleidfa gyfan.—Darllen 2 Corinthiaid 3:1-3, BCND.

2. (a) Pa gwestiwn pwysig sy’n rhaid inni ei ystyried, a pham? (b) Beth yw astudiaeth Feiblaidd? (Gweler y troednodyn.)

2 Mae hi’n hyfryd gweld bod 10,000,000 o astudiaethau Beiblaidd, * ar gyfartaledd, wedi eu cynnal bob mis dros y pedair blynedd ddiwethaf yn fyd-eang. Ac yn ystod y blynyddoedd hynny cafodd tua 280,000 eu bedyddio yn Dystion Jehofa a disgyblion newydd i Iesu Grist. Sut gallwn ni helpu mwy o’r miliynau o fyfyrwyr y Beibl hynny i gael eu bedyddio? Cyn belled ag y bo Jehofa, yn ei amynedd, yn caniatáu’r amser a’r cyfle i bobl ddod yn ddisgyblion Crist, rydyn ni eisiau gwneud ein gorau i’w helpu nhw gyrraedd bedydd cyn gynted ag y bo modd. Mae amser yn mynd yn brin!—1 Cor. 7:29a; 1 Pedr 4:7.

3. Beth byddwn ni’n ei ystyried yn yr erthygl hon ynglŷn â chynnal astudiaethau Beiblaidd?

3 Gan ei fod yn fater o frys i wneud disgyblion nawr, gofynnodd y Corff Llywodraethol i swyddfeydd cangen sut gallwn ni helpu mwy o fyfyrwyr y Beibl i gyrraedd bedydd. Yn yr erthygl hon a’r un nesaf, cawn weld beth gallwn ni ddysgu o brofiad arloeswyr, cenhadon, ac arolygwyr cylchdaith. * (Diar. 11:14; 15:22) Maen nhw’n esbonio sut gall athrawon y Beibl a’u myfyrwyr wneud yr astudiaeth yn fwy llwyddiannus. Yn yr erthygl hon, byddwn yn trafod pum cam mae’n rhaid i bob myfyriwr ei gymryd er mwyn gwneud cynnydd tuag at fedydd.

ASTUDIA BOB WYTHNOS

Gofynna i’r myfyriwr a allwch chi eistedd i lawr i drafod y Beibl (Gweler paragraffau 4-6)

4. Beth dylen ni ei ddeall am astudiaethau stepen drws?

4 Mae llawer o’n brodyr a’n chwiorydd yn cynnal astudiaethau ar stepen y drws. Er bod hyn yn ddechrau da i ddatblygu diddordeb yn y Beibl, mae’r sgyrsiau hyn fel arfer yn weddol fyr ac efallai ddim yn cael eu cynnal bob wythnos. Er mwyn meithrin y diddordeb, bydd rhai yn rhoi eu manylion cyswllt i’r unigolyn, ac yna os bydd y deiliad yn hapus i roi ei fanylion cyswllt, byddan nhw’n ffonio neu’n tecstio i rannu rhywbeth bach o’r Beibl rhwng ymweliadau. Gall sgyrsiau bach achlysurol fel hyn barhau am fisoedd heb ddatblygu ymhellach. Ond, a fydd myfyriwr * yn gwneud digon o gynnydd i ymgysegru a chael ei fedyddio os na fydd yn rhoi mwy o amser ac egni i astudio Gair Duw? Na fydd, mae’n debyg.

5. Beth ddywedodd Iesu yn Luc 14:27-33 a all ein helpu yn ein gwaith o wneud disgyblion?

5 Defnyddiodd Iesu eglureb i esbonio beth sydd rhaid i rywun ei wneud er mwyn dod yn ddisgybl iddo. Siaradodd am rywun oedd eisiau adeiladu tŵr, ac am frenin oedd eisiau mynd i ryfel. Dywedodd Iesu y dylai’r adeiladwr “eistedd i lawr yn gyntaf i amcangyfri’r gost” o orffen y tŵr, a dylai’r brenin “eistedd gyda’i gynghorwyr yn gyntaf,” i weld a allai ei fyddin gyflawni eu nod. (Darllen Luc 14:27-33.) Yn yr un modd, gwyddai Iesu y dylai rhywun sydd eisiau bod yn ddisgybl iddo feddwl yn ofalus am beth mae’n ei olygu i’w ddilyn. Am y rheswm hwnnw, dylen ni annog ein myfyrwyr i astudio gyda ni bob wythnos. Sut gallwn ni wneud hynny?

6. Beth gallwn ni geisio ei wneud er mwyn cael astudiaethau ffrwythlon?

6 Dechreua drwy gael astudiaethau hirach. Efallai gelli di drafod pwynt ychwanegol o’r Beibl bob tro rwyt ti’n galw. Unwaith i’r deiliad deimlo’n gyfforddus ag ymweliad hirach, gofynna iddo a oes ’na rywle gallwch chi eistedd i lawr gyda’ch gilydd i barhau â’r drafodaeth. Bydd ei ateb yn datgelu os yw’n cymryd ei astudiaeth o ddifri. Yn nes ymlaen, er mwyn cyflymu ei gynnydd, gallet ti ofyn i’r myfyriwr os bydd yn fodlon astudio ddwywaith yr wythnos. Eto, mae angen mwy nag astudio unwaith neu ddwy yr wythnos.

PARATOA AR GYFER POB ASTUDIAETH

Paratoa’n dda ar gyfer yr astudiaeth Feiblaidd, a dangosa i dy fyfyriwr sut i baratoi (Gweler paragraffau 7-9)

7. Sut gall yr athro baratoi’n dda ar gyfer pob sesiwn astudio’r Beibl?

7 Fel yr athro, mae’n rhaid iti baratoi’n dda ar gyfer pob sesiwn astudio’r Beibl. Gelli di ddechrau drwy ddarllen y deunydd a’r adnodau. Ceisia gael y prif bwyntiau yn dy feddwl. Meddylia am deitl y wers, yr isbenawdau, y cwestiynau, yr adnodau “darllen,” y lluniau, ac unrhyw fideos a all helpu i esbonio’r pwnc. Yna, gyda dy fyfyriwr mewn cof, meddylia o flaen llaw sut gelli di gyflwyno’r wybodaeth mewn ffordd syml a chlir fel y gall dy fyfyriwr ei deall a’i rhoi ar waith yn hawdd.—Neh. 8:8; Diar. 15:28a.

8. Beth mae geiriau’r apostol Paul yn Colosiaid 1:9, 10 yn ein dysgu ni ynglŷn â gweddïo dros ein myfyrwyr y Beibl?

8 Fel rhan o dy baratoi, gweddïa ar Jehofa am y myfyriwr a’i anghenion. Gofynna i Jehofa dy helpu di i ddysgu o’r Beibl mewn ffordd a fydd yn cyrraedd calon yr unigolyn. (Darllen Colosiaid 1:9, 10.) Ceisia ragweld unrhyw beth a allai fod yn anodd i’r myfyriwr ddeall neu ei dderbyn. Cofia, dy nod yw ei helpu i gyrraedd bedydd.

9. Sut gall yr athro helpu’r myfyriwr i baratoi ar gyfer ei astudiaeth? Esbonia.

9 Ein gobaith yw, drwy astudio’r Beibl yn rheolaidd, bydd y myfyriwr yn gwerthfawrogi’r hyn mae Jehofa ac Iesu wedi ei wneud drosto, ac y bydd eisiau dysgu mwy o ganlyniad. (Math. 5:3, 6) Er mwyn elwa’n llawn ar yr astudiaeth, mae’n rhaid i’r myfyriwr ganolbwyntio ar beth mae’n ei ddysgu. Esbonia pa mor bwysig ydy hi ei fod yn paratoi ar gyfer pob sesiwn astudio drwy ddarllen y wers o flaen llaw, ac yn myfyrio ar sut mae’r deunydd yn berthnasol iddo ef. Sut gelli di ei helpu? Beth am baratoi gwers gyda’ch gilydd er mwyn dangos iddo sut i fynd ati. * Esbonia sut i gael hyd i’r atebion, a sut gall tanlinellu ambell air neu ymadrodd ei helpu i gofio’r ateb. Yna, gofynna iddo roi’r ateb yn ei eiriau ei hun. Pan fydd yn gwneud hynny, byddi di’n gwybod pa mor dda mae ef wedi deall y deunydd. Ond, mae ’na rywbeth arall y gelli di annog dy fyfyriwr i’w wneud.

DYSGA EF I GYFATHREBU Â JEHOFA BOB DYDD

Dysga dy fyfyriwr sut i gyfathrebu â Jehofa (Gweler paragraffau 10-11)

10. Pam mae’n bwysig i ddarllen y Beibl bob dydd, a beth sydd ei angen er mwyn elwa’n llawn ar hynny?

10 Ar ben astudio bob wythnos gyda’i athro, bydd y myfyriwr yn elwa o wneud rhai pethau bob dydd ar ei ben ei hun. Mae angen iddo gyfathrebu â Jehofa. Sut? Drwy wrando ar Jehofa a siarad ag ef. Gall wrando ar Dduw drwy ddarllen y Beibl bob dydd. (Jos. 1:8; Salm 1:1-3) Dangosa iddo sut i ddefnyddio’r “Rhaglen Darllen y Beibl” brintiadwy sydd ar jw.org. * Wrth gwrs, er mwyn ei helpu i elwa’n llawn o ddarllen y Beibl, anoga ef i fyfyrio ar beth mae’r Beibl yn ei ddysgu am Jehofa, a sut bydd yn gallu rhoi’r hyn mae’n ei ddysgu ar waith yn ei fywyd.—Act. 17:11; Iago 1:25.

11. Sut gall dy fyfyriwr ddysgu sut i weddïo yn y ffordd iawn, a pham mae’n bwysig iddo weddïo ar Jehofa yn aml?

11 Anoga dy fyfyriwr i siarad â Jehofa drwy weddïo bob dydd. Gweddïa o dy galon ar ddechrau a diwedd pob sesiwn astudio, gan sôn am dy fyfyriwr yn y gweddïau hynny. Wrth iddo wrando ar dy weddïau, fe fydd yn dysgu sut i weddïo o’i galon a sut i weddïo ar Jehofa drwy enw Iesu Grist. (Math. 6:9; Ioan 15:16) Meddylia sut gall darllen y Beibl bob dydd (gwrando ar Jehofa) a gweddïo (siarad â Jehofa) helpu dy fyfyriwr i glosio’n fwy byth at Dduw! (Iago 4:8) Bydd gwneud hyn bob dydd yn ei helpu i wneud cynnydd tuag at ymgysegriad a bedydd. Beth arall fydd yn ei helpu?

HELPA EF I GLOSIO AT JEHOFA

12. Sut gall athro helpu myfyriwr i glosio at Jehofa?

12 Dylai’r hyn mae myfyriwr yn ei ddysgu ar astudiaeth Feiblaidd apelio nid yn unig at ei feddwl, ond hefyd at ei galon. Pam? Mae ein calon—sy’n cynnwys ein dymuniadau, emosiynau, a theimladau—yn ein cymell i weithredu. Defnyddiodd Iesu resymeg a apeliodd at feddyliau pobl. Ond, roedd pobl yn ei ddilyn oherwydd ei fod hefyd yn cyffwrdd â’u calonnau. (Luc 24:15, 27, 32) Mae dy fyfyriwr angen gweld Jehofa fel Person go iawn, rhywun y gall ddatblygu perthynas ag ef, a’i ystyried yn Dad, yn Dduw, ac yn Ffrind iddo. (Salm 25:4, 5) Yn ystod yr astudiaeth, gwna i bersonoliaeth ein Duw ddod yn fyw. (Ex. 34:5, 6; 1 Pedr 5:6, 7) Ni waeth beth yw’r pwnc rydych chi’n ei drafod, tynna sylw at y math o Berson yw Jehofa. Helpa’r myfyriwr i werthfawrogi rhinweddau hyfryd Jehofa—ei gariad, ei garedigrwydd, a’i dosturi. Dywedodd Iesu mai’r “gorchymyn cyntaf a’r pwysica” yw i “garu’r Arglwydd dy Dduw.” (Math. 22:37, 38) Ceisia ennyn cariad dwfn tuag at Dduw yng nghalon dy fyfyriwr.

13. Rho enghraifft o sut i helpu myfyriwr ddysgu am bersonoliaeth Jehofa.

13 Mynega dy deimladau dwfn am Jehofa i dy fyfyriwr wrth sgwrsio ag ef. Gall hyn ei helpu i sylweddoli bod rhaid iddo yntau ddatblygu perthynas gynnes a phersonol â Jehofa. (Salm 73:28) Er enghraifft, oes ’na frawddeg yn y llyfr astudio neu mewn adnod sy’n datgelu rhywbeth am Jehofa—ei gariad, doethineb, cyfiawnder, neu nerth—ac yn cyffwrdd dy galon? Sonia amdano wrth y myfyriwr, a gad iddo wybod mai dyma un o blith llawer o resymau yr wyt yn caru ein Tad nefol. Mae ’na rywbeth arall mae’n rhaid i bob myfyriwr y Beibl ei wneud er mwyn cyrraedd bedydd.

ANOGA EF I FYNYCHU CYFARFODYDD

Anoga dy fyfyriwr i ddechrau dod i’r cyfarfodydd cyn gynted â phosib! (Gweler paragraffau 14-15)

14. Beth mae Hebreaid 10:24, 25 yn dweud wrthon ni am y cyfarfodydd a all helpu myfyriwr y Beibl i wneud cynnydd?

14 Mae pob un ohonon ni eisiau i’n myfyrwyr gael eu bedyddio. Un ffordd bwysig gallwn ni eu helpu yw drwy eu hannog i fynychu cyfarfodydd y gynulleidfa. Mae athrawon profiadol yn dweud mai’r myfyrwyr sy’n dechrau mynd i’r cyfarfodydd yn syth sy’n gwneud y cynnydd cyflymaf. (Salm 111:1) Mae rhai athrawon yn esbonio i’w myfyrwyr y byddan nhw’n cael hanner eu haddysg Feiblaidd o’r astudiaeth a’r hanner arall o’r cyfarfodydd. Darllena Hebreaid 10:24, 25 gyda dy fyfyriwr, ac esbonia iddo’r holl fanteision y bydd yn eu cael o ddod i’r cyfarfodydd. Dangosa’r fideo Beth Sy’n Digwydd yn Neuadd y Deyrnas? * iddo. Helpa dy fyfyriwr i fod yn benderfynol o beidio â methu cyfarfod.

15. Beth gallwn ni ei wneud i annog myfyriwr i fynd i’r cyfarfodydd yn rheolaidd?

15 Beth gelli di ei wneud os nad ydy dy fyfyriwr wedi bod i un o’r cyfarfodydd eto, neu ond yn dod weithiau? Siarada’n frwd am rywbeth ddysgaist ti yn y cyfarfod yn ddiweddar. Bydd hyn yn cymell y myfyriwr yn fwy nag estyn gwahoddiad yn unig. Rho iddo gopi o’r Tŵr Gwylio neu’r Gweithlyfr y Cyfarfodydd sy’n cael ei astudio ar hyn o bryd yn y cyfarfod. Dangosa iddo beth fydd yn cael ei drafod yn y cyfarfod nesaf, a gofynna iddo pa ran sy’n sefyll allan iddo. Bydd profiad dy fyfyriwr o’i gyfarfod cyntaf yn bell tu hwnt i unrhyw brofiad a gafodd mewn cyfarfod crefyddol o’r blaen. (1 Cor. 14:24, 25) Bydd yn cyfarfod pobl eraill sy’n gosod esiampl dda y gall ei hefelychu ac a fydd yn ei helpu i wneud cynnydd tuag at fedydd.

16. Beth sy’n rhaid ei wneud er mwyn cynnal astudiaethau Beiblaidd sy’n arwain at fedydd, a beth fyddwn ni’n ei ddysgu yn yr erthygl nesaf?

16 Sut gallwn ni gynnal astudiaethau Beiblaidd sy’n arwain at fedydd? Gallwn helpu pob myfyriwr i gymryd yr astudiaeth o ddifri drwy ei annog i astudio bob wythnos a pharatoi ar gyfer pob sesiwn astudio. Peth da fyddai ei annog i gyfathrebu â Jehofa bob dydd a datblygu perthynas bersonol ag Ef. Dylen ni gymell y myfyriwr i fynd i gyfarfodydd y gynulleidfa. (Gweler y blwch “ Sut Gall Myfyrwyr Weithio Tuag at Fedydd?”) Ond, fel bydd yr erthygl nesaf yn esbonio, mae ’na bum peth ychwanegol y gall athrawon y Beibl ei wneud i arwain myfyrwyr at fedydd.

CÂN 76 Pa Fath o Deimlad Yw?

^ Par. 5 Mae dysgu rhywun yn golygu eu helpu nhw i feddwl, teimlo, neu ymddwyn mewn ffordd newydd neu wahanol. Mae testun y flwyddyn 2020, Mathew 28:19, wedi ein hatgoffa o bwysigrwydd astudio’r Beibl gyda phobl a’u dysgu nhw sut i ddod yn ddisgyblion bedyddiedig Iesu Grist. Yn yr erthygl hon a’r un nesaf, byddwn ni’n gweld sut gallwn ni wella yn y gwaith holl bwysig hwn.

^ Par. 2 ESBONIAD: Os wyt ti’n trafod y Beibl gyda rhywun yn rheolaidd ac mewn ffordd drefnus, rwyt yn cynnal astudiaeth Feiblaidd. Gelli di gyfri’r astudiaeth os wyt ti wedi ei chynnal ddwywaith ar ôl iti ddangos beth sy’n digwydd ar astudiaeth Feiblaidd, ac os oes ’na le i gredu y bydd yr astudiaeth yn parhau.

^ Par. 3 Mae’r erthyglau hyn hefyd yn cynnwys awgrymiadau o’r gyfres “Conducting Progressive Bible Studies” yn rhifynnau Gorffennaf 2004 hyd Mai 2005 Ein Gweinidogaeth Saesneg.

^ Par. 4 Mae unrhyw gyfeiriad at fyfyriwr hefyd yn berthnasol i fyfyrwraig.

^ Par. 9 Gwylia’r fideo pedwar munud Dysgu Ein Myfyrwyr i Baratoi. Yn JW Library®, dos i CYFRYNGAU > EIN CYFARFODYDD A’N GWEINIDOGAETH > HOGI EIN SGILIAU.

^ Par. 10 Dos i DYSGEIDIAETHAU’R BEIBL > ADNODDAU ASTUDIO’R BEIBL.

^ Par. 14 Yn JW Library®, dos i CYFRYNGAU > EIN CYFARFODYDD A’N GWEINIDOGAETH > ADNODDAU AR GYFER Y WEINIDOGAETH.