1924—Can Mlynedd Yn Ôl
“MAE dechrau’r flwyddyn yn adeg dda i holl blant cysegredig yr Arglwydd edrych am ffyrdd i ehangu eu gwasanaeth,” dywedodd rhifyn Ionawr 1924 o’r Bulletin. a Yn ystod y flwyddyn honno, dilynodd Myfyrwyr y Beibl y cyngor hwnnw drwy fod yn ddewr a phregethu mewn ffyrdd newydd.
DEFNYDDION NHW’R RADIO I BREGETHU
Roedd y brodyr yn y Bethel wedi bod yn gweithio am fwy na blwyddyn i adeiladu’r orsaf radio WBBR ar Staten Island, Efrog Newydd. Ar ôl clirio’r tir, adeiladon nhw dŷ mawr ar gyfer y gweithwyr ac adeilad arall ar gyfer yr offer. Ar ôl i’r gwaith gael ei gwblhau, dechreuodd y brodyr osod yr offer yn barod i ddarlledu. Ond roedd rhaid iddyn nhw ddatrys un neu ddau o broblemau yn gyntaf.
Roedd gosod prif antena’r orsaf yn anodd i’r brodyr ar y dechrau. Roedd angen i’r antena 91-metr (300 tr) o hyd gael ei hongian rhwng dau bolyn pren a oedd yn 61 metr (200 tr) o daldra. Gwnaethon nhw fethu’r tro cyntaf. Ond drwy drystio yn Jehofa, gwnaethon nhw lwyddo yn y pen draw. Dywedodd Calvin Prosser, a oedd yn gweithio ar y prosiect: “Petasen ni wedi llwyddo’r tro cyntaf, bydden ni wedi gallu teimlo’n prowd ohonon ni’n hunain a dweud, ‘Edrycha beth wnaethon ni!’” Rhoddodd y brodyr y clod i Jehofa. Ond, doedd eu problemau ddim wedi gorffen.
Roedd radio yn dal yn ei ddyddiau cynnar a doedd hi ddim yn hawdd dod o hyd i offer proffesiynol. Ond, gwnaeth y brodyr ddod o hyd i drosglwyddydd ail-law 500-wat roedd rhywun wedi ei adeiladu yn lleol. Yn lle prynu meicroffon, defnyddion nhw un allan o deleffon. Un noson yn Chwefror, penderfynodd y brodyr i roi prawf ar yr offer. Roedd rhaid iddyn nhw ddarlledu rhaglen, felly caneuon nhw ganeuon y Deyrnas. Roedd Ernest Lowe yn cofio un stori ddoniol. Tra oedden b a oedd wedi eu clywed nhw ar ei radio yn Brooklyn, tua 15 milltir (25 km) i ffwrdd.
nhw’n canu, dyma nhw’n derbyn galwad gan Judge Rutherford,“Stopia’r twrw ’na,” dywedodd y Brawd Rutherford. “Rydych chi’n swnio fel criw o gathod!” Yn llawn cywilydd, gwnaeth y brodyr stopio darlledu, ond roedden nhw’n gwybod bod yr offer yn gweithio.
Ar Chwefror 24, 1924, yn ystod y darllediad swyddogol cyntaf, dywedodd y Brawd Rutherford y byddai’r orsaf yn cael ei defnyddio “i wneud y gwaith roedd y Brenin Iesu wedi ei roi iddyn nhw.” Ychwanegodd mai pwrpas yr orsaf oedd “i helpu pob math o bobl i ddeall y Beibl a phwysigrwydd yr amseroedd.”
Roedd y darllediad cyntaf yn llwyddiant mawr. Cafodd yr orsaf radio ei defnyddio am 33 o flynyddoedd i ddarlledu rhaglenni radio gan y gyfundrefn.
CYHUDDIAD CRYF YN ERBYN ARWEINWYR CREFYDDOL
Yn y Gorffennaf o 1924, aeth Myfyrwyr y Beibl i gynhadledd yn Columbus, Ohio. Daeth pobl o bedwar ban byd i’r gynhadledd, a chlywon nhw anerchiadau mewn Arabeg, Saesneg, Ffrangeg, Almaeneg, Groeg, Hwngareg, Eidaleg, Lithwaneg, Pwyleg, Rwseg, ieithoedd Sgandinafia, ac Wcreineg. Cafodd rhannau o’r rhaglen eu darlledu dros y radio a chafodd cynlluniau eu gwneud i gyhoeddi adroddiadau dyddiol yn yr Ohio State Journal.
Ar ddydd Iau, Gorffennaf 24, aeth mwy na 5,000 allan yn y weinidogaeth. Gosodon nhw bron i 30,000 o lyfrau a dechreuon nhw filoedd o astudiaethau Beiblaidd. Dywedodd y Tŵr Gwylio mai’r diwrnod hwnnw oedd “y rhan hapusaf o’r gynhadledd.”
Daeth uchafbwynt arall o’r gynhadledd ar ddydd Gwener, Gorffennaf 25, pan ddarllenodd y Brawd Rutherford ddogfen a oedd yn condemnio arweinwyr crefyddol. Ar ffurf ddogfen gyfreithiol, roedd yn cyhuddo arweinwyr gwleidyddol, crefyddol, a masnachol o “rwystro pobl rhag dysgu’r gwir am Deyrnas Dduw a fydd yn dod â bendithion i ddynolryw.” Ar ben hynny, dywedodd y cyhuddiad
fod y dynion hyn wedi “cefnogi Cynghrair y Cenhedloedd a’i hysbysebu ‘fel ffordd Duw o reoli ar y ddaear.’” Byddai’n rhaid i Fyfyrwyr y Beibl barhau yn ddewr er mwyn pregethu’r neges hon i’r bobl.Yn nes ymlaen, dywedodd Y Tŵr Gwylio am y gynhadledd yn Columbus: “Mae’r fyddin fach hon o frodyr a chwiorydd wedi cael ei chryfhau i ddal ati i bregethu’n ddewr er gwaethaf unrhyw wrthwynebiad.” Dywedodd Leo Claus, a fynychodd y gynhadledd: “Roedden ni’n llawn brwdfrydedd wrth adael y cynulliad ac yn barod i rannu’r neges hon yn ein tiriogaeth.”
Yn yr Hydref, dechreuodd Myfyrwyr y Beibl ddosbarthu miliynau o gopïau o’r daflen Ecclesiastics Indicted, y fersiwn printiedig o beth ddywedodd y Brawd Rutherford. Yn Cleveland, Oklahoma, gorffennodd y Brawd Frank Johnson ddosbarthu taflenni 20 munud cyn i gyhoeddwyr eraill ddod i’w gasglu. Roedd dynion y dref wedi gwylltio oherwydd ei waith pregethu ac roedden nhw’n edrych amdano. Felly doedd ef ddim yn gallu aros yn yr awyr agored. Penderfynodd y Brawd Johnson i guddio mewn eglwys. Gan ei fod yn wag, gadawodd gopi o Ecclesiastics Indicted ym Meibl y pregethwr ac un ar bob sêt. Gadawodd yr eglwys yn gyflym. Ond roedd ganddo fwy o amser, felly gwnaeth yr un peth mewn dwy eglwys arall.
Rhuthrodd Frank yn ôl i’r man lle roedd i fod i gyfarfod y lleill. Cuddiodd tu ôl i garej rhag ofn i’r dynion a oedd ar ei ôl ei weld. Ond gyrron nhw heibio. Unwaith iddyn nhw fynd, daeth y brodyr a chwiorydd eraill i’w gasglu, ac yna gyrron nhw i ffwrdd gyda’i gilydd.
“Wrth inni adael y dref,” meddai un o’r brodyr, “pasion ni heibio’r tair eglwys. Roedd ’na tua 50 o bobl yn sefyll y tu allan i bob un. Roedd rhai yn darllen y daflen, tra bod eraill yn ei dal i fyny i’r pregethwr ei gweld. Wel, roedd hynny’n agos! Ond, gwnaethon ni ddiolch i Jehofa ein Duw am ein hamddiffyn ni, ac i’n helpu ni i wybod beth i’w wneud er mwyn osgoi problemau.”
PATRWM O HYDER YN Y WEINIDOGAETH
Dilynodd Myfyrwyr y Beibl batrwm tebyg o bregethu’n hyderus mewn gwledydd eraill. Yng ngogledd Ffrainc, gwnaeth Józef Krett bregethu i gloddwyr a oedd wedi dod o Wlad Pwyl. Roedd am roi anerchiad gyda’r teitl: “The Resurrection of the Dead Soon.” Pan gafodd y gwahoddiadau eu rhoi i bobl y dref, gwnaeth yr offeiriad lleol rybuddio ei gynulleidfa i beidio â mynychu’r anerchiad. Ond wnaethon nhw ddim gwrando. Gwnaeth mwy na 5,000 o bobl ddod i wrando ar yr anerchiad, gan gynnwys yr offeiriad! Gwnaeth y Brawd Krett ofyn i’r offeiriad amddiffyn ei ddaliadau, ond fe wrthododd. Gwnaeth y Brawd Krett redeg allan o lenyddiaeth oherwydd bod gan y bobl syched am Air Duw.—Amos 8:11.
Yn Affrica, daeth Claude Brown â’r newyddion da i’r Gold Coast, sydd nawr yn cael ei alw’n Ghana. Clywodd llawer o bobl y gwir oherwydd fe roddodd lawer o anerchiadau a gadael llenyddiaeth gyda’r bobl yno. Gwnaeth John Blankson, a oedd yn astudio i fod yn fferyllydd, fynychu un o’r anerchiadau hyn. Sylweddolodd yn gyflym ei fod wedi ffeindio’r gwir. “Roeddwn i mor hapus i ddysgu’r gwir,” dywedodd, “ac fe wnes i siarad yn gwbl agored amdano yn yr ysgol.”
Ar ôl dysgu bod y Drindod yn ddysgeidiaeth anysgrythurol, aeth John i eglwys Anglicanaidd er mwyn gofyn i’r offeiriad i’w hesbonio. Gwnaeth yr offeiriad redeg ar ei ôl, yn sgrechian: “Dwyt ti ddim yn Gristion; rwyt ti’n perthyn i’r Diafol. Cer o ’ma!”
Pan gyrhaeddodd adref, ysgrifennodd John lythyr at yr offeiriad a gofyn iddo amddiffyn dysgeidiaeth y Drindod yn gyhoeddus. Gwnaeth yr offeiriad ymateb gan ofyn i John ddod i swyddfa prif ddarlithydd yr ysgol fferylliaeth. Gofynnodd y darlithydd i John os oedd ef wir wedi ysgrifennu at yr offeiriad.
“Mi wnes i, Syr,” ymatebodd John.
Mynnodd y darlithydd fod John yn ymddiheuro i’r offeiriad. Felly, ysgrifennodd John:
“Syr, mae fy athro wedi gofyn imi ysgrifennu atat ti i ddweud sori ac rydw i’n hapus i ymddiheuro i ti, os wyt ti’n cyffesu dy fod ti’n dysgu dysgeidiaethau ffals.”
Gyda sioc ar ei wyneb, gofynnodd ei athro, “Blankson, wyt ti wir eisiau ysgrifennu hynny?”
“Ydw, Syr. Does gen i ddim opsiwn arall.”
“Bydd rhaid iti adael yr ysgol. Sut rwyt ti’n gobeithio cael swydd gan y llywodraeth sy’n cefnogi’r eglwys rwyt ti’n siarad yn ei herbyn?”
“Ond, Syr, . . . yn ein gwersi, a wyt ti’n hapus inni ofyn cwestiynau os dydyn ni ddim yn deall rhywbeth?”
“Wrth gwrs.”
“Wel, Syr, dyna i gyd a ddigwyddodd. Roedd y dyn yn ein dysgu ni am y Beibl a gofynnais gwestiwn iddo. Os dydy ef ddim yn gallu ateb y cwestiwn, pam dylwn i ymddiheuro iddo?”
Doedd dim rhaid i Blankson adael yr ysgol na dweud sori wrth yr offeiriad.
EDRYCH YMLAEN AT Y DYFODOL
Gwnaeth Y Tŵr Gwylio grynhoi’r flwyddyn gan ddweud: “Gallwn ni ddweud, fel Dafydd: ‘Ti roddodd y nerth i mi ymladd.’ (Salm 18:39) Mae’r flwyddyn wedi ein calonogi ni’n fawr iawn oherwydd rydyn ni wedi gweld sut mae Jehofa wedi ein helpu ni i’w wasanaethu . . . Mae ei bobl ffyddlon . . . wedi bod yn pregethu’r newyddion da yn llawen.”
Yn hwyr yn y flwyddyn, gwnaeth y brodyr gynllunio i adeiladu gorsaf radio ychwanegol yn agos i Chicago. Cafodd yr orsaf ei alw WORD oherwydd bydden nhw’n pregethu am Air Duw ar y radio. Gan ddefnyddio trosglwyddydd 5,000-wat, byddai WORD yn darlledu neges y Deyrnas dros gannoedd o filltiroedd, hyd at ogledd Canada.
Ym 1925, gwnaeth Jehofa helpu’r brodyr i ddeall gwybodaeth newydd am Datguddiad pennod 12. Gwnaeth hyn achosi i rai faglu, ond i eraill roedd hyn yn gyffrous iawn. Roedden nhw’n hapus i ddeall yn well ddigwyddiadau yn y nefoedd a sut roedden nhw’n berthnasol i bobl Dduw ar y ddaear.
a Erbyn hyn, Ein Bywyd a’n Gweinidogaeth Gristnogol—Gweithlyfr y Cyfarfodydd.
b Cafodd J. F. Rutherford, a oedd yn cymryd y blaen ymysg Myfyrwyr y Beibl, ei alw’n “Judge” Rutherford. Cyn gwasanaethu yn y Bethel, roedd wedi gwasanaethu fel barnwr arbennig yn yr Eighth Judicial Circuit Court of Missouri.