Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

ERTHYGL ASTUDIO 43

CÂN 90 Annog Ein Gilydd

Sut i Ddod Dros Amheuon

Sut i Ddod Dros Amheuon

“Gwnewch yn siŵr fod pob peth yn gywir.”1 THES. 5:21.

PWRPAS

Sut i ddatrys amheuon a allai effeithio ar ein gwasanaeth i Jehofa.

1-2. (a) Pa fath o amheuon y mae rhai gweision Jehofa yn eu profi? (b) Beth byddwn ni’n ei ystyried yn yr erthygl hon?

 MAE gan bawb amheuon a ar adegau. Er enghraifft, dychmyga berson ifanc sy’n cwestiynu os oes gan Jehofa wir ddiddordeb ynddo. Efallai ei fod yn teimlo’n ansicr am gael ei fedyddio. Neu meddylia am frawd a wnaeth roi’r Deyrnas, nid gyrfa yn y byd hwn, yn gyntaf pan oedd yn ifanc. Ond nawr, mae ond ganddo ddigon o arian i ofalu am anghenion ei deulu. Efallai ei fod yn amau os oedd hyn yn benderfyniad da. Dychmyga chwaer hŷn heb lawer o nerth neu egni. Efallai ei bod hi wedi digalonni oherwydd dydy hi ddim yn gallu gwneud cymaint ag oedd hi yn y gorffennol. A wyt ti erioed wedi gofyn cwestiynau fel: ‘Ydy Jehofa’n wir yn cymryd sylw ohono i? O ba werth oedd fy aberthau i Jehofa? Ydw i’n dal yn ddefnyddiol i Jehofa?’

2 Os dydyn ni ddim yn ceisio ateb y cwestiynau hyn, gallen nhw gael effaith gwael ar ein haddoliad. Yn yr erthygl hon, byddwn ni’n ystyried sut gall canolbwyntio ar egwyddorion Beiblaidd ein helpu ni os ydyn ni’n amau (1) bod gan Jehofa ddiddordeb ynon ni, (2) ein bod ni wedi gwneud penderfyniadau doeth, neu (3) ein bod ni’n dal yn ddefnyddiol i Jehofa.

SUT I DDELIO AG AMHEUON

3. Beth yw un ffordd gallwn ni ddod dros amheuon?

3 Un ffordd gallwn ni ddod dros ein hamheuon ydy trwy droi at Air Duw i ateb ein cwestiynau. Os ydyn ni’n gwneud hyn, byddwn ni’n cael ein cryfhau, yn tyfu’n ysbrydol, ac yn gallu ‘sefyll yn gadarn yn y ffydd.’—1 Cor. 16:13.

4. Sut rydyn ni’n ‘gwneud yn siŵr fod pob peth yn gywir?’ (1 Thesaloniaid 5:21)

4 Darllen 1 Thesaloniaid 5:21. Sylwa fod y Beibl yn ein hannog ni ‘i wneud yn siŵr fod pob peth yn gywir.’ Sut gallwn ni wneud hyn? Os nad ydyn ni’n siŵr am rywbeth, gallwn ni ei gymharu â beth mae’r Beibl yn ei ddweud. Er enghraifft, meddylia am y person ifanc sy’n cwestiynu ei werth yng ngolwg Jehofa. A ddylai ef dderbyn y syniad hwnnw heb chwilio am ateb? Na, dylai ‘wneud yn siŵr fod pob peth yn gywir’ drwy geisio dysgu beth mae Jehofa yn wir yn meddwl amdano.

5. Sut rydyn ni’n “gwrando” ar atebion Jehofa i’n cwestiynau?

5 Wrth inni ddarllen Gair Duw, mae fel ein bod ni’n “gwrando” ar Jehofa yn siarad â ni. Ond, mae angen inni wneud ymdrech er mwyn ffeindio atebion Jehofa i’n cwestiynau. Mae angen canolbwyntio ar y pwnc sy’n berthnasol inni wrth ddarllen y Beibl. Gallwn ni wneud ymchwil ar y pwnc gan ddefnyddio’r adnoddau astudio y mae cyfundrefn Jehofa wedi eu darparu. (Diar. 2:​3-6) Gallwn ni weddïo y bydd Jehofa yn arwain ein hymchwil ac yn ein helpu ni i ddod o hyd i’w feddylfryd ar ein cwestiwn. Wedyn, gallwn ni edrych am egwyddorion Beiblaidd a gwybodaeth ymarferol sy’n berthnasol i’n sefyllfa ni. Byddwn ni hefyd yn elwa wrth ystyried esiamplau o’r Beibl o rai a wnaeth wynebu rhywbeth tebyg inni.

6. Sut mae’r cyfarfodydd yn ein helpu i ddod dros amheuon?

6 Rydyn ni hefyd yn “clywed” llais Jehofa yn ein cyfarfodydd. Os ydyn ni’n mynychu’r cyfarfodydd yn rheolaidd, gallen ni glywed rhywbeth mewn anerchiad neu sylwadau ein brodyr sy’n union beth sydd ei angen arnon ni i ddod dros amheuon. (Diar. 27:17) Gad inni nawr ystyried sut i ddelio â rhai amheuon penodol.

PAN WYT TI’N AMAU BOD GAN JEHOFA DDIDDORDEB YNOT TI

7. Pa gwestiwn bydd rhai efallai yn ei ofyn?

7 A wyt ti erioed wedi gofyn, ‘Ydy Jehofa’n wir yn cymryd sylw ohono i?’ Os wyt ti’n teimlo’n ddibwys, efallai dy fod ti’n meddwl ei bod hi’n amhosib iti ddod yn ffrind i Greawdwr y bydysawd. Efallai meddyliodd y Brenin Dafydd yr un peth. Fe wnaeth ryfeddu at ddiddordeb Jehofa mewn pobl, a gofynnodd: “O ARGLWYDD, beth ydy pobl i ti boeni amdanyn nhw? Pam ddylet ti feddwl ddwywaith am berson dynol?” (Salm 144:3) Ble gelli di fynd i gael hyd i’r ateb?

8. Yn ôl 1 Samuel 16:​6, 7, 10-12, beth mae Jehofa’n ei weld mewn pobl?

8 Mae’r Beibl yn dysgu bod Jehofa yn sylwi ar y rhai sy’n ymweld yn ddibwys i eraill. Er enghraifft, anfonodd Jehofa Samuel i dŷ Jesse i eneinio un o’i feibion fel y Brenin nesaf dros Israel. Galwodd Jesse saith o’i wyth mab i gyfarfod Samuel, heb gynnwys Dafydd, yr ieuengaf. b Er hynny, gwnaeth Jehofa ddewis Dafydd. (Darllen 1 Samuel 16:​6, 7, 10-12.) Yn wir, gwelodd Jehofa y tu mewn i galon Dafydd—a gwelodd dyn ifanc a oedd yn gwerthfawrogi pethau ysbrydol.

9. Pam gelli di fod yn hyderus bod gan Jehofa ddiddordeb ynot ti? (Gweler hefyd y llun.)

9 Meddylia am sut mae Jehofa wedi dangos ei ddiddordeb ynot ti’n barod. Mae’n rhoi cyngor iti fel unigolyn. (Salm 32:8) Sut gallai ef wneud hyn os dydy ef ddim yn dy adnabod di’n dda? (Salm 139:1) Pan wyt ti’n rhoi cyngor Jehofa ar waith ac yn gweld sut mae’n dy helpu di, byddi di’n siŵr bod gan Jehofa ddiddordeb ynot ti. (1 Cron. 28:9; Act. 17:​26, 27) Mae Jehofa’n cymryd sylw o dy ymdrechion ac yn gweld beth sydd yn dy galon. (Jer. 17:10) Mae ef eisiau bod yn ffrind iti, ac mae’n hapus pan wyt ti’n derbyn ei wahoddiad.—1 Ioan 4:19.

“Os byddi di’n ceisio’r ARGLWYDD go iawn, bydd e’n gadael i ti ddod o hyd iddo.”—1 Cron. 28:9 (Gweler paragraff 9) c


PAN WYT TI’N AMAU DY FOD TI WEDI GWNEUD PENDERFYNIADAU DOETH

10. Wrth inni feddwl am benderfyniadau gwnaethon ni yn y gorffennol, pa gwestiynau all godi?

10 Ar adegau, gall rhai gwestiynu os gwnaethon nhw benderfyniadau doeth yn y gorffennol. Er mwyn gwasanaethu Jehofa yn fwy, efallai penderfynon nhw i adael swydd dda neu fusnes llwyddiannus. Roedd hynny blynyddoedd yn ôl, ond nawr maen nhw’n gweld pobl eraill a wnaeth penderfyniadau gwahanol yn edrych fel eu bod nhw’n mwynhau bywyd cyfforddus gyda llawer o arian. O ganlyniad, efallai bydden nhw’n gofyn: ‘Ai aberthu i Jehofa oedd y penderfyniad gorau? Neu a wnaeth hynny achosi imi golli allan?’

11. Beth oedd yn poeni ysgrifennwr Salm 73?

11 Os wyt ti’n gofyn cwestiynau tebyg, ystyria sut roedd ysgrifennwr Salm 73 yn teimlo. Gwelodd eraill yn mwynhau bywyd a oedd yn ymddangos yn llwyddiannus a heb broblemau. (Salm 73:​3-5, 12) Wrth iddo eu gweld nhw a gweld beth roedd yn ymddangos fel llwyddiant, teimlodd fod ei ymdrechion i wasanaethu Jehofa yn ddibwys. Oherwydd yr agwedd hon, dywedodd: “Dw i wedi cael fy mhlagio’n ddi-baid.” (Salm 73:​13, 14) Sut gwnaeth ef ddelio â’r teimladau negyddol hyn?

12. Yn ôl Salm 73:​16-18, sut gwnaeth yr ysgrifennwr ddelio â’i deimladau?

12 Darllen Salm 73:​16-18. Aeth y Salmydd i awyrgylch heddychlon tŷ Jehofa. Yno, roedd yn gallu meddwl yn glir. Daeth i’r casgliad, er bod bywydau eraill yn edrych yn gyfforddus, doedd ganddyn nhw ddim gobaith am y dyfodol. Gyda’r ddealltwriaeth hon, cafodd heddwch mewnol gan wybod mai penderfynu i flaenoriaethu pethau ysbrydol yw’r peth gorau i’w wneud. O ganlyniad, roedd yn fwy penderfynol o barhau i wasanaethu Jehofa.—Salm 73:​23-28.

13. Sut gelli di gael heddwch mewnol os wyt ti’n poeni am y penderfyniadau rwyt ti wedi eu gwneud? (Gweler hefyd y llun.)

13 Gelli di ffeindio’r un math o heddwch mewnol gyda help o Air Duw. Sut? Myfyria ar y pethau da sydd gen ti, gan gynnwys trysorau yn y nef. Wedyn, meddylia am sut mae’r rhai sydd ddim yn gwasanaethu Jehofa yn colli allan. Efallai llwyddiant yn y bywyd hwn yw’r peth pwysicaf iddyn nhw oherwydd does ganddyn nhw ddim gobaith am y dyfodol. Ond i ti, mae Jehofa wedi addo i dy fendithio di y tu hwnt i unrhyw beth gelli di ei ddychmygu. (Salm 145:16) Hefyd, meddylia am hyn: Elli di ddim gwybod yn union sut byddai dy fywyd wedi troi allan petaset ti wedi gwneud penderfyniadau gwahanol. Ond, gallwn ni fod yn siŵr o un peth: Fydd y rhai sy’n gwneud penderfyniadau ar sail cariad at Jehofa a chariad at gymydog byth yn colli allan ar unrhyw beth da.

Edrycha ymlaen at y bendithion mae Jehofa’n eu haddo (Gweler paragraff 13) d


PAN WYT TI’N AMAU DY FOD TI’N DDEFNYDDIOL I JEHOFA

14. Pam mae rhai yn teimlo’n ddihyder, a beth efallai bydden nhw’n ei gwestiynu?

14 Mae rhai o weision Jehofa’n teimlo’r effaith o fynd yn hŷn, o wynebu iechyd gwael, neu o fyw gydag anabledd. Gall hyn achosi iddyn nhw gwestiynu os ydyn nhw’n werthfawr yng ngolwg Jehofa. Efallai bydden nhw’n gofyn, ‘Ydw i’n dal yn ddefnyddiol i Jehofa?’

15. Beth roedd ysgrifennwr Salm 71 yn hyderus ohono?

15 Roedd ysgrifennwr Salm 71 yn poeni am rywbeth tebyg. Gweddïodd: “[Paid â fy ngadael] wrth i’r corff wanhau!” (Salm 71:​9, 18) Er hynny, arhosodd y salmydd yn hyderus y byddai Jehofa’n ei arwain a’i gefnogi tra oedd yn gwasanaethu Duw yn ffyddlon. Dysgodd y salmydd bod y rhai sy’n gwneud eu gorau glas i wasanaethu Jehofa er gwaethaf eu heriau yn dod â phleser mawr iddo.—Salm 37:​23-25.

16. Ym mha ffyrdd mae rhai hŷn yn ddefnyddiol i Jehofa? (Salm 92:​12-15)

16 Os wyt ti yn dy henaint, ceisia weld dy sefyllfa drwy lygaid Jehofa. Gallai ef dy helpu di i ffynnu’n ysbrydol er dy fod ti’n stryglo yn gorfforol. (Darllen Salm 92:​12-15.) Canolbwyntia ar beth rwyt ti’n gallu ei wneud nawr yn hytrach nag ar beth dwyt ti ddim yn gallu ei wneud. Er enghraifft, gelli di gryfhau eraill drwy ddangos diddordeb personol ynddyn nhw, a thrwy fod yn esiampl o ffyddlondeb. Gelli di ddweud wrthyn nhw faint mae Jehofa wedi dy helpu dros y blynyddoedd, a hefyd siarad â nhw am dy ffydd gref yn ei addewidion. Paid byth â diystyru pŵer dy weddïau ar ran eraill. (1 Pedr 3:12) Beth bynnag yw ein hamgylchiadau, mae gynnon ni i gyd rywbeth gwerthfawr i’w roi i Jehofa ac i eraill.

17. Pam na ddylen ni gymharu ein hunain ag eraill?

17 Os wyt ti’n teimlo’n rhwystredig oherwydd dwyt ti ddim yn gallu gwneud mwy yng ngwasanaeth Jehofa, gelli di fod yn siŵr bod Jehofa’n trysori unrhyw beth rwyt ti’n gallu ei wneud. Efallai byddi di’n cymharu dy hun ag eraill. Paid â gwneud hynny! Pam? Oherwydd dydy Jehofa ddim yn ein cymharu ni. (Gal. 6:4) Er enghraifft, rhoddodd Mair olew persawrus i Iesu a oedd yn ddrud iawn. (Ioan 12:​3-5) Ond yn y deml, rhoddodd gwraig weddw ddwy geiniog fach o ychydig werth. (Luc 21:​1-4) Yn lle cymharu’r ddwy ddynes, gwelodd Iesu eu ffydd gref. Mae Iesu’n adlewyrchu ei Dad yn berffaith. Hyd yn oed os wyt ti’n teimlo bod popeth rwyt ti’n ei wneud allan o gariad a defosiwn i Dduw ond yn werth ychydig, gelli di fod yn siŵr bod Jehofa’n ei drysori.

18. Beth fydd yn ein helpu ni i ddod dros amheuon? (Gweler hefyd y blwch “ Gall Gair Jehofa Dy Helpu Di i Ddod Dros Dy Amheuon.”)

18 Mae gynnon ni i gyd amheuon ar adegau. Ond fel rydyn ni wedi ei weld, mae Gair Duw yn ddibynadwy ac yn gallu ein helpu ni i ddod drostyn nhw. Felly, gweithia’n galed i ddelio â dy amheuon, a gad i hyder gymryd eu lle. Mae Jehofa’n wir yn cymryd sylw ohonot ti fel unigolyn. Mae’n trysori dy ymdrechion ac yn benderfynol o dy wobrwyo di. Yn sicr, mae Jehofa’n caru ac yn gofalu am bob un o’i weision ffyddlon.

CÂN 111 Rhesymau Dros Ein Llawenydd

a ESBONIAD: Yn yr erthygl hon, rydyn ni’n trafod amheuon sy’n achosi inni amau ein gwerth i Jehofa, ac sy’n gwneud inni gwestiynu ein penderfyniadau. Dydyn ni ddim yn cyfeirio at y math o amheuon y mae’r Beibl yn sôn amdanyn nhw sy’n dangos diffyg ffydd yn Jehofa a’i addewidion.

b Er nad ydy’r Beibl yn dweud yn union beth oedd oed Dafydd pan wnaeth Jehofa ei ddewis, mae’n bosib ei fod yn dal yn ei arddegau. Gweler y rhifyn Medi 1, 2011, Y Tŵr Gwylio Saesneg, t. 29, par. 2.

c DISGRIFIAD O’R LLUN: Mae Tyst ifanc yn chwilio am Jehofa gan edrych i’r Ysgrythurau am gyngor.

d DISGRIFIAD O’R LLUN: Mae brawd yn golchi ffenestri i gynnal ei deulu, ond mae’n canolbwyntio ar y Baradwys i ddod.