Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

ERTHYGL ASTUDIO 40

Beth Ydy Gwir Edifeirwch?

Beth Ydy Gwir Edifeirwch?

“Dw i wedi dod i alw pechaduriaid i droi at Dduw.”—LUC 5:32.

CÂN 36 Gwarchodwn Ein Calonnau

CIPOLWG *

1-2. Beth oedd y gwahaniaeth rhwng y ddau frenin, a pha gwestiynau byddwn ni’n eu hystyried?

GAD inni drafod dau frenin oedd yn byw amser maith yn ôl. Roedd un yn rheoli dros deyrnas deg llwyth Israel, a’r llall dros deyrnas dau lwyth Jwda. Er eu bod nhw’n byw ar wahanol adegau, gwnaethon nhw lawer o bethau tebyg. Gwnaeth y ddau frenin wrthryfela yn erbyn Jehofa ac achosi i’w bobl bechu. Roedd y ddau yn euog o addoli gau dduwiau a llofruddio. Ond, roedd ’na wahaniaeth rhwng y ddau ddyn. Gwnaeth un ohonyn nhw barhau i wneud pethau drwg nes iddo farw, ond gwnaeth y llall edifarhau, a chafodd faddeuant am y pethau ofnadwy roedd wedi eu gwneud. Pwy oedden nhw?

2 Eu henwau oedd Ahab, brenin Israel, a Manasse, brenin Jwda. Mae’r gwahaniaeth rhwng y ddau ddyn yn dysgu gwersi pwysig inni am edifeirwch. (Act. 17:30; Rhuf. 3:23) Beth ydy edifeirwch, a sut rydyn ni’n ei ddangos? Rydyn ni angen gwybod am ein bod ni eisiau i Jehofa faddau inni pan ydyn ni’n pechu. I gael yr atebion i’r cwestiynau hynny, byddwn ni’n edrych ar fywydau’r ddau frenin hyn i weld beth gallwn ni ei ddysgu o’u hesiamplau. Yna, byddwn ni’n ystyried beth ddysgodd Iesu am edifeirwch yn un o’i eglurebau.

BETH GALLWN NI EI DDYSGU O ESIAMPL Y BRENIN AHAB

3. Sut fath o frenin oedd Ahab?

3 Ahab oedd y seithfed brenin dros deyrnas deg llwyth Israel. Gwnaeth ef briodi Jesebel, merch brenin Sidon, sef gwlad gyfoethog i’r gogledd. Mae’n debyg daeth y briodas honno â chyfoeth i wlad Israel. Ond hefyd niweidiodd berthynas y genedl â Jehofa. Roedd Jesebel yn addoli Baal, a gwnaeth hi annog Ahab i hyrwyddo’r grefydd afiach honno, oedd yn cynnwys puteindra a hyd yn oed aberthu plant. Doedd yr un o broffwydi Jehofa yn ddiogel tra oedd Jesebel mewn grym. Gwnaeth hi wneud yn siŵr bod llawer ohonyn nhw yn cael eu lladd. (1 Bren. 18:13) Gwnaeth Ahab ei hun “fwy o ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD na neb o’i flaen.” (1 Bren. 16:30) Doedd Jehofa ddim yn ddall i beth wnaeth Ahab a Jesebel. Roedd yn gwybod yn union beth roedden nhw’n ei wneud. Ond dangosodd Jehofa drugaredd drwy anfon y proffwyd Elias i rybuddio Ei bobl i newid eu ffyrdd cyn iddi fod yn rhy hwyr. Ond gwnaeth Ahab a Jesebel wrthod gwrando.

4. Sut byddai Ahab yn cael ei gosbi, a beth oedd ei ymateb?

4 Yn y pen draw, gwnaeth amynedd Jehofa redeg allan. Anfonodd Elias i ddweud wrth Ahab a Jesebel beth fyddai eu cosb. Roedd eu teulu cyfan am gael eu lladd. Roedd geiriau Elias yn ergyd i Ahab. Er mawr syndod, gwnaeth y dyn balch hwnnw ‘blygu mewn cywilydd.’—1 Bren. 21:19-29.

Am fod y Brenin Ahab ddim yn gwbl edifar, taflodd broffwyd Duw i‘r carchar (Gweler paragraffau 5-6) *

5-6. Sut rydyn ni’n gwybod bod Ahab ddim wedi edifarhau go iawn?

5 Er bod Ahab wedi plygu mewn cywilydd ar yr achlysur hwnnw, gwnaeth ei ymddygiad wedyn ddangos nad oedd yn wir edifar. Wnaeth ef ddim trio stopio pobl rhag addoli Baal yn ei deyrnas, a wnaeth ef ddim annog pobl i addoli Jehofa chwaith. Dangosodd Ahab ei ddiffyg edifeirwch mewn ffyrdd eraill hefyd.

6 Yn hwyrach ymlaen, pan wnaeth Ahab wahodd y brenin da Jehosaffat o Jwda i ymuno ag ef yn y frwydr yn erbyn y Syriaid, awgrymodd Jehosaffat eu bod nhw’n gofyn cyngor proffwyd Jehofa yn gyntaf. I gychwyn, gwnaeth Ahab wrthod y syniad, gan ddweud: “Mae yna un dyn gallwn holi’r ARGLWYDD trwyddo. Ond dw i’n ei gasáu e, achos dydy e byth yn proffwydo dim byd da i mi, dim ond drwg.” Er hynny, gwnaethon nhw ofyn cyngor y proffwyd Michea. Ond roedd Ahab yn llygad ei le, gwnaeth y proffwyd ragfynegi pethau drwg amdano! Yn hytrach nag edifarhau a gofyn am faddeuant Jehofa, gwnaeth Ahab daflu’r proffwyd i’r carchar. (1 Bren. 22:7-9, 23, 27) Er bod y brenin wedi llwyddo i garcharu proffwyd Jehofa, doedd ef ddim yn gallu rhwystro’r broffwydoliaeth rhag dod yn wir, a chafodd Ahab ei ladd yn y frwydr.—1 Bren. 22:34-38.

7. Sut gwnaeth Jehofa ddisgrifio Ahab ar ôl iddo farw?

7 Ar ôl i Ahab farw, dangosodd Jehofa beth roedd yn ei feddwl ohono. Pan ddaeth y brenin da Jehosaffat adref yn ddiogel, anfonodd Jehofa y proffwyd Jehu i’w geryddu am ochri gydag Ahab. Dywedodd proffwyd Jehofa: “Ydy’n iawn dy fod ti’n helpu’r dyn drwg yna, Ahab, a gwneud ffrindiau hefo pobl sy’n casáu yr ARGLWYDD?” (2 Cron. 19:1, 2) Ond ystyria hyn: Petai Ahab wedi edifarhau go iawn, fyddai’r proffwyd ddim wedi ei ddisgrifio fel dyn drwg oedd yn casáu Jehofa. Yn amlwg, er bod Ahab wedi difaru i raddau, wnaeth ef erioed edifarhau yn llwyr.

8. Beth gallwn ni ei ddysgu am edifeirwch o esiampl Ahab?

8 Beth gallwn ni ei ddysgu o esiampl Ahab? Unwaith iddo glywed gan Elias y byddai ei deulu yn cael eu cosbi, plygodd Ahab mewn cywilydd. Roedd hynny’n ddechrau da. Ond roedd yr hyn a wnaeth yn hwyrach ymlaen yn dangos nad oedd ef wedi edifarhau o’i galon. Mae’n rhaid felly bod edifarhau yn cynnwys mwy na jest dweud sori am yr hyn wnaethon ni. Gad inni ystyried esiampl arall a fydd yn ein helpu ni i ddeall beth mae’n ei olygu i edifarhau go iawn.

BETH GALLWN NI EI DDYSGU O ESIAMPL Y BRENIN MANASSE

9. Sut fath o frenin oedd Manasse?

9 Tua dwy ganrif wedyn, daeth Manasse yn frenin dros Jwda. Mae’n ddigon tebyg roedd yn waeth nag Ahab! Mae’r Beibl yn dweud: “Gwnaeth lawer iawn o bethau drwg yng ngolwg yr ARGLWYDD, a’i bryfocio.” (2 Cron. 33:1-9) Adeiladodd Manasse allorau i gau dduwiau, a gwnaeth ef hyd yn oed roi delw o eilun dduw reit yng nghanol teml sanctaidd Jehofa—un oedd, yn ôl pob tebyg, yn symbol o addoliad rhyw. Roedd yn ymarfer dewiniaeth, darogan, a swynion, a gwnaeth ef hefyd ‘ladd lot fawr o bobl ddiniwed.’ Aeth mor bell â llosgi ei feibion ei hun yn y tân fel aberth i gau dduwiau.—2 Bren. 21:6, 7, 10, 11, 16.

10. Sut gwnaeth Jehofa ddisgyblu Manasse, a beth oedd ei ymateb?

10 Fel Ahab, roedd Manasse yn ystyfnig a gwnaeth ef wrthod gwrando ar rybuddion Jehofa drwy ei broffwydi. Yn y pen draw, “dyma’r ARGLWYDD yn dod ag arweinwyr byddin Asyria yn ei erbyn. Dyma nhw’n dal Manasse, rhoi bachyn yn ei drwyn a’i roi mewn cadwyni pres, a mynd ag e yn gaeth i Babilon.” Yno, wedi ei garcharu mewn gwlad estron, mae’n amlwg fod Manasse wedi meddwl o ddifri am yr hyn roedd ef wedi ei wneud. Syrthiodd ar ei fai, ond aeth ymhellach. Gwnaeth ef ‘weddïo ar yr ARGLWYDD ei Dduw,’ ac erfyn arno am faddeuant. Daliodd ati i wneud hyn er mwyn “edifarhau go iawn o flaen Duw ei hynafiaid.” Roedd y dyn drwg hwnnw yn newid. Roedd yn dechrau gweld Jehofa fel “ei Dduw” ac yn gweddïo arno’n gyson.—2 Cron. 33:10-13.

Am fod y Brenin Manasse yn gwbl edifar, brwydrodd yn erbyn gau addoliad (Gweler paragraff 11) *

11. Yn ôl 2 Cronicl 33:15, 16, sut dangosodd Manasse ei fod wedi edifarhau go iawn?

11 Ymhen amser, atebodd Jehofa weddïau Manasse. Roedd yn gweld bod Manasse wir wedi newid oherwydd y pethau roedd yn gweddïo amdanyn nhw. Felly, gwrandawodd Jehofa ar weddïau taer Manasse, a chaniatáu iddo fod yn frenin unwaith eto. Gwnaeth Manasse fanteisio’n llawn ar y cyfle i ddangos ei fod wedi edifarhau o ddifri. Gwnaeth rhywbeth wnaeth Ahab erioed ei wneud—newidiodd ei ymddygiad. Aeth ati i frwydro yn erbyn gau addoliad ac annog y bobl i addoli Jehofa. (Darllen 2 Cronicl 33:15, 16.) Mae’n rhaid fod hynny wedi gofyn am ddewrder a ffydd, am fod Manasse wedi bod yn ddylanwad drwg ar ei deulu, ei bobl, a phobl fonheddig am ddegawdau. Ond nawr ei fod yn hen, ceisiodd Manasse drwsio’r rhai o’r problemau roedd wedi eu hachosi. Mae’n debyg roedd yn ddylanwad da ar ei ŵyr ifanc Joseia, a ddaeth yn frenin da iawn yn hwyrach ymlaen.—2 Bren. 22:1, 2.

12. Beth gallwn ni ei ddysgu am edifeirwch o esiampl Manasse?

12 Beth gallwn ni ei ddysgu o esiampl Manasse? Roedd yn sori am yr hyn a wnaeth, ond aeth ymhellach. Gwnaeth ef weddïo, erfyn am faddeuant, a newid ei ymddygiad. Gweithiodd yn galed i ddad-wneud y niwed roedd wedi ei achosi, a gwnaeth ei orau i addoli Jehofa ac i helpu eraill i wneud yr un fath. Mae esiampl Manasse yn rhoi gobaith i hyd yn oed y gwaethaf o bechaduriaid. Mae’n dystiolaeth gryf fod Jehofa “yn dda ac yn maddau.” (Salm 86:5) Mae maddeuant yn bosib—i’r rhai sy’n wir edifar.

13. Rho eglureb sy’n ein helpu ni i ddeall rhywbeth pwysig am edifeirwch.

13 Gwnaeth Manasse wneud mwy na dim ond teimlo’n sori am ei bechodau. Mae hynny’n dysgu gwers hynod o bwysig inni am edifeirwch. Meddylia am hyn: Rwyt ti’n mynd i’r becws ac yn gofyn am gacen. Ond yn hytrach na chacen, mae gweithiwr y siop yn rhoi wy iti. A fyddi di’n fodlon gyda hynny? Wrth gwrs ddim! A fyddai’n helpu petai’r gweithiwr yn esbonio bod yr wy yn un o brif gynhwysion y gacen? Na fyddai siŵr! Mewn ffordd debyg, mae Jehofa yn gofyn i bechadur am edifeirwch. Os ydy’r pechadur yn sori am bechu, mae hynny’n beth da. Mae’n un o brif gynhwysion edifeirwch, ond dydy hi ddim yn ddigon. Beth arall sydd rhaid iddo ei wneud? Rydyn ni’n dysgu llawer o un o ddamhegion pwerus Iesu.

SUT I ADNABOD EDIFEIRWCH GO IAWN

Ar ôl i’r mab coll sylweddoli ei fod wedi gwneud penderfyniadau anghywir, cychwynnodd ar y daith hir adref (Gweler paragraffau 14-15) *

14. Yn nameg Iesu, sut dangosodd y mab coll ei fod yn dechrau edifarhau?

14 Gwnaeth Iesu adrodd stori galonogol am fab coll yn Luc 15:11-32. Cefnodd dyn ifanc ar ei dad a’i gartref, a theithiodd “i wlad bell.” Yno, roedd yn byw bywyd anfoesol. Ond pan aeth bywyd yn anodd, gwnaeth ef ddechrau meddwl o ddifri am beth roedd wedi ei wneud. Sylweddolodd gymaint gwell oedd ei fywyd pan oedd ef yn nhŷ ei dad. Fel dywedodd Iesu, “calliodd” y dyn ifanc. Penderfynodd fynd yn ôl adref a gofyn am faddeuant ei dad. Roedd y foment honno pan sylweddolodd y mab pa mor bell roedd wedi syrthio yn un bwysig. Ond oedd hynny’n ddigon? Nac oedd. Roedd ef angen gweithredu.

15. Sut gwnaeth y mab coll yn nameg Iesu brofi ei fod yn edifar?

15 Dangosodd y mab coll ei fod wedi edifarhau go iawn am beth wnaeth ef. Roedd y daith adref yn un hir, ond pan wnaeth ef gyrraedd, aeth at ei dad a dweud: “Dw i wedi pechu yn erbyn Duw ac yn dy erbyn di. Dw i ddim yn haeddu cael fy ngalw’n fab i ti ddim mwy.” (Luc 15:21) Gan fod y dyn ifanc wedi cyfaddef o’i galon, dangosodd ei fod eisiau adfer ei berthynas â Jehofa. Gwnaeth ef hefyd sylweddoli ei fod wedi brifo ei dad. Roedd yn barod i adennill ei berthynas â’i dad, a hyd yn oed yn fodlon cael ei drin fel un o’i weision. (Luc 15:19) Mae’r ddameg yn fwy na stori dda. Mae’r egwyddorion ynddi yn helpu henuriaid i bwyso a mesur p’un a ydy brawd neu chwaer sydd wedi pechu’n ddifrifol wedi edifarhau go iawn.

16. Pam gallai hi fod yn anodd i’r henuriaid wybod os ydy rhywun yn wirioneddol edifar?

16 Dydy hi ddim yn hawdd i henuriaid benderfynu p’un a ydy rhywun sydd wedi pechu’n ddifrifol yn wirioneddol edifar. Pam ddim? Dydy’r henuriaid ddim yn gallu darllen calonnau, felly mae’n rhaid iddyn nhw ddibynnu ar dystiolaeth weledol fod eu brawd wedi newid ei agwedd yn llwyr tuag at ei bechod. Mewn rhai achosion, efallai bydd rhywun wedi pechu mor ddifrifol fel nad yw’r henuriaid sy’n cyfarfod gydag ef yn gallu bod yn hollol sicr ei fod yn wirioneddol edifar.

17. (a) Pa esiampl sy’n dangos nad ydy tristwch yn ddigon i ddangos edifeirwch? (b) Yn ôl 2 Corinthiaid 7:11, beth sydd rhaid i rywun ei wneud er mwyn dangos gwir edifeirwch?

17 Ystyria esiampl. Mae brawd yn godinebu lawer o weithiau dros gyfnod o lawer o flynyddoedd. Yn hytrach na gofyn am help, mae’n cuddio ei ymddygiad anfoesol oddi wrth ei wraig, ei ffrindiau, a’r henuriaid. Yn y pen draw, mae’r gwir yn dod i’r amlwg. Yn wyneb y dystiolaeth, mae’n cyfaddef yr hyn mae wedi ei wneud, ac mae hyd yn oed yn ymddangos yn wirioneddol sori. Ydy hynny’n ddigon? Byddai’r henuriaid angen gweld mwy na thristwch. Nid canlyniad un penderfyniad drwg oedd hyn, ond rhywbeth aeth ymlaen am flynyddoedd. Wnaeth y pechadur ddim cyfaddef o’i wirfodd, cafodd ei ddal allan. Felly, byddai’n rhaid i’r henuriaid weld tystiolaeth o newid go iawn yn ei ffordd o feddwl, ei deimladau a’i ymddygiad. (Darllen 2 Corinthiaid 7:11.) Efallai bydd yn cymryd cryn dipyn o amser iddo wneud y newidiadau hynny. Mae’n debygol iawn y byddai’n cael ei ddiarddel o’r gynulleidfa Gristnogol am gyfnod.—1 Cor. 5:11-13; 6:9, 10.

18. Sut gall rhywun sydd wedi ei ddiarddel ddangos gwir edifeirwch, a gyda pha ganlyniad?

18 Er mwyn dangos ei fod yn wirioneddol edifar, byddai rhywun sydd wedi ei ddiarddel yn dod i’r cyfarfodydd yn rheolaidd ac yn dilyn cyngor yr henuriaid i ddilyn rwtîn da o weddïo ac astudio’r Beibl. Byddai hefyd yn gwneud popeth yn ei allu i osgoi unrhyw beth allai ei demtio i bechu eto. Drwy weithio’n galed i drwsio ei berthynas â Jehofa, gall fod yn sicr y bydd Jehofa yn maddau iddo’n llwyr ac y bydd yr henuriaid yn ei adfer i’r gynulleidfa. Wrth gwrs, mewn sefyllfaoedd o’r fath, mae henuriaid yn deall bod pob achos yn unigryw, felly maen nhw’n pwyso a mesur yn ofalus ac yn osgoi barnu’n llym.

19. Beth mae gwir edifeirwch yn ei gynnwys? (Eseciel 33:14-16)

19 Fel rydyn ni wedi ei ddysgu, dydy hi ddim yn ddigon inni ond dweud ein bod ni’n sori ar ôl inni bechu’n ddifrifol. Mae’n rhaid inni newid y ffordd rydyn ni’n meddwl a theimlo a gwneud pethau sy’n dangos ein bod ni’n edifar. Mae hyn yn golygu cefnu ar ein hymddygiad drwg a dilyn safonau Jehofa unwaith eto. (Darllen Eseciel 33:14-16.) Y peth pwysicaf i bechadur yw cael perthynas dda â Jehofa unwaith eto.

GALW PECHADURIAID I DROI AT DDUW

20-21. Sut gallwn ni helpu rhywun sydd wedi pechu’n ddifrifol?

20 Esboniodd Iesu ran bwysig o’i weinidogaeth pan ddywedodd: “Dw i wedi dod i alw pechaduriaid i droi at Dduw.” (Luc 5:32) Dylen ninnau fod eisiau gwneud hynny hefyd. Dyweda dy fod ti’n ffeindio allan bod un o dy ffrindiau agos wedi pechu’n ddifrifol. Beth dylet ti ei wneud?

21 Byddi di ond yn brifo dy ffrind drwy geisio cuddio’r pechod. Dydy hynny byth yn llwyddo beth bynnag, oherwydd mae Jehofa yn gwylio. (Diar. 5:21, 22; 28:13) Gelli di helpu dy ffrind drwy ei atgoffa bod yr henuriaid eisiau ei helpu. Os ydy dy ffrind yn gwrthod cyfaddef i’r henuriaid, dylet ti fynd atyn nhw yn ei le. Bydd hynny’n dangos dy fod ti eisiau ei helpu. Mae ei berthynas â Jehofa yn y fantol!

22. Beth byddwn ni’n ei drafod yn yr erthygl nesaf?

22 Ond beth os ydy rhywun wedi pechu mor ddifrifol ac am gyfnod mor hir, mae’r henuriaid yn penderfynu bod rhaid iddo gael ei ddiarddel? Ydy hynny’n golygu eu bod nhw wedi ei drin yn ddidrugaredd? Yn yr erthygl nesaf, byddwn ni’n ystyried ffordd drugarog Jehofa o ddisgyblu pechaduriaid a sut gallwn ni ei efelychu.

CÂN 103 Bugeiliaid—Dynion yn Rhoddion

^ Par. 5 Mae edifeirwch go iawn yn cynnwys mwy na jest dweud sori am bechu. Gan ddefnyddio esiamplau y Brenin Ahab, y Brenin Manasse, a’r mab coll o ddameg Iesu, bydd yr erthygl hon yn ein helpu ni i ddeall beth ydy gwir edifeirwch. Byddwn ni hefyd yn trafod pethau mae’n rhaid i henuriaid feddwl amdanyn nhw wrth bwyso a mesur os ydy rhywun wedi edifarhau go iawn ar ôl pechu’n ddifrifol.

^ Par. 60 DISGRIFIAD O’R LLUN: Yn ei ddicter, mae’r Brenin Ahab yn gorchymyn i’w filwyr fynd â phroffwyd Jehofa Michea i’r carchar.

^ Par. 62 DISGRIFIAD O’R LLUN: Mae’r Brenin Manasse yn gorchymyn i’w weithwyr ddinistrio’r delwau roedd wedi eu gosod yn y deml.

^ Par. 64 DISGRIFIAD O’R LLUN: Mae’r mab coll sydd wedi ymlâdd ar ôl siwrnai hir yn falch o weld ei gartref yn y pellter o’r diwedd.