ERTHYGL ASTUDIO 41
CÂN 13 Crist, Ein Hesiampl
Beth Gallwn Ni Ei Ddysgu o 40 Diwrnod Olaf Iesu ar y Ddaear?
“Cafodd ei weld ganddyn nhw dros 40 diwrnod, ac roedd yn siarad am Deyrnas Dduw.”—ACT. 1:3.
PWRPAS
Sut i efelychu yr esiampl a osododd Iesu yn ystod ei 40 diwrnod olaf ar y ddaear.
1-2. Beth ddigwyddodd wrth i ddau o ddisgyblion Iesu gerdded i Emaus?
MAE hi’n Nisan 16, 33 OG, ac mae disgyblion Iesu yn galaru ac wedi eu parlysu gan ofn. Mae dau ohonyn nhw’n gadael Jerwsalem ac yn mynd i Emaus, pentref sydd tua 7 milltir o Jerwsalem. Maen nhw’n teimlo’n ddigalon am fod Iesu, y dyn roedden nhw wedi ei ddilyn, wedi cael ei roi i farwolaeth. Mae eu gobeithion ynglŷn â’r Meseia wedi dod i ddim. Ond mae rhywbeth annisgwyl o’u blaenau nhw.
2 Mae dyn dieithr yn ymuno â nhw wrth iddyn nhw gerdded. Mae’r disgyblion yn mynegi eu siom am beth ddigwyddodd i Iesu. Yna mae’r dyn yn dweud pethau fyddan nhw byth yn eu hanghofio. “Yn cychwyn gyda Moses a’r holl Broffwydi,” mae’n esbonio iddyn nhw pam roedd rhaid i Iesu ddioddef a marw. Wrth i’r tri dyn gyrraedd Emaus, mae’r dyn dieithr yn dweud pwy ydy ef—Iesu wedi ei atgyfodi! Gallwn ni ond dychmygu llawenydd y ddau ddyn pan ddysgon nhw fod y Meseia yn fyw!—Luc 24:13-35.
3-4. Beth ddigwyddodd i ddisgyblion Iesu, a beth byddwn ni’n ei ddysgu yn yr erthygl hon? (Act. 1:3)
3 Ymddangosodd Iesu i’w ddisgyblion nifer o weithiau yn ystod ei 40 diwrnod olaf ar y ddaear. (Darllen Actau 1:3.) Yn ystod y cyfnod hwnnw, trodd dilynwyr Iesu o fod yn llawn galar ac ofn i fod yn llawen ac yn barod i bregethu’n hyderus am y Deyrnas. a
4 Mae astudio’r adeg hon ym mywyd Iesu o les i ni heddiw. Yn yr erthygl hon, byddwn ni’n edrych ar sut gwnaeth Iesu (1) annog ei ddisgyblion, (2) eu helpu nhw i wella eu dealltwriaeth o’r Ysgrythurau, a (3) eu hyfforddi nhw i ysgwyddo mwy o gyfrifoldebau. Ym mhob achos, byddwn ni’n edrych ar sut gallwn ni efelychu esiampl Iesu.
ANNOG ERAILL
5. Pam roedd angen anogaeth ar ddisgyblion Iesu?
5 Roedd ’na angen mawr am anogaeth ar y disgyblion. Pam? Roedd rhai wedi gadael eu cartrefi, eu teuluoedd, a’u busnesau er mwyn dilyn Iesu’n llawn amser. (Math. 19:27) Cafodd rhai eu gwrthod gan y gymuned oherwydd dilyn Iesu. (Ioan 9:22) Roedden nhw’n fodlon gwneud yr aberthau hyn am eu bod nhw’n credu mai Iesu oedd y Meseia. (Math. 16:16) Ond fe wnaeth marwolaeth Iesu chwalu eu gobeithion a gwneud iddyn nhw ddigalonni.
6. Beth wnaeth Iesu ar ôl cael ei atgyfodi?
6 Mae’n rhaid bod Iesu wedi deall bod galar ei ddisgyblion yn ymateb naturiol i’r sefyllfa, nid yn arwydd o wendid ysbrydol. Felly ar yr un diwrnod y cafodd ei atgyfodi, dechreuodd annog a chysuro ei ffrindiau. Er enghraifft, ymddangosodd i Mair Magdalen tra oedd hi’n wylo wrth ei feddrod. (Ioan 20:11, 16) Ymddangosodd hefyd i’r ddau ddisgybl y soniwyd amdanyn nhw ar ddechrau’r erthygl hon, ac i’r apostol Pedr. (Luc 24:34) Beth gallwn ni ei ddysgu o esiampl Iesu? Ystyria beth ddigwyddodd y tro cyntaf iddo ymddangos.
7. Yn ôl Ioan 20:11-16, beth roedd Mair yn ei wneud yn gynnar ar fore Nisan 16, a beth gwnaeth hyn gymell Iesu i’w wneud? (Gweler hefyd y llun.)
7 Darllen Ioan 20:11-16. Yn gynnar ar fore Nisan 16, aeth nifer o ferched ffyddlon i’r beddrod lle roedd corff Iesu. (Luc 24:1, 10) Gad inni ystyried profiad un ohonyn nhw, Mair Magdalen. Pan gyrhaeddodd Mair y beddrod, doedd corff Iesu ddim yno. Brysiodd hi i ddweud wrth Pedr ac Ioan, a rhedon nhw yn ôl i’r beddrod. Ar ôl gweld bod y beddrod yn wag, aeth y dynion adref. Ond arhosodd Mair yno yn wylo. Doedd hi ddim yn gwybod bod Iesu yn gwylio. Fe welodd ddagrau’r ddynes ffyddlon hon ac roedd eisiau ei chysuro hi. Felly ymddangosodd Iesu i Mair ac yna fe wnaeth rhywbeth syml i’w hannog hi. Fe roddodd aseiniad pwysig iddi—i rannu’r newyddion am ei atgyfodiad â’i frodyr.—Ioan 20:17, 18.
8. Sut gallwn ni efelychu Iesu?
8 Sut gallwn ni efelychu Iesu? Byddwn ni’n gallu annog ein brodyr a’n chwiorydd i ddal ati i wasanaethu Jehofa os ydyn ni, fel Iesu, yn gwybod am beth maen nhw’n dioddef ac yn cydymdeimlo â nhw. Ystyria esiampl chwaer o’r enw Jocelyn a gollodd ei chwaer mewn damwain. “O’n i’n galaru ac yn drist iawn am sawl mis,” meddai. Ond, fe wnaeth brawd a’i wraig ei gwahodd hi i’w cartref, gwrando arni, a’i chysuro hi drwy ddweud pa mor werthfawr oedd hi i Jehofa. Mae Jocelyn yn dweud: “O’n i’n teimlo fel bod Jehofa wedi eu defnyddio nhw i fy nhynnu i allan o fôr stormus a thywyll i mewn i fad achub. Gwnaethon nhw fy helpu i adnewyddu fy awydd i wasanaethu Jehofa.” Gallwn ninnau hefyd annog eraill drwy wrando’n ofalus wrth iddyn nhw fwrw eu bol a thrwy siarad â chydymdeimlad gan geisio eu hannog i ddal ati yn eu gwasanaeth i Dduw.—Rhuf. 12:15.
RHESYMU AR YR ADNODAU
9. Pa her wynebodd disgyblion Iesu, a sut gwnaeth Iesu eu helpu nhw?
9 Fe wnaeth disgyblion Iesu dderbyn Gair Duw a cheisio ei roi ar waith yn eu bywydau. (Ioan 17:6) Ond doedden nhw ddim yn gallu deall pam cafodd Iesu ei ladd fel troseddwr. Roedd Iesu’n gwybod eu bod nhw’n amau, nid oherwydd eu bod nhw’n ddrwg, ond oherwydd nad oedd ganddyn nhw ddealltwriaeth. (Luc 9:44, 45; Ioan 20:9) Felly fe wnaeth eu helpu nhw i resymu ar yr Ysgrythurau. Ystyria sut gwnaeth hynny pan ymddangosodd i’r ddau ddisgybl ar y ffordd i Emaus.
10. Sut gwnaeth Iesu brofi i’w ddisgyblion mai ef oedd y Meseia? (Luc 24:18-27)
10 Darllen Luc 24:18-27. Sylwa fod Iesu heb ddweud wrth y dynion yn syth pwy oedd ef. Yn lle hynny, gofynnodd gwestiynau. Pam? Efallai roedd eisiau iddyn nhw fynegi eu teimladau, a dyna beth wnaethon nhw. Roedden nhw’n dweud wrtho eu bod nhw wedi disgwyl i Iesu eu rhyddhau nhw o afael y Rhufeiniaid. Ar ôl iddyn nhw ddweud beth roedd ar eu meddyliau, defnyddiodd Iesu yr Ysgrythurau i helpu’r dynion i ddeall beth oedd wedi digwydd. b Yn hwyrach yn y dydd, treuliodd Iesu amser gyda’i ddisgyblion eraill yn dysgu’r gwirioneddau hyn iddyn nhw. (Luc 24:33-48) Beth gallwn ni ei ddysgu o’r hanes hwn?
11-12. (a) Pa wers gallwn ni ei dysgu o’r ffordd dysgodd Iesu wirioneddau’r Beibl i eraill? (Gweler hefyd y llun.) (b) Sut gwnaeth y brawd a oedd yn astudio’r Beibl gyda Nortey ei helpu?
11 Sut gallwn ni efelychu Iesu? Yn gyntaf, pan fyddi di’n dysgu pobl am y Beibl, defnyddia gwestiynau i’w helpu nhw i fynegi eu teimladau. (Diar. 20:5) Unwaith iti ddeall beth sydd ar eu meddyliau, dangosa adnodau iddyn nhw sy’n berthnasol i’w sefyllfa. Yna, bydda’n ofalus i beidio â dweud wrthyn nhw beth i’w wneud. Helpa nhw i resymu ar yr Ysgrythurau ac i weld sut gallen nhw roi egwyddorion y Beibl ar waith yn eu bywydau. Ystyria brofiad brawd yn Ghana o’r enw Nortey.
12 Pan oedd Nortey yn 16 mlwydd oed, dechreuodd astudio’r Beibl. Ond yn fuan wedyn, dechreuodd ei deulu ei wrthwynebu. Beth wnaeth ei helpu i aros yn gadarn? Roedd y brawd a oedd yn astudio’r Beibl gydag ef wedi defnyddio Mathew pennod 10 i ddangos y byddai gwir Gristnogion yn cael eu herlid. Felly pan ddechreuodd yr erledigaeth, roedd Nortey yn gwybod ei fod wedi cael hyd i’r gwir. Roedd ei athro hefyd wedi ei helpu i resymu ar Mathew 10:16 er mwyn iddo fod yn ofalus ond hefyd yn barchus wrth drafod pethau crefyddol â’i deulu. Ar ôl cael ei fedyddio, roedd Nortey eisiau arloesi ond roedd ei dad yn disgwyl iddo fynd i’r brifysgol. Yn lle dweud wrtho beth i’w wneud, gwnaeth y brawd ofyn cwestiynau iddo a’i helpu i resymu ar egwyddorion Beiblaidd. Beth oedd y canlyniad? Dechreuodd Nortey arloesi a gwnaeth ei dad ei orfodi i adael y cartref. Sut mae Nortey yn teimlo am beth ddigwyddodd? Mae’n dweud, “Dw i’n hollol hyderus fy mod i wedi gwneud y penderfyniad iawn.” Pan ydyn ni’n cymryd yr amser i helpu eraill i resymu ar yr Ysgrythurau, gallwn ni eu helpu nhw i fod yn Gristnogion sy’n gadarn yn eu ffydd.—Eff. 3:16-19.
HYFFORDDI DYNION I FOD YN “RHODDION”
13. Beth wnaeth Iesu er mwyn sicrhau y byddai’r gwaith pregethu yn parhau ar ôl iddo fynd yn ôl i’r nefoedd? (Effesiaid 4:8)
13 Tra oedd Iesu ar y ddaear, fe wnaeth yn union beth roedd ei Dad wedi gofyn iddo ei wneud. (Ioan 17:4) Ond doedd Iesu ddim yn meddwl, ‘Os ydych chi eisiau i rywbeth gael ei wneud yn iawn, mae’n rhaid ei wneud eich hun.’ Yn ystod y tair blynedd roedd yn gwneud ei weinidogaeth, fe wnaeth hyfforddi eraill i wneud y gwaith. Cyn i Iesu fynd yn ôl i’r nefoedd, fe roddodd i’w ddisgyblion—rhai ohonyn nhw a fyddai wedi bod yn eu 20au—y gwaith o ofalu am ddefaid gwerthfawr Jehofa ac i gymryd y blaen yn y gwaith o bregethu a dysgu eraill. (Darllen Effesiaid 4:8.) Sut gwnaeth Iesu ddefnyddio ei 40 diwrnod olaf i helpu’r dynion gweithgar hyn i fod yn gymwys i fod yn “rhoddion”?—Gweler y nodyn astudio ar Effesiaid 4:8.
14. Beth ddysgodd Iesu i’w ddisgyblion yn ystod ei 40 diwrnod olaf ar y ddaear? (Gweler hefyd y llun.)
14 Ni wnaeth Iesu ddal yn ôl rhag rhoi cyngor, ond fe wnaeth hynny mewn ffordd garedig. Er enghraifft, fe welodd fod gan rai’r tueddiad i amau, felly fe wnaeth eu cywiro nhw. (Luc 24:25-27; Ioan 20:27) Pwysleisiodd yr angen i roi blaenoriaeth i’r gwaith bugeilio yn hytrach na’u gwaith seciwlar. (Ioan 21:15) Fe wnaeth atgoffa’i ddisgyblion i beidio â phoeni am ba freintiau roedd eraill yn eu cael yng ngwasanaeth Jehofa. (Ioan 21:20-22) Ac fe wnaeth gywiro rhai o’u camsyniadau am y Deyrnas a’u helpu nhw i ganolbwyntio ar y gwaith pregethu. (Act. 1:6-8) Beth gall henuriaid ei ddysgu oddi wrth Iesu?
15-16. (a) Ym mha ffyrdd gall henuriaid efelychu Iesu? Esbonia. (b) Sut gwnaeth cyngor helpu Patrick?
15 Sut gall henuriaid efelychu Iesu? Mae’n rhaid iddyn nhw hyfforddi dynion, gan gynnwys rhai sy’n weddol ifanc, i fod yn gymwys am fwy o gyfrifoldebau. c Dydy henuriaid ddim yn disgwyl i’r rhai maen nhw’n eu hyfforddi i fod yn berffaith. Dylen nhw roi cyngor i’r brodyr ifanc hyn er mwyn iddyn nhw ddysgu a gweld yr angen i fod yn ostyngedig, yn ffyddlon, ac yn barod i wasanaethu eraill.—1 Tim. 3:1; 2 Tim. 2:2; 1 Pedr 5:5.
16 Ystyria sut gwnaeth brawd o’r enw Patrick elwa o gyngor. Pan oedd yn ifanc, doedd ef ddim yn garedig yn y ffordd roedd yn trin eraill, hyd yn oed chwiorydd. Fe wnaeth henuriad aeddfed sylwi ar wendidau Patrick ac fe roddodd gyngor eithaf syth ond caredig iddo. Mae Patrick yn dweud, “Dw i’n falch ei fod wedi gwneud hynny. Roeddwn i weithiau yn teimlo’n ddigalon wrth weld brodyr eraill yn derbyn breintiau. Ond gwnaeth cyngor yr henuriad fy helpu i weld yr angen i ganolbwyntio ar wasanaethu eraill yn ostyngedig, yn hytrach na derbyn ryw fraint yn y gynulleidfa.” O ganlyniad, cafodd Patrick ei benodi fel henuriad pan oedd yn ei 20au cynnar.—Diar. 27:9.
17. Sut dangosodd Iesu ei fod yn trystio ei ddisgyblion?
17 Rhoddodd Iesu’r cyfrifoldeb i’w ddisgyblion, nid yn unig i bregethu, ond hefyd i ddysgu eraill. (Gweler y nodyn astudio ar Mathew 28:20, “teaching them.”) Efallai byddai’r disgyblion wedi teimlo bod hynny’n rhy anodd iddyn nhw, ond roedd Iesu’n gwybod eu bod nhw’n gallu gwneud y gwaith. Mynegodd ei hyder ynddyn nhw drwy ddweud: “Yn union fel mae’r Tad wedi fy anfon i, rydw innau hefyd yn eich anfon chi.”—Ioan 20:21.
18. Sut gall henuriaid efelychu Iesu?
18 Sut gall henuriaid efelychu Iesu? Mae henuriaid profiadol yn gadael i eraill ofalu am rai cyfrifoldebau. (Phil. 2:19-22) Er enghraifft, gall henuriaid ofyn i rai ifanc helpu i lanhau’r Neuadd a gofalu amdano. Gallan nhw fynegi eu hyder yn y rhai sy’n gwneud y gwaith drwy eu hyfforddi nhw a’u trystio nhw i wneud y gwaith yn gywir. Mae henuriad newydd o’r enw Matthew yn dweud ei fod yn gwerthfawrogi’r hyfforddiant mae’n ei gael gan henuriaid profiadol, a’r ffaith eu bod nhw’n ei drystio i gwblhau aseiniad. “Pan o’n i’n gwneud camgymeriadau, roedden nhw’n ei weld fel rhan o’r broses o ddysgu a gwnaeth hynny fy helpu i i wella.” d
19. Beth dylen ni fod yn benderfynol o’i wneud?
19 Defnyddiodd Iesu ei 40 diwrnod olaf ar y ddaear i annog, dysgu, a hyfforddi eraill. Rydyn ni eisiau bod yn benderfynol o ddilyn ei esiampl yn agos. (1 Pedr 2:21) Bydd Iesu yn ein helpu ni i wneud hynny. Wedi’r cwbl, fe wnaeth addo: “Rydw i gyda chi bob dydd hyd gyfnod olaf y system hon.”—Math. 28:20.
CÂN 15 Molwch Gyntaf-anedig Jehofa!
a Mae’r Efengylau a llyfrau eraill yn y Beibl yn sôn am nifer o achosion pan ymddangosodd Iesu i eraill, fel i Mair Magdalen (Ioan 20:11-18); i ferched eraill (Math. 28:8-10; Luc 24:8-11); i ddau ddisgybl (Luc 24:13-15); i Pedr (Luc 24:34); i’r apostolion heblaw am Tomos (Ioan 20:19-24); i’r apostolion, gan gynnwys Tomos (Ioan 20:26); i saith disgybl (Ioan 21:1, 2); i fwy na 500 o ddisgyblion (Math. 28:16; 1 Cor. 15:6); i’w frawd Iago (1 Cor. 15:7); i’r holl apostolion (Act. 1:4); ac i’r apostolion yn agos i Fethania. (Luc 24:50-52) Efallai ymddangosodd ar adegau eraill sydd heb eu cofnodi.—Ioan 21:25.
b Am restr o broffwydoliaethau Meseianaidd, gweler yr erthygl ar jw.org “A Yw Proffwydoliaethau Meseianaidd yn Profi Mai Iesu Oedd y Meseia?”
c Mewn rhai achosion gall dynion cymwys yn eu 20au canol gael eu penodi fel arolygwyr cylchdaith. Ond, mae angen iddyn nhw gael profiad fel henuriaid yn gyntaf.
d Am fwy o awgrymiadau ar sut i helpu brodyr ifanc i fod yn gymwys i dderbyn cyfrifoldebau, gweler rhifyn Awst 2018 o’r Tŵr Gwylio, tt. 13-14, par. 15-17, yn ogystal â rhifyn Ebrill 15, 2015, tt. 3-13 o’r Tŵr Gwylio Saesneg.
e DISGRIFIAD O’R LLUN: Ar ôl i rywun sy’n astudio’r Beibl gael help i resymu ar yr Ysgrythurau, mae’n penderfynu cael gwared ar ei addurniadau Nadolig.