Oeddet Ti’n Gwybod?
Pa mor bwysig oedd cerddoriaeth yn Israel gynt?
ROEDD cerddoriaeth yn bwysig iawn i’r Israeliaid. Mae’r Beibl yn cyfeirio nifer o weithiau at bobl yn canu a chwarae offerynnau. Yn ddiddorol, mae tua un degfed o’r Ysgrythurau yn ganeuon, er enghraifft llyfrau’r Salmau , Caniad Solomon, a Galarnad. Mae’r llyfr Music in Biblical Life yn dweud bod y Beibl yn “creu darlun clir o gymdeithas lle roedd cerddoriaeth yn rhan annatod o fywyd bob dydd.”
Cerddoriaeth yn rhan o fywyd. Chwaraeodd yr Israeliaid gerddoriaeth i fynegi eu teimladau. (Esei. 30:29) Yn ystod coroniadau, dathliadau, a buddugoliaethau milwrol, roedd y merched yn dawnsio ac yn canu’n llawen wrth chwarae tambwrinau. (Barn. 11:34; 1 Sam. 18:6, 7; 1 Bren. 1:39, 40) Hefyd, ar ôl i rywun farw, canodd yr Israeliaid i fynegi eu galar. (2 Cron. 35:25) Mae’n glir bod yr Israeliaid yn caru cerddoriaeth yn fawr iawn.
Cerddoriaeth yn y llys brenhinol. Roedd cerddoriaeth yn gwneud i frenhinoedd Israel lawenhau. Gwnaeth y Brenin Saul alw Dafydd i’w balas i chwarae’r delyn iddo. (1 Sam. 16:18, 23) Yn hwyrach ymlaen pan oedd Dafydd yn frenin, gwnaeth greu offerynnau cerdd, ysgrifennu caneuon hyfryd, a threfnu’r gerddorfa a chwaraeodd yn nheml Jehofa. (2 Cron. 7:6; Amos 6:5) Roedd dynion a merched yn gwasanaethu fel cantorion yn llys y Brenin Solomon.—Preg. 2:8.
Cerddoriaeth mewn addoliad. Y ffordd bwysicaf defnyddiodd yr Israeliaid gerddoriaeth oedd i addoli Jehofa. Gwnaeth 4,000 o gerddorion berfformio yn y deml yn Jerwsalem gan ddefnyddio symbalau, telynau, trwmpedau, ac offerynnau llinynnol. (1 Cron. 23:5; 2 Cron. 5:12) Yn ogystal â’r cerddorion crefftus hyn, roedd ’na eraill a oedd yn addoli Jehofa gyda cherddoriaeth. Gwnaeth llawer o’r Israeliaid ganu Caneuon yr Esgyniadau wrth deithio i ddathliadau blynyddol yn Jerwsalem. (Salm 120-134) Ac yn ôl rhai ysgrifau Iddewig, canon nhw rai o’r Salmau a yn ystod y Pasg.
Mae cerddoriaeth yn dal yn bwysig iawn i bobl Dduw. (Iago 5:13) Mae canu yn rhan o’n haddoliad. (Eff. 5:19) Rydyn ni’n agosáu at ein brodyr a’n chwiorydd wrth inni ganu gyda’n gilydd. (Col. 3:16) Ac mae’n helpu ni aros yn gryf yn ystod treialon. (Act. 16:25) Mae cerddoriaeth yn ffordd hyfryd i fynegi ein ffydd a dangos ein cariad tuag at Jehofa.
a Mae Iddewon yn cyfeirio at Salmau 113 i 118 fel yr Halel, a oedd yn cael eu canu i foli Jehofa.