Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

1921—Can Mlynedd Yn Ôl

1921—Can Mlynedd Yn Ôl

“FELLY pa waith penodol sydd o’n blaenau ni eleni?” Dyna’r cwestiwn a ofynnodd Tŵr Gwylio Saesneg, Ionawr 1, 1921, i’w ddarllenwyr. Dyfynnodd Eseia 61:1, 2 fel ateb, gan eu hatgoffa o’u gomisiwn i bregethu. “Yr ARGLWYDD a’m heneiniodd i efengylu i’r rhai llariaidd [addfwyn] . . . , i gyhoeddi blwyddyn gymeradwy yr ARGLWYDD, a dydd dial ein Duw ni.”

PREGETHWYR DEWR

I gyflawni eu comisiwn, byddai’n rhaid i fyfyrwyr y Beibl, fel oedd Tystion Jehofa yn cael eu galw ar y pryd, fod yn ddewr. Byddai’n rhaid iddyn nhw gyhoeddi newyddion da i’r rhai addfwyn, yn ogystal â “dydd dial ein Duw” i’r drygionus.

Gwnaeth y Brawd John H. Hoskin, oedd yn byw yng Nghanada, dystiolaethu’n ddewr er gwaethaf gwrthwynebiad. Yng ngwanwyn 1921, daeth ar draws weinidog Methodistaidd. Dechreuodd y Brawd John y sgwrs drwy ddweud: “Beth am inni gael sgwrs braf am y Beibl, a hyd yn oed os ydyn ni’n anghytuno ar rai pethau gallwn ni dal wahanu fel ffrindiau.” Ond wnaeth hynny ddim digwydd. Wrth adrodd yr hanes, dywedodd y Brawd John: “Oedden ni ond wedi siarad am rai munudau pan waldiodd y gweinidog y drws mor galed o’n i’n meddwl bod y gwydr am ddisgyn allan o’r ffrâm!”

“Pam na wnewch chi fynd at y paganiaid a siarad efo nhw!” gwaeddodd y gweinidog. Brathodd y Brawd John ei dafod, ond wrth iddo adael, meddyliodd iddo hun, ‘O’n i’n meddwl fy mod i’n siarad efo un!’

Daeth llif o eiriau cas gan y gweinidog eto y diwrnod wedyn yn ei bregeth. Dywedodd y Brawd John: “Wnaeth o rybuddio ei braidd amdana i, a dweud wrth ei braidd mai fi oedd y celwyddgi mwyaf a welodd y dref erioed ac y dylwn i gael fy saethu.” Ond wnaeth hynny ddim ei stopio o gwbl, daliodd ati i bregethu a chafodd dipyn o lwyddiant. Dywedodd: “Wel, ches i erioed amser gwell yn pregethu. Gwnaeth rhai o’r bobl hyd yn oed dweud, ‘Dwi’n gwybod eich bod chi’n gwneud gwaith Duw!’ a chynnig help mewn llawer o ffyrdd.”

ASTUDIAETH BERSONOL A THEULUOL

I helpu’r rhai a diddordeb i wneud cynnydd, gwnaeth myfyrwyr y Beibl gyhoeddi rhaglenni astudio’r Beibl yn y cylchgrawn rydyn ni bellach yn ei alw yn Deffrwch! Roedd ’na gwestiynau am y Beibl y gallai rhieni eu trafod gyda’u plant. Byddai rhieni yn gofyn y cwestiynau hyn i’w plant ac yn eu helpu nhw i gael hyd i’r atebion yn y Beibl. Roedd rhai cwestiynau, fel “Faint o lyfrau sydd ’na yn y Beibl?,” yn dysgu ffeithiau sylfaenol iddyn nhw. Roedd eraill, fel “A ddylai pob gwir Gristion ddisgwyl cael ei erlid?,” yn paratoi rhai ifanc i fod yn bregethwyr dewr.

Roedd y rhaglen Advanced Studies in the Divine Plan of the Ages yn rhoi cwestiynau dyfnach i fyfyrwyr aeddfed y Beibl yn seiliedig ar gyfrol gyntaf Studies in the Scriptures. Gwnaeth miloedd o ddarllenwyr elwa o’r rhaglenni hyn, ond ar Ragfyr 21, 1921, cafodd ei gyhoeddi y byddai’r ddwy raglen yn gorffen. Pam y newid sydyn?

LLYFR NEWYDD!

Y llyfr The Harp of God

Cerdyn ag aseiniad darllen arno

Cardiau a chwestiynau arnyn nhw

Sylweddolodd y brodyr oedd yn cymryd y blaen, bod pobl angen dysgu am y Beibl fesul pwnc. Felly, gwnaethon nhw gyhoeddi’r llyfr The Harp of God ym mis Tachwedd 1921. Byddai’r rhai oedd yn derbyn y llyfr hefyd yn ymuno ar gwrs astudio gallen nhw ei wneud ar eu pennau eu hunain. Roedd y cwrs hwn yn helpu pobl i ddysgu am “fwriad Duw i fendithio’r ddynolryw â bywyd tragwyddol.” Sut roedd y cwrs yn gweithio?

Pan fyddai rhywun yn derbyn copi o’r llyfr, byddai’n cael aseiniad darllen wedi ei brintio ar gerdyn bach. Yr wythnos wedyn, byddai’n cael cerdyn â chyfres o gwestiynau yn seiliedig ar yr aseiniad hwnnw. Ar ddiwedd y cerdyn, roedd ’na aseiniad darllen ar gyfer yr wythnos ganlynol.

Bob wythnos, am 12 wythnos, byddai’r myfyriwr yn cael cerdyn newydd, wedi ei bostio gan y gynulleidfa agosaf. Yn aml, byddai’r cardiau yn cael eu hanfon gan y rhai yn y gynulleidfa oedd yn hŷn neu’n methu mynd o dŷ i dŷ. Er enghraifft, dywedodd Anna K. Gardner, o Millvale, Pensylfania, UDA: “Pan gafodd The Harp of God ei ryddhau, rhoddodd hynny gyfle i Thayle, fy chwaer anabl, wneud mwy o waith wrth anfon y cardiau cwestiynau allan yn wythnosol.” Ar ôl gorffen y cwrs, byddai rhywun o’r gynulleidfa yn mynd i weld y myfyriwr i’w helpu i ddysgu mwy am y Beibl.

Thayle Gardner yn ei chadair olwyn

Y GWAITH O’U BLAENAU

Ar ddiwedd y flwyddyn, anfonodd y Brawd J. F. Rutherford lythyr i’r cynulleidfaoedd i gyd. Dywedodd: “Mae neges y Deyrnas wedi cyrraedd mwy o bobl a’u helpu nhw’n fwy nag erioed o’r blaen.” Yna ychwanegodd: “Mae ’na lawer o waith i’w wneud o hyd, anogwch eraill i ymuno yn y gwaith bendigedig hwn.” Mae’n amlwg bod y myfyrwyr wedi gwneud union hynny. Ym 1922 byddan nhw’n pregethu’n ddewr am y Deyrnas yn fwy nag erioed o’r blaen.