Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Cwestiynau Ein Darllenwyr

Cwestiynau Ein Darllenwyr

Beth oedd uchder y cyntedd o flaen teml Solomon?

Y cyntedd oedd y fynedfa i ran Sanctaidd y deml. Roedd Cyfieithiad y Byd Newydd Saesneg cyn 2023 yn dweud bod y cyntedd o flaen y deml yn 20 cufydd o hyd a lled, a’i uchder oedd 120. (2 Cron. 3:4) Mae cyfieithiadau eraill hefyd yn dweud bod y cyntedd mor uchel â 120 cufydd, neu 53 metr (175 tr)!

Ond, mae fersiwn 2023 o Cyfieithiad y Byd Newydd Saesneg yn dweud bod cyntedd teml Solomon yn 20 cufydd o uchder, neu tua 9 metr (30 tr). a Ystyria pam cafodd hyn ei newid.

Dydy 1 Brenhinoedd 6:3 ddim yn sôn am uchder y cyntedd. Yn yr adnod honno, ysgrifennodd Jeremeia am hyd a dyfnder y cyntedd, nid am ei uchder. Yna, yn y bennod nesaf, disgrifiodd yn fanwl nodweddion arbennig eraill y deml, gan gynnwys y Môr o fetel tawdd, y deg cerbyd, a’r ddwy golofn gopr y tu allan i’r cyntedd. (1 Bren. 7:​15-37) Os oedd y cyntedd yn wir dros 50 metr o uchder, cymaint yn dalach na gweddill y deml, oni fyddai Jeremeia wedi sôn amdano? Hyd yn oed canrifoedd yn nes ymlaen, nodwyd rhai ysgrifenwyr Iddewig nad oedd y cyntedd yn dalach na gweddill teml Solomon.

Roedd rhai ysgolheigion yn amau bod waliau’r deml yn gallu dal cyntedd 120 cufydd. Roedd gan adeiladau anferth eraill yr adeg, gan gynnwys giatiau teml yn yr Aifft, waliau trwchus iawn ar y gwaelod a oedd yn mynd yn fwy cul at y top. Ond, roedd teml Solomon yn wahanol. Mae rhai arbenigwyr yn awgrymu na fyddai’r waliau wedi bod yn fwy trwchus na 6 chufydd, neu 2.7 metr (9 tr). Yn ôl yr hanesydd pensaernïol Theodor Busink: “O ystyried pa mor drwchus oedd y wal [o gwmpas mynedfa’r deml], ni fyddai’r cyntedd wedi gallu bod yn 120 cufydd [o daldra].”

Efallai cafodd testun 2 Cronicl 3:4 ei gopïo yn anghywir. Er bod rhai llawysgrifau hynafol yn dweud “120” yn yr adnod hon, mae rhai dogfennau awdurdodol eraill, gan gynnwys y Codex Alexandrinus o’r pumed ganrif a’r Codex Ambrosianus o’r seithfed ganrif, yn dweud “20 cufydd.” Sut byddai ysgrifennydd wedi rhoi “120” fel camgymeriad? Mae’r geiriau Hebraeg ar gyfer “cant” a “chufydd” yn edrych yn debyg i’w gilydd, felly byddai’n hawdd i’r ysgrifennydd eu cymysgu nhw.”

Wrth gwrs, wrth inni geisio deall manylion teml Solomon a’i darlunio yn gywir, rydyn ni’n rhoi mwy o sylw i beth roedd y deml honno’n ei gynrychioli—teml fawr ysbrydol Jehofa. Rydyn ni mor ddiolchgar i Jehofa am wahodd ei weision i gyd i’w addoli yn y deml honno!—Heb. 9:​11-14; Dat. 3:12; 7:​9-17.

a Mae troednodyn yn egluro bod “rhai llawysgrifau hynafol yn dweud ‘120,’ ond mae llawysgrifau eraill a rhai cyfieithiadau yn dweud ‘20 cufydd.’”