Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Mae Duw yn “Rhoi Egni i’r Blinedig”

Mae Duw yn “Rhoi Egni i’r Blinedig”

Testun y Flwyddyn ar gyfer 2018: Bydd y rhai sy’n pwyso ar Jehofa yn cael nerth newydd.—ESEIA 40:31.

CANEUON: 3, 47

1. Beth yw rhai o’r problemau y mae’n rhaid inni eu hwynebu, ond pam mae gweision ffyddlon Jehofa yn ei blesio? (Gweler y lluniau agoriadol.)

DYDY bywyd yn y system hon ddim yn hawdd. Er enghraifft, mae llawer ohonon ni yn dioddef oherwydd salwch difrifol. Mae rhai sydd eisoes yn hŷn yn gorfod gofalu am aelodau oedrannus o’r teulu. Mae eraill yn stryffaglu i gwrdd ag anghenion y teulu. Ac mae llawer ohonon ni’n delio gyda sawl un o’r problemau hyn i gyd ar yr un pryd. Mae hyn yn gofyn am gryn dipyn o amser, egni, ac arian. Ond rwyt ti’n hollol sicr y bydd Jehofa yn dy helpu di. Rwyt ti’n gwybod y bydd pethau’n gwella oherwydd dyna mae Duw wedi ei addo. Mae’n rhaid fod dy ffydd yn plesio Jehofa!

2. Sut mae Eseia 40:29 yn ein calonogi, ond pa gamgymeriad difrifol y gallen ni ei wneud?

2 Wyt ti weithiau’n teimlo bod dy broblemau yn ormod iti ymdopi â nhw? Os wyt ti, dwyt ti ddim ar dy ben dy hun. Mae rhai o weision Duw yn y gorffennol wedi teimlo yr un fath. (1 Brenhinoedd 19:4; Job 7:7) Ond beth wnaeth eu helpu i ddal ati? Roedden nhw’n dibynnu ar Jehofa am nerth. Mae’r Beibl yn dweud bod Duw “yn rhoi egni i’r blinedig.” (Eseia 40:29) Yn anffodus, mae rhai o weision Duw heddiw yn teimlo mai’r ffordd orau i wynebu problemau yw stopio gwasanaethu Jehofa am gyfnod. Maen nhw’n teimlo bod gwasanaethu Jehofa yn faich yn hytrach na’n fendith. Felly, maen nhw’n stopio darllen y Beibl, mynd i’r cyfarfodydd, a phregethu. Dyma’n union y mae Satan yn gobeithio y byddan nhw’n ei wneud.

3. (a) Sut gallwn ni stopio Satan rhag ein gwanhau? (b) Beth fyddwn ni’n ei drafod yn yr erthygl hon?

3 Dydy’r Diafol ddim eisiau inni fod yn gryf. Ac mae’n gwybod bod cadw’n brysur yng ngwasanaeth Jehofa yn dy gryfhau. Felly, pan fyddi di wedi ymlâdd yn gorfforol ac yn emosiynol paid ag ymbellhau oddi wrth Jehofa. Nesâ ato. Dywed y Beibl: “Bydd yn eich adfer chi, a’ch cryfhau chi, a’ch gwneud chi’n gadarn.” (1 Pedr 5:10; Iago 4:8) Yn yr erthygl hon, gwelwn yn Eseia 40:26-31 sut mae Jehofa yn gallu rhoi nerth inni. Wedyn, byddwn ni’n trafod dwy sefyllfa a allai achosi inni wneud llai yng ngwasanaeth Jehofa, a byddwn ni’n dysgu sut gall rhoi egwyddorion y Beibl ar waith ein helpu ni i ddyfalbarhau.

BYDD Y RHAI SY’N PWYSO AR JEHOFA YN CAEL NERTH NEWYDD

4. Pa wers mae Eseia 40:26 yn ei dysgu inni?

4 Darllen Eseia 40:26. Does neb wedi gallu cyfri holl sêr y bydysawd. Mae gwyddonwyr yn credu bod cymaint â 400 biliwn o sêr yn ein galaeth ni yn unig. Eto, mae Jehofa wedi rhoi enw i bob un ohonyn nhw. Beth mae hynny’n ein dysgu am Jehofa? Os yw’n cymryd diddordeb personol mewn sêr difywyd, dychmyga sut mae’n teimlo amdanat tithau! Rwyt ti’n ei wasanaethu, nid oherwydd dy fod ti’n gorfod, ond oherwydd dy fod ti’n ei garu. (Salm 19:1, 3, 14) Mae ein Tad nefol yn gwybod popeth amdanat ti. Yn ôl y Beibl: “Mae Duw hyd yn oed wedi cyfri gwallt eich pen chi!” (Mathew 10:30) Mae Jehofa eisiau inni wybod ei fod yn ymwybodol o’n hanawsterau. (Salm 37:18) Yn amlwg felly, mae Jehofa yn gweld dy broblemau, ac mae’n gallu rhoi’r nerth iti i ymdopi â phob un ohonyn nhw.

5. Sut gallwn ni fod yn sicr y gall Jehofa roi cryfder inni?

5 Darllen Eseia 40:28. Mae egni yn tarddu o Jehofa. Meddylia, er enghraifft, am faint o egni y mae’n ei roi i’r haul. Dywedodd yr ysgrifennwr gwyddonol David Bodanis fod yr haul, bob eiliad, yn cynhyrchu lawn gymaint o egni â biliynau o fomiau atomig yn ffrwydro. Gwnaeth un ymchwilydd arall amcangyfrif y byddai’r ynni y mae’r haul yn ei gynhyrchu mewn dim ond un eiliad yn rhoi digon o ynni i bobl ar draws y byd a hynny am 200,000 o flynyddoedd! Yn wir, mae Jehofa, yr un sy’n rhoi ynni i’r haul, yn gallu rhoi’r nerth rydyn ni’n ei angen er mwyn ymdopi â’n problemau.

6. Ym mha ffordd y mae iau Iesu yn gyfforddus, a sut mae hyn yn effeithio arnon ni?

6 Darllen Eseia 40:29. Mae gwasanaethu Jehofa yn dod â llawenydd mawr. Dywedodd Iesu wrth ei ddisgyblion: “Dewch gyda mi o dan fy iau.” Ac mae’n ychwanegu: “A chewch chi orffwys. Mae fy iau i yn gyfforddus a dw i ddim yn gosod beichiau trwm ar bobl.” (Mathew 11:28-30) Mae hyn mor wir! Ar adegau, gallwn ni deimlo’n hynod o flinedig cyn mynd i’r cyfarfod neu i bregethu. Ond sut rydyn ni’n teimlo ar ôl dod adref? Rydyn ni’n teimlo fel ein bod ni wedi cael ein hadfywio ac yn fwy parod i ymdopi â’n problemau. Yn wir, mae iau Iesu yn gyfforddus.

7. Sonia am brofiadau sy’n dangos bod Mathew 11:28-30 yn wir.

7 Rho sylw i brofiad un o’n chwiorydd. Mae hi’n dioddef oherwydd syndrom blinder cronig, iselder, a chur pen ofnadwy. Oherwydd hynny, mae’n anodd iddi fod yn y cyfarfodydd. Un diwrnod, fodd bynnag, ar ôl iddi wneud ymdrech i fynd i’r cyfarfod, dyma hi’n ysgrifennu: “Roedd yr anerchiad yn trafod digalondid. Cafodd y wybodaeth ei chyflwyno gyda chymaint o gydymdeimlad a chariad nes imi ddechrau crio. Roedd hynny’n fy atgoffa mai yn y cyfarfodydd y dylwn i fod.” Roedd hi mor hapus ei bod hi wedi gwneud yr ymdrech i fod yno!

8, 9. Beth oedd yr apostol Paul yn ei feddwl pan ysgrifennodd: “Pan dw i’n wan, mae gen i nerth go iawn”?

8 Darllen Eseia 40:30. Efallai fod gennyn ni lawer o sgiliau, ond mae na gyfyngiadau ar yr hyn rydyn ni’n gallu ei wneud yn ein nerth ein hunain. Mae hon yn wers y dylen ni i gyd ei dysgu. Roedd yr apostol Paul yn gallu gwneud llawer o bethau, ond doedd ddim yn gallu gwneud popeth roedd eisiau ei wneud. Pan esboniodd ei deimladau i Jehofa, atebodd Jehofa: “Mae fy nerth i’n gweithio orau mewn gwendid.” Roedd Paul wedi deall yr hyn roedd Jehofa wedi ei ddweud wrtho. Dyna pam y dywedodd Paul: “Pan dw i’n wan, mae gen i nerth go iawn.” (2 Corinthiaid 12:7-10) Beth oedd yn ei olygu?

9 Roedd Paul yn sylweddoli bod ’na gyfyngiadau ar yr hyn roedd yn gallu ei wneud ar ei ben ei hun. Roedd angen help arno gan rywun llawer iawn mwy grymus. Gallai ysbryd glân Duw roi nerth i Paul pan oedd yn teimlo’n wan. A gallai wneud llawer iawn mwy. Roedd ysbryd Duw hefyd yn gallu rhoi’r nerth i Paul er mwyn iddo wneud pethau na allai eu gwneud yn ei nerth ei hun. Gall yr un peth ddigwydd i ni. Pan fydd Jehofa yn rhoi ei ysbryd glân inni, byddwn ni’n wirioneddol gryf!

10. Sut gwnaeth Jehofa helpu Dafydd i ymdopi â’i broblemau?

10 Yn aml, gwnaeth y salmydd Dafydd brofi sut roedd ysbryd glân Duw yn ei gryfhau. Canodd: “Gyda ti gallaf ruthro allan i’r frwydr; gallaf neidio unrhyw wal gyda help fy Nuw!” (Salm 18:29) Yn debyg i wal sy’n rhy uchel inni ddringo drosti, mae ein problemau weithiau’n rhy fawr inni allu eu datrys ar ein pennau ein hunain. Mae angen help Jehofa arnon ni.

11. Sut gall yr ysbryd glân ein helpu i ymdopi â’n problemau?

11 Darllen Eseia 40:31. Dydy eryrod ddim yn aros yn yr awyr drwy ddefnyddio eu cryfder eu hunain yn unig. Y pŵer sy’n dod o aer cynnes yn codi sy’n gyfrifol am godi’r eryr i’r awyr. Mae hyn yn caniatáu i’r eryr hedfan yn bell ac i arbed egni. Felly, pan fyddi di’n cael dy lethu gan broblem, meddylia am yr eryr. Pwysig yw erfyn ar Jehofa er mwyn iddo roi mwy o nerth iti drwy gyfrwng “yr Ysbryd Glân.” (Ioan 14:26) Gallwn ofyn i Jehofa ein helpu ni ar unrhyw adeg o’r dydd neu’r nos. Gallwn ni deimlo fel gofyn am help Jehofa yn enwedig pan fyddwn ni’n anghytuno ag un o’n brodyr neu’n chwiorydd yn y gynulleidfa. Ond pam mae anghytundebau o’r fath yn codi?

12, 13. (a) Pam mae anghytundebau yn codi rhwng Cristnogion ar adegau? (b) Beth mae hanes Joseff yn ei ddysgu inni am Jehofa?

12 Mae anghytundebau yn codi oherwydd ein bod ni i gyd yn amherffaith. Weithiau, rydyn ni’n gwylltio oherwydd yr hyn mae pobl yn ei ddweud neu yn ei wneud, neu efallai ninnau fydd yn codi gwrychyn rhywun arall. Gall hyn fod yn anodd. Ond, mae’n rhoi cyfle inni fod yn ffyddlon i Jehofa. Sut felly? Trwy ddysgu i gydweithio â’n brodyr a’n chwiorydd. Mae Jehofa yn eu caru nhw er gwaethaf eu ffaeleddau, a dylen ninnau wneud yr un peth.

Ni wnaeth Jehofa gefnu ar Joseff, ac ni fydd yn cefnu arnat tithau chwaith (Gweler paragraff 13)

13 Dydy Jehofa ddim yn atal ei weision rhag cael eu profi. Rydyn ni’n dysgu hynny o hanes bywyd Joseff. Pan oedd Joseff yn ddyn ifanc, roedd ei hanner brodyr yn genfigennus ohono. Gwnaethon nhw ei werthu’n gaethwas ac fe gafodd ei gymryd i’r Aifft. (Genesis 37:28) Gwelodd Jehofa yn union beth ddigwyddodd ac mae’n siŵr y byddai wedi cael ei frifo o weld y ffordd roedd ei ffrind, ei was ffyddlon Joseff, wedi cael ei drin. Eto, ni wnaeth Jehofa stopio’r hyn a ddigwyddodd. Yn nes ymlaen, pan gafodd Joseff ei gyhuddo o drio treisio gwraig Potiffar a’i daflu i’r carchar, ni wnaeth Jehofa arbed Joseff. Ond a wnaeth Duw gefnu ar Joseff? Naddo. Mae’r Beibl yn dweud bod “yr ARGLWYDD gydag e. Beth bynnag roedd Joseff yn ei wneud, roedd yr ARGLWYDD yn ei lwyddo.”—Genesis 39:21-23.

14. Sut mae peidio â gwylltio yn ein helpu ni?

14 Esiampl arall yw Dafydd. Dydy’r rhan fwyaf o bobl ddim wedi cael eu cam-drin mor ddrwg â Dafydd. Ond eto, ni wnaeth Dafydd, a oedd yn ffrind i Dduw, adael iddo’i hun fod yn llawn dicter. Ysgrifennodd: “Paid gwylltio am y peth, na cholli dy dymer. Paid digio. Drwg ddaw iddyn nhw’n y diwedd!” (Salm 37:8) Y rheswm pwysicaf dros beidio â gwylltio yw oherwydd ein bod ni eisiau efelychu Jehofa. Wnaeth Duw “ddim delio gyda’n pechodau ni fel roedden ni’n haeddu” ond, yn hytrach, mae wedi maddau inni. (Salm 103:10) Mae ’na fuddion eraill sy’n dod o beidio â gwylltio. Er enghraifft, gall gwylltio achosi pwysau gwaed uchel a phroblemau resbiradol. Gall niweidio’r iau a’r pancreas, ac achosi problemau i’r system dreulio. Hefyd, pan fyddwn ni wedi gwylltio, dydyn ni ddim bob amser yn meddwl yn glir. Gallwn ni ddweud neu wneud rhywbeth sy’n brifo pobl eraill, a gall hyn wneud inni deimlo’n isel ein hysbryd am amser hir. Gwell o lawer fyddai aros yn dawel ein hysbryd. Cyngor y Beibl yw: “Mae ysbryd tawel yn iechyd i’r corff.” (Diarhebion 14:30) Felly, beth allwn ni ei wneud pan fydd eraill yn brifo ein teimladau, a sut gallwn ni gadw heddwch â’n brodyr? Gallwn roi cyngor doeth y Beibl ar waith.

PAN FYDD EIN BRODYR YN EIN SIOMI

15, 16. Beth ddylen ni ei wneud pan fydd rhywun wedi ein brifo ni?

15 Darllen Effesiaid 4:26. Dydyn ni ddim yn synnu pan fydd pobl sydd ddim yn gwasanaethu Jehofa yn ein cam-drin. Ond pan fydd brawd neu chwaer Gristnogol neu aelod o’r teulu yn dweud rhywbeth neu’n gwneud rhywbeth sy’n ein brifo ni, gallwn deimlo’n hynod o ddigalon. Ond beth pe na bydden ni’n gallu anghofio am y peth? A fyddwn ni’n caniatáu i ni’n hunain aros yn ddig, hyd yn oed am flynyddoedd lawer? Neu a fyddwn ni’n fodlon dilyn cyngor y Beibl i setlo pethau’n gyflym? Hiraf yn y byd y byddwn ni’n disgwyl i siarad â’r person arall, y mwyaf anodd y bydd hi inni gymodi.

16 Ond beth petai brawd wedi dy frifo di a dwyt ti ddim yn gallu anghofio am y peth? Sut gelli di ddatrys yr anghydfod? Yn gyntaf, gelli di weddïo ar Jehofa. Da o beth fyddai ymbil arno i dy helpu di i gael sgwrs dda gyda dy frawd. Cofia, mae dy frawd yn un o ffrindiau Jehofa hefyd. (Diarhebion 3:32) Mae Jehofa yn ei garu. Mae Jehofa yn garedig wrth ei ffrindiau, ac mae’n disgwyl inni fod yr un peth. (Diarhebion 15:23; Mathew 7:12; Colosiaid 4:6) Yn ail, meddylia’n ofalus am yr hyn rwyt ti am ei ddweud wrth dy frawd. Paid â mynd i feddwl bod dy frawd wedi bwriadu dy frifo di. Efallai mai camgymeriad oedd y cwbl neu dy fod ti wedi camddeall y sefyllfa. Bydda’n fodlon cyfaddef dy fod ti efallai wedi achosi rhan o’r broblem. Byddet ti’n gallu dechrau’r sgwrs drwy ddweud rhywbeth fel hyn: “Efallai mai fi sy’n orsensitif, ond pan wnest ti siarad efo fi ddoe, roeddwn i’n teimlo . . . ” Os nad yw’r drafodaeth yn helpu i gadw heddwch rhyngot ti a dy frawd, paid â rhoi’r gorau iddi. Gweddïa dros dy frawd. Gofynna i Jehofa ei fendithio ac iddo dy helpu di i ganolbwyntio ar ei rinweddau da. Gelli di fod yn sicr y bydd Jehofa yn hapus o weld dy ymdrechion i gadw’r heddwch rhyngot ti a dy frawd, sy’n un o ffrindiau Duw.

TEIMLO’N EUOG AM Y GORFFENNOL

17. Sut mae Jehofa yn ein helpu i adfer ein perthynas ag ef pan fyddwn ni’n pechu, a pham dylen ni dderbyn yr help hwnnw?

17 Mae rhai’n teimlo nad ydyn nhw’n ddigon da i wasanaethu Jehofa oherwydd eu bod nhw wedi pechu’n ddifrifol. Gall euogrwydd erydu ein heddwch, ein llawenydd, a’n hegni. Roedd y Brenin Dafydd yn cael trafferth oherwydd ei deimladau o euogrwydd a dywedodd: “Pan oeddwn i’n cadw’n ddistaw am y peth, roedd fy esgyrn yn troi’n frau ac roeddwn i’n tuchan mewn poen drwy’r dydd. Roeddet ti’n fy mhoenydio i nos a dydd.” Diolch byth fod Dafydd yn ddigon dewr i wneud beth mae Jehofa eisiau i’w weision ei wneud. “Ond wedyn dyma fi’n cyfaddef fy mhechod,” meddai Dafydd, “ac er fy mod i’n euog dyma ti’n maddau’r cwbl.” (Salm 32:3-5) Os wyt ti wedi pechu’n ddifrifol, mae Jehofa yn barod i dy faddau di. Mae eisiau dy helpu di i adfer y berthynas rhyngot ti ac ef. Ond mae’n rhaid iti dderbyn yr help mae’n ei roi drwy gyfrwng yr henuriaid. (Diarhebion 24:16; Iago 5:13-15) Felly paid ag oedi! Mae dy fywyd tragwyddol yn y fantol. Ond efallai dy fod ti’n dal i deimlo’n euog ymhell ar ôl i’r pechod gael ei faddau. Beth ddylet ti ei wneud?

18. Sut gall esiampl Paul helpu’r rhai sy’n teimlo nad ydyn nhw’n ddigon da i wasanaethu Jehofa?

18 Ar adegau, roedd yr apostol Paul yn digalonni oherwydd ei fod wedi pechu yn y gorffennol. Dywedodd: “Fi ydy’r un lleia pwysig o’r holl rai ddewisodd y Meseia i’w gynrychioli. Dw i ddim hyd yn oed yn haeddu’r enw ‘apostol’, am fy mod i wedi erlid eglwys Dduw.” Er hynny, dyma’n ychwanegu: “Ond Duw sydd wedi ngwneud i beth ydw i, drwy dywallt ei haelioni arna i.” (1 Corinthiaid 15:9, 10) Roedd Jehofa yn gwybod bod Paul yn amherffaith. Ond roedd yn derbyn Paul, ac roedd eisiau i Paul fod yn sicr o hyn. Os wyt ti’n wir yn edifar am yr hyn rwyt ti wedi ei wneud ac wedi siarad â Jehofa amdano, ac i’r henuriaid os bydd rhaid, bydd Jehofa yn siŵr o roi maddeuant iti. Bydda’n hyderus fod Jehofa wedi dy faddau, a derbynia ei faddeuant!—Eseia 55:6, 7.

19. Beth yw testun y flwyddyn ar gyfer 2018, a pham mae’n amserol?

19 Wrth inni agosáu at ddiwedd y system hon, dylen ni ddisgwyl cael mwy o broblemau. Ond, dylen ni gofio bod yr un “sy’n gwneud y gwan yn gryf, ac yn rhoi egni i’r blinedig” yn gallu rhoi beth bynnag sydd ei angen er mwyn iti allu dal ati i’w wasanaethu’n ffyddlon. (Eseia 40:29; Salm 55:22; 68:19) Yn ystod 2018, byddwn ni’n cael ein hatgoffa o’r gwirionedd pwysig hwn bob tro y byddwn ni’n mynd i’r cyfarfodydd ac yn gweld geiriau testun y flwyddyn: Bydd y rhai sy’n pwyso ar Jehofa yn cael nerth newydd.Eseia 40:31.