Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Kenneth E. Cook, Jr., a’i wraig, Jamie

Aelod Newydd o’r Corff Llywodraethol

Aelod Newydd o’r Corff Llywodraethol

AR FORE Mercher, 24 Ionawr 2018, clywodd y teulu Bethel yn yr Unol Daleithiau a Chanada gyhoeddiad arbennig: Roedd y Brawd Kenneth Cook, Jr. wedi cael ei ychwanegu at Gorff Llywodraethol Tystion Jehofa.

Cafodd y Brawd Cook ei eni a’i fagu yn Pennsylvania, UDA. Dysgodd y gwirionedd gan un o’i gyd-ddisgyblion ychydig cyn iddo raddio o’r ysgol uwchradd, a chafodd ei fedyddio ar 7 Mehefin 1980. Cychwynnodd ei wasanaeth llawn amser drwy ddechrau arloesi ar 1 Medi 1982. Ar ôl arloesi am ddwy flynedd, cafodd wahoddiad i wasanaethu yn y Bethel yn Wallkill, Efrog Newydd, ar 12 Hydref 1984.

Dros y 25 mlynedd nesaf, cafodd y Brawd Cook aseiniadau gwahanol yn yr Argraffdy a Swyddfa’r Bethel. Priododd ei wraig, Jamie, yn 1996, a dechreuodd hi wasanaethu yn y Bethel yn Wallkill hefyd. Yn Rhagfyr 2009, cafodd Brawd a Chwaer Cook eu symud i Ganolfan Addysg y Watchtower yn Patterson, Efrog Newydd, lle cafodd y Brawd Cook yr aseiniad o weithio gyda’r Adran Gohebu Ysgrifenedig. Yn Ebrill 2016, ar ôl mynd yn ôl i Wallkill am gyfnod byr, cafodd Brawd a Chwaer Cook eu symud i Brooklyn, Efrog Newydd. Pum mis yn ddiweddarach, cawson nhw eu hadleoli i’r pencadlys yn Warwick, Efrog Newydd. Yn Ionawr 2017, cafodd y Brawd Cook ei benodi i wasanaethu fel cynorthwywr i Bwyllgor Ysgrifennu y Corff Llywodraethol.