Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

AWGRYMIAD AR GYFER ASTUDIO

Adolygu’r Prif Bwyntiau

Adolygu’r Prif Bwyntiau

A wyt ti’n ei gweld hi’n anodd cofio beth rwyt ti newydd astudio? Mae hynny’n digwydd i bawb ar adegau. Beth all ein helpu ni? Adolygu’r prif bwyntiau.

Wrth iti astudio, stopia yn rheolaidd er mwyn cymryd sylw o’r prif syniadau. Sylwa ar sut gwnaeth Paul helpu eraill i wneud hyn. Ysgrifennodd: “Nawr, prif bwynt yr hyn rydyn ni’n ei ddweud ydy hyn.” (Heb. 8:1) Gyda’r geiriau hyn, helpodd ei wrandawyr i ddilyn ei resymeg ac i gysylltu pob pwynt â’r thema.

Gelli di neilltuo amser, efallai deg munud ar ôl gyfnod o astudio, er mwyn myfyrio ar y prif bwyntiau. Os dwyt ti ddim yn gallu cofio’r prif bwyntiau, edrycha eto ar yr is-benawdau neu ar frawddeg gyntaf pob paragraff i dy helpu di i gofio. Os wyt ti wedi dysgu rhywbeth newydd, ceisia ei esbonio yn dy eiriau dy hun. Wrth iti adolygu’r prif bwyntiau, byddi di’n cofio’n well a hefyd yn gweld yn gliriach sut gall y wybodaeth dy helpu di yn dy fywyd.