Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Gweld y Gwahaniaeth Mewn Pobl

Gweld y Gwahaniaeth Mewn Pobl

“Byddwch chi’n gweld y gwahaniaeth rhwng yr un sydd wedi byw’n iawn a’r rhai drwg.”—MALACHI 3:18.

CANEUON: 127, 101

1, 2. Pam gall bywyd fod yn anodd i weision Duw heddiw? (Gweler y llun agoriadol.)

MAE llawer o ddoctoriaid a nyrsys yn gweithio gyda phobl sydd â chlefydau heintus. Maen nhw’n gofalu am eu cleifion oherwydd eu bod nhw eisiau eu helpu. Ond, hefyd, mae’n rhaid iddyn nhw eu hamddiffyn eu hunain fel nad ydyn nhw’n dal y clefyd maen nhw’n ceisio ei iacháu. Fel gweision Jehofa, rydyn ni mewn sefyllfa debyg. Mae llawer ohonon ni’n byw ac yn gweithio â phobl sydd wedi’u heintio â thueddiadau sy’n hollol wahanol i rinweddau Duw. Gall hyn fod yn anodd.

2 Yn nyddiau olaf y system hon, mae’r bobl sydd ddim yn caru Duw yn anwybyddu ei safonau. Disgrifiodd yr apostol Paul eu tueddiadau negyddol yn ei lythyr at Timotheus. Dywedodd Paul y byddai’r tueddiadau negyddol hynny’n dod yn fwy cyffredin wrth inni agosáu at ddiwedd y system hon. (Darllen 2 Timotheus 3:1-5, 13.) Er ein bod ni’n gwybod bod y tueddiadau hyn yn ddrwg, byddwn ni’n dal yn gallu cael ein dylanwadu gan y ffordd y mae’r bobl o’n cwmpas yn meddwl, yn siarad, ac yn ymddwyn. (Diarhebion 13:20) Yn yr erthygl hon, byddwn yn gweld pa mor wahanol ydy’r tueddiadau hyn o’u cymharu â rhinweddau pobl Dduw. Byddwn hefyd yn gweld beth fyddwn ni’n gallu ei wneud er mwyn ein hamddiffyn ein hunain rhag tueddiadau drwg wrth inni helpu pobl i ddod i adnabod Jehofa.

3. Pa fath o bobl sy’n cael eu disgrifio yn 2 Timotheus 3:2-5?

3 Ysgrifennodd yr apostol Paul y byddai’r dyddiau olaf yn cynnwys “adegau ofnadwy o anodd.” Yna, gwnaeth restr o 19 o dueddiadau negyddol a fyddai’n gyffredin yn ein hamser ni. Mae’r tueddiadau hyn yn debyg i’r rhai y soniodd Paul amdanyn nhw yn Rhufeiniaid 1:29-31, ond mae’r rhestr yn ei lythyr at Timotheus yn defnyddio geiriau nad ydyn ni’n dod o hyd iddyn nhw mewn unrhyw le arall yn yr Ysgrythurau Groeg Cristnogol. Dechreuodd Paul drwy ysgrifennu “bydd pobl yn.” Ond nid oes gan bob unigolyn y tueddiadau negyddol a ddisgrifiwyd gan Paul. Mae gan Gristnogion dueddiadau gwahanol iawn.—Darllen Malachi 3:18.

EIN HAGWEDD TUAG AT EIN HUNAIN

4. Beth mae’n ei olygu i fod yn llawn ohonon ni ein hunain?

4 Ar ôl i Paul ddweud y byddai pobl yn byw i’w plesio nhw eu hunain ac yn byw er mwyn gwneud arian, ychwanegodd y byddai pobl yn hunanbwysig, yn dirmygu pobl eraill, ac yn llawn ohonyn nhw eu hunain. Mae’r bobl sydd â’r tueddiadau hyn yn meddwl eu bod nhw’n well nag eraill oherwydd y ffordd y maen nhw’n edrych, eu galluoedd, yr hyn sydd ganddyn nhw, neu eu statws mewn bywyd. Mae rhai pobl eisiau cael eu hedmygu yn fwy nag unrhyw beth arall. Ysgrifennodd un ysgolhaig am berson o’r fath: “Yn ei galon mae ’na allor fach lle mae’n plygu o’i flaen ei hun.” Mae rhai wedi dweud bod balchder mor hyll fel nad ydy pobl falch hyd yn oed yn hoffi gweld balchder mewn eraill.

5. Sut mae hyd yn oed gweision ffyddlon Jehofa wedi troi’n falch?

5 Mae Jehofa’n casáu “llygaid balch,” neu falchder. (Diarhebion 6:16, 17) Mewn gwirionedd, mae balchder yn achosi i berson ymbellhau oddi wrth Dduw. (Salm 10:4) Mae balchder yn tarddu o’r Diafol. (1 Timotheus 3:6) Y gwirionedd trist yw bod hyd yn oed gweision ffyddlon Jehofa wedi troi’n falch. Er enghraifft, roedd y Brenin Wseia o Jwda yn ffyddlon am lawer o flynyddoedd. Ond dywed y Beibl: “Wrth fynd yn gryf dyma fe’n troi’n falch. Ac aeth ei falchder yn drech nag e. Bu’n anffyddlon i’r ARGLWYDD ei Dduw.” Dyma Wseia yn mynd i’r deml ac yn llosgi arogldarth, rhywbeth nad oedd ganddo’r hawl i’w wneud. Yn hwyrach ymlaen, daeth y Brenin Heseceia hefyd yn falch, ond nid am gyfnod hir.—2 Cronicl 26:16; 32:25, 26.

6. Beth allai fod wedi achosi Dafydd i droi’n falch? Ond pam arhosodd yn ostyngedig?

6 Mae rhai pobl yn troi’n falch oherwydd eu bod nhw’n olygus, yn enwog, yn gerddorol, yn gryf, neu’n cael eu hedmygu gan eraill. Roedd pob un o’r rhain yn wir am Dafydd, ond eto, arhosodd yn ostyngedig drwy gydol ei fywyd. Er enghraifft, ar ôl i Dafydd ladd Goliath, dywedodd y Brenin Saul y byddai Dafydd yn cael priodi ei ferch. Ond dywedodd Dafydd: “Pwy ydw i, i gael bod yn fab-yng-nghyfraith i’r brenin? . . . Dw i ddim yn dod o deulu digon pwysig.” (1 Samuel 18:18) Beth helpodd Dafydd i aros yn ostyngedig? Roedd pob rhinwedd, gallu, a braint wedi dod iddo oherwydd bod Duw yn ostyngedig ac yn talu sylw iddo. (Salm 113:5-8) Roedd Dafydd yn cydnabod hyn.—Cymharer 1 Corinthiaid 4:7.

Gall pobl agosáu at Dduw oherwydd gostyngeiddrwydd ei weision

7. Beth fydd yn ein helpu i ddangos ein bod ni’n ostyngedig?

7 Fel Dafydd, mae pobl Jehofa heddiw yn gwneud eu gorau i fod yn ostyngedig. Mae’n cyffwrdd â’n calonnau i wybod bod Jehofa ei hun, sef y Goruchaf, yn ostyngedig. (Salm 18:35, New World Translation) Rydyn ni eisiau rhoi ar waith y geiriau hyn: “Dangoswch chithau dosturi at bobl eraill, a bod yn garedig, yn ostyngedig, yn addfwyn ac yn amyneddgar.” (Colosiaid 3:12) Rydyn ni hefyd yn gwybod dydy cariad “ddim yn brolio’i hun, nac yn llawn ohono’i hun.” (1 Corinthiaid 13:4) Pan fydd eraill yn gweld ein bod ni’n ostyngedig, byddan nhw efallai eisiau dod i adnabod Jehofa. Yn union fel y gall gŵr anghrediniol agosáu at Jehofa oherwydd ymddygiad da ei wraig Gristnogol, gall pobl agosáu at Jehofa oherwydd gostyngeiddrwydd ei weision.—1 Pedr 3:1.

SUT I DRIN ERAILL

8. (a) Beth ydy agwedd rhai pobl tuag at fod yn anufudd i rieni? (b) Yn ôl y Beibl, beth ddylai plant ei wneud?

8 Disgrifiodd Paul sut y byddai pobl yn trin ei gilydd yn y dyddiau olaf. Ysgrifennodd y byddai plant yn anufudd i’w rhieni. Heddiw, mae llawer o lyfrau, ffilmiau, a rhaglenni teledu yn rhoi’r argraff mai peth normal a derbyniol yw bod plant yn anufudd i’w rhieni. Ond y gwirionedd yw bod anufudd-dod yn gwanhau’r teulu, sef uned sylfaenol cymdeithas. Mae pobl wedi gwybod am y gwirionedd hwn ers amser maith. Er enghraifft, yng Ngwlad Groeg gynt, byddai dyn a oedd wedi taro ei rieni yn colli ei hawliau yn y gymuned. O dan y gyfraith Rufeinig, byddai unigolyn a oedd wedi taro ei dad yn gallu cael ei gosbi yn yr un ffordd â llofrudd. Mae’r Ysgrythurau Hebraeg a Groeg yn gorchymyn plant i anrhydeddu eu rhieni.—Exodus 20:12; Effesiaid 6:1-3.

9. Beth fydd yn helpu plant i ufuddhau i’w rhieni?

9 Beth all helpu plant i aros yn ufudd i’w rhieni hyd yn oed os nad ydy’r rhai sydd o’u cwmpas yn ufudd? Pan fydd plant yn meddwl am yr holl bethau da mae eu rhieni wedi eu gwneud iddyn nhw, dylen nhw deimlo’n ddiolchgar a bod eisiau ufuddhau iddyn nhw. Mae’n rhaid i rai ifanc hefyd ddeall bod Duw, ein Tad, yn disgwyl iddyn nhw fod yn ufudd i’w rhieni. Wrth i rai ifanc ddweud pethau da am eu rhieni, maen nhw’n helpu eu ffrindiau i barchu eu rhieni hefyd. Wrth gwrs, os ydy rhieni yn ddiserch tuag at eu plant, efallai bydd yn anodd i’w plant ufuddhau iddyn nhw. Ond pan fydd person ifanc yn teimlo gwir gariad gan ei rieni, gall ei helpu i ufuddhau hyd yn oed pan fydd yn anodd. Mae brawd ifanc o’r enw Austin yn dweud: “Er roeddwn ni’n tueddu trio osgoi cael fy nghosbi, gosododd fy rhieni ganllawiau rhesymol, esbonion nhw’r rhesymau dros gael rheolau, ac roedden nhw’n rhoi’r cyfle imi siarad â nhw drwy’r adeg. Gwnaeth hyn fy helpu i fod yn ufudd. Roeddwn i’n gallu gweld eu bod nhw’n fy ngharu, a gwnaeth hynny wneud imi eisiau ufuddhau iddyn nhw.”

10, 11. (a) Pa dueddiadau drwg sy’n dangos dydy pobl ddim yn caru ei gilydd? (b) Faint mae gwir Gristnogion yn caru eraill?

10 Disgrifiodd Paul hefyd dueddiadau eraill sy’n dangos dydy pobl ddim yn caru ei gilydd. Ar ôl sôn am fod yn “anufudd i’w rhieni,” mae’n sôn am fod yn anniolchgar. Mae hyn yn gwneud synnwyr, oherwydd dydy pobl anniolchgar ddim yn gwerthfawrogi’r pethau da mae eraill yn eu gwneud ar eu cyfer. Dywedodd Paul hefyd y byddai pobl yn annuwiol. Bydden nhw’n amharod i faddau, sy’n golygu na fydden nhw eisiau bod yn heddychlon ag eraill. Bydden nhw’n sarhaus ac yn bradychu eraill, yn dweud pethau cas a niweidiol am bobl a hyd yn oed am Dduw. Bydden nhw’n hel clecs maleisus er mwyn rhoi enw drwg i eraill. *—Gweler y troednodyn.

11 Mae gweision Jehofa yn wahanol iawn o’u cymharu â’r rhan fwyaf o bobl y byd oherwydd eu bod nhw’n dangos gwir gariad tuag at ei gilydd. Fel hyn y mae hi wedi bod erioed. Yn wir, dywedodd Iesu mai’r unig orchymyn yng Nghyfraith Moses a oedd yn fwy pwysig na’r gorchymyn i garu eraill oedd y gorchymyn i garu Duw. (Mathew 22:38, 39) Hefyd, dywedodd Iesu y byddai gwir Gristnogion yn cael eu hadnabod gan eraill oherwydd y cariad maen nhw’n ei ddangos tuag at ei gilydd. (Darllen Ioan 13:34, 35.) Byddai gwir Gristnogion hyd yn oed yn caru eu gelynion.—Mathew 5:43, 44.

12. Sut gwnaeth Iesu ddangos cariad tuag at eraill?

12 Dangosodd Iesu ei fod yn wir yn caru pobl. Gwnaeth hyn drwy deithio o un ddinas i’r llall er mwyn dweud wrth bobl y newyddion da am Deyrnas Dduw. Gwnaeth iacháu’r dall, y cloff, y rhai a oedd yn dioddef o’r gwahanglwyf, a’r byddar. Gwnaeth hefyd atgyfodi rhai a oedd wedi marw. (Luc 7:22) Gwnaeth Iesu hyd yn oed roi ei fywyd i achub dynolryw, er bod llawer yn ei gasáu. Efelychodd Iesu gariad ei Dad yn berffaith. Ar draws y byd, mae Tystion Jehofa’n efelychu Iesu ac yn dangos cariad tuag at eraill.

13. Sut gall y cariad rydyn ni’n ei ddangos helpu eraill i fod eisiau dod i adnabod Jehofa?

13 Pan ydyn ni’n dangos i rywun ein bod ni yn ei garu, gall hynny wneud iddo fod eisiau dod i adnabod ein Tad nefol. Er enghraifft, aeth dyn i gynhadledd ranbarthol yng Ngwlad Thai ac roedd y ffordd a ddangosodd y brodyr a’r chwiorydd gariad tuag at ei gilydd wedi gwneud argraff fawr arno. Ar ôl iddo fynd adref, gofynnodd i astudio’r Beibl â Thystion Jehofa ddwywaith bob wythnos. Wedyn, gwnaeth bregethu i’w holl berthnasau. Dim ond chwe mis yn ddiweddarach, rhoddodd y dyn hwn ei ddarlleniad cyntaf o’r Beibl yn Neuadd y Deyrnas. A ydyn ni’n dangos cariad tuag at eraill? Gofynna i ti dy hun: ‘A ydw i’n gwneud popeth a allaf i er mwyn helpu fy nheulu, y rhai sydd yn fy nghynulleidfa, a’r rhai rydw i’n pregethu iddyn nhw? A ydw i’n trio gweld pobl fel y mae Jehofa yn eu gweld?’

BLEIDDIAID AC ŴYN

14, 15. Pa dueddiadau drwg mae rhai yn eu dangos? Sut mae rhai wedi newid eu personoliaethau?

14 Yn y dyddiau olaf, mae pobl hefyd yn dangos tueddiadau drwg eraill y dylen ni eu hosgoi. Er enghraifft, mae llawer yn casáu daioni. Maen nhw’n casáu’r hyn sy’n dda a hyd yn oed yn ei wrthod. Mae pobl o’r fath yn gwbl afreolus ac mae eraill yn poeni dim am neb. Maen nhw’n gwneud pethau heb feddwl a dydyn nhw ddim yn poeni am yr effaith bydd eu gweithredodd yn ei chael ar eraill.

15 Mae llawer o’r rhai a oedd yn ymddwyn fel anifeiliaid gwyllt wedi newid eu personoliaeth. Cafodd y newid dramatig hwn ei ragweld mewn proffwydoliaeth Feiblaidd. (Darllen Eseia 11:6, 7.) Darllenwn yno am anifeiliaid gwyllt, fel bleiddiaid a llewod, sy’n byw mewn heddwch ag anifeiliaid dof, fel ŵyn a lloeau. Pam byddai ganddyn nhw heddwch? Mae’r broffwydoliaeth hefyd yn dweud: “Bydd y ddaear yn llawn pobl sy’n nabod yr ARGLWYDD.” (Eseia 11:9) Dydy anifeiliaid ddim yn gallu dysgu am Jehofa, felly mewn ffordd symbolaidd, mae’r broffwydoliaeth hon yn cyfeirio at y newidiadau mae pobl yn eu gwneud i’w personoliaethau.

Gall egwyddorion y Beibl newid bywydau! (Gweler paragraff 16)

16. Sut mae’r Beibl wedi helpu pobl i newid eu personoliaethau?

16 Ar un adeg, roedd rhai o’n brodyr a’n chwiorydd yr un mor ffiaidd â’r bleiddiaid ond nawr maen nhw’n heddychlon. Gelli di ddarllen rhai o’u profiadau yn y gyfres “Mae’r Beibl yn Newid Bywydau,” ar jw.org. Dydy’r rhai sydd wedi dod i adnabod a gwasanaethu Jehofa ddim fel y rhai sy’n ymddangos yn dduwiol, ond yn gwrthod y nerth sy’n gwneud pobl yn dduwiol go iawn. Mae pobl o’r fath yn cogio addoli Duw, ond maen nhw’n ymddwyn mewn ffordd sy’n profi nad ydyn nhw’n ei addoli. Fodd bynnag, ymhlith pobl Jehofa mae rhai a oedd ar un adeg yn ffiaidd ond sydd bellach yn “gwisgo natur o fath newydd—natur sydd wedi’i fodelu ar gymeriad Duw ei hun, yn gyfiawn a glân.” (Effesiaid 4:23, 24) Pan fydd pobl yn dysgu am Dduw, byddan nhw’n sylweddoli bod rhaid iddyn nhw ddilyn ei safonau. Mae hyn yn eu helpu i newid eu daliadau, eu ffordd o feddwl, a’r hyn y maen nhw’n ei wneud. Nid yw’n hawdd gwneud newidiadau o’r fath, ond bydd ysbryd Jehofa’n helpu’r rhai sydd eisiau ei blesio.

“CAEL DIM I’W WNEUD Â PHOBL FELLY”

17. Sut gallwn ni osgoi cael ein dylanwadu gan bobl sydd â thueddiadau drwg?

17 Heddiw, mae’n dod yn haws gweld y gwahaniaeth rhwng y rhai sy’n addoli Duw a’r rhai sydd ddim. Rhaid inni fod yn ofalus i beidio â gadael i dueddiadau drwg y rhai sydd ddim yn addoli Duw ddylanwadu arnon ni. Rydyn ni eisiau dilyn cyfarwyddyd Jehofa i gael dim i’w wneud â’r bobl sy’n cael eu disgrifio yn 2 Timotheus 3:2-5. Wrth gwrs, ni allwn ni osgoi pawb sydd â thueddiadau drwg yn gyfan gwbl. Efallai bydd rhaid inni weithio gyda nhw, mynd i’r ysgol gyda nhw, neu fyw gyda nhw. Ond dydyn ni ddim yn gorfod meddwl ac ymddwyn yn yr un ffordd â nhw. Beth all ein helpu ni? Gallwn ni gryfhau ein perthynas â Jehofa drwy astudio’r Beibl a dewis ffrindiau sy’n ei garu.

18. Sut gall yr hyn rydyn ni’n ei ddweud ac yn ei wneud helpu eraill i fod eisiau dod i adnabod Jehofa?

18 Rydyn ni hefyd eisiau helpu pobl i ddod i adnabod Jehofa. Edrycha am gyfleoedd i bregethu, a gofynna i Jehofa dy helpu i ddweud y peth cywir ar yr amser cywir. Dylen ni adael i eraill wybod ein bod ni’n un o Dystion Jehofa. Yna, bydd ein hymddygiad da yn clodfori Duw yn hytrach na ni ein hunain. Mae Jehofa wedi ein dysgu ni “i ddweud ‘na’ wrth ein pechod a’n chwantau bydol. Ein dysgu ni hefyd i fyw’n gyfrifol, gwneud beth sy’n iawn a rhoi’r lle canolog yn ein bywydau i Dduw.” (Titus 2:11-14) Os ydyn ni’n efelychu Jehofa ac yn gwneud yr hyn y mae eisiau inni ei wneud, bydd eraill yn sylwi. Efallai bydd rhai hyd yn oed yn dweud: “Gad i ni fynd gyda chi. Dŷn ni wedi clywed fod Duw gyda chi!”—Sechareia 8:23.

^ Par. 10 Y gair Groeg am “hel clecs maleisus” neu “enllibiwr” ydy di·aʹbo·los. Yn y Beibl, mae’r gair hwn yn cael ei ddefnyddio fel teitl ar gyfer Satan, yr enllibiwr creulon.