Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Fe Elli Di Aros yn Wylaidd o Dan Brawf

Fe Elli Di Aros yn Wylaidd o Dan Brawf

“Byw’n wylaidd ac ufudd i dy Dduw.”—MICH. 6:8.

CANEUON: 48, 95

1-3. Beth gwnaeth y proffwyd dienw o Jwda fethu ei wneud, a beth oedd y canlyniad? (Gweler y llun agoriadol.)

RYW dro yn ystod teyrnasiad y Brenin Jeroboam, anfonodd Jehofa broffwyd o Jwda i fynd â neges ddeifiol i’r brenin gwrthgiliol hwnnw o Israel. Traddodi barn Duw roedd y proffwyd hwnnw, a gwnaeth Jehofa amddiffyn ei was rhag dicter chwyrn Jeroboam.—1 Bren. 13:1-10.

2 Ar ei ffordd adref ac yn gwbl annisgwyl, dyma’r proffwyd yn cwrdd â hen ddyn wrth ymyl Bethel. Roedd y dyn yn honni bod yn broffwyd i Jehofa, ac fe dwyllodd y dyn ifanc i anufuddhau i gyfarwyddiadau pendant Jehofa: “Paid bwyta dim nac yfed dŵr yno, a phaid mynd adre’r ffordd aethost ti yno.” Doedd Jehofa ddim yn hapus. Wedyn, tra oedd proffwyd Jehofa yn mynd ar hyd y ffordd, daeth llew ar ei draws a’i ladd.—1 Bren. 13:11-24.

3 Pam gwnaeth y proffwyd gwylaidd hwn droi’n hy a gwrando ar yr hen ddyn twyllodrus? Dydy’r Beibl ddim yn dweud. Efallai roedd wedi anghofio ei fod yn gorfod “byw’n wylaidd ac ufudd” i Dduw. (Darllen Micha 6:8.) Yn y Beibl, mae byw’n wylaidd i Dduw yn cyfleu’r syniad o ymddiried ynddo, cefnogi ei benarglwyddiaeth, a dilyn ei arweiniad. Mae person gwylaidd yn gwybod y gallai ac y dylai gyfathrebu’n gyson â’i Dad hollalluog. Gallai’r proffwyd fod wedi gofyn i Jehofa egluro ei gyfarwyddiadau, ond nid yw’r Ysgrythurau yn dweud ei fod wedi gwneud hynny. Ar adegau, mae’n rhaid i ninnau hefyd wneud penderfyniadau anodd, ac nid yw’r dewis gorau bob amser yn eglur. Mae troi, yn wylaidd, at Jehofa am ei arweiniad yn ein helpu i osgoi cymryd camau gwag.

4. Beth ddysgwn yn yr erthygl hon?

4 Yn yr erthygl flaenorol, dysgon ni sut i fyw’n wylaidd a’r rheswm pam mae hynny’n bwysig. Pa sefyllfaoedd sy’n gallu gwneud bod yn wylaidd yn anodd? A sut gallwn ni feithrin gwyleidd-dra, fel y medrwn ni aros yn wylaidd o dan bwysau? I ateb y cwestiynau hyn, byddwn yn ystyried tair sefyllfa gyffredin sy’n gallu ei gwneud hi’n anodd inni aros yn wylaidd, ac fe welwn sut gallwn ni ymddwyn yn ddoeth ym mhob achos.—Diar. 11:2.

AMGYLCHIADAU NEWYDD

5, 6. Sut roedd Barsilai yn ddyn gwylaidd?

5 Gall newidiadau yn ein bywydau ei gwneud hi’n anodd bod yn wylaidd. Pan ofynnodd Dafydd i’r gŵr wyth deg oed Barsilai ddod i fyw yn y llys brenhinol, mae’n rhaid bod Barsilai wedi teimlo anrhydedd mawr. Byddai derbyn gwahoddiad Dafydd yn golygu y gallai ddal i fwynhau cwmni’r brenin. Ond gwrthododd Barsilai. Pam? Ac yntau bellach mewn oed, dywedodd wrth Dafydd nad oedd eisiau bod yn fwrn ar y brenin. Felly, awgrymodd Barsilai y dylai Cimham, un o’i feibion yn ôl pob tebyg, gymryd ei le.—2 Sam. 19:31-37.

6 Trwy fod yn wylaidd, penderfynodd Barsilai yn gall. Nid gwrthod gwahoddiad Dafydd a wnaeth oherwydd ei fod yn teimlo’n annigonol i ysgwyddo’r cyfrifoldeb neu oherwydd ei fod eisiau ymddeol a byw bywyd tawel. Dim ond derbyn a wnaeth fod amgylchiadau ei fywyd wedi newid a bod cyfyngiadau arno bellach. Nid oedd eisiau gwneud mwy na’r hyn roedd yn rhesymol iddo’i wneud. (Darllen Galatiaid 6:4, 5.) Bydd ceisio bod yn bwysig, yn flaenllaw, ac yn adnabyddus, yn ein troi ni’n hunanbwysig a chystadleugar a bydd hynny’n arwain, yn y pen draw, at siom. (Gal. 5:26) Mae bod yn wylaidd, fodd bynnag, yn ein helpu i gydweithio er mwyn clodfori Duw a helpu eraill.—1 Cor. 10:31.

7, 8. Sut gall bod yn wylaidd ein helpu rhag dod yn hunanddibynnol?

7 Yn aml, mae cyfrifoldeb yn arwain at awdurdod, a gall hynny fygwth ein hymdrechion i fyw yn wylaidd. Pan glywodd Nehemeia am sefyllfa druenus y bobl yn Jerwsalem, gweddïodd ar Jehofa. (Neh. 1:4, 11) Gwelwyd bendith Jehofa pan benodwyd Nehemeia yn llywodraethwr ar y dalaith gan y Brenin Artaxerxes. Ond, er gwaethaf ei swydd bwysig a’i awdurdod, ni ddibynnodd Nehemeia ar ei brofiad ei hun. Roedd yn byw’n wylaidd i Dduw. Ceisiodd gyfarwyddyd Jehofa drwy ddarllen y Gyfraith. (Neh. 8:1, 8, 9) Yn hytrach nag arglwyddiaethu ar eraill, roedd Nehemeia yn eu gwasanaethu heb arbed unrhyw gost iddo ef ei hun.—Neh. 5:14-19.

8 Mae esiampl Nehemeia yn dangos sut gall agwedd wylaidd ein helpu rhag dod yn hunanddibynnol pan fyddwn ni’n derbyn aseiniad newydd neu gyfrifoldeb ychwanegol. Gan ddibynnu dim ond ar ei brofiad ei hun, gallai henuriad ddechrau gofalu am faterion cynulleidfaol heb yn gyntaf weddïo ar Jehofa. Gall eraill wneud penderfyniad yn gyntaf ac yna gweddïo ar Jehofa i fendithio’r penderfyniad. Ai bod yn wylaidd yw hynny? Bydd person gwylaidd bob amser yn cydnabod ei le priodol gerbron Duw a’i rôl yn nhrefn Jehofa. Nid ein gallu ni sy’n bwysig. Yn enwedig pan fyddwn ni’n wynebu problem neu sefyllfa gyfarwydd, pwysig yw i beidio â dibynnu arnon ni’n hunain. (Darllen Diarhebion 3:5, 6.) Fel gweision i Dduw, rydyn ni’n dysgu i feddwl mai cyflawni rôl o fewn y teulu neu’r gynulleidfa yr ydyn ni yn hytrach na cheisio codi o’r rhengoedd neu ddringo’r ysgol gorfforaethol.—1 Tim. 3:15.

DERBYN BEIRNIADAETH NEU GANMOLIAETH

9, 10. Sut gall meddylfryd gwylaidd ein helpu i ymdopi â beirniadaeth annheg?

9 Gall fod yn anodd rheoli ein hemosiynau wrth wynebu beirniadaeth annheg. Roedd Hanna yn aml yn crio oherwydd bod Penina yn ei herian yn ddidrugaredd. Roedd gŵr Hanna yn ei charu, ond doedd hi ddim yn gallu cael plant. Yn ddiweddarach, pan oedd hi’n gweddïo yn y tabernacl, fe’i cyhuddwyd ar gam gan yr Archoffeiriad Eli o fod wedi meddwi. Dychmyga hynny! Ond, er gwaethaf hyn oll, dangosodd Hanna hunanreolaeth a pharch wrth ateb Eli. Fe gofnodwyd ei gweddi deimladwy yn y Beibl. Mae’n mynegi ei ffydd, ei moliant, a’i gwerthfawrogiad.—1 Sam. 1:5-7, 12-16; 2:1-10.

10 Hefyd, gall meddylfryd gwylaidd ein helpu i drechu’r drygioni gyda’r daioni. (Rhuf. 12:21) Mae bywyd heddiw yn aml yn annheg, a brwydr yw peidio â gadael i ymddygiad pobl ddrwg ein gwylltio. (Salm 37:1) Pan fo problemau yn codi yn y gynulleidfa, gall y boen fod yn fwy llym. Bydd person gwylaidd yn efelychu Iesu. “Wnaeth e ddim ateb yn ôl pan oedd pobl yn ei regi a’i sarhau,” meddai’r Beibl. “Yn lle hynny, gadawodd y mater yn nwylo Duw sydd bob amser yn barnu’n deg.” (1 Pedr 2:23) Gwyddai Iesu mai Jehofa yn unig sy’n dial. (Rhuf. 12:19) Yn yr un modd, anogwyd Cristnogion i fod yn ostyngedig ac i beidio â thalu’r pwyth yn ôl.—1 Pedr 3:8, 9.

11, 12. (a) Sut gall ymddwyn yn wylaidd ein helpu i ddelio gyda gorganmoliaeth? (b) Sut dylai agwedd wylaidd ddylanwadu ar ein dewisiadau o ran gwisg a thrwsiad ac ar ein hymddygiad?

11 Hefyd, pan fyddwn ni’n cael ein gorganmol, gall hynny achosi problemau inni. Ystyria ymateb Esther pan ddaeth tro sydyn ar ei byd. Roedd hi’n syfrdanol o hardd, ac fe gafodd ei maldodi â thriniaethau harddu moethus am flwyddyn gron. Cymdeithasai bob dydd â llawer o ferched ifanc a phob un ohonyn nhw’n cystadlu am sylw’r brenin. Ond arhosodd Esther yn barchus a hunanfeddiannol. Ni wnaeth hi droi’n falch oherwydd ei harddwch, hyd yn oed pan ddewisodd y brenin hithau i fod yn frenhines iddo.—Esth. 2:9, 12, 15, 17.

A yw ein gwisg a’n trwsiad yn dangos parch tuag at Jehofa ac eraill neu a yw’n anweddus? (Gweler paragraff 12)

12 Mae bod yn wylaidd yn ein helpu i wisgo’n drwsiadus, i ymddwyn mewn ffordd weddus. Rydyn ni’n ennill cariad pobl, nid drwy frolio a thynnu sylw aton ni’n hunain, ond drwy ddangos “ysbryd addfwyn a thawel.” (Darllen 1 Pedr 3:3, 4; Jer. 9:23, 24) Yn y pen draw, bydd unrhyw falchder yn ein calon yn dod yn amlwg yn ein gweithredoedd. Er enghraifft, gallen ni roi ar ddeall ein bod ni’n mwynhau breintiau arbennig, yn meddu ar wybodaeth fewnol, neu fod gennyn ni berthynas arbennig â brodyr cyfrifol. Neu, gallen ni egluro pethau mewn ffordd sy’n golygu mai ni’n unig sy’n derbyn y clod am rywbeth y mae eraill hefyd wedi cyfrannu ato. Unwaith eto, gosododd Iesu’r esiampl. Roedd cryn dipyn o’r hyn a ddywedodd yn ddyfyniad o’r Ysgrythurau Hebraeg neu’n gyfeiriad atyn nhw. Siaradodd yn wylaidd er mwyn i’w wrandawyr wybod bod ei eiriau’n dod o Jehofa yn hytrach na’i ddoethineb ei hun.—Ioan 8:28.

YMDOPI AG ANSICRWYDD

13, 14. Sut gall agwedd wylaidd ein helpu i wneud penderfyniadau gwell?

13 Pan fydd penderfyniadau wedi cael eu gwneud yn barod, gall hynny fod yn brawf ar ein gwyleidd-dra. Tra arhosai Paul yng Nghesarea, dywedodd y proffwyd Agabus wrth yr apostol y byddai’n cael ei arestio neu hyd yn oed ei ladd petai’n mynd i Jerwsalem. Yn ofni’r gwaethaf, erfyniodd y brodyr ar Paul iddo beidio â mynd. Ond doedd dim troi arno. Nid oedd nac yn orhyderus nac wedi ei barlysu ag ofn. Ymddiriedodd yn Jehofa ac roedd yn benderfynol o ganlyn ei aseiniad i’w derfyn, le bynnag y byddai’r aseiniad hwnnw’n mynd ag ef. Ar ôl clywed hyn, dyma’r brodyr yn rhoi’r gorau i geisio dwyn perswâd ar Paul.—Act. 21:10-14.

14 Hefyd, gall agwedd wylaidd ein helpu i wneud penderfyniadau da hyd yn oed os nad ydyn ni’n gwybod yn iawn beth fydd y canlyniadau. Er enghraifft, petaen ni’n dewis gwasanaethu’n llawn amser mewn rhyw ffordd, beth fyddai’n digwydd petaen ni’n mynd yn sâl? Beth petai angen help ar ein rhieni oedrannus? Sut byddwn ni’n gofalu amdanon ni’n hunain yn ein henaint? Ni all gweddi ac ymchwil bob amser roi ateb cyflawn i gwestiynau o’r fath. (Preg. 8:16, 17) Bydd ein hyder yn Jehofa yn ein helpu i gydnabod ac i dderbyn bod terfyniadau ar ein galluoedd. Ar ôl gwneud ymchwil, siarad ag eraill, a gweddïo am arweiniad, dylen ni ddilyn arweiniad yr ysbryd glân. (Darllen Pregethwr 11:4-6.) Mae hynny’n rhoi rhywbeth i Jehofa ei fendithio neu mae’n gallu ein helpu i osod nod newydd.—Diar. 16:3, 9.

MEITHRIN GWYLEIDD-DRA

15. Sut mae myfyrio ar Jehofa yn ein helpu i aros yn ostyngedig?

15 Gan fod cymaint o fanteision i fyw’n wylaidd, sut gallwn ni wneud hynny’n fwy byth? Gad inni ystyried pedair ffordd. Yn gyntaf, gallwn fyw’n wylaidd a pharchu Jehofa yn fwy drwy fyfyrio ar ei rinweddau a’i safle aruchel. (Esei. 8:13) Cofia, byw i Jehofa yr ydyn ni, nid i ryw angel neu ddyn. Bydd cofio hynny yn ein helpu i “blygu i awdurdod Duw.”—1 Pedr 5:6.

16. Sut bydd myfyrio ar gariad Duw yn ein hannog ni i fod yn wylaidd?

16 Yn ail, bydd myfyrio ar gariad Jehofa yn ein helpu i feithrin agwedd wylaidd. Ysgrifennodd yr apostol Paul fod Jehofa wedi amgylchu “â pharch neilltuol” y rhannau hynny o’r corff dynol “sydd leiaf eu parch.” (1 Cor. 12:23, 24, BCND) Yn yr un modd, er gwaethaf ein diffygion, mae Jehofa yn gofalu am bob un ohonon ni. Dydy Jehofa ddim yn ein cymharu ag eraill nac yn gwrthod dangos cariad tuag aton ni pan fyddwn ni’n gwneud camgymeriadau. Oherwydd cariad Jehofa, rydyn ni’n teimlo’n ddiogel, ni waeth befo’r rôl sydd gennyn ni o fewn ei gyfundrefn.

17. Pa effaith fydd edrych am y daioni mewn eraill yn ei chael arnon ni?

17 Yn drydydd, bydd ein gwerthfawrogiad at y rôl sydd gennyn ni yng ngwasanaeth Jehofa yn cynyddu, wrth inni efelychu Duw ac edrych am y daioni mewn eraill. Yn hytrach nag eisiau bod yn geffyl blaen o hyd neu fynnu cymryd yr awenau drwy’r amser, byddwn ni’n fwy aml yn gofyn i eraill am gyngor ac yn ildio’n wylaidd i’w syniadau. (Diar. 13:10) Byddwn ni’n cyd-lawenhau pan fydd ein brodyr yn derbyn breintiau. A byddwn yn moli Jehofa wrth inni weld sut mae’n bendithio ein “cyd-Gristnogion drwy’r byd i gyd.”—1 Pedr 5:9.

18. Sut gallwn hyfforddi ein cydwybod o ran gwedduster?

18 Yn bedwerydd, bydd ein gwedduster a’n parch yn cael eu coethi pan fyddwn ni’n hyfforddi ein cydwybod yn unol ag egwyddorion y Beibl. Byddwn ni’n dod yn fwy call drwy ddysgu sut i edrych ar bethau o safbwynt Jehofa. Drwy astudio a gweddïo’n gyson a thrwy roi ar waith yr hyn a ddysgwn, byddwn ni’n gallu cryfhau yn raddol ein cydwybod. (1 Tim. 1:5) Byddwn ni’n dysgu sut i roi eraill yn gyntaf. Os gwnawn ni’n rhan, mae Jehofa yn addo y bydd ef yn ein cefnogi ni.—1 Pedr 5:10.

19. Beth fydd yn dy helpu i fyw yn wylaidd am byth?

19 Gwnaeth un weithred hy gostio’r proffwyd dienw o Jwda ei fywyd yn ogystal â’i enw da gyda Duw. Mae hi’n bosibl, fodd bynnag, inni fod yn wylaidd o dan brawf. Mae rhai ffyddlon y gorffennol a rhai gwylaidd heddiw wedi dangos y gellir gwneud hyn. Po hiraf y byddwn ni’n byw i Jehofa, y mwyaf dwys fydd ein gwyleidd-dra. (Diar. 8:13) Beth bynnag yw ein rôl ar hyn o bryd, mae byw i Jehofa yn fraint ryfeddol heb ei thebyg. Trysora’r anrhydedd honno, a dal ati i wneud dy orau glas i fyw i Jehofa yn wylaidd a hynny am byth.