Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Pam Rhoi i’r Un Sydd â Phopeth?

Pam Rhoi i’r Un Sydd â Phopeth?

“Diolch i ti ein Duw! Dŷn ni’n moli dy enw bendigedig di!”—1 CRONICL 29:13.

CANEUON: 80, 50

1, 2. Sut mae Jehofa’n hael tuag aton ni?

DUW hael yw Jehofa. Mae popeth sydd gennyn ni’n dod oddi wrtho ef. Mae’r holl bethau gwerthfawr sydd ar y ddaear yn perthyn iddo ef, ac mae’n eu defnyddio i gynnal bywyd. (Salm 104:13-15; Haggai 2:8) O ddarllen y Beibl, dysgwn sut roedd Jehofa, ar adegau, yn defnyddio’r pethau gwerthfawr hyn mewn ffordd wyrthiol er mwyn darparu ar gyfer ei bobl.

2 Er enghraifft, gwnaeth Jehofa ddarparu manna a dŵr ar gyfer yr Israeliaid pan oedden nhw’n byw yn yr anialwch am 40 mlynedd. (Exodus 16:35) O ganlyniad i hynny, roedd ganddyn nhw bopeth y roedden nhw’n ei angen. (Nehemeia 9:20, 21) Wedyn, rhoddodd Jehofa’r nerth i Eliseus er mwyn iddo allu cynyddu’r ychydig o olew a oedd yn perthyn i wraig weddw ffyddlon. Gwnaeth yr anrheg hon oddi wrth Dduw ei helpu hi i dalu ei dyledion, ac roedd digon dros ben i’w chadw hi a’i meibion yn fyw. (2 Brenhinoedd 4:1-7) Gyda chefnogaeth Jehofa, darparodd Iesu fwyd a hyd yn oed arian pan oedd angen.—Mathew 15:35-38; 17:27.

3. Beth fyddwn ni’n ei drafod yn yr erthygl hon?

3 Gall Jehofa ddefnyddio unrhyw beth y mae’n ei ddewis er mwyn cefnogi ei greadigaeth. Ond eto, mae’n gwahodd ei weision i roi beth allen nhw i gefnogi gwaith ei gyfundrefn. (Exodus 36:3-7; darllen Diarhebion 3:9.) Pam mae Jehofa’n disgwyl inni roi yn ôl iddo drwy ddefnyddio ein pethau gwerthfawr? Sut gwnaeth gweision Jehofa, yng nghyfnod y Beibl, gefnogi ei waith? Sut mae’r gyfundrefn yn defnyddio arian sy’n cael ei gyfrannu heddiw? Bydd yr erthygl hon yn trafod y cwestiynau hyn.

PAM RYDYN NI’N RHOI I JEHOFA?

4. Beth rydyn ni’n ei ddangos i Jehofa pan ydyn ni’n cefnogi ei waith?

Rydyn ni’n rhoi i Jehofa oherwydd ein bod ni’n ei garu

4 Rydyn ni’n rhoi i Jehofa oherwydd ein bod ni’n ei garu. Mae meddwl am bopeth y mae Jehofa wedi ei wneud ar ein cyfer yn cyffwrdd â’n calonnau. Roedd y Brenin Dafydd yn teimlo fel hyn pan esboniodd beth oedd ei angen ar gyfer adeiladu’r deml. Dywedodd Dafydd fod popeth yr ydyn ni’n ei dderbyn yn dod oddi wrth Jehofa a bod popeth rydyn ni’n ei roi i Jehofa yn dod o’r hyn y mae ef wedi ei roi i ni’n barod.—Darllen 1 Cronicl 29:11-14.

5. Sut mae’r Beibl yn ein dysgu bod rhoi’n anhunanol yn rhan bwysig o wir addoliad?

5 Rydyn ni hefyd yn rhoi i Jehofa oherwydd bod hyn yn ffordd o’i addoli. Mewn gweledigaeth, gwnaeth yr apostol Ioan glywed gweision Jehofa yn y nefoedd yn dweud: “Ein Harglwydd a’n Duw! Rwyt ti’n deilwng o’r clod a’r anrhydedd a’r nerth. Ti greodd bob peth, ac mae popeth wedi eu creu yn bodoli am mai dyna oeddet ti eisiau.” (Datguddiad 4:11) Yn sicr, mae Jehofa’n haeddu’r holl ogoniant a’r anrhydedd, felly, rydyn ni eisiau rhoi ein gorau iddo. Trwy Moses, gorchmynnodd Jehofa i genedl Israel gynnal tair gŵyl bob blwyddyn. Roedd y gwyliau hyn yn cynnwys rhoi i Jehofa. Wrth fynd o flaen Jehofa, roedd “rhaid iddyn nhw fynd â rhywbeth i’w offrymu bob tro.” (Deuteronomium 16:16) Heddiw, mae rhoi’n anhunanol yn rhan bwysig o’n haddoliad. Trwy wneud hyn, rydyn ni’n dangos ein bod ni’n cefnogi gwaith cyfundrefn Jehofa.

6. Pam mae’n dda inni roi? (Gweler y llun agoriadol.)

6 Mae’n dda inni roi’n hael ac i beidio â derbyn pethau yn unig. (Darllen Diarhebion 29:21.) Dychmyga fachgen bach yn derbyn pres poced gan ei rieni ac yna’n defnyddio rhan o’r pres i brynu anrheg i’w rieni. Sut bydd yr anrheg hon yn gwneud i’w rieni deimlo? Neu, dychmyga arloeswr ifanc sy’n byw â’i rieni ac sy’n rhoi ychydig o arian iddyn nhw tuag at dalu am rent neu fwyd ar gyfer y teulu. Efallai na fydd ei rieni yn disgwyl iddo wneud hyn, ond, maen nhw’n derbyn ei anrheg. Pam? Oherwydd bod gwneud hynny yn rhoi cyfle iddo ddangos ei werthfawrogiad tuag at bopeth maen nhw wedi ei wneud ar ei gyfer. Yn yr un ffordd, mae Jehofa’n gwybod ei fod yn beth da inni roi drwy ein pethau gwerthfawr.

GWEISION DUW YN RHOI

7, 8. Yn y gorffennol, sut gosododd pobl Jehofa esiampl pan oedden nhw’n gwneud cyfraniadau (a) er mwyn cefnogi prosiectau penodol? (b) er mwyn cefnogi ei waith?

7 Yn y Beibl, dysgwn fod pobl Jehofa wedi gwneud cyfraniadau er mwyn cefnogi ei waith. Weithiau, roedden nhw’n rhoi er mwyn cefnogi prosiect penodol. Er enghraifft, gwnaeth Moses annog yr Israeliaid i gyfrannu tuag at y gwaith o adeiladu’r tabernacl. Yn bellach ymlaen, gwnaeth y Brenin Dafydd yr un peth er mwyn adeiladu’r deml. (Exodus 35:5; 1 Cronicl 29:5-9) Yn ystod teyrnasiad y Brenin Joas, gwnaeth yr offeiriaid atgyweirio’r deml gan ddefnyddio arian a oedd wedi ei gyfrannu gan y bobl. (2 Brenhinoedd 12:4, 5) Yn y ganrif gyntaf, clywodd y Cristnogion fod newyn yn Jwdea a bod angen help ar y brodyr yno. Felly, penderfynodd pob Cristion faint roedd yn gallu ei fforddio a’i anfon at y brodyr.—Actau 11:27-30.

8 Rhoddodd pobl Jehofa gymorth ariannol i’r rhai a oedd yn arwain ei waith. Er enghraifft, o dan Gyfraith Moses, doedd gan y Lefiaid ddim etifeddiaeth fel oedd gan y llwythau eraill. Felly, rhoddodd gweddill yr Israeliaid un rhan o ddeg o’r hyn oedd ganddyn nhw i’r Lefiaid. Gwnaeth hyn alluogi i’r Lefiaid ganolbwyntio ar eu gwaith yn y tabernacl. (Numeri 18:21) Yn yr un ffordd, roedd merched hael yn rhoi’r hyn yr oedden nhw’n gallu er mwyn cefnogi Iesu a’i apostolion.—Luc 8:1-3.

Gall y cyfoethog a’r tlawd gyfrannu

9. Yn y gorffennol, o le daeth cyfraniadau?

9 Roedd y cyfraniadau hynny yn tarddu o ffynonellau gwahanol. Mae’n debyg fod yr Israeliaid a oedd wedi cyfrannu at adeiladu’r tabernacl wedi rhoi pethau gwerthfawr roedden nhw wedi eu cael yn yr Aifft. (Exodus 3:21, 22; 35:22-24) Yn y ganrif gyntaf, roedd rhai Cristnogion yn gwerthu eu heiddo, fel caeau neu dai, ac yn rhoi’r arian i’r apostolion. Roedd yr apostolion wedyn yn rhoi’r arian i’r brodyr a’r chwiorydd a oedd angen y gefnogaeth ariannol. (Actau 4:34, 35) Yn aml, roedd Cristnogion eraill yn neilltuo arian er mwyn cefnogi’r gwaith. (1 Corinthiaid 16:2) Felly, roedd y rhai cyfoethog a’r rhai tlawd yn gallu cyfrannu.—Luc 21:1-4.

SUT RYDYN NI’N RHOI HEDDIW?

10, 11. (a) Sut gallwn ni efelychu gweision hael Jehofa a oedd yn byw adeg y Beibl? (b) Sut rwyt ti’n teimlo tuag at gefnogi gwaith y gyfundrefn?

10 Heddiw, efallai cawn ni ein hannog i gyfrannu at bwrpas penodol. Efallai fod dy gynulleidfa’n trefnu i adnewyddu dy Neuadd leol neu i adeiladu un newydd. Neu efallai fod rhaid i’r swyddfa gangen leol gael ei hadnewyddu. Efallai gallwn helpu hefyd gyda chostau’r gynhadledd. Neu, efallai fod dy frodyr mewn ardal wahanol wedi dioddef trychineb naturiol ac mae angen dy gymorth arnyn nhw. Mae ein cyfraniadau hefyd yn cefnogi cenhadon, arloeswyr arbennig, arolygwyr y gylchdaith, a’r rhai sy’n gweithio yn y Pencadlys ac mewn swyddfeydd cangen ar draws y byd. Efallai fod dy gynulleidfa’n anfon cyfraniadau’n aml er mwyn cefnogi adeiladu Neuaddau Cynulliad a Neuaddau’r Deyrnas mewn mannau eraill o’r byd.

11 Gall pob un ohonon ni roi rhywbeth er mwyn cefnogi’r gwaith y mae cyfundrefn Jehofa yn ei wneud yn y dyddiau olaf hyn. Mae’r rhan fwyaf o gyfraniadau yn anhysbys. Pan ydyn ni’n rhoi arian yn y blychau cyfraniadau yn Neuadd y Deyrnas neu’n gwneud cyfraniad ar-lein drwy jw.org, dydyn ni ddim yn gadael i bobl wybod faint rydyn ni wedi ei gyfrannu. Ond, beth os wyt ti’n teimlo bod dy gyfraniadau yn rhy fach i fod o unrhyw werth? Mewn gwirionedd, mae’r rhan fwyaf o’r cyfraniadau mae’r gyfundrefn yn eu derbyn yn dod o lawer o gyfraniadau bach yn hytrach nag ychydig o rai mawr. Mae hyd yn oed ein brodyr sydd ag ychydig o arian yn efelychu’r Cristnogion cynnar ym Macedonia. Roedden nhw mewn “tlodi eithafol,” ond roedden nhw’n ymbil am gael caniatâd i roi ac yna roedden nhw’n rhoi’n hael.—2 Corinthiaid 8:1-4.

12. Sut mae’r gyfundrefn yn trio defnyddio cyfraniadau yn y ffordd orau posib?

12 Mae’r Corff Llywodraethol yn ffyddlon ac yn gall yn y ffordd y mae cyfraniadau’n cael eu defnyddio. (Mathew 24:45) Mae ei aelodau’n gweddïo am y gallu i wneud penderfyniadau da, ac maen nhw’n cynllunio’n ofalus sut i ddefnyddio’r arian. (Luc 14:28) Yn adeg y Beibl, roedd dynion ffyddlon a oedd yn gyfrifol am edrych ar ôl y cyfraniadau, yn gwneud yn siŵr eu bod nhw’n cael eu rhoi ar gyfer addoli Jehofa’n unig. Er enghraifft, dychwelodd Esra i Jerwsalem â chyfraniadau gwerthfawr oddi wrth frenin Persia, gan gynnwys aur, arian, a thrysorau eraill a fyddai’n werth dros £70 miliwn heddiw. Roedd Esra’n gweld y cyfraniadau hyn fel anrhegion i Jehofa. Felly, rhoddodd gyfarwyddiadau penodol i’w hamddiffyn wrth deithio trwy ardaloedd peryglus. (Esra 8:24-34) Lawer o flynyddoedd wedyn, casglodd yr apostol Paul arian er mwyn helpu brodyr mewn angen yn Jwdea. Roedd rhaid iddo wneud yn siŵr fod y rhai a oedd yn danfon yr arian yn gwneud beth oedd yn iawn, “dim yn unig yng ngolwg yr Arglwydd ei hun, ond yng ngolwg pawb arall hefyd.” (Darllen 2 Corinthiaid 8:18-21.) Heddiw, mae ein cyfundrefn yn efelychu Esra a Paul ac yn defnyddio cyfraniadau’n ofalus iawn.

13. Pam mae’r gyfundrefn wedi gwneud rhai newidiadau yn ddiweddar?

13 Efallai y bydd teulu yn newid y ffordd maen nhw’n trin eu pres er mwyn iddyn nhw beidio â gwario mwy nag y maen nhw’n ei ennill. Neu efallai y byddan nhw’n edrych am ffyrdd i symleiddio eu bywyd er mwyn iddyn nhw allu gwneud mwy i Jehofa. Mae’r un peth yn wir am gyfundrefn Jehofa. Yn ddiweddar, mae llawer o brosiectau newydd cyffrous wedi dechrau, ac ar adegau, mae mwy o arian wedi cael ei wario nag sydd wedi cael ei dderbyn. Felly, mae’r gyfundrefn, yn debyg i deulu, yn edrych am ffyrdd i arbed arian ac i wneud y gwaith yn haws, er mwyn i’r gyfundrefn allu gwneud cymaint o bethau da gyda’n cyfraniadau ag sy’n bosib.

BUDDION DY GYFRANIADAU

Mae dy gyfraniadau yn helpu ein gwaith byd-eang (Gweler paragraffau 14-16)

14-16. (a) Sut mae dy gyfraniadau di yn cael eu defnyddio? (b) Sut mae’r prosiectau hyn wedi dy helpu di’n bersonol?

14 Mae’r rhai sydd wedi bod yn y gwirionedd am lawer o flynyddoedd yn dweud ein bod ni nawr yn derbyn mwy o anrhegion gan y gyfundrefn nag erioed. Mae gennyn ni nawr jw.org a JW Broadcasting. Mae gennyn ni’r New World Translation of the Holy Scriptures mewn llawer o ieithoedd. Yn 2014/2015, cafodd y gynhadledd “Ceisiwch Yn Gyntaf Deyrnas Dduw!” ei chynnal yn rhai o’r stadia mwyaf mewn 14 o wledydd ar draws y byd. Roedd pawb a oedd wedi mynychu yn hapus i fod yno!

15 Mae llawer wedi mynegi eu gwerthfawrogiad am yr anrhegion hyn gan gyfundrefn Jehofa. Er enghraifft, ysgrifennodd cwpl sy’n gwasanaethu’n Asia: “Ein haseiniad ydy gwasanaethu mewn dinas fach. O ganlyniad, rydyn ni weithiau’n teimlo’n unig, ac mae’n hawdd inni anghofio pa mor eang yw gwaith Jehofa. Ond yn syth ar ôl inni wylio gwahanol raglenni ar JW Broadcasting, rydyn ni’n cofio ein bod ni’n rhan o frawdoliaeth fyd-eang. Mae ein brodyr a’n chwiorydd lleol yn teimlo’n gyffrous ynglŷn â JW Broadcasting. Yn aml, rydyn ni’n eu clywed yn dweud eu bod nhw’n teimlo’n agosach at aelodau o’r Corff Llywodraethol ar ôl iddyn nhw wylio’r rhaglenni misol. Nawr, maen nhw mor falch i fod yn rhan o gyfundrefn Duw.”

16 Ar draws y byd, mae bron i 2,500 o Neuaddau’r Deyrnas yn cael eu hadeiladu neu’n cael eu hadnewyddu. Roedd aelodau o un gynulleidfa yn Hondwras yn dweud eu bod nhw’n breuddwydio am gael eu neuaddau eu hunain, ond nawr mae eu breuddwyd wedi dod yn realiti. Ysgrifennon nhw: “Rydyn ni mor hapus i fod yn rhan o deulu rhyngwladol Jehofa ac i allu mwynhau ein brawdoliaeth fyd-eang.” Mae llawer yn mynegi teimladau o’r fath pan fyddan nhw’n derbyn y Beibl neu gyhoeddiadau eraill yn eu hiaith eu hunain, pan fydd brodyr a chwiorydd yn eu helpu ar ôl trychineb naturiol, neu pan fyddan nhw’n gweld canlyniadau da tystiolaethu metropolitan a thystiolaethu cyhoeddus yn eu tiriogaeth.

17. Sut rydyn ni’n gwybod bod Jehofa’n cefnogi ei gyfundrefn heddiw?

17 Nid yw llawer o’r rhai sydd ddim yn Dystion Jehofa yn deall sut rydyn ni’n cyflawni’r holl bethau hyn drwy ddefnyddio dim ond cyfraniadau gwirfoddol. Gwnaeth rheolwr o gwmni mawr fynd i weld un o’n hargraffdai. Roedd wedi synnu at y gwaith a oedd wedi cael ei wneud gan wirfoddolwyr a chyfraniadau gwirfoddol, a hynny heb drefnu digwyddiadau i hel arian. Dywedodd na ddylai’r hyn rydyn ni’n ei wneud fod yn bosib. Rydyn ni’n cytuno! Rydyn ni’n gwybod ei fod yn bosib dim ond oherwydd mai Jehofa yw’r un sy’n cefnogi’r gwaith.—Job 42:2.

BENDITHION O ROI’N ÔL I JEHOFA

18. (a) Pa fendithion rydyn ni’n eu derbyn pan ydyn ni’n rhoi i gefnogi’r Deyrnas? (b) Sut gallwn ni ddysgu ein plant a rhai newydd i wneud yr un peth?

18 Mae Jehofa’n rhoi inni’r anrhydedd a’r cyfle i gefnogi gwaith y Deyrnas. Pan fyddwn ni’n gwneud hynny, bydd yn sicr o’n bendithio. (Malachi 3:10) Mae Jehofa’n addo y bydd pethau’n mynd yn dda inni os byddwn ni’n rhoi’n hael. (Darllen Diarhebion 11:24, 25.) Mae hefyd yn dweud y byddwn ni’n hapus pan fyddan ni’n rhoi, gan fod “rhoi yn llawer gwell na derbyn.” (Actau 20:35) Trwy’r hyn rydyn ni’n ei ddweud ac yn ei wneud, gallwn ddysgu ein plant a rhai newydd i gyfrannu ac i fwynhau llawer o fendithion.

19. Sut mae’r erthygl hon wedi dy annog?

19 Mae popeth sydd gennyn ni yn dod oddi wrth Jehofa. Pan ydyn ni’n rhoi yn ôl iddo, rydyn ni’n dangos ein bod ni yn ei garu ac yn gwerthfawrogi popeth mae ef wedi ei wneud er ein lles. (1 Cronicl 29:17) Pan wnaeth yr Israeliaid gyfrannu er mwyn adeiladu’r deml, “roedd pawb wrth eu boddau fod cymaint wedi’i gasglu, a bod pawb wedi bod mor barod i roi.” (1 Cronicl 29:9) Gad inni barhau i deimlo llawenydd a bodlonrwydd wrth inni roi yn ôl i Jehofa y pethau mae ef wedi eu rhoi inni’n barod.