Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

ERTHYGL ASTUDIO 41

Rydyn Ni’n Gwasanaethu’r Duw Sydd “Mor Anhygoel o Drugarog”

Rydyn Ni’n Gwasanaethu’r Duw Sydd “Mor Anhygoel o Drugarog”

“Y mae’r ARGLWYDD yn dda wrth bawb, ac y mae ei drugaredd tuag at ei holl waith.”—SALM 145:9, BCND.

CÂN 44 Gweddi’r Un Mewn Angen

CIPOLWG *

1. Beth all ddod i feddwl wrth ddychmygu person trugarog?

PAN fyddwn ni’n meddwl am berson trugarog, efallai y byddwn ni’n dychmygu rhywun caredig, cynnes, tosturiol, a hael. Efallai bod stori Iesu am y Samariad trugarog yn dod i feddwl. Roedd y dyn hwnnw o wlad arall wedi dangos trugaredd tuag at Iddew oedd wedi cael ei guro gan ladron. Roedd y Samariad yn “teimlo trueni drosto,” ac allan o’i gariad, gofalodd amdano. (Luc 10:29-37) Mae’r eglureb hon yn pwysleisio un o rinweddau hyfryd ein Duw—trugaredd. Mae’r rhinwedd honno yn rhan o gariad Duw, ac mae’n ei dangos tuag aton ni bob dydd mewn llawer o ffyrdd.

2. Beth yw un ffordd arall o ddangos trugaredd?

2 Mae ’na ffordd arall gall rhywun ddangos trugaredd. Mae’n cynnwys peidio â chosbi rhywun, hyd yn oed pan mae ’na sail i wneud hynny. Mae Jehofa yn bendant wedi bod yn drugarog aton ni yn hynny o beth. Dywedodd un salmydd: “Wnaeth e ddim delio gyda’n pechodau ni fel roedden ni’n haeddu.” (Salm 103:10) Ond ar adegau eraill, efallai bydd Jehofa yn rhoi disgyblaeth gadarn i rywun sydd wedi pechu.

3. Pa gwestiynau byddwn ni’n eu trafod?

3 Yn yr erthygl hon, byddwn ni’n trafod tri chwestiwn: Pam mae Jehofa yn dangos trugaredd? Oes ’na gysylltiad rhwng disgyblaeth gadarn a thrugaredd? A beth all ein helpu i ddangos trugaredd? Gad inni weld sut mae Gair Duw yn ateb y cwestiynau hyn.

PAM MAE JEHOFA YN DANGOS TRUGAREDD?

4. Pam mae Jehofa yn dangos trugaredd?

4 Mae Jehofa wrth ei fodd yn dangos trugaredd. Ysgrifennodd yr apostol Paul fod Duw “mor anhygoel o drugarog.” Yn y cyd-destun hwn, roedd Paul yn cyfeirio at y trugaredd a ddangosodd Duw wrth gynnig gobaith o fywyd yn y nef i’w weision eneiniog amherffaith. (Eff. 2:4-7) Ond mae trugaredd Jehofa yn mynd ymhellach na hynny. Ysgrifennodd y salmydd Dafydd: “Y mae’r ARGLWYDD yn dda wrth bawb, ac y mae ei drugaredd tuag at ei holl waith.” (Salm 145:9, BCND) Am fod Jehofa yn caru pobl, mae’n dangos trugaredd bryd bynnag mae ’na sail i wneud hynny.

5. Sut dysgodd Iesu am drugaredd Jehofa?

5 Mae Iesu yn gwybod yn fwy na neb gymaint mae Jehofa wrth ei fodd yn dangos trugaredd. Roedd y ddau gyda’i gilydd yn y nef am filoedd o flynyddoedd cyn i Iesu ddod i’r ddaear. (Diar. 8:30, 31, BCND) Gwelodd Iesu sut roedd ei Dad yn dangos trugaredd at bobl amherffaith dro ar ôl tro. (Salm 78:37-42) Wrth ddysgu eraill, roedd Iesu yn aml yn pwysleisio’r rhinwedd ddeniadol hon mae ei Dad yn ei dangos.

Wnaeth y tad ddim codi cywilydd ar ei fab coll; rhoddodd groeso iddo (Gweler paragraff 6) *

6. Pa ddarlun greodd Iesu o drugaredd ei dad?

6 Fel dywedon ni yn yr erthygl flaenorol, defnyddiodd Iesu ddameg am fab coll i’n helpu ni i ddeall gymaint mae Jehofa wrth ei fodd yn dangos trugaredd. Roedd y mab wedi gadael y cartref, a “gwastraffodd ei arian i gyd ar fywyd gwyllt.” (Luc 15:13) Yn hwyrach ymlaen, edifarhaodd am ei fywyd anfoesol, syrthiodd ar ei fai, ac aeth yn ôl adref. Beth oedd ymateb ei dad? Doedd dim rhaid i’r dyn ifanc ddisgwyl yn hir i ffeindio allan. Dywedodd Iesu: “Gwelodd ei dad e’n dod pan oedd yn dal yn bell i ffwrdd. Roedd ei dad wedi cynhyrfu, a rhedodd at ei fab, a’i gofleidio a’i gusanu.” Wnaeth ei dad ddim codi cywilydd arno. Yn hytrach, dangosodd drugaredd a maddeuant i’w fab, a’i groesawu yn ôl i’r teulu. Roedd y mab coll wedi pechu’n ddifrifol, ond am ei fod yn edifar, maddeuodd ei dad iddo. Mae’r tad trugarog yn yr eglureb yn cynrychioli Jehofa. Yn y ffordd gynnes hon, dangosodd Iesu fod Jehofa eisiau maddau i bechaduriaid sy’n edifarhau go iawn.—Luc 15:17-24.

7. Beth yw’r cysylltiad rhwng doethineb Jehofa a’r trugaredd mae’n ei ddangos?

7 Mae Jehofa yn dangos trugaredd am fod ganddo ddoethineb heb ei ail. Dydy doethineb Jehofa ddim yn rhyw rinwedd oer academaidd. Yn hytrach, mae’r Beibl yn dweud bod “y ddoethineb sydd oddi uchod” yn “llawn o drugaredd a’i ffrwythau daionus.” (Iago 3:17) Fel rhiant cariadus, mae Jehofa’n gwybod bod ei blant yn elwa o’i drugaredd. (Salm 103:13; Esei. 49:15) Mae ei drugaredd yn rhoi gobaith iddyn nhw er eu bod nhw’n amherffaith. Felly, mae doethineb di-ben-draw Jehofa yn ei gymell i ddangos trugaredd pryd bynnag mae’n gweld rheswm dros wneud hynny. Ond ar yr un pryd, mae trugaredd Jehofa yn hollol gytbwys. Yn ei ddoethineb, dydy ef byth yn croesi’r ffin rhwng dangos trugaredd a bod yn rhy llac.

8. Beth sy’n angenrheidiol ar adegau, a pham?

8 Dyweda bod un o weision Duw yn penderfynu byw bywyd anfoesol. Beth wedyn? Cafodd Paul ei ysbrydoli i ysgrifennu, “ddylech chi gael dim i’w wneud” ag ef. (1 Cor. 5:11) Mae pechaduriaid sydd ddim yn edifarhau yn cael eu diarddel o’r gynulleidfa. Mae hynny’n angenrheidiol er mwyn amddiffyn ein brodyr a chwiorydd ffyddlon ac er mwyn adlewyrchu ffyrdd sanctaidd Jehofa. Ond mae rhai yn meddwl bod diarddel yn drefniant didrugaredd gan Dduw. Ydy hynny’n wir? Gad inni weld.

ALL DISGYBLAETH GADARN FOD YN DRUGAROG?

Efallai bydd dafad yn cael ei chadw ar wahân pan fydd hi’n sâl, ond mae hi’n dal i elwa o ofal y bugail (Gweler paragraffau 9-11)

9-10. Yn ôl Hebreaid 12:5, 6, pam gallwn ni ddweud bod diarddel yn drefniant trugarog? Eglura.

9 Pan fyddwn ni’n clywed cyhoeddiad yn un o’n cyfarfodydd yn dweud bod rhywun rydyn ni’n ei adnabod ac yn ei garu “ddim bellach yn un o Dystion Jehofa,” rydyn ni’n drist iawn. Efallai byddwn ni’n meddwl a oedd gwir angen ei ddiarddel. Ydy hi’n beth trugarog i ddiarddel rhywun? Ydy, mae hi. Dydy dal yn ôl rhag disgyblu rhywun sydd ei angen ddim yn ddoeth, yn drugarog, nac yn gariadus. (Diar. 13:24) Ydy cael ei ddiarddel yn gallu helpu rhywun i newid ei ffyrdd ac edifarhau? Ydy. Mae llawer sydd wedi pechu’n ddifrifol wedi dweud mai cael eu diarddel oedd yr union ergyd oedden nhw ei angen i weld pa mor ddifrifol oedd eu pechod, i newid eu ffyrdd, a throi yn ôl at Jehofa.—Darllen Hebreaid 12:5, 6.

10 Ystyria’r eglureb hon. Mae bugail yn sylwi bod un o’i ddefaid yn sâl. Gwyddai fod rhaid gwahanu’r ddafad sâl oddi wrth weddill y praidd er mwyn trin y salwch, ond mae defaid yn hoffi bod gyda’i gilydd, ac efallai’n aflonyddu o gael eu cadw ar wahân. Ond ydy hynny’n golygu bod y bugail yn greulon am ei fod wedi gwneud hynny? Wrth gwrs ddim. Mae’n gwybod y bydd y salwch yn lledaenu petai’n gadael i’r ddafad gymysgu â gweddill y praidd. Drwy gadw’r un sâl ar wahân, mae’n gwarchod y praidd cyfan.—Cymhara Lefiticus 13:3, 4.

11. (a) Ym mha ffyrdd mae rhywun sydd wedi ei ddiarddel yn debyg i ddafad sâl? (b) Beth sydd ar gael i helpu’r rhai sydd wedi eu diarddel?

11 Gallen ni gymharu Cristion sydd wedi cael ei ddiarddel â’r ddafad sâl honno. Mae’n sâl mewn ffordd ysbrydol. (Iago 5:14) Mae salwch ysbrydol yn gallu lledaenu, yn union fel mae salwch go iawn. Felly, mewn rhai achosion, mae’n rhaid gwahanu rhywun sy’n ysbrydol sâl oddi wrth y gynulleidfa. Mae’r ddisgyblaeth hon yn dangos cariad Jehofa tuag at y rhai ffyddlon yn y gynulleidfa, ac ar yr un pryd, efallai bydd yn helpu’r pechadur i sylweddoli pa mor ddrwg yw ei bechod, a’i gymell i edifarhau. Tra bod ef wedi ei ddiarddel, mae’n bosib iddo fynd i’r cyfarfodydd er mwyn bwydo ei hun yn ysbrydol a chryfhau ei ffydd unwaith eto. Mae croeso iddo ddarllen ac astudio ein llenyddiaeth, a gwylio JW Broadcasting® hefyd. Ac wrth i’r henuriaid weld ei gynnydd, efallai byddan nhw’n cynnig cyngor ac arweiniad personol o bryd i’w gilydd i’w helpu i adennill ei iechyd ysbrydol fel ei fod yn gallu bod yn un o Dystion Jehofa unwaith eto. *

12. Beth ydy’r peth cariadus a thrugarog gall henuriaid ei wneud ar gyfer pechadur sydd ddim yn edifar?

12 Mae’n bwysig cofio mai dim ond pechaduriaid sydd ddim yn edifar sy’n cael eu diarddel. Mae’r henuriaid yn gwybod bod hyn yn benderfyniad mawr, felly maen nhw’n ei gymryd o ddifri. Maen nhw’n gwybod bod Jehofa ond yn disgyblu yn ôl ‘faint mae rhywun yn ei haeddu.’ (Jer. 30:11) Maen nhw’n caru eu brodyr, a dydyn nhw ddim eisiau gwneud unrhyw beth a fyddai’n achosi niwed ysbrydol iddyn nhw. Ond weithiau, y peth cariadus a thrugarog i’w wneud ydy diarddel pechadur o’r gynulleidfa am gyfnod.

13. Pam roedd rhaid diarddel Cristion yng Nghorinth?

13 Ystyria sut gwnaeth yr apostol Paul delio â phechadur yn y ganrif gyntaf oedd ddim yn edifar. Roedd Cristion yng Nghorinth yn byw bywyd anfoesol gyda gwraig ei dad. Am beth ofnadwy! Gwyddai Paul fod Jehofa wedi dweud wrth yr Israeliaid gynt: “Mae dyn sy’n cael rhyw gyda gwraig ei dad yn amharchu ei dad. Y gosb ydy marwolaeth i’r ddau.” (Lef. 20:11) Wrth gwrs, allai Paul ddim dweud wrth y gynulleidfa i ladd y dyn, ond mi wnaeth ef ddweud wrth y Corinthiaid i’w ddiarddel. Roedd ymddygiad anfoesol y dyn hwnnw yn effeithio ar eraill yn y gynulleidfa. Roedd rhai hyd yn oed yn meddwl nad oedd ef yn gwneud llawer o’i le!—1 Cor. 5:1, 2, 13.

14. Sut dangosodd Paul drugaredd tuag at y dyn yng Nghorinth a gafodd ei ddiarddel, a pham? (2 Corinthiaid 2:5-8, 11)

14 Beth amser wedyn, clywodd Paul fod y dyn wedi gwneud newidiadau mawr. Roedd ef wedi edifarhau go iawn. Er bod y dyn wedi dod â chywilydd ar y gynulleidfa, dywedodd Paul wrth yr henuriaid nad oedd ef eisiau bod yn rhy llym. Dywedodd wrthyn nhw: “Mae’n bryd i chi faddau iddo a’i helpu i droi yn ôl.” Sylwa ar reswm Paul: “Dych chi ddim eisiau iddo gael ei lethu’n llwyr a suddo i anobaith.” Roedd Paul yn teimlo dros y dyn oedd wedi edifarhau. Doedd yr apostol ddim eisiau gweld y dyn yn cael ei lethu gymaint gan beth roedd wedi ei wneud nes ei fod yn rhoi’r gorau i geisio maddeuant.—Darllen 2 Corinthiaid 2:5-8, 11.

15. Sut gall yr henuriaid fod yn gadarn ac yn drugarog ar yr un pryd?

15 Fel Jehofa, mae’r henuriaid wrth eu boddau yn dangos trugaredd. Maen nhw’n gadarn pan fydd rhaid, ond yn drugarog pan fydd yn bosib, a phan fydd ’na sail i wneud hynny. Fel arall, bydden nhw’n rhy llac ac felly ddim yn dangos trugaredd. Ond ai henuriaid ydy’r unig rai sydd angen dangos trugaredd?

BETH ALL EIN HELPU NI I GYD I DDANGOS TRUGAREDD?

16. Yn Diarhebion 21:13, sut mae Jehofa yn ymateb i’r rhai sydd ddim yn dangos trugaredd?

16 Mae pob Cristion yn ceisio bod yn drugarog fel Jehofa. Pam? Un rheswm ydy na fydd Jehofa yn gwrando ar y rhai sydd ddim yn dangos trugaredd tuag at eraill. (Darllen Diarhebion 21:13.) Does yr un ohonon ni eisiau i Jehofa wrthod gwrando ar ein gweddïau, felly rydyn ni’n ofalus i beidio â meithrin agwedd ddidrugaredd. Yn hytrach na throi clust fyddar i Gristion arall sydd mewn poen, dylen ni wastad fod yn barod i wrando “ar gri’r tlawd,” hynny ydy, y rhai sy’n isel neu’n ddigalon. Mewn ffordd debyg, rydyn ni’n cymryd y cyngor hwn o ddifri: “Fydd dim trugaredd i chi os ydych chi heb ddangos trugaredd at eraill.” (Iago 2:13) Os ydyn ni’n ostyngedig ac yn cofio gymaint rydyn ni angen trugaredd, byddwn ni’n fwy tebygol o ddangos trugaredd. Rydyn ni eisiau dangos trugaredd yn enwedig pan fydd rhywun yn cael ei adfer i’r gynulleidfa.

17. Sut dangosodd y Brenin Dafydd drugaredd go iawn?

17 Gall esiamplau o’r Beibl ein helpu ni i ddangos trugaredd ac i osgoi bod yn rhy llym. Er enghraifft, meddylia am y Brenin Dafydd. Dangosodd drugaredd go iawn yn aml. Er bod Saul eisiau ei ladd, roedd Dafydd yn drugarog tuag at frenin eneiniog Duw. Doedd ef byth eisiau dial arno na’i frifo.—1 Sam. 24:9-12, 18, 19.

18-19. Ym mha ddwy sefyllfa wnaeth Dafydd ddangos agwedd ddidrugaredd?

18 Doedd Dafydd ddim yn drugarog bob tro. Er enghraifft, roedd Nabal yn ddyn caled ac annifyr, a phan wnaeth ef amharchu Dafydd a gwrthod rhoi bwyd iddo ef a’i ddynion, gwylltiodd Dafydd a phenderfynodd ladd Nabal a phob dyn yn ei dŷ. Ond am fod Abigail, gwraig garedig ac amyneddgar Nabal, wedi bod yn gyflym i ymyrryd, gwnaeth hynny rwystro Dafydd rhag bod yn waed-euog.—1 Sam. 25:9-22, 32-35.

19 Ar achlysur arall, dywedodd y proffwyd Nathan wrth Dafydd am ddyn cyfoethog wnaeth ddwyn dafad annwyl ei gymydog tlawd. Roedd Dafydd yn flin iawn o glywed hynny, a dywedodd: “Mor sicr â bod yr ARGLWYDD yn fyw, mae’r dyn yna’n haeddu marw!” (2 Sam. 12:1-6) Roedd Dafydd yn gyfarwydd â Chyfraith Moses. Roedd rhaid i leidr oedd wedi dwyn dafad dalu pedair gwaith yn ôl amdani. (Ex. 22:1) Ond marwolaeth? Roedd hynny braidd yn llym. Mewn gwirionedd dywedodd Nathan y stori honno i helpu Dafydd i ddeall ei fod ef ei hun wedi gwneud pethau llawer gwaeth! A dangosodd Jehofa ei fod yn llawer mwy trugarog tuag at Dafydd nag y byddai Dafydd wedi bod tuag at yr un wnaeth ddwyn y ddafad yn eglureb Nathan!—2 Sam. 12:7-13.

Dangosodd y Brenin Dafydd agwedd ddidrugaredd tuag at y dyn yn stori Nathan (Gweler paragraffau 19-20) *

20. Beth gallwn ni ei ddysgu o esiampl Dafydd?

20 Sylwa, pan oedd Dafydd wedi gwylltio, penderfynodd fod Nabal a’i holl ddynion yn haeddu marw. Ac yn hwyrach ymlaen, dywedodd Dafydd fod y dyn yn eglureb Nathan hefyd yn haeddu marw. Ond roedd Dafydd yn ddyn caredig fel arfer, felly pam gwnaeth ef farnu’r lleidr mor llym? Ystyria’r cyd-destun. Ar y pryd roedd gan Dafydd gydwybod euog. Dydy agwedd feirniadol a llym ddim yn arwydd o iechyd ysbrydol da. I’r gwrthwyneb a dweud y gwir. Rhoddodd Iesu rybudd cryf i’w ddilynwyr: “Peidiwch bod yn feirniadol o bobl eraill, ac wedyn wnaiff Duw mo’ch barnu chi. Oherwydd cewch chi’ch barnu yn yr un ffordd â dych chi’n barnu pobl eraill.” (Math. 7:1, 2) Felly, gad inni wneud ein gorau i beidio â bod yn rhy llym, ond i fod yn “anhygoel o drugarog,” fel ein Duw.

21-22. Beth yw rhai ffyrdd ymarferol gallwn ni ddangos trugaredd?

21 Mae trugaredd yn fwy na theimlad yn unig. Mae trugaredd hyd yn oed wedi cael ei ddiffinio fel “tosturi ar waith.” Felly, gall pob un ohonon ni edrych yn ofalus ar anghenion ein teulu, ein cynulleidfa, a’n cymuned. Rydyn ni’n sicr o ddod o hyd i lawer o gyfleoedd i ddangos trugaredd. Ydy rhywun angen cysur? Ydy hi’n bosib inni gynnig help ymarferol, efallai drwy wneud bwyd, neu wneud rhywbeth arall caredig? Ydy rhywun sydd wedi cael ei adfer i’r gynulleidfa angen ffrind da i’w galonogi? Allwn ni rannu cysur y newyddion da ag eraill? Dyna un o’r ffyrdd gorau i ddangos trugaredd i bawb rydyn ni’n eu cyfarfod.—Job 29:12, 13; Rhuf. 10:14, 15; Iago 1:27.

22 Os ydyn ni’n effro i’r fath anghenion, byddwn ni’n gweld bod ’na lawer o gyfleoedd o’n gwmpas i ddangos trugaredd. Meddylia gymaint rydyn ni’n gwneud i’n Tad nefol lawenhau pan ydyn ni’n dangos trugaredd, am ei fod yn Dduw sydd “mor anhygoel o drugarog”!

CÂN 43 Gweddi o Ddiolch

^ Par. 5 Trugaredd ydy un o rinweddau mwyaf apelgar Jehofa, ac mae’n un rydyn ni i gyd angen ei meithrin. Yn yr erthygl hon, byddwn ni’n trafod pam mae Jehofa yn dangos trugaredd, pam gallwn ni ddweud bod ei ddisgyblaeth yn drugarog, a sut gallwn ni ddangos y rhinwedd hyfryd hon.

^ Par. 11 I weld sut gall rywun drwsio ei berthynas â Duw ar ôl cael ei adfer i’r gynulleidfa, a sut gall yr henuriaid ei helpu, gweler yr erthygl “Ailadeiladu Dy Berthynas â Jehofa” yn y rhifyn hwn.

^ Par. 60 DISGRIFIAD O’R LLUN: O do ei dŷ, mae’r tad yn gweld ei fab coll yn dod yn ôl gartref ac yn rhedeg i lawr i’w gofleidio.

^ Par. 64 DISGRIFIAD O’R LLUN: O dan bwysau ei euogrwydd, gwnaeth y Brenin Dafydd orymateb i eglureb Nathan a dweud bod y dyn cyfoethog yn haeddu marw.