Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

ERTHYGL ASTUDIO 42

Bydda’n Sicr Fod Gen Ti’r Gwir

Bydda’n Sicr Fod Gen Ti’r Gwir

“Dylech bwyso a mesur pob un, a dal gafael yn beth sy’n dda.”—1 THES. 5:21.

CÂN 142 Dal Ein Gafael yn Ein Gobaith

CIPOLWG *

1. Pam mae cymaint o bobl wedi drysu?

MAE ’na filoedd o grefyddau sy’n dweud eu bod nhw’n Gristnogol ac yn honni addoli Duw mewn ffordd dderbyniol. Does dim rhyfedd bod cymaint o bobl wedi drysu! Maen nhw’n gofyn, “Oes ’na un gwir grefydd, neu ydyn nhw i gyd yn plesio Duw?” Ydyn ni’n hollol sicr ein bod ni fel Tystion Jehofa yn dysgu’r gwir i eraill, ac mai’r ffordd rydyn ni’n addoli Jehofa ydy’r unig un sy’n ei blesio? Ydy hi’n bosib bod yn hollol sicr o’r pethau hynny? Gad inni edrych ar y dystiolaeth.

2. Yn ôl 1 Thesaloniaid 1:5, pam roedd yr apostol Paul yn sicr fod ganddo’r gwir?

2 Roedd yr apostol Paul yn hollol sicr o’r gwirionedd. (Darllen 1 Thesaloniaid 1:5.) Nid emosiwn oedd sail y sicrwydd hwnnw. Astudiodd Paul Air Duw yn ofalus. Roedd yn credu mai “Duw sydd wedi ysbrydoli’r ysgrifau sanctaidd . . . i gyd.” (2 Tim. 3:16) Beth gwnaeth ef ei ddysgu? Yn yr Ysgrythurau, cafodd Paul hyd i dystiolaeth gadarn mai Iesu oedd y Meseia—tystiolaeth gwnaeth yr arweinwyr crefyddol Iddewig ddewis ei hanwybyddu. Roedd yr arweinwyr rhagrithiol hynny yn honni eu bod nhw’n cynrychioli Duw, ond yn gwneud pethau roedd Duw yn eu casáu. (Titus 1:16) Ond roedd Paul yn wahanol, wnaeth ef ddim dewis a dethol pa rannau o Air Duw y byddai’n eu credu. Roedd yn barod i roi ar waith ‘bopeth mae Duw yn ei disgwyl gynnon ni.’—Act. 20:27.

3. Oes rhaid inni gael yr atebion i bob un o’n cwestiynau er mwyn bod yn sicr bod gynnon ni’r gwir? (Gweler hefyd y blwch “ Gweithredoedd Jehofa a’i Fwriadau—‘Gormod i’w Cyfrif’”)

3 Mae rhai yn teimlo y dylai’r gwir grefydd ateb pob cwestiwn, hyd yn oed cwestiynau sydd ddim yn cael eu hateb yn y Beibl. Ydy hynny’n realistig? Ystyria esiampl Paul. Anogodd ei gyd-gredinwyr i “bwyso a mesur” popeth. Ond gwnaeth ef hefyd gyfaddef bod ’na lawer o bethau doedd ef ddim yn eu deall. (1 Thes. 5:21) Ysgrifennodd, “ychydig dŷn ni’n ei wybod,” gan ychwanegu, “dŷn ni ond yn gweld adlewyrchiad ar hyn o bryd (fel edrych mewn drych metel).” (1 Cor. 13:9, 12) Doedd Paul ddim yn deall popeth, a dydyn ni ddim chwaith. Ond mi oedd Paul yn deall gwirioneddau sylfaenol am Jehofa a’i bwrpas. Roedd yn gwybod digon i fod yn sicr fod ganddo’r gwir!

4. Sut gallwn ni fod yn fwy sicr ein bod ni wedi ffeindio’r gwir, a beth byddwn ni’n ei drafod am wir Gristnogion?

4 Un ffordd gallwn ni fod yn fwy sicr ein bod ni wedi ffeindio’r gwir, ydy drwy gymharu’r patrwm o addoliad gwnaeth Iesu ei osod â’r hyn mae Tystion Jehofa yn ei wneud heddiw. Yn yr erthygl hon, byddwn ni’n gweld bod gwir Gristnogion (1) yn gwrthod eilunaddoliaeth, (2) yn parchu enw Jehofa, (3) yn caru’r gwir, a (4) yn caru ei gilydd yn ddwfn.

RYDYN NI’N GWRTHOD EILUNADDOLIAETH

5. Beth rydyn ni’n ei ddysgu oddi wrth Iesu am y ffordd gywir o addoli Duw, a sut gallwn ni roi hynny ar waith?

5 Am ei fod yn caru Duw gymaint, roedd Iesu’n addoli dim ond Jehofa, a hynny tra oedd ef yn y nefoedd a thra oedd ef ar y ddaear. (Luc 4:8) Gwnaeth ef ddysgu ei ddisgyblion i wneud yr un peth. Wnaeth Iesu na’i ddisgyblion ffyddlon erioed ddefnyddio delwau yn eu haddoliad. Am fod Duw yn ysbryd, dydy hi ddim yn bosib i bobl greu unrhyw beth allai ddod yn agos at gynrychioli gogoniant Jehofa! (Esei. 46:5) Ond beth am wneud delw o “saint” a gweddïo ar hwnnw? Yr ail o’r deg gorchymyn gan Jehofa oedd: “Paid cerfio eilun i’w addoli . . . Paid plygu i lawr a’u haddoli nhw.” (Ex. 20:4, 5) Mae’r geiriau hynny yn gwbl glir i’r rhai sydd eisiau plesio Duw.

6. Pa batrwm o addoli mae Tystion Jehofa yn ei ddilyn heddiw?

6 Mae haneswyr seciwlar yn cydnabod bod y Cristnogion cynnar wedi addoli Duw yn unig. Er enghraifft, mae’r llyfr History of the Christian Church yn dweud y byddai’r Cristnogion cynnar “wedi dychryn” o weld delwau yn cael eu defnyddio mewn mannau addoli. Heddiw, mae Tystion Jehofa yn dilyn y patrwm a osododd Cristnogion y ganrif gyntaf. Dydyn ni ddim yn gweddïo ar ddelwau o “seintiau” nac angylion. Dydyn ni ddim hyd yn oed yn gweddïo ar Iesu. A dydyn ni ddim yn gwneud unrhyw beth a fyddai’n cyfateb i addoli baner neu wlad. Ni waeth beth sy’n digwydd, rydyn ni’n benderfynol o ufuddhau i eiriau Iesu: “Addola’r Arglwydd dy Dduw.”—Math. 4:10.

7. Pa wahaniaethau amlwg sydd ’na rhwng Tystion Jehofa a chrefyddau eraill?

7 Heddiw, mae llawer yn gwrando ar bregethwyr poblogaidd. Maen nhw’n eu hedmygu nhw gymaint, maen nhw bron yn eu haddoli. Mae pobl yn heidio i’w heglwysi, yn prynu eu llyfrau, ac yn cyfrannu arian mawr i’r achosion maen nhw’n eu hyrwyddo. Mae rhai yn dal ar bob gair maen nhw’n ei ddweud. Mae’n anodd dychmygu’r bobl hyn yn cynhyrfu mwy o weld Iesu ei hun yn ymddangos o’u blaenau nhw! Ar y llaw arall, dydy’r rhai sy’n addoli Duw yn y ffordd iawn ddim yn dilyn dynion. Er ein bod ni’n parchu’r rhai sy’n cymryd y blaen, rydyn ni’n derbyn dysgeidiaeth glir Iesu: “Dych chi i gyd yn gydradd, fel brodyr.” (Math. 23:8-10) Dydyn ni ddim yn addoli dynion, p’un a ydyn nhw’n arweinwyr crefyddol neu’n rheolwyr gwleidyddol. A dydyn ni ddim yn cefnogi eu hachosion. Yn hytrach, rydyn ni’n aros yn niwtral ac ar wahân i’r byd. Felly, yn hyn i gyd, rydyn ni’n sefyll allan yn wahanol i’r holl grwpiau sy’n honni bod yn Gristnogol.—Ioan 18:36.

RYDYN NI’N PARCHU ENW JEHOFA

Mae gwir Gristnogion yn ei hystyried hi’n fraint i ddweud wrth eraill am Jehofa (Gweler paragraffau 8-10) *

8. Sut rydyn ni’n gwybod bod Jehofa eisiau i’w enw gael ei ogoneddu a’i rannu â phawb?

8 Ar un adeg, gweddïodd Iesu: “O Dad, gogonedda dy enw.” Gwnaeth Jehofa ei hun ateb y weddi honno gyda llais uchel o’r nef yn addo y byddai’n gogoneddu ei enw. (Ioan 12:28, BCND) Drwy gydol ei weinidogaeth, gwnaeth Iesu ogoneddu enw ei Dad. (Ioan 17:26, BCND) Felly mae’n rhesymol i ddisgwyl y byddai gwir Gristnogion yn falch o ddefnyddio enw Duw, a’i rannu ag eraill.

9. Sut gwnaeth y Cristnogion cynnar brofi eu bod nhw’n parchu enw Duw?

9 Ychydig ar ôl i’r gynulleidfa Gristnogol gael ei sefydlu, “dewisodd Duw bobl iddo’i hun o genhedloedd eraill.” (Act. 15:14) Roedd y Cristnogion cynnar hynny yn falch o ddefnyddio enw Duw a’i rannu ag eraill. Roedden nhw’n defnyddio’r enw dwyfol wrth bregethu ac wrth ysgrifennu llyfrau’r Beibl. * Roedden nhw’n dangos mai nhw oedd yr unig bobl oedd yn gwneud enw Duw yn hysbys.—Act. 2:14, 21.

10. Pa dystiolaeth sy’n dangos bod Tystion Jehofa yn cynrychioli enw Jehofa?

10 Ydy Tystion Jehofa yn parchu enw Jehofa fel mae’n ei haeddu? Ystyria’r dystiolaeth. Heddiw, mae llawer o arweinwyr crefyddol wedi gwneud popeth allan nhw i guddio’r ffaith fod gan Dduw enw personol. Maen nhw wedi ei dynnu o’u cyfieithiadau o’r Beibl, ac mewn rhai achosion wedi gwahardd defnydd o’r enw hwnnw yn eu gwasanaethau crefyddol. * Mae’n amlwg bod Tystion Jehofa ydy’r unig rai sy’n parchu enw Jehofa fel mae’n ei haeddu. Rydyn ni’n cyhoeddi’r enw hwnnw yn fwy nag unrhyw grŵp crefyddol arall! Yn hynny o beth, rydyn ni’n gwneud ein gorau glas i haeddu’r enw Tystion Jehofa. (Esei. 43:10-12) Rydyn ni wedi cynhyrchu dros 240 miliwn copi o’r New World Translation of the Holy Scriptures, sy’n defnyddio enw Jehofa mewn llefydd lle mae cyfieithwyr eraill wedi ei hepgor. Ac rydyn ni’n cynhyrchu llenyddiaeth Feiblaidd sy’n defnyddio enw Jehofa mewn dros 1000 o ieithoedd!

RYDYN NI’N CARU’R GWIR

11. Sut gwnaeth y Cristnogion cynnar ddangos eu bod nhw’n caru’r gwir?

11 Roedd Iesu’n caru’r gwir, hynny yw, y gwir am Dduw a’i fwriadau. Roedd Iesu’n byw’n unol â’r gwirioneddau hynny, ac yn eu rhannu nhw ag eraill. (Ioan 18:37) Roedd gwir ddilynwyr Iesu hefyd yn caru’r gwir yn fawr. (Ioan 4:23, 24, BCND) Gwnaeth yr apostol Pedr hyd yn oed gyfeirio at Gristnogaeth fel “ffordd y gwirionedd.” (2 Pedr 2:2, BCND) Am eu bod nhw’n caru’r gwir gymaint, gwnaeth y Cristnogion cynnar wrthod syniadau crefyddol, traddodiadau, a ffyrdd o feddwl oedd yn groes i’r gwir. (Col. 2:8) Yn yr un ffordd heddiw, mae gwir Gristnogion yn ceisio “byw’n ffyddlon i’r gwir” drwy seilio eu daliadau a’u ffordd o fyw ar Air Jehofa.—3 Ioan 3, 4.

12. Beth sy’n digwydd pan fydd y rhai sy’n cymryd y blaen yn sylweddoli bod dealltwriaeth angen ei newid, a pham maen nhw’n gwneud rhywbeth am hynny?

12 Dydy pobl Dduw heddiw ddim yn honni eu bod nhw’n deall popeth yn y Beibl yn llawn. Ar adegau, maen nhw wedi gwneud camgymeriadau wrth esbonio dysgeidiaethau’r Beibl, neu yn y ffordd maen nhw’n trefnu’r gyfundrefn. Ddylai hynny ddim ein synnu ni. Mae’r Beibl yn ei gwneud hi’n glir bod dealltwriaeth yn cynyddu dros amser. (Col. 1:9, 10) Mae Jehofa yn datgelu’r gwir yn raddol ac mae’n rhaid inni fod yn barod i ddisgwyl yn amyneddgar i olau’r gwir ddisgleirio’n fwyfwy. (Diar. 4:18) Pan fydd y rhai sy’n cymryd y blaen yn sylweddoli bod eu dealltwriaeth o ryw wirionedd penodol angen ei newid, dydyn nhw ddim yn dal yn ôl rhag gwneud y newid hwnnw. Mae llawer o eglwysi a chapeli heddiw yn newid eu dysgeidiaethau er mwyn plesio eu haelodau, neu er mwyn bod yn boblogaidd yn y byd. Ond mae Tystion Jehofa yn gwneud newidiadau er mwyn plesio Duw a’i addoli yn y ffordd gwnaeth Iesu. (Iago 4:4) Nid barn y byd sy’n llywio ein newidiadau, ond dealltwriaeth gliriach o’r Beibl. Rydyn ni’n caru’r gwir.—1 Thes. 2:3, 4.

RYDYN NI’N CARU EIN GILYDD YN DDWFN

13. Beth ydy’r rhinwedd bwysicaf mae gwir Gristnogion yn ei dangos, a sut mae’n amlwg ymysg Tystion Jehofa heddiw?

13 O’r holl rinweddau wnaeth ddiffinio Cristnogion y ganrif gyntaf, y pwysicaf oedd cariad. Dywedodd Iesu: “Dyma sut bydd pawb yn gwybod eich bod chi’n ddilynwyr i mi, am eich bod chi’n caru’ch gilydd.” (Ioan 13:34, 35) Heddiw, mae Tystion Jehofa yn mwynhau gwir gariad ac undod ar raddfa fyd-eang. Yn wahanol i bob crefydd arall, mae ein brawdoliaeth fel teulu agos er ein bod ni’n dod o wahanol wledydd a diwylliannau. Rydyn ni’n gweld tystiolaeth o hynny yn ein cyfarfodydd, cynulliadau, a chynadleddau. Mae hynny’n ein gwneud ni’n fwy sicr byth mai’r ffordd rydyn ni’n addoli Jehofa ydy’r un sy’n ei blesio.

14. Yn ôl Colosiaid 3:12-14, beth yw un ffordd bwysig gallwn ni ddangos cariad dwfn tuag at ein gilydd?

14 Mae’r Beibl yn ein hannog “i ddangos cariad dwfn at [ein] gilydd.” (1 Pedr 4:8) Un ffordd gallwn ni ddangos y fath gariad ydy drwy faddau i’n gilydd a goddef beiau ein gilydd. Rydyn ni hefyd yn edrych am gyfleoedd i fod yn hael ac yn lletygar tuag at bawb yn y gynulleidfa, hyd yn oed y rhai sydd wedi ein brifo ni. (Darllen Colosiaid 3:12-14.) Pan ydyn ni’n dangos y fath gariad, rydyn ni’n profi ein bod ni’n wir Gristnogion.

“UN FFYDD”

15. Ym mha ffyrdd eraill rydyn ni’n dilyn y patrwm o addoli a osododd Cristnogion y ganrif gyntaf?

15 Rydyn ni’n dilyn y patrwm o addoli a osododd Cristnogion y ganrif gyntaf mewn ffyrdd eraill hefyd. Er enghraifft, rydyn ni wedi ein trefnu yn yr un ffordd â’r Cristnogion hynny. Mae gynnon ni arolygwyr teithiol, henuriaid, a gweision gweinidogaethol, yn union fel roedd ganddyn nhw. (Phil. 1:1; Titus 1:5) Ac yn debyg iddyn nhw, rydyn ni’n parchu deddfau Jehofa am ryw a phriodas, a’r defnydd o waed. Ac rydyn ni’n amddiffyn y gynulleidfa rhag y rhai sydd ddim eisiau dilyn deddfau Duw.—Act. 15:28, 29; 1 Cor. 5:11-13; 6:9, 10; Heb. 13:4.

16. Beth rydyn ni’n ei ddysgu o Effesiaid 4:4-6?

16 Dywedodd Iesu y byddai llawer yn honni eu bod nhw’n ddisgyblion iddo, ond fyddai pob un ddim yn ddisgyblion go iawn. (Math. 7:21-23) Hefyd rhybuddiodd y Beibl y byddai llawer yn y dyddiau diwethaf ond yn “ymddangos yn dduwiol.” (2 Tim. 3:1, 5) Eto, mae’r Beibl yn dweud yn glir mai dim ond “un ffydd” sydd yn plesio Duw.—Darllen Effesiaid 4:4-6.

17. Pwy heddiw sy’n efelychu Iesu ac yn dilyn yr unig wir ffydd?

17 Pwy sy’n dilyn yr unig wir ffydd heddiw? O edrych ar y dystiolaeth, a thrafod y patrwm o addoli gafodd ei osod gan Iesu a’i ddilyn gan Gristnogion y ganrif gyntaf, does ’na ond un ateb—Tystion Jehofa. Am fraint sydd gynnon ni i fod yn un o bobl Jehofa a gwybod y gwir amdano ef a’i fwriadau! Gad inni fod yn hollol sicr bod gynnon ni’r gwir, a dal ein gafael ynddo.

CÂN 3 Ein Nerth, Ein Gobaith, Ein Hyder

^ Par. 5 Yn yr erthygl hon, byddwn ni’n edrych ar y patrwm o wir addoliad a osododd Iesu, ac yn trafod sut gwnaeth ei ddisgyblion cynnar ei ddilyn. Byddwn ni hefyd yn edrych ar dystiolaeth bod Tystion Jehofa yn dilyn y patrwm hwnnw o wir addoliad heddiw.

^ Par. 9 Gweler y blwch Did the First Christians Use God’s Name?yn rhifyn Gorffennaf 1, 2010, y Tŵr Gwylio Saesneg, t. 6.

^ Par. 10 Er enghraifft, yn 2008, gorchmynnodd y Pab Benedict XVI fod enw Duw “ddim i gael ei ddefnyddio na’i ynganu” mewn gwasanaethau crefyddol, emynau, na gweddïau Catholig.

^ Par. 63 DISGRIFIAD O’R LLUN: Mae cyfundrefn Jehofa wedi rhyddhau’r New World Translation mewn dros 200 o ieithoedd fel bod pobl yn gallu darllen Beibl sy’n defnyddio enw Duw yn eu hiaith eu hunain.