Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Ailadeiladu Dy Berthynas â Jehofa

Ailadeiladu Dy Berthynas â Jehofa

BOB blwyddyn, mae llawer o ddefaid annwyl yn cael eu hadfer i’r gynulleidfa. Dychmyga’r llawenydd yn y nefoedd bob tro bydd un yn dychwelyd. (Luc 15:7, 10) Os wyt ti wedi cael dy adfer, gelli di fod yn sicr fod Iesu, yr angylion, a Jehofa ei hun wrth eu boddau yn dy weld di’n gwneud safiad dros y gwir unwaith eto. Ond eto, wrth iti ailadeiladu dy berthynas â Jehofa, efallai byddi di’n wynebu heriau. Beth yw rhai ohonyn nhw, a beth all dy helpu di?

BETH YDY’R HERIAU?

Mae llawer yn brwydro teimladau negyddol ar ôl dod yn ôl i’r gynulleidfa. Efallai dy fod ti’n deall sut roedd y Brenin Dafydd yn teimlo. Hyd yn oed ar ôl iddo gael maddeuant am ei bechodau, dywedodd eu bod nhw’n dal yn ei lethu. (Salm 40:12; 65:3) Ar ôl i rywun droi yn ôl at Jehofa, gall teimladau o euogrwydd neu gywilydd eu dilyn nhw am flynyddoedd. Dywedodd Isabelle, * oedd wedi ei diarddel am dros 20 mlynedd, “Oedd hi’n anodd iawn imi gredu y gallai Jehofa faddau imi.” Os wyt ti’n digalonni, gall dy berthynas â Jehofa droi’n fregus unwaith eto. (Diar. 24:10) Tria beidio â gadael i hynny ddigwydd i ti.

Mae eraill yn poeni na fyddan nhw’n gallu gwneud popeth sydd ei angen er mwyn ailadeiladu eu perthynas â Jehofa. Ar ôl cael ei adfer, dywedodd Antoine, “O’n i’n teimlo fy mod i wedi anghofio popeth am fy hen fywyd fel Cristion.” Oherwydd teimladau o’r fath, mae rhai yn dal yn ôl rhag cael rhan lawn mewn pethau ysbrydol.

Er enghraifft, os ydy cartref rhywun wedi cael ei ddifetha gan gorwynt, efallai bydd hi’n ormod iddo feddwl am faint o amser ac ymdrech bydd ei angen er mwyn ei ailadeiladu. Mewn ffordd debyg, os ydy dy berthynas â Jehofa wedi cael ei difetha gan bechod difrifol, efallai byddi di’n teimlo bod trwsio eich perthynas yn gofyn am gryn dipyn o ymdrech. Ond, mae help ar gael.

Mae Jehofa’n dweud wrthon ni: “Dewch, gadewch i ni ddeall ein gilydd.” (Esei. 1:18) Rwyt ti eisoes wedi gweithio’n galed i wneud pethau’n iawn rhyngot ti a Jehofa, ac mae Jehofa’n dy garu di am wneud yr ymdrech honno. Meddylia: Rwyt ti wedi rhoi sail i Jehofa roi ateb pwerus i gyhuddiadau Satan!—Diar. 27:11.

Drwy wneud hyn, rwyt ti eisoes wedi closio at Jehofa ac mae ef yn addo closio atat tithau. (Iago 4:8) Mae’n beth da bod eraill yn gweld dy fod ti’n rhan o’r gynulleidfa unwaith eto, ond mae angen iti wneud mwy. Mae’n rhaid iti ddal ati i gryfhau dy gariad tuag at dy dad a dy ffrind, Jehofa. Sut gelli di wneud hynny?

GOSODA AMCANION RHESYMOL WRTH ITI AILADEILADU

Ceisia osod amcanion rhesymol. Mae’n debyg bod gen ti sylfaen ysbrydol o hyd, hynny ydy, rwyt ti’n cofio am Jehofa a’i addewidion am y dyfodol. Ond nawr, mae angen iti ailadeiladu strwythur Cristnogol yn dy fywyd, gan gynnwys pregethu’n aml, mynd i’r cyfarfodydd, a threulio amser gyda dy frodyr a chwiorydd. Ystyria’r amcanion canlynol.

Siarad â Jehofa’n aml. Mae dy Dad yn deall bod y teimladau o euogrwydd sy’n aros gyda ti yn gallu ei gwneud hi’n anodd iti weddïo arno. (Rhuf. 8:26) Er hynny, ‘dalia ati i weddïo,’ gan ddweud wrth Jehofa gymaint rwyt ti eisiau bod yn ffrind iddo. (Rhuf. 12:12) Mae Andrej yn cofio: “O’n i’n teimlo gymaint o euogrwydd a chywilydd, ond gyda phob gweddi, roedd y teimladau hynny yn lleihau. O’n i’n dawelach fy meddwl.” Os nad wyt ti’n gwybod beth i weddïo amdano, ystyria weddïau’r Brenin Dafydd ar ôl iddo edifarhau, yn Salm 5165.

Astudio’r Beibl yn rheolaidd. Bydd hyn yn cryfhau dy ffydd, ac yn helpu i dy gariad tuag at Jehofa dyfu. (Salm 19:7-11) “Peidio â chael rwtîn ysbrydol yn y lle cyntaf oedd y rheswm pam es i’n wan a siomi Jehofa,” meddai Felipe. “Do’n i ddim eisiau gwneud yr un camgymeriad eto, felly wnes i benderfynu amddiffyn fy hun drwy wneud astudiaeth bersonol reolaidd.” Gelli dithau wneud yr un fath. Os wyt ti angen help i ddewis pynciau ar gyfer dy astudiaeth bersonol, beth am ofyn i ffrind aeddfed am syniadau?

Ailadeiladu dy berthynas â dy frodyr a chwiorydd. Mae rhai sy’n dychwelyd i’r gynulleidfa yn poeni y bydd eraill yn meddwl yn ddrwg ohonyn nhw. Gwnaeth Larissa gyfaddef: “Oedd gen i gywilydd. O’n i’n teimlo fy mod i wedi bradychu’r gynulleidfa, ac arhosodd y teimladau hynny efo fi am oes.” Plîs cofia fod yr henuriaid a rhai aeddfed eraill yn awyddus i dy helpu di i ailadeiladu dy berthynas â Jehofa. (Gweler y blwch “ Beth Gall Henuriaid ei Wneud?”) Maen nhw wrth eu boddau dy fod ti wedi dod yn ôl, ac maen nhw eisiau iti lwyddo!—Diar. 17:17.

Beth all dy helpu i glosio at y gynulleidfa? Cael rhan yn yr hyn mae’r brodyr a chwiorydd yn ei wneud, sef mynd i’r cyfarfodydd ac ar y weinidogaeth yn rheolaidd. Sut bydd hyn yn helpu? Dywedodd Felix: “Oedd y gynulleidfa yn edrych ymlaen imi ddod yn ôl. O’n i’n teimlo eu cariad. Gwnaethon nhw i gyd fy helpu i deimlo’n rhan o deulu unwaith eto, i deimlo mod i wedi cael maddeuant, ac i symud ymlaen.”—Gweler y blwch “ Beth Gelli Di ei Wneud?

DALIA ATI!

Bydd Satan yn anfon un corwynt ar ôl y llall i drio dy wanhau wrth iti ailadeiladu dy berthynas â Jehofa. (Luc 4:13) Bydda’n barod drwy gryfhau dy berthynas ag Ef nawr.

Mae Jehofa yn addo: “Dw i’n mynd i chwilio am y rhai sydd ar goll, a dod â’r rhai sydd wedi crwydro yn ôl adre. Dw i’n mynd i rwymo briwiau y rhai sydd wedi eu hanafu, a helpu’r rhai sy’n wan.” (Esec. 34:16) Mae Jehofa wedi helpu llawer o rai eraill sydd wedi llithro’n ysbrydol. Gelli di fod yn sicr ei fod eisiau dy helpu di i ailadeiladu perthynas ag ef sy’n gryfach nag erioed.

^ Par. 4 Newidiwyd yr enwau yn yr erthygl hon.