ERTHYGL ASTUDIO 35
Dalia Ati i Fod yn Adeiladol
“Felly calonogwch eich gilydd, a daliwch ati i helpu’ch gilydd.”—1 Thes. 5:11.
CÂN 90 Annog Ein Gilydd
CIPOLWG a
1. Yn ôl 1 Thesaloniaid 5:11, pa waith rydyn ni i gyd yn cael rhan ynddo?
A YDY dy gynulleidfa erioed wedi adeiladu Neuadd y Deyrnas, neu adnewyddu hen un? Wyt ti’n cofio sut roeddet ti’n teimlo yn y cyfarfod cyntaf yn yr adeilad newydd? Mae’n debyg dy fod ti’n hynod o ddiolchgar i Jehofa, ac efallai wedi colli deigryn neu ddau yn ystod y gân gyntaf. Yn sicr, mae ein prosiectau adeiladu yn dod â chlod i Jehofa. Ond mae ’na waith adeiladu arall sy’n dod â mwy o glod iddo. Sôn ydyn ni am adeiladu pobl yn hytrach na phethau, hynny ydy y gwaith o galonogi ein gilydd drwy fod yn adeiladol. Dyna mae’r apostol Paul yn sôn amdano yn ein prif adnod, 1 Thesaloniaid 5:11.—Darllen.
2. Beth byddwn ni’n ei drafod yn yr erthygl hon?
2 Roedd yr apostol Paul yn un da am adeiladu pobl, am ei fod yn teimlo drostyn nhw. Yn yr erthygl hon, byddwn ni’n trafod sut gwnaeth Paul helpu ei frodyr a chwiorydd i (1) dal ati yn wyneb treialon, (2) cadw heddwch, a (3) cryfhau eu ffydd yn Jehofa. Gad inni weld sut gallwn ni ei efelychu, ac adeiladu ein brodyr a chwiorydd heddiw.—1 Cor. 11:1.
ROEDD PAUL YN HELPU ERAILL I DDAL ATI YN WYNEB TREIALON
3. Pa agwedd gytbwys oedd gan Paul?
3 Roedd Paul yn caru ei frodyr yn fawr iawn, ac roedd yn gwybod sut beth oedd dioddef. Felly roedd yn gallu dangos empathi a chydymdeimlo â’r rhai oedd yn wynebu treialon. Ar un adeg, doedd gan Paul ddim arian, felly roedd rhaid iddo chwilio am waith er mwyn cynnal ei hun a’i ffrindiau. (Act. 20:34) Gwneud pebyll oedd ei grefft, felly ar ôl cyrraedd Corinth, aeth i weithio gydag Acwila a Priscila oedd hefyd yn gwneud pebyll. Ond roedd yn gwneud yn siŵr ei fod yn pregethu “bob Saboth.” A phan gyrhaeddodd Silas a Timotheus, aeth Paul ati “i bregethu’n llawn amser.” (Act. 18:2-5) Y peth pwysicaf i Paul oedd gwasanaethu Jehofa. Am fod Paul yn esiampl wych o gadw cydbwysedd rhwng ei waith a’i weinidogaeth, roedd yn gallu calonogi ei frodyr a chwiorydd. Gwnaeth ef eu hatgoffa nhw i beidio â gadael i bryderon bywyd gymryd lle’r pethau pwysicaf, sef eu gwasanaeth i Jehofa.—Phil. 1:10.
4. Sut gwnaeth Paul a Timotheus helpu eu brodyr a chwiorydd i ymdopi ag erledigaeth?
4 Cafodd y Cristnogion newydd yn Thesalonica eu herlid yn ofnadwy yn fuan iawn ar ôl sefydlu’r gynulleidfa yno. Ar ôl methu cael hyd i Paul a Silas, gwnaeth criw o wrthwynebwyr ffyrnig lusgo “rhai o’r Cristnogion eraill o flaen swyddogion y ddinas,” gan weiddi, “maen nhw’n herio Cesar!” (Act. 17:6, 7) Elli di ddychmygu ofn y Cristnogion hynny ar ôl iddyn nhw sylweddoli bod dynion y ddinas wedi troi arnyn nhw? Byddai wedi bod yn hawdd iddyn nhw golli sêl am eu gwasanaeth i Jehofa, ond doedd Paul ddim am adael i hynny ddigwydd. Er bod rhaid iddo ef a Silas adael, gwnaethon nhw sicrhau bod rhywun yno i ofalu am y gynulleidfa newydd, a phwy well am y dasg na Timotheus. Dywedodd Paul: “Byddai e’n gallu cryfhau eich ffydd chi a’ch calonogi chi, rhag i’r treialon dych chi’n mynd drwyddyn nhw eich gwneud chi’n ansicr.” (1 Thes. 3:2, 3) Mae’n debyg bod Timotheus ei hun wedi cael ei erlid yn Lystra, ac wedi gweld sut roedd Paul wedi mynd ati i gryfhau’r brodyr yno. Hefyd, am ei fod wedi gweld sut roedd Jehofa wedi gweithio pethau allan, roedd yn gallu tawelu meddwl ei frodyr a chwiorydd, a gwneud iddyn nhw deimlo y byddai popeth yn iawn iddyn nhwthau hefyd.—Act. 14:8, 19-22; Heb. 12:2.
5. Sut gwnaeth un henuriad helpu brawd o’r enw Bryant?
5 Ym mha ffordd arall gwnaeth Paul gryfhau ei frodyr a chwiorydd? Pan aeth Paul a Barnabas yn ôl i Lystra, Iconium, ac Antiochia, gwnaethon nhw ‘benodi grŵp o arweinwyr,’ neu henuriaid, ym mhob cynulleidfa. (Act. 14:21-23) Heb os, roedd yr henuriaid hynny yn gysur mawr i’r cynulleidfaoedd bryd hynny, fel mae’r henuriaid heddiw. Mae profiad brawd o’r enw Bryant yn enghraifft o hynny. “Pan o’n i’n 15 oed, gwnaeth Dad ein gadael ni, a chafodd Mam ei diarddel. O’n i’n teimlo mor unig a digalon.” Ond sylwa ar beth helpodd Bryant yn ystod y cyfnod anodd hwnnw. “Roedd Tony, un o’r henuriaid, yn siarad â fi yn aml, ac nid jest yn y cyfarfodydd. Roedd ef wastad yn sôn am bobl oedd yn hapus er eu bod nhw wedi wynebu treialon. Dangosodd Salm 27:10 i mi, a gwnaeth ef fy atgoffa fi’n aml o esiampl Heseceia a oedd yn ffyddlon er nad oedd ei dad yn ddyn da.” Pa effaith cafodd hyn ar Bryant? “Gydag anogaeth Tony,” meddai, “o’n i’n hapus fy myd yn gwasanaethu yn llawn amser.” Felly, henuriaid, byddwch yn effro i’r rhai sydd, fel Bryant, angen “gair caredig” i godi calon.—Diar. 12:25.
6. Sut roedd Paul yn defnyddio hanesion bywyd i gryfhau ei frodyr a chwiorydd?
6 Gwnaeth Paul atgoffa ei frodyr a chwiorydd fod Jehofa wedi rhoi nerth i ‘dyrfa enfawr’ o dystion i wynebu treialon anodd. (Heb. 12:1) Gwyddai Paul pa mor bwerus oedd hanesion bywyd. Byddai profiadau rhai ffyddlon yn y gorffennol yn helpu ei frodyr a chwiorydd i fod yn ddewr ac i ganolbwyntio ar “ddinas y Duw byw” yn wyneb pob math o dreialon. (Heb. 12:22) Mae’r un peth yn wir heddiw. Pwy ohonon ni sydd ddim wedi cael ei galonogi drwy ddarllen am sut gwnaeth Jehofa helpu Gideon, Barac, Dafydd, Samuel, ac eraill? (Heb. 11:32-35) Meddylia hefyd am esiamplau pobl ffyddlon yn ein hoes ni. Bydd brodyr a chwiorydd yn aml yn anfon llythyrau i’r pencadlys i ddweud cymaint mae un o’r hanesion bywyd wedi cryfhau eu ffydd.
ROEDD PAUL YN DANGOS SUT I GADW HEDDWCH
7. Beth rwyt ti’n ei ddysgu o gyngor Paul yn Rhufeiniaid 14:19-21?
7 Gall pob un ohonon ni gyfrannu at awyrgylch heddychlon yn y gynulleidfa drwy beidio â ffraeo dros faterion o farn bersonol, na mynnu ein bod ni’n iawn bob tro, yn enwedig pan does ’na ddim egwyddor Ysgrythurol yn y fantol. Meddylia am beth ddigwyddodd yng nghynulleidfa Rhufain, lle roedd ’na gymysgedd o Gristnogion Iddewig a rhai o genhedloedd eraill. Unwaith i Gyfraith Moses ddod i ben, doedd ’na ddim cymaint o gyfyngiadau ar ba fath o fwydydd a oedd yn dderbyniol i Gristnogion eu bwyta bellach. (Marc 7:19) O hynny ymlaen, roedd rhai Cristnogion Iddewig yn teimlo’n ddigon hapus i fwyta pob math o fwydydd, tra bod eraill yn dal yn gyndyn o wneud hynny. Achosodd hyn raniadau yn y gynulleidfa. Felly pwysleisiodd Paul pa mor bwysig oedd cadw heddwch drwy ddweud: “Mae’n well dewis peidio bwyta cig am unwaith, a pheidio yfed gwin, a pheidio gwneud unrhyw beth fyddai’n achosi i Gristion arall faglu.” (Darllen Rhufeiniaid 14:19-21.) Roedd hyn yn eu helpu i weld y niwed mae dadleuon yn ei achosi i unigolion, ac i’r gynulleidfa gyfan. Roedd Paul hyd yn oed yn fodlon newid ei arferion ei hun er mwyn peidio â baglu eraill. (1 Cor. 9:19-22) Yn yr un modd heddiw, gallwn ni adeiladu eraill a chadw heddwch drwy beidio â gwneud mor a mynydd am farn bersonol rhywun arall.
8. Beth wnaeth Paul ar ôl i ddadl godi dros rywbeth pwysig yn y gynulleidfa?
8 Gwnaeth Paul hefyd osod esiampl dda o sut i gadw heddwch pan fydd dadleuon yn codi dros faterion pwysig. Er enghraifft, roedd rhai yn y gynulleidfa yn mynnu bod pob Cristion yn cael ei enwaedu, efallai fel na fyddai’r Iddewon yn eu beirniadu. (Gal. 6:12) Roedd Paul yn anghytuno’n llwyr â hynny, ond yn hytrach na mynnu ei ffordd ei hun, gofynnodd yn ostyngedig am gyngor yr apostolion a’r henuriaid yn Jerwsalem. (Act. 15:1, 2) Gwnaeth ei esiampl helpu’r Cristnogion i aros yn llawen ac i gadw heddwch yn y gynulleidfa.—Act. 15:30, 31.
9. Sut gallwn ni ddilyn esiampl Paul?
9 Sut gallwn ni gadw heddwch os bydd dadl yn codi dros rywbeth pwysig? Gallwn ni efelychu Paul a gofyn am gyngor oddi wrth yr henuriaid—y rhai mae Jehofa wedi eu penodi i ofalu am y gynulleidfa. Gallwn ni hefyd edrych yn y cyhoeddiadau am gyngor sy’n seiliedig ar y Beibl, neu droi at ganllawiau penodol gan y gyfundrefn. Drwy wneud hynny, byddwn ni’n cyfrannu at heddwch yn y gynulleidfa yn hytrach na chreu rhaniadau oherwydd ein barn bersonol.
10. Beth arall wnaeth Paul i hybu heddwch yn y gynulleidfa?
10 Rhywbeth arall wnaeth Paul i hybu heddwch oedd edrych am y da yn ei frodyr a chwiorydd. Rydyn ni’n gweld yn ei lythyr at y Rhufeiniaid bod Paul hefyd wedi sôn wrth eraill am y rhinweddau hynny. Gallwn ni efelychu Paul drwy ganmol ein brodyr a chwiorydd. Wedyn byddwn ni’n ddylanwad adeiladol yn y gynulleidfa, yn ffrindiau gwell, ac yn caru ein gilydd yn fwy byth.
11. Sut gallwn ni adfer heddwch pan fydd dadl yn codi?
11 Mae hyd yn oed Cristnogion aeddfed yn anghytuno neu’n ffraeo â’i gilydd weithiau. Dyna’n union a ddigwyddodd i Paul a Barnabas. Er eu bod nhw’n ffrindiau agos, roedden nhw’n anghytuno’n gryf dros fynd â Marc ar un o’u teithiau cenhadol. “Aeth hi’n gymaint o ffrae rhyngddyn nhw nes iddyn nhw wahanu.” (Act. 15:37-39) Ond roedd undod a heddwch yn y gynulleidfa yn bwysig iddyn nhw, felly llwyddodd Paul, Barnabas, a Marc i drwsio eu perthynas. Mae hynny’n amlwg o’r ffordd garedig siaradodd Paul am Barnabas yn nes ymlaen. (1 Cor. 9:6; Col. 4:10) Mae’n rhaid i ni wneud yr un fath heddiw. Os ydyn ni wedi ffraeo â rhywun yn y gynulleidfa, mae’n rhaid inni ddatrys y mater a chanolbwyntio ar ei rinweddau da. Bydd hynny’n cyfrannu at heddwch ac undod y gynulleidfa.—Eff. 4:3.
ROEDD PAUL YN CRYFHAU FFYDD EI FRODYR A CHWIORYDD
12. Pa heriau mae ein brodyr a chwiorydd yn eu hwynebu heddiw?
12 Gallwn ni hefyd fod yn adeiladol drwy gryfhau ffydd ein brodyr a chwiorydd. Meddylia am rai o’r heriau all roi prawf ar ein ffydd heddiw. Mae cyd-weithwyr, ffrindiau ysgol, neu aelodau teulu sydd ddim yn Dystion, yn gwneud hwyl ar ben rhai ohonon ni. Mae eraill yn wynebu salwch difrifol, neu’n cael trafferth ymdopi â phoen emosiynol. Mae eraill eto wedi bod yn aros am ddegawdau i’r system hon ddod i ben. Roedd Cristnogion y ganrif gyntaf yn wynebu heriau tebyg. Felly sut gwnaeth Paul gryfhau ei frodyr a chwiorydd?
13. Sut gwnaeth Paul helpu eraill i wneud safiad dros eu ffydd?
13 Roedd Paul yn defnyddio’r Ysgrythurau i gryfhau ffydd ei frodyr a chwiorydd. Er enghraifft, roedd perthnasau Iddewig rhai Cristnogion yn honni bod eu ffordd nhw o addoli yn well. Mae’n debyg y gelli di ddychmygu pa mor anodd oedd hi iddyn nhw wybod beth i’w ddweud. Felly mae’n siŵr bod llythyr Paul at yr Hebreaid wedi bod yn help mawr i’r Cristnogion hynny ac wedi eu hatgyfnerthu. (Heb. 1:5, 6; 2:2, 3; 9:24, 25) Bydden nhw wedi gallu defnyddio pwyntiau Paul i resymu â’u teuluoedd. Pan fydd ein brodyr a chwiorydd mewn sefyllfa debyg heddiw, gallwn ni eu helpu nhw i ddefnyddio ein cyhoeddiadau i esbonio eu ffydd i eraill. Er enghraifft, gallwn ni ddefnyddio’r llyfryn A Gafodd Bywyd ei Greu? a The Origin of Life—Five Questions Worth Asking, i helpu’r rhai ifanc yn y gynulleidfa i wneud safiad dros eu ffydd os bydd rhywun yn gwneud hwyl am eu pennau am gredu mewn Creawdwr.
14. Beth wnaeth Paul er ei fod yn brysur yn pregethu ac yn dysgu?
14 Anogodd Paul ei frodyr a chwiorydd i ddangos cariad drwy ‘wneud daioni.’ (Heb. 10:24) Helpodd ei frodyr a chwiorydd, nid yn unig drwy beth ddywedodd ef, ond hefyd drwy beth wnaeth ef. Er enghraifft, rhoddodd help ymarferol i’r rhai oedd yn dioddef newyn yn Jwdea. (Act. 11:27-30) Er ei fod yn canolbwyntio ar y gwaith pregethu a dysgu, doedd Paul byth yn rhy brysur i helpu’r rhai oedd mewn angen. (Gal. 2:10) Drwy wneud hynny, roedd yn adeiladu ffydd ei frodyr a chwiorydd yn y ffaith y byddai Jehofa yn gofalu amdanyn nhw. Gallwn ninnau hefyd adeiladu ffydd eraill drwy ddefnyddio ein hamser, ein hegni, a’n sgiliau i helpu ar ôl trychinebau. Gallwn ni hefyd gyfrannu’n rheolaidd at y gwaith byd-eang. Mae gwneud pethau fel hyn yn helpu ein brodyr a chwiorydd i fod yn hollol sicr y bydd Jehofa wastad gyda nhw.
15-16. Sut dylen ni drin y rhai sy’n wan yn ysbrydol?
15 Wnaeth Paul ddim anghofio am y rhai a oedd yn wan yn ysbrydol. Roedd yn teimlo drostyn nhw ac yn siarad â nhw yn garedig ac yn gynnes. (Heb. 6:9; 10:39) Yn ei lythyr at yr Hebreaid, mae’n defnyddio’r gair “ni” yn aml, felly yn amlwg roedd yn gwybod bod angen iddo ddilyn ei gyngor ei hun. (Heb. 2:1, 3) Gallwn ni, fel Paul, gymryd diddordeb personol yn y rhai sy’n wan yn ysbrydol. Mae hynny’n ffordd adeiladol o ddangos ein bod ni’n eu caru nhw. Cofia, mae tôn caredig yr un mor bwysig â’n dewis o eiriau.
16 Gwnaeth Paul atgoffa ei frodyr a chwiorydd bod Jehofa yn ymwybodol o’r holl bethau da roeddwn nhw wedi eu gwneud. (Heb. 10:32-34) Sut gallwn ni ei efelychu? Beth am ddangos diddordeb personol yn rhywun sydd yn wan yn ysbrydol? Er enghraifft, gelli di ofyn sut daeth ef i mewn i’r gwir, neu ofyn cwestiynau a fydd yn gwneud iddo gofio’r adegau mae Jehofa wedi ei helpu. Bydd sgyrsiau fel hyn yn ei helpu i weld nad ydy Jehofa wedi anghofio ei gariad yn y gorffennol, a fydd Ef byth yn cefnu arno yn y dyfodol chwaith. (Heb. 6:10; 13:5, 6) Drwy wneud hyn, efallai byddwn ni’n llwyddo i aildanio ffydd ein brodyr a chwiorydd a’u sbarduno i ddal ati yn eu gwasanaeth i Jehofa.
DALIWCH ATI I GALONOGI EICH GILYDD
17. Pa sgiliau gallwn ni ddal ati i’w gwella?
17 Yn union fel mae adeiladwr yn gwella ei sgiliau dros amser, gallwn ninnau wella’r ffordd rydyn ni’n annog a chalonogi ein gilydd. Gallwn ni helpu eraill i wynebu treialon drwy sôn am rai wnaeth ddal ati yn y gorffennol. Gallwn ni hybu heddwch drwy ganmol eraill, cadw heddwch pan fydd rhywbeth yn ei fygwth, ac adfer heddwch pan fydd dadleuon yn codi. A gallwn ni ddal ati i adeiladu ffydd ein brodyr a chwiorydd drwy eu helpu i wneud safiad, drwy eu helpu nhw mewn ffyrdd ymarferol, a drwy gefnogi unrhyw un sy’n wan yn ysbrydol.
18. Beth rwyt ti’n benderfynol o’i wneud?
18 Mae prosiectau adeiladu theocrataidd yn dod â hapusrwydd mawr i’r rhai sy’n gweithio arnyn nhw. Gallwn ninnau gael hapusrwydd o’r gwaith adeiladu ysbrydol yn y gynulleidfa. Ond yn wahanol i adeiladau go iawn, bydd canlyniadau’r gwaith hwnnw yn para am byth. Felly gad inni fod yn benderfynol o ‘galonogi ein gilydd, a dal ati i helpu ein gilydd.’—1 Thes. 5:11.
CÂN 100 Rhowch Groeso Iddynt i’ch Cartref
a Mae’r hen system hon yn gwneud bywyd yn anodd, ac mae ein brodyr a chwiorydd o dan bwysau mawr. Drwy edrych ar esiampl yr apostol Paul, cawn weld sut gallwn ni eu calonogi a’u helpu nhw. Drwy wneud hynny, gallwn ni fod yn fendith go iawn.
b DISGRIFIAD O’R LLUN: Mae tad yn dangos i’w ferch sut i ddefnyddio’r cyhoeddiadau i esbonio wrth eraill pam dydy hi ddim yn dathlu’r Nadolig.
c DISGRIFIAD O’R LLUN: Mae cwpl wedi teithio i gynnig cymorth ar ôl trychineb.
d DISGRIFIAD O’R LLUN: Mae henuriad wedi galw draw i weld brawd sydd yn wan yn ysbrydol. Mae’n dangos lluniau o’r Ysgol Arloesi aethon nhw iddi gyda’i gilydd flynyddoedd yn ôl. Mae hynny’n dod ag atgofion melys yn ôl i’r brawd, ac yn gwneud iddo deimlo ei fod eisiau gwasanaethu Jehofa yn llawen unwaith eto. Yn y pen draw, mae’n dod yn ôl i’r gynulleidfa.