Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

ERTHYGL ASTUDIO 33

Mae Jehofa yn Gofalu am Ei Bobl

Mae Jehofa yn Gofalu am Ei Bobl

“Yr ARGLWYDD sy’n gofalu am ei bobl.”—SALM 33:18.

CÂN 4 “Jehofa Yw Fy Mugail”

CIPOLWG a

1. Pam gofynnodd Iesu i’w Dad ofalu am ei ddilynwyr?

 AR Y noson cyn iddo farw, gofynnodd Iesu i’w Dad ofalu am ei ddilynwyr yn arbennig. (Ioan 17:15, 20) Mae’n wir fod Jehofa wastad yn gofalu am ei bobl ac yn eu hamddiffyn. Ond roedd Iesu’n gwybod nid yn unig y byddai Satan yn mynd ymlaen i greu mwy o drafferth i’w ddilynwyr, ond hefyd y byddai angen help Jehofa arnyn nhw i ddal eu tir yn erbyn Satan.

2. Yn ôl Salm 33:18-20, pam ddylen ni ddim ofni wynebu heriau?

2 Mae byd Satan yn rhoi pwysau anferth arnon ni heddiw, ac mae hynny’n gallu ein digalonni, a hyd yn oed rhoi prawf ar ein ffyddlondeb i Jehofa. Ond fel byddwn ni’n gweld yn yr erthygl hon, does gynnon ni ddim byd i’w ofni. Pam? Mae Jehofa yn gweld heriau personol pob un ohonon ni ac mae’n barod i’n helpu. Ydy, mae’n “gofalu am ei bobl.” Gad inni drafod dwy esiampl yn y Beibl sy’n ein helpu ni i weld sut mae Jehofa yn gwneud hynny.—Darllen Salm 33:18-20.

PAN FYDDWN NI’N TEIMLO’N UNIG

3. Beth all wneud inni deimlo’n unig?

3 Rydyn ni’n rhan o deulu mawr, ond dydy hynny ddim yn golygu na fyddwn ni byth yn teimlo’n unig. Meddylia am y rhai ifanc. Efallai byddan nhw’n teimlo’n unig os ydyn nhw’n gorfod sefyll o flaen y dosbarth ac esbonio eu ffydd, neu os ydyn nhw’n symud i gynulleidfa newydd. Mae llawer ohonon ni hefyd yn brwydro yn erbyn teimladau negyddol neu iselder. Weithiau gall hynny deimlo fel brwydr unig. Efallai ein bod ni’n tueddu i ddal yn ôl rhag siarad am ein teimladau, gan feddwl fydd neb yn deall, neu fyddan nhw ddim eisiau gwybod. Yn y bôn, mae teimlo’n unig ynddo’i hun yn ddigon i wneud inni bryderu ac anobeithio, ni waeth beth ydy’r achos. Dydy Jehofa byth eisiau inni deimlo fel ’na. Ond sut rydyn ni’n gwybod hynny?

4. Pam dywedodd y proffwyd Elias: “Dyma fi, yr unig un sydd ar ôl”?

4 Meddylia am esiampl y dyn ffyddlon Elias. Roedd Jesebel yn benderfynol o’i ladd, felly roedd Elias wedi bod yn ffoi am ei fywyd am fwy na 40 diwrnod. (1 Bren. 19:1-9) Ac yntau ar ei ben ei hun mewn ogof, dywedodd wrth Jehofa: “Dyma fi, yr unig [broffwyd] sydd ar ôl.” (1 Bren. 19:10) Ond doedd hynny ddim yn wir. Roedd Obadeia wedi achub cant o broffwydi rhag cael eu lladd gan Jesebel. (1 Bren. 18:7, 13) Felly pam roedd Elias yn teimlo mor unig? A oedd ef dan yr argraff bod y proffwydi hynny i gyd wedi marw? Neu tybed am fod neb arall wedi ochri gyda Jehofa hyd yn oed ar ôl iddo brofi, ar fynydd Carmel, mai ef oedd y gwir Dduw? Neu a oedd yn teimlo bod neb yn gwybod pa mor beryglus oedd ei sefyllfa, neu hyd yn oed bod dim ots ganddyn nhw amdano? Dydy’r Beibl ddim yn dweud yn union beth oedd yn mynd trwy feddwl Elias. Ond mae un peth yn sicr, roedd Jehofa yn deall pam roedd Elias yn teimlo’n unig. Ar ben hynny, roedd yn gwybod yn union sut i’w helpu.

Pan fyddwn ni’n teimlo’n unig, pa gysur gawn ni o’r ffordd gwnaeth Jehofa helpu Elias? (Gweler paragraffau 5-6)

5. Sut gwnaeth Jehofa adael i Elias wybod nad oedd ar ei ben ei hun?

5 Helpodd Jehofa Elias mewn llawer o ffyrdd. Gofynnodd iddo ddwywaith: “Be wyt ti’n wneud yma, Elias?”. (1 Bren. 19:9, 13) Ac yna gwrandawodd yn astud wrth iddo agor ei galon. Beth wnaeth Jehofa nesaf? Dangosodd i Elias pa mor bwerus oedd Ef, a’i fod yno wrth ei ochr. Gwnaeth ef hefyd galonogi Elias drwy ddweud wrtho bod llawer o bobl eraill yn gwasanaethu’n ffyddlon. (1 Bren. 19:11, 12, 18) Meddylia am yr effaith y byddai hynny wedi ei chael. Roedd Elias wedi bwrw ei fol ac wedi cael ateb. Ond aeth Jehofa yn bellach. Rhoddodd sawl aseiniad pwysig i Elias. Gofynnodd iddo eneinio Hasael yn frenin ar Syria, Jehu yn frenin ar Israel, ac Eliseus yn broffwyd. (1 Bren. 19:15, 16) Drwy roi’r aseiniadau hyn i Elias, roedd Jehofa yn ei helpu i ganolbwyntio ar bethau positif. Ar ben hynny, rhoddodd ffrind agos iddo, Eliseus. Sut gelli di gael help Jehofa pan fyddi di’n teimlo’n unig?

6. Beth gelli di weddïo amdano pan fyddi di’n teimlo’n unig? (Salm 62:8)

6 Mae Jehofa eisiau iti weddïo arno, er ei fod yn gwybod yn iawn pa heriau rwyt ti’n eu hwynebu. Mae’n addo gwrando ar dy weddïau unrhyw adeg. (1 Thes. 5:17) Mae Jehofa wrth ei fodd yn gwrando ar ei bobl. (Diar. 15:8) Ond beth gelli di weddïo amdano pan fyddi di’n teimlo’n unig? Tywallt dy galon, fel gwnaeth Elias. Paid â dal yn ôl. (Darllen Salm 62:8.) Dyweda wrth Jehofa yn union beth sy’n dy boeni di, a sut mae hynny’n gwneud iti deimlo. Gofynna iddo am y nerth i ddelio â’r teimladau hynny. Er enghraifft, os wyt ti’n teimlo’n unig ac yn llawn ofn wrth siarad am dy ffydd yn yr ysgol, gofynna i Jehofa am ddewrder. Gelli di ofyn iddo am help i gael hyd i’r geiriau iawn. (Luc 21:14, 15) Ac os wyt ti’n brwydro yn erbyn iselder neu emosiynau negyddol, gofynna i Jehofa am y nerth i siarad â brawd neu chwaer aeddfed am y peth. Gweddïa hefyd am i Jehofa helpu’r person hwnnw i wrando arnat ti ac i ddeall dy deimladau. Felly tywallt dy galon i Jehofa, sylwa ar sut mae’n ateb dy weddi, a derbyn help dy frodyr a chwiorydd. Os gwnei di hynny, byddi di’n teimlo’n llai unig.

Wyt ti’n edrych am ffyrdd i wneud mwy yn y weinidogaeth, a hynny gyda phobl eraill? (Gweler paragraff 7)

7. Beth rwyt ti’n ei ddysgu o esiampl Mauricio?

7 Mae Jehofa wedi rhoi gwaith pwysig i bob un ohonon ni. Gelli di fod yn hollol sicr ei fod yn sylwi ar y ffordd rwyt ti’n mynd o gwmpas dy aseiniadau yn y gynulleidfa ac yn y weinidogaeth, ac mae’n gwerthfawrogi hynny. (Salm 110:3) Mae esiampl brawd ifanc o’r enw Mauricio yn dangos bod cadw’n brysur yn gallu dy helpu di pan wyt ti’n teimlo’n unig. b Yn fuan ar ôl iddo gael ei fedyddio, gwnaeth un o’i ffrindiau agosaf adael y gwir. Dywedodd Mauricio: “O’i weld yn drifftio i ffwrdd, wnes i golli hyder yno i fy hun. O’n i’n poeni na fyddwn i’n ddigon cryf i gadw fy addewid i Jehofa ac i aros yn rhan o’i deulu. O’n i’n teimlo mor unig ac yn meddwl fyddai neb yn deall.” Felly beth wnaeth ei helpu? “Dechreuais wneud mwy yn y weinidogaeth,” meddai, “ac roedd hynny’n fy helpu i ganolbwyntio ar bethau eraill heblaw amdana fi fy hun a’r ffordd o’n i’n teimlo. O’n i’n hapusach ac yn llai unig am fy mod i’n gweithio gydag eraill ar y weinidogaeth.” Ond cofia, hyd yn oed pan na allwn ni fynd allan ar y weinidogaeth gyda’n brodyr a chwiorydd, mae cael eu cwmni wrth ysgrifennu llythyrau a thystiolaethu dros y ffôn o les inni. Ond sylwa ar beth arall helpodd Mauricio. Dywedodd: “Wnes i gadw’n brysur yn y gynulleidfa. O’n i’n cymryd unrhyw aseiniad ces i yn y cyfarfodydd o ddifri, ac roedd hynny’n gwneud imi deimlo’n werthfawr i Jehofa ac i fy mrodyr a chwiorydd.”

PAN FYDD TREIALON OFNADWY YN EIN LLETHU

8. Sut gall treialon ofnadwy wneud inni deimlo?

8 Er ein bod ni’n disgwyl treialon yn y dyddiau diwethaf, efallai byddan nhw’n ein dal ni allan oherwydd pryd a sut maen nhw’n digwydd. (2 Tim. 3:1) Gall rhai pethau ddigwydd heb rybudd, er enghraifft, problemau ariannol, salwch difrifol, neu golli anwylyn. Gall pethau fel hyn ein llethu a’n digalonni, yn enwedig os daw un peth ar ôl y llall, neu’n waeth byth, os ydyn nhw i gyd yn digwydd ar unwaith. Ond cofia, mae Jehofa yn gofalu amdanon ni, a gallwn ni wynebu unrhyw dreial yn llwyddiannus gyda’i help.

9. Disgrifia rai o dreialon Job.

9 Meddylia am yr holl dreialon a wynebodd Job, a hynny o fewn cyfnod byr. Collodd Job ei holl anifeiliaid, ei weision, ac yn waeth byth, ei blant i gyd, mewn un diwrnod. (Job 1:13-19) Ond ar ben hynny, a’i galon yn dal i frifo, cafodd ei daro â salwch erchyll a phoenus. (Job 2:7) Roedd ei sefyllfa mor ddrwg nes iddo ddweud: “Dw i wedi cael llond bol, does gen i ddim eisiau byw ddim mwy.”—Job 7:16.

Mae Jehofa yn gwneud yn siŵr bod Job yn gwybod ei fod yn ei garu drwy ddweud wrtho am sut mae’n gofalu am Ei holl greadigaeth (Gweler paragraff 10)

10. Sut gwnaeth Jehofa helpu Job i wynebu ei dreialon? (Gweler y llun ar y clawr.)

10 Roedd Jehofa yn gofalu am Job ac yn ei garu. Felly helpodd Job i wynebu ei dreialon ac i aros yn ffyddlon. Sut? Gwnaeth Jehofa atgoffa Job o’i ddoethineb a’i gariad di-ben-draw. Siaradodd am lawer o anifeiliaid rhyfeddol. (Job 38:1, 2; 39:9, 13, 19, 27; 40:15; 41:1, 2) Hefyd defnyddiodd ddyn ifanc o’r enw Elihw i atgyfnerthu Job a’i gysuro. Gwnaeth Elihw atgoffa Job bod Jehofa bob amser yn gwobrwyo’r rhai sy’n dal ati yn ffyddlon. Ond gwnaeth Jehofa hefyd defnyddio Elihw i roi cyngor i Job a’i atgoffa o’r darlun mawr, a’r ffaith ei fod yn fach iawn o’i gymharu â Jehofa, Creawdwr y bydysawd. (Job 37:14) Ar ben hynny, rhoddodd Jehofa aseiniad i Job i weddïo dros ei dri ffrind oedd wedi pechu. (Job 42:8-10) Ond sut mae Jehofa yn ein helpu ni heddiw pan fyddwn ni’n wynebu treialon anodd?

11. Sut mae’r Beibl yn ein cysuro ni yn ein treialon?

11 Dydy Jehofa ddim yn siarad â ni yn uniongyrchol heddiw fel wnaeth ef â Job, ond mae’n siarad â ni drwy ei Air, y Beibl. (Rhuf. 15:4) Mae ef yn rhoi gobaith inni ar gyfer y dyfodol, sydd yn gysur mawr. A meddylia am yr holl adnodau yn y Beibl sy’n gallu ein cysuro ni yn ein treialon. Er enghraifft, mae Jehofa yn addo na fydd hyd yn oed y treialon gwaethaf “yn gallu’n gwahanu ni oddi wrth gariad Duw.” (Rhuf. 8:38, 39) Mae’n addo hefyd ei fod yn “agos at y rhai sy’n galw arno” mewn gweddi. (Salm 145:18) Mae Jehofa yn dweud y byddwn ni’n gallu goddef unrhyw dreial, a hyd yn oed bod yn hapus dan bwysau, os ydyn ni’n dibynnu arno. (1 Cor. 10:13; Iago 1:2, 12) Mae Gair Duw hefyd yn ein hatgoffa ni y bydd ein treialon drosodd mewn chwinciad o’u cymharu â’r bendithion tragwyddol sydd i ddod. (2 Cor. 4:16-18) Ar ben hynny, rydyn ni’n edrych ymlaen at yr amser pan fydd Jehofa yn cael gwared ar Satan, a’r rhai sy’n ei ddilyn, unwaith ac am byth. (Salm 37:10) Wyt ti wedi dysgu adnodau calonogol ar dy gof yn barod ar gyfer treialon y dyfodol?

12. Er mwyn cael y gorau o’i Air, beth mae Jehofa yn disgwyl inni ei wneud?

12 Mae Jehofa yn disgwyl inni neilltuo amser i astudio’r Beibl yn rheolaidd, ac i feddwl yn ddwfn am beth rydyn ni’n ei ddarllen. Yn naturiol wedyn, bydd ein ffydd yn cryfhau a byddwn ni’n closio at Jehofa wrth inni roi ar waith beth rydyn ni’n ei ddysgu. O ganlyniad bydd gynnon ni’r nerth i wynebu unrhyw dreial ac i ddal ati. Cofia hefyd fod Jehofa yn rhoi ei ysbryd glân i’r rhai sy’n dibynnu ar ei Air. A gyda “grym anhygoel” yr ysbryd hwnnw, gallwn ni wynebu unrhyw dreial.—2 Cor. 4:7-10.

13. Sut mae’r bwyd ysbrydol gan y gwas ffyddlon a chall yn ein helpu ni yn ein treialon?

13 Gyda help Jehofa, mae’r gwas ffyddlon a chall wedi creu pentwr o erthyglau, fideos, a cherddoriaeth. Drwy fanteisio’n llawn ar y rhain, bydd hi’n haws inni gadw ein ffydd yn gryf ac aros yn agos at Jehofa. (Math. 24:45) Mae chwaer o’r Unol Daleithiau wedi gweld o’i phrofiad ei hun pa mor werthfawr ydy’r bwyd ysbrydol hwn. Dywedodd hi: “Dw i wedi bod yn y gwir am 40 mlynedd erbyn hyn, ac mae fy ffydd wedi cael ei phrofi dro ar ôl tro.” Wynebodd hi dreialon ofnadwy—cafodd ei thaid ei ladd gan yrrwr oedd wedi meddwi, bu farw ei rhieni o salwch difrifol, a chafodd hithau ganser ddwywaith. Aeth hi ymlaen i esbonio beth wnaeth ei helpu hi: “Mae Jehofa wastad wedi gofalu amdana i. Mae’r bwyd ysbrydol gan y gwas ffyddlon a chall wedi gwneud byd o wahaniaeth imi. Oherwydd hynny, dw i’n teimlo’n gryfach, ac yn debyg i Job pan ddywedodd: ‘Bydda i’n ffyddlon hyd fy medd!’”—Job 27:5.

Sut gallwn ni helpu eraill yn y gynulleidfa? (Gweler paragraff 14)

14. Sut mae Jehofa yn defnyddio ein brodyr a chwiorydd i’n helpu ni yn ein treialon? (1 Thesaloniaid 4:9)

14 Mae Jehofa wedi ein dysgu ni i garu a chysuro ein gilydd mewn cyfnodau anodd. (2 Cor. 1:3, 4; darllen 1 Thesaloniaid 4:9.) Felly, rydyn ni, fel Elihw, yn barod ac yn awyddus i helpu ein brodyr a chwiorydd i aros yn ffyddlon yng nghanol eu treialon. (Act. 14:22) Roedd gŵr chwaer o’r enw Diane yn ddifrifol wael. Ond sut gwnaeth ei chynulleidfa ei chalonogi hi a’i helpu i aros yn agos at Jehofa? Dywedodd Diane: “Roedd hi’n gyfnod anodd. Ond roedden ni’n teimlo bod Jehofa wrth ein hochr bob cam o’r ffordd. Roedd cefnogaeth y gynulleidfa’n wych! Roedd pob ymweliad, galwad ffôn, a hyg yn ein helpu ni i ddal ati. Alla i ddim gyrru, ond roedd y brodyr a chwiorydd wastad yn fodlon mynd â fi i’r cyfarfodydd, ac allan yn y weinidogaeth, pan oedd hynny’n bosib.” Rydyn ni mor falch o fod yn rhan o deulu mor gariadus. Beth fydden ni’n ei wneud hebddyn nhw?

YN DDIOLCHGAR AM OFAL CARIADUS JEHOFA

15. Pam rydyn ni’n hyderus y byddwn ni’n gallu delio â’n treialon?

15 Byddwn ni i gyd yn wynebu treialon o bryd i’w gilydd. Ond fyddwn ni byth ar ein pennau ein hunain, oherwydd mae Jehofa wastad yn gofalu amdanon ni fel Tad cariadus. Mae Jehofa wrth ein hochr, yn barod i wrando arnon ni pan fyddwn ni’n mynd trwy’r felin, ac yn awyddus i fod yn gefn inni. (Esei. 43:2) Gallwn ni wynebu unrhyw dreial yn hyderus am ei fod wedi rhoi cymaint o bethau i’n helpu ni i ddal ati. Meddylia—mae wedi rhoi gweddi inni, yn ogystal â’r Beibl, digonedd o fwyd ysbrydol, a brawdoliaeth gariadus i’n helpu ni pan ydyn ni mewn angen. Does dim dwywaith amdani, mae Jehofa wedi bod yn hael iawn â ni.

16. Sut gallwn ni sicrhau y bydd Jehofa yn gofalu amdanon ni am byth?

16 Rydyn ni mor ddiolchgar bod gynnon ni Dad cariadus sy’n gofalu amdanon ni! “Fe sy’n ein gwneud ni mor llawen!” (Salm 33:21) Ond sut gallwn ni ddangos ein bod ni’n gwerthfawrogi help Jehofa? Gallwn ni fanteisio ar yr holl bethau mae wedi eu rhoi inni, a hefyd gwneud ein rhan i aros yn agos ato. Mewn geiriau eraill, os ydyn ni’n gwneud ein gorau glas i wrando ar Jehofa a’i blesio, bydd ef yn gofalu amdanon ni am byth!—1 Pedr 3:12.

CÂN 30 Fy Nhad, Fy Nuw a’m Ffrind

a Allwn ni ddim trechu’r heriau rydyn ni’n eu hwynebu heddiw heb help Jehofa. Mae Jehofa yn wir yn gofalu amdanon ni. Mae’n sylwi ar heriau unigryw pob un ohonon ni, ac yn rhoi yn union beth rydyn ni ei angen i ddelio â nhw. Bydd yr erthygl hon yn ein hatgoffa ni pa mor wir ydy hynny.

b Newidiwyd rhai enwau.