ERTHYGL ASTUDIO 42
CÂN 103 Bugeiliaid—Dynion yn Rhoddion
Gwerthfawrogi’r Dynion Sy’n “Rhoddion”
“Pan aeth i fyny i’r uchelder . . . , rhoddodd ef ddynion yn rhoddion.”—EFF. 4:8.
PWRPAS
Sut mae gweision y gynulleidfa, henuriaid, ac arolygwyr cylchdaith yn ein helpu ni a sut gallwn ni ddangos ein bod ni’n gwerthfawrogi’r hyn y maen nhw’n ei wneud droston ni.
1. Beth yw rhai o’r pethau mae Iesu wedi ei roi inni?
DOES ’na neb erioed wedi gwneud cymaint â Iesu i helpu eraill. Pan oedd ar y ddaear, defnyddiodd ei nerth gwyrthiol yn hael i wneud hynny. (Luc 9:12-17) Rhoddodd yr anrheg orau oll gan aberthu ei fywyd droston ni. (Ioan 15:13) Ers ei atgyfodiad, mae Iesu wedi parhau i fod yn hael. Yn union fel gwnaeth ef addo, mae wedi gofyn i Jehofa dywallt ei ysbryd glân i’n dysgu ni a’n cysuro ni. (Ioan 14:16, 17, tdn.; 16:13) Ac mae hefyd yn ein hyfforddi ni trwy ein cyfarfodydd i wneud disgyblion ar draws y byd.—Math. 28:18-20.
2. Pwy yw’r ‘dynion yn rhoddion’ sy’n cael eu sôn amdanyn nhw yn Effesiaid 4:7, 8?
2 Ystyria rywbeth arall mae Iesu wedi ei roi inni. Ysgrifennodd yr apostol Paul fod Iesu wedi rhoi ‘dynion yn rhoddion’ ar ôl iddo fynd i’r nef. (Darllen Effesiaid 4:7, 8.) Esboniodd Paul fod Iesu wedi rhoi’r dynion hyn er mwyn cefnogi’r gynulleidfa mewn ffyrdd gwahanol. (Eff. 1:22, 23; 4:11-13) Heddiw, mae’r dynion hyn sy’n “rhoddion” yn cynnwys gweision y gynulleidfa, henuriaid, ac arolygwyr cylchdaith. a Wrth gwrs, mae’r dynion hyn yn amherffaith, felly maen nhw’n gwneud camgymeriadau. (Iago 3:2) Ond, mae Iesu Grist wedi rhoi’r dynion gwerthfawr hyn fel anrhegion i’n helpu ni.
3. Eglura sut gallwn ni i gyd gefnogi gwaith y dynion sy’n “rhoddion.”
3 Rhoddodd Iesu’r dynion hyn i gryfhau’r gynulleidfa. (Eff. 4:12) Ond gallwn ni i gyd eu helpu nhw i gyflawni’r gwaith pwysig hwn. Ystyria eglureb: Bydd rhai ohonon ni’n cael rhan uniongyrchol mewn gwaith adeiladu Neuadd y Deyrnas. Bydd eraill yn cefnogi’r gwaith gan baratoi bwyd, cynnig gyrru’r gweithwyr yn ôl ac ymlaen, neu helpu mewn ffordd arall. Yn yr un ffordd, gallwn ni i gyd gefnogi ymdrechion gweision y gynulleidfa, henuriaid, ac arolygwyr cylchdaith gyda beth rydyn ni’n ei wneud ac yn ei ddweud. Gad inni ystyried sut rydyn ni’n elwa o’u gwaith caled, a sut gallwn ni ddangos iddyn nhw ac i Iesu ein bod ni’n eu gwerthfawrogi nhw.
GWEISION Y GYNULLEIDFA SY’N “HELPU ERAILL”
4. Ym mha ffyrdd roedd gweision y gynulleidfa yn “helpu eraill” yn y ganrif gyntaf?
4 Yn y ganrif gyntaf, cafodd rhai brodyr eu hapwyntio fel gweision y gynulleidfa. (1 Tim. 3:8) Mae’n debyg mai nhw oedd y rhai a oedd yn “helpu eraill,” fel dywedodd Paul. (1 Cor. 12:28) Mae’n amlwg bod y gweision hyn wedi gofalu am waith pwysig er mwyn i’r henuriaid ganolbwyntio ar ddysgu eraill a bugeilio. Er enghraifft, efallai gwnaethon nhw helpu i wneud copïau o’r Ysgrythurau neu brynu’r deunydd er mwyn gwneud hynny.
5. Beth mae gweision y gynulleidfa yn ei wneud i helpu eraill heddiw?
5 Meddylia am y gwaith pwysig mae’r gweision yn ei wneud yn dy gynulleidfa di. (1 Pedr 4:10) Efallai bydden nhw’n cael eu haseinio i ofalu am gyfrifon neu diriogaeth y gynulleidfa, i archebu llenyddiaeth a’i dosbarthu i’r cyhoeddwyr, i ddefnyddio offer sain a fideo, i ofalu amdanon ni yn ystod y cyfarfodydd, neu i helpu i gynnal a chadw Neuadd y Deyrnas. Mae’r gwaith hwn i gyd yn angenrheidiol er mwyn i’r cynulleidfaoedd fod yn drefnus. (1 Cor. 14:40) Hefyd, mae rhai gweision y gynulleidfa yn cael rhannau yn y cyfarfod canol wythnos ac yn rhoi anerchiadau cyhoeddus. Gallen nhw gael eu penodi i helpu arolygwyr grŵp. Weithiau, mae gweision cymwys yn mynd gyda henuriaid ar alwadau bugeiliol.
6. Pam rydyn ni’n gwerthfawrogi ein gweision gweithgar?
6 Sut mae’r gynulleidfa yn elwa o waith y gweision? “Dwi’n ddiolchgar iawn am weision y gynulleidfa oherwydd dwi’n gallu mwynhau’r cyfarfodydd yn llawn” meddai Beberly, b chwaer o Bolifia. “Oherwydd eu gwaith, dwi’n gallu canu, rhoi sylwadau, gwrando ar anerchiadau, a dysgu o’r fideos a’r lluniau. Maen nhw’n cadw pawb yn saff ac yn gofalu am y rhai sy’n mynychu dros fideo-gynadledda. Ar ôl y cyfarfod maen nhw’n cymryd y blaen yn y gwaith glanhau, yn helpu gyda chyfrifon, ac yn gwneud yn siŵr bod gynnon ni’r llenyddiaeth sydd ei hangen. Dwi mor ddiolchgar iddyn nhw!” Mae Leslie, sy’n byw yng Ngholombia gyda’i gŵr sy’n henuriad, yn dweud: “Mae fy ngŵr yn dibynnu ar weision y gynulleidfa i ofalu am amryw o aseiniadau. Hebddyn nhw, bydd fy ngŵr yn brysurach byth, felly dwi’n ddiolchgar eu bod nhw mor awyddus a bodlon i helpu.” Mae’n debyg dy fod ti’n teimlo’r un fath.—1 Tim. 3:13.
7. Sut gallwn ni ddangos ein bod ni’n ddiolchgar am weision y gynulleidfa? (Gweler hefyd y llun.)
7 Mae’r Beibl yn ein hannog ni: “Byddwch yn ddiolchgar.” (Col. 3:15) Mae hyn yn golygu gwneud mwy na theimlo’n ddiolchgar am weision y gynulleidfa. Mae Krzysztof, henuriad o’r Ffindir, yn dangos ei fod yn ddiolchgar fel hyn, “Rydw i’n anfon cerdyn neu neges destun lle rydw i’n sôn am adnod a ffordd mae’r gwas wedi fy annog i. Hefyd rydw i’n sôn am pam rydw i’n trysori ei waith.” Mae Pascal a Jael, sy’n byw yn Caledonia Newydd, yn gweddïo yn aml am weision y gynulleidfa. Mae Pascal yn esbonio, “Yn ddiweddar, mae ein herfyniadau a’n gweddïau o ddiolchgarwch wedi bod yn sôn am y brodyr apwyntiedig yn ein cynulleidfa.” Mae Jehofa yn gwrando ar weddïau o’r fath, ac felly, mae’r holl gynulleidfa yn elwa.—2 Cor. 1:11.
HENURIAID Y GYNULLEIDFA SY’N “GWEITHIO’N GALED YN EICH PLITH”
8. Pam roedd Paul yn gallu dweud bod henuriaid y ganrif gyntaf yn “gweithio’n galed”? (1 Thesaloniaid 5:12, 13)
8 Gwnaeth henuriaid y ganrif gyntaf weithio’n galed yn y gynulleidfa. (Darllen 1 Thesaloniaid 5:12, 13; 1 Tim. 5:17) Roedden nhw’n “arwain” y gynulleidfa—yn cynnal cyfarfodydd a gwneud penderfyniadau fel corff. Roedden nhw hefyd yn “cynghori” eu brodyr a’u chwiorydd—gan roi cyngor penodol ond cariadus er mwyn amddiffyn y gynulleidfa. (1 Thes. 2:11, 12; 2 Tim. 4:2) Wrth gwrs, roedd y dynion hyn hefyd yn gweithio’n galed i edrych ar ôl eu teuluoedd ac i gadw’n gryf yn ysbrydol.—1 Tim. 3:2, 4; Titus 1:6-9.
9. Pa gyfrifoldebau sydd gan henuriaid heddiw?
9 Mae henuriaid heddiw yn brysur iawn. Maen nhw’n bregethwyr. (2 Tim. 4:5) Maen nhw’n cymryd y blaen yn y weinidogaeth yn selog, yn trefnu’r gwaith pregethu yn y diriogaeth leol, ac yn ein hyfforddi ni i ddysgu yn effeithiol. Maen nhw hefyd yn gwasanaethu fel barnwyr trugarog sydd ddim yn dangos ffafriaeth. Pan mae Cristion yn pechu’n ddifrifol, mae henuriaid yn ymdrechu i helpu’r person i adfer ei berthynas â Jehofa. Ar yr un pryd, maen nhw’n ceisio cadw’r gynulleidfa yn lân. (1 Cor. 5:12, 13; Gal. 6:1) Yn bennaf, mae’r henuriaid yn fugeiliaid. (1 Pedr 5:1-3) Maen nhw’n paratoi anerchiadau Ysgrythurol, yn ceisio dod i adnabod pawb yn y gynulleidfa, ac yn gwneud galwadau bugeiliol. Mae rhai henuriaid yn helpu i adeiladu Neuaddau’r Deyrnas, gwneud gwaith cynnal a chadw, trefnu cynadleddau, ac yn helpu’r Pwyllgor Cyswllt Ysbytai a’r Grwpiau Ymweld â Chleifion, yn ogystal â’u haseiniadau eraill. Mae’r henuriaid yn gweithio’n galed ar ein cyfer ni!
10. Pam rydyn ni’n gwerthfawrogi ein henuriaid gweithgar?
10 Rhagfynegodd Jehofa y byddai bugeiliaid yn gofalu amdanon ni a ‘fydd dim rhaid inni fod ag ofn.’ (Jer. 23:4) Dyma’n union sut teimlodd chwaer o’r Ffindir, o’r enw Johanna, ar ôl i’w mam wynebu salwch ofnadwy. Mae hi’n dweud: “Mae’n anodd imi rannu fy nheimladau ag eraill, ond roedd un henuriad, doeddwn i ddim yn adnabod yn dda, yn amyneddgar iawn. Gweddïodd gyda fi, a fy helpu i weld bod Jehofa yn fy ngharu i. Dydw i ddim yn cofio’n union beth ddywedodd ef, ond rydw i yn cofio teimlo’n saff. Rydw i’n credu bod Jehofa wedi ei anfon i fy helpu i ar yr adeg iawn.” Sut mae’r henuriaid yn dy gynulleidfa wedi dy helpu di?
11. Sut gallwn ni ddangos i’r henuriaid ein bod ni’n ddiolchgar? (Gweler hefyd y llun.)
11 Mae Jehofa eisiau inni ddangos gwerthfawrogiad o’r galon tuag at yr henuriaid “oherwydd eu gwaith.” (1 Thes. 5:12, 13) Mae Henrietta, sydd hefyd yn byw yn Y Ffindir, yn dweud: “Mae’r henuriaid yn barod i helpu eraill, ond dydy hynny ddim yn meddwl bod ganddyn nhw fwy o amser neu egni, neu fod eu bywydau nhw heb unrhyw heriau. Weithiau rydw i’n dweud wrthyn nhw: ‘Ti’n gwybod beth? Rwyt ti’n wir yn henuriad da. Rydw i’n gobeithio dy fod ti’n gwybod hynny.’” Mae chwaer yn Türkiye c o’r enw Sera yn dweud: “Mae’n rhaid i henuriaid gael anogaeth i ddal ati. Felly gallwn ni ysgrifennu cerdyn atyn nhw, eu gwahodd nhw am bryd o fwyd, neu weithio gyda nhw yn y weinidogaeth.” Oes ’na henuriad yn y gynulleidfa rwyt ti’n wir yn ei drysori am ei waith caled? Edrycha am gyfleoedd i ddangos dy ddiolchgarwch.—1 Cor. 16:18.
AROLYGWYR CYLCHDAITH SY’N CRYFHAU’R GYNULLEIDFA
12. Pa drefniadau cafodd eu gwneud yn y ganrif gyntaf i gryfhau’r cynulleidfaoedd? (1 Thesaloniaid 2:7, 8)
12 Rhoddodd Iesu “ddynion yn rhoddion” i wasanaethu’r gynulleidfa mewn ffordd arall. O dan ei arweiniad, fe wnaeth yr henuriaid yn Jerwsalem anfon Paul, Barnabas, ac eraill fel arolygwyr teithiol. (Act. 11:22) Pam? Am yr un rheswm cafodd henuriaid a gweision y gynulleidfa eu hapwyntio i gryfhau’r cynulleidfaoedd. (Act. 15:40, 41) Gwnaeth y dynion hyn aberthu bywyd cyfforddus a hyd yn oed rhoi eu bywydau nhw mewn peryg er mwyn annog eraill.—Darllen 1 Thesaloniaid 2:7, 8.
13. Beth yw rhai o gyfrifoldebau arolygwyr cylchdaith?
13 Mae arolygwyr cylchdaith yn wastad yn symud o un lle i’r llall. Mae rhai ohonyn nhw yn teithio cannoedd o filltiroedd rhwng cynulleidfaoedd. Pob wythnos, mae arolygwr cylchdaith yn rhoi nifer o anerchiadau, yn mynd ar alwadau bugeiliol, ac yn arwain cyfarfodydd gyda’r arloeswyr, gyda’r henuriaid, ac ar gyfer y weinidogaeth. Mae’n paratoi anerchiadau ac yn trefnu cynulliadau a chynadleddau. Mae’n dysgu yn ysgolion arloesi, yn trefnu cyfarfod arbennig ar gyfer arloeswyr y gylchdaith, ac weithiau mae’r gangen yn gofyn iddo ofalu am rai materion brys.
14. Pam rydyn ni’n gwerthfawrogi ein harolygwyr cylchdaith gweithgar?
14 Sut mae cynulleidfaoedd yn elwa o waith gwerthfawr yr arolygwyr cylchdaith? Wrth sôn am ymweliadau’r arolygwyr, mae un brawd yn Türkiye yn dweud: “Mae pob un o’u hymweliadau yn fy nghymell i dreulio mwy o amser yn helpu fy mrodyr a fy chwiorydd. Rydw i wedi cwrdd â llawer o arolygwyr cylchdaith, ond, dydy’r un ohonyn nhw erioed wedi gwneud imi deimlo nad oedd ganddo’r amser neu’r awydd i siarad â fi.” Gwnaeth Johanna, a ddyfynnwyd yn gynharach, weithio gydag arolygwr yn y weinidogaeth, ond doedd neb adref. Mae hi’n dweud, “Er hynny, bydda i wastad yn cofio’r diwrnod hwnnw. Roedd fy nwy chwaer wedi symud i ffwrdd, ac roeddwn i’n eu colli nhw. Rhoddodd fy arolygwr cylchdaith anogaeth gariadus a wnaeth fy helpu i weld er nad ydyn ni’n gallu byw yn agos i’n gilydd ar hyn o bryd, yn y byd newydd bydd gynnon ni gyfleoedd diddiwedd i dreulio amser gyda’n gilydd.” Mae llawer ohonon ni hefyd yn trysori’r ffyrdd gwahanol mae arolygwyr cylchdaith wedi ein helpu ni.—Act. 20:37–21:1.
15. (a) Yn unol â 3 Ioan 5-8, sut gallwn ni ddangos ein bod yn ddiolchgar am arolygwyr cylchdaith? (Gweler hefyd y llun.) (b) Pam dylen ni gofio am wragedd dynion apwyntiedig, a sut gallwn ni wneud hynny? (Gweler y blwch “ Cofia Eu Gwragedd.”)
15 Gwnaeth yr apostol Ioan annog Gaius i fod yn lletygar i’r brodyr a ddaeth i gryfhau’r gynulleidfa, a dywedodd wrtho: “Pan fyddan nhw’n gadael, plîs helpa nhw mewn ffordd sy’n plesio Duw.” (Darllen 3 Ioan 5-8.) Un ffordd gallwn ni wneud hyn yw drwy wahodd yr arolygwr cylchdaith am bryd o fwyd. Ffordd arall yw drwy gefnogi’r trefniadau ar gyfer y weinidogaeth yn ystod ei ymweliad. Mae Leslie, a ddyfynnwyd yn gynharach, hefyd yn dangos ei diolchgarwch mewn ffyrdd eraill. “Rydw i’n gweddïo ar Jehofa i ofalu am eu hanghenion,” meddai. “Mae fy ngŵr a minnau hefyd wedi ysgrifennu llythyrau atyn nhw, yn dweud faint mae eu hymweliadau wedi ein helpu.” Cofia, mae’r arolygwyr cylchdaith yn wynebu’r un heriau â ni. Ar adegau, maen nhw’n teimlo’n sâl, yn bryderus, a hyd yn oed yn ddigalon. Efallai bydd dy eiriau caredig neu anrheg fach yn ateb gweddi gan dy arolygwr cylchdaith.—Diar. 12:25.
MAE ’NA ANGEN AM “DDYNION YN RHODDION”
16. Yn unol â Diarhebion 3:27, pa gwestiynau y dylai brodyr ofyn iddyn nhw eu hunain?
16 Ledled y byd, mae ’na angen am “ddynion yn rhoddion.” Os wyt ti’n frawd wedi ei fedyddio, a oes gen ti’r “cyfle i helpu”? (Darllen Diarhebion 3:27.) A oes gen ti’r nod o fod yn was y gynulleidfa? A elli di estyn allan i ofalu am anghenion dy frodyr fel henuriad? d A wyt ti’n gallu addasu dy amgylchiadau i geisio mynd i’r Ysgol ar Gyfer Pregethwyr y Deyrnas? Bydd yr ysgol hon yn dy hyfforddi di i gael dy ddefnyddio yn fwy gan Iesu. Os nad wyt ti’n teimlo’n ddigon cymwys, gweddïa ar Jehofa. Gofynna am ei ysbryd glân i dy helpu di i lwyddo mewn unrhyw aseiniad rwyt ti’n ei dderbyn.—Luc 11:13; Act. 20:28.
17. Beth mae’r dynion sy’n “rhoddion” yn ei brofi am ein Brenin, Iesu Grist?
17 Mae’r brodyr y mae Iesu wedi eu hapwyntio fel “rhoddion” yn dystiolaeth ei fod yn ein harwain ni yn ystod y dyddiau olaf. (Math. 28:20) A wyt ti’n ddiolchgar bod gynnon ni Frenin sy’n gariadus, yn hael, yn ymwybodol o’n hanghenion, ac yn rhoi brodyr cymwys i edrych ar ein holau ni? Felly edrycha am gyfleoedd i ddangos dy ddiolchgarwch am eu gwaith caled. Paid byth ag anghofio diolch i Jehofa, ffynhonnell “pob rhodd dda a phob anrheg berffaith.”—Iago 1:17.
CÂN 99 Miloedd ar Filoedd o Frodyr
a Mae henuriaid sydd ar y Corff Llywodraethol, sy’n helpwyr i’r Corff Llywodraethol, sy’n gwasanaethu ar Bwyllgorau Cangen, a rhai sydd mewn aseiniadau eraill hefyd yn “ddynion yn rhoddion.”
b Newidiwyd rhai enwau.
c A alwyd gynt yn Twrci.
d Am fwy o wybodaeth ar sut i estyn allan i fod yn was y gynulleidfa neu henuriad, gweler yr erthyglau “Frodyr—A Ydych Chi’n Estyn Allan i Fod yn Was y Gynulleidfa?” a “Frodyr—A Ydych Chi’n Estyn Allan i Fod yn Henuriad?” yn rhifyn Tachwedd 2024 o’r Tŵr Gwylio.