Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

ERTHYGL ASTUDIO 2

Mola Jehofa yn y Gynulleidfa

Mola Jehofa yn y Gynulleidfa

“Fe gyhoeddaf dy enw . . . a’th foli yng nghanol y gynulleidfa.”—SALM 22:22, BCND.

CÂN 59 Dewch, Molwch Jah!

CIPOLWG *

1. Sut roedd Dafydd yn teimlo am Jehofa, a beth wnaeth hyn ei annog i’w wneud?

YSGRIFENNODD y Brenin Dafydd: “Mae’r ARGLWYDD yn fawr, ac yn haeddu ei foli!” (Salm 145:3) Roedd yn caru Jehofa, ac fe gafodd ei ysgogi gan y cariad hwnnw i foli Duw “yng nghanol y gynulleidfa.” (Salm 22:22; 40:5, BCND) Heb os, rwyt tithau hefyd yn caru Jehofa ac yn cytuno â geiriau Dafydd: “O ARGLWYDD, Duw ein tad Israel, rwyt ti’n haeddu dy fendithio am byth bythoedd!”—1 Cron. 29:10-13.

2. (a) Sut gallwn ni foli Jehofa? (b) Pa her mae rhai yn ei hwynebu, a beth byddwn ni’n ei adolygu?

2 Heddiw, un ffordd o foli Jehofa ydy rhoi atebion yn ystod ein cyfarfodydd Cristnogol. Fodd bynnag, mae nifer o’n brodyr a’n chwiorydd yn wynebu cryn dipyn o her yn hyn o beth. Maen nhw eisiau cymryd rhan yn ein cyfarfodydd, ond mae ofn yn eu dal nhw’n ôl. Sut gallan nhw drechu’r ofn hwnnw? A pha gyngor ymarferol sy’n gallu ein helpu i roi atebion calonogol? Cyn inni ateb y cwestiynau hynny, gad inni adolygu pedwar rheswm dros roi atebion yn y cyfarfodydd.

RHESYMAU DROS ATEB

3-5. (a) Fel mae Hebreaid 13:15 yn esbonio, pam rydyn ni’n ateb yn y cyfarfodydd? (b) Oes rhaid inni i gyd roi’r un fath o ateb? Esbonia.

3 Mae Jehofa wedi rhoi i bob un ohonon ni’r fraint o’i foli. (Salm 119:108) Mae ein hatebion yn y cyfarfodydd yn rhan o’r “ffrwythau dŷn ni’n eu cyflwyno,” a gall neb arall gyflwyno’r ffrwythau hynny ar ein rhan. (Darllen Hebreaid 13:15.) Ydy Jehofa yn mynnu cael yr un math o aberth, neu ateb, oddi wrth bob un ohonon ni? Nac ydy!

4 Mae Jehofa yn gwybod bod gan bob un ohonon ni wahanol alluoedd ac amgylchiadau, ac mae’n gwerthfawrogi yr aberthau rydyn ni’n gallu eu cynnig iddo. Meddylia am y gwahanol aberthau a dderbyniodd Duw oddi wrth yr Israeliaid. Roedd rhai Israeliaid yn gallu cynnig gafr neu oen. Ond byddai’r Israeliaid tlawd yn gallu cynnig “dwy durtur neu ddwy golomen ifanc” yn unig. Ac os na allai un o’r Israeliaid fforddio dau aderyn, byddai Jehofa yn derbyn “cilogram o’r blawd gwenith gorau.” (Lef. 5:7, 11) Roedd blawd yn rhatach, ond roedd Jehofa yn dal yn gwerthfawrogi’r aberth, cyn belled mai’r “blawd gwenith gorau” oedd.

5 Mae ein Duw caredig yn teimlo’r un ffordd heddiw. Pan fyddwn ni’n ateb, nid yw’n mynnu ein bod ni i gyd mor huawdl ag Apolos ac mor berswadiol â Paul. (Act. 18:24; 26:28) Yr unig beth mae Jehofa yn ei ddymuno yw inni roi’r atebion gorau a allwn ni—o fewn ein gallu. Cofia’r wraig weddw a gyfrannodd ddau ddarn bychan o arian. Roedd hi’n werthfawr iawn i Jehofa oherwydd iddi roi’r gorau a allai hi.—Luc 21:1-4.

Mae ein hatebion yn llesol i ni ac i’r rhai sy’n gwrando (Gweler paragraffau 6-7) *

6. (a) Yn ôl Hebreaid 10:24, 25, sut mae’r atebion rydyn ni’n eu clywed yn effeithio arnon ni? (b) Sut gelli di ddangos dy fod ti’n ddiolchgar am yr atebion sydd wedi dy annog?

6 Rydyn ni’n annog ein gilydd drwy ein hatebion. (Darllen Hebreaid 10:24, 25.) Mae pawb yn gwerthfawrogi gwrando ar amrywiaeth o wahanol atebion yn ein cyfarfodydd. Rydyn ni’n hoff iawn o eiriau syml a diffuant ein plant bach. Rydyn ni’n cael ein hysbrydoli gan y cyffro sydd yn llais rhywun sy’n ateb am wirionedd y mae ef neu hi newydd ei ddarganfod. Ac rydyn ni’n edmygu’r rhai sy’n meithrin yr hyder i ateb, er eu bod nhw’n swil neu ond wedi dechrau dysgu ein hiaith. (1 Thes. 2:2) Sut gallwn ni ddangos ein bod ni’n gwerthfawrogi eu hymdrechion? Trwy ddiolch iddyn nhw ar ôl y cyfarfod am eu hatebion calonogol. Ffordd arall o ddangos gwerthfawrogiad ydy i ni roi ateb hefyd. Yna, rydyn ni nid yn unig yn derbyn anogaeth yn ein cyfarfodydd ond hefyd yn ei rhoi.—Rhuf. 1:11, 12.

7. Sut mae ateb yn fuddiol inni?

7 Rydyn ninnau ar ein hennill pan fyddwn ni’n ateb. (Esei. 48:17) Sut felly? Yn gyntaf, os ydyn ni’n bwriadu ateb, rydyn ni’n cael ein hannog yn fwy byth i baratoi’n dda ar gyfer y cyfarfod. Pan fyddwn ni’n paratoi’n dda, rydyn ni’n deall Gair Duw yn well. Dyfnaf yn y byd yw ein dealltwriaeth, gorau yn y byd y gallwn ni gymhwyso’r pethau rydyn ni’n eu dysgu. Yn ail, rydyn ni’n debygol o fwynhau’r cyfarfod yn fwy oherwydd ein bod ni’n cymryd rhan yn y drafodaeth. Yn drydydd, oherwydd bod ateb yn gofyn am ymdrech, rydyn ni’n aml yn cofio’r pwyntiau y gwnaethon ni eu cynnwys yn ein hatebion ymhell ar ôl i’r cyfarfod orffen.

8-9. (a) Fel mae Malachi 3:16 wedi dangos, sut rwyt ti’n meddwl mae Jehofa yn teimlo am ein hatebion? (b) Pa her y gall rhai ei hwynebu o hyd?

8 Mae mynegi ein ffydd yn plesio Jehofa. Heb os, mae Jehofa yn gwrando arnon ni ac yn gwerthfawrogi ein hymdrechion i ateb yn y cyfarfodydd. (Darllen Malachi 3:16.) Mae’n dangos ei werthfawrogiad drwy ein bendithio ni pan fyddwn ni’n gweithio’n galed i’w blesio.—Mal. 3:10.

9 Yn amlwg felly, mae gennyn ni resymau da dros ateb yn y cyfarfodydd. Ond, er hynny, gall codi dy law godi ofn arnat ti. Os mai dyna sut rwyt ti’n teimlo, paid â digalonni. Gad inni ystyried rhai egwyddorion Beiblaidd, ychydig o esiamplau, a chyngor ymarferol sy’n gallu helpu pob un ohonon ni i geisio ateb mwy yn y cyfarfodydd.

YMDOPI AG OFN

10. (a) Pa ofn sydd gan lawer ohonon ni? (b) Pam gall ofni rhoi ateb fod yn arwydd da?

10 Ydy dy stumog yn corddi bob tro rwyt ti hyd yn oed yn meddwl am godi dy law i ateb? Os yw hynny’n wir, dwyt ti ddim ar dy ben dy hun. Y gwir yw bod y rhan fwyaf ohonon ni’n teimlo ychydig o ofn wrth ateb. Cyn inni allu ymdopi â’r ofn hwn sy’n ein dal ni’n ôl, pwysig yw deall beth sydd wrth wraidd yr ofn. Wyt ti’n pryderu y byddi di’n anghofio beth rwyt ti eisiau ei ddweud, neu y byddi’n dweud y peth anghywir? Wyt ti’n pryderu na fydd dy sylw mor dda â sylwadau rhai eraill? A dweud y gwir, gall yr ofnau hynny fod yn arwydd da. Maen nhw’n dangos dy fod ti’n ostyngedig ac yn ystyried eraill yn well na ti. Mae Jehofa yn hoff iawn o’r rhinwedd honno. (Salm 138:6; Phil. 2:3) Ond mae Jehofa hefyd eisiau dy weld ti’n ei foli ac yn annog dy frodyr a dy chwiorydd yn y cyfarfodydd. (1 Thes. 5:11) Mae’n dy garu di a bydd yn rhoi’r dewrder sydd ei angen arnat ti.

11. Pa gyngor Ysgrythurol sy’n gallu ein helpu?

11 Rho sylw i gyngor Ysgrythurol. Mae’r Beibl yn dweud ein bod ni i gyd yn gwneud camgymeriadau yn yr hyn rydyn ni’n ei ddweud ac yn y ffordd rydyn ni’n ei ddweud. (Iago 3:2) Dydy Jehofa ddim yn disgwyl inni fod yn berffaith, a dydy ein brodyr a’n chwiorydd ddim chwaith. (Salm 103:12-14) Y nhw ydy ein teulu ysbrydol, ac maen nhw’n ein caru ni. (Marc 10:29, 30; Ioan 13:35) Maen nhw’n deall nad ydy ein sylwadau bob amser yn cael eu mynegi’n berffaith.

12-13. Beth rydyn ni’n ei ddysgu oddi wrth esiamplau Nehemeia a Jona?

12 Meddylia am rai esiamplau Beiblaidd sy’n dy helpu i ymdopi â dy ofnau. Cofia Nehemeia. Gwasanaethai yn llys brenin pwerus. Roedd Nehemeia yn drist oherwydd iddo glywed bod waliau a giatiau Jerwsalem yn adfeilion. (Neh. 1:1-4) Dychmyga pa mor nerfus ac ofnus yr oedd yn rhaid iddo deimlo pan ofynnodd y Brenin iddo esbonio pam roedd yn edrych mor ddigalon! Gweddïodd yn syth ac yna rhoi ei ateb. O ganlyniad, gwnaeth y brenin lawer i helpu pobl Dduw. (Neh. 2:1-8) Meddylia hefyd am Jona. Pan ofynnodd Jehofa iddo siarad â thrigolion Ninefe, roedd Jona mor ofnus nes iddo redeg i’r cyfeiriad arall. (Jona 1:1-3) Ond gyda help Jehofa, roedd Jona yn ufudd i’w aseiniad. Ac roedd ei eiriau yn fuddiol iawn i drigolion Ninefe. (Jona 3:5-10) Mae esiampl Nehemeia yn dangos pa mor bwysig yw gweddïo cyn rhoi ateb. Ac mae esiampl Jona yn dangos bod Jehofa yn gallu ein helpu i’w wasanaethu ni waeth pa mor fawr yw ein hofnau. Mewn gwirionedd, a oes unrhyw gynulleidfa mor frawychus â phobl Ninefe?

13 Pa gyngor ymarferol sy’n gallu ein helpu i roi sylwadau calonogol yn y cyfarfodydd? Gad inni ystyried rhai awgrymiadau.

14. Pam dylen ni baratoi’n dda ar gyfer ein cyfarfodydd, a pha bryd y gallen ni wneud hynny?

14 Paratoi ar gyfer pob cyfarfod. Pan fyddi di’n cynllunio o flaen llaw ac yn paratoi’n dda, byddi di’n teimlo’n llawer mwy hyderus i ateb. (Diar. 21:5) Wrth gwrs, mae gan bob un ohonon ni amserlen wahanol i baratoi ar gyfer y cyfarfodydd. Mae Eloise, gwraig weddw yn ei hwyth degau, yn dechrau paratoi ar gyfer yr Astudiaeth o’r Tŵr Gwylio yn gynnar yn yr wythnos. Mae hi’n dweud: “Dw i’n mwynhau’r cyfarfodydd yn fwy os ydw i’n astudio ymlaen llaw.” Mae Joy, sy’n gweithio’n llawn amser, yn rhoi amser o’r neilltu ar ddydd Sadwrn ar gyfer astudio’r Tŵr Gwylio. “Dw i’n hoff o gael y deunydd yn fyw yn fy nghof,” meddai. Mae Ike, henuriad prysur sydd hefyd yn arloesi, yn dweud: “Y peth gorau imi ydy astudio am gyfnodau byrion drwy gydol yr wythnos yn hytrach nag un cyfnod hir.”

15. Sut gelli di baratoi’n dda ar gyfer cyfarfod?

15 Sut mae rhywun yn paratoi’n dda ar gyfer y cyfarfodydd? Cyn astudio, gofynna i Jehofa roi ei ysbryd glân iti. (Luc 11:13; 1 Ioan 5:14) Yna, treulia ychydig o funudau yn adolygu’r wers drwy edrych ar y teitl, yr is-benawdau, y lluniau, a’r blychau dysgu. Wrth iti astudio pob paragraff, darllena gymaint o’r adnodau ag a elli di. Myfyria ar y wybodaeth a rho sylw penodol i’r pwyntiau rwyt ti eisiau eu cynnwys yn dy atebion. Os wyt ti’n paratoi’n dda, byddi di’n cael mwy o fudd o’r astudiaeth ac yn ei chael hi’n haws ateb.—2 Cor. 9:6.

16. Pa dŵls penodol sydd ar gael iti, a sut rwyt ti’n eu defnyddio?

16 Os yw’n bosib iti, defnyddia’r tŵls sydd wedi eu darparu yn dy iaith dy hun. Mae Jehofa, drwy gyfrwng ei gyfundrefn, wedi rhoi tŵls sy’n ein helpu ni i baratoi ar gyfer y cyfarfodydd. Mae’r ap JW Library® yn ein galluogi i lawrlwytho cyhoeddiadau astudio ar ein dyfeisiau symudol. Yna, cawn astudio—neu o leiaf ddarllen a gwrando ar y deunydd—ar unrhyw adeg ac yn unrhyw le. Mae rhai’n defnyddio’r adnodd hwn yn ystod amser cinio yn y gweithle neu’r ysgol neu wrth deithio. Mae’r Watchtower Library a LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio yn hwyluso’r ymchwil yr hoffen ni ei gwneud ar y wers dan sylw.

Pryd rwyt ti’n neilltuo amser i baratoi ar gyfer y cyfarfodydd? (Gweler paragraffau 14-16) *

17. (a) Pam mae hi’n beth da i baratoi mwy nag un sylw? (b) Beth wnest ti ei ddysgu o wylio’r fideo Dod yn Ffrind i Jehofa—Paratoi Dy Ateb?

17 Os yw’n bosib, paratoa fwy nag un sylw ar gyfer pob gwers. Pam? Oherwydd nid yw bob amser yn bosib iti gael dy ddewis i roi ateb. Mae’n debyg y bydd eraill hefyd yn codi eu dwylo yr un pryd, ac efallai bydd yr arweinydd yn dewis un ohonyn nhw. Er mwyn sicrhau bod y cyfarfod yn gorffen yn brydlon, efallai bydd yr arweinydd yn cyfyngu ar y nifer o sylwadau yn rhai rhannau o’r wers dan sylw. Felly paid â digio na digalonni os nad yw’r arweinydd yn gofyn iti ateb yn gynnar yn yr astudiaeth. Os wyt ti’n paratoi sawl ateb, bydd gen ti fwy o gyfleoedd i gymryd rhan yn ystod y drafodaeth. Gelli di hefyd baratoi ar gyfer darllen adnod. Ond, os medri di, paratoa er mwyn rhoi ateb yn dy eiriau dy hun. *

18. Pam dylid rhoi atebion byr?

18 Rho atebion byr. Yn aml, yr atebion mwyaf calonogol yw’r rhai byr a syml. Felly, cadwa dy atebion yn fyr, tua 30 eiliad os yw’n bosib. (Diar. 10:19; 15:23) Os wyt ti wedi bod yn ateb yn y cyfarfodydd am flynyddoedd lawer, mae gen ti rôl bwysig iawn yn gosod yr esiampl o ran cadw dy atebion yn fyr. Os wyt ti’n rhoi atebion cymhleth sy’n para sawl munud, gall eraill deimlo’n annigonol, a meddwl na fyddan nhw’n gallu ateb mor dda ag y gelli di ei wneud. Hefyd, mae atebion byr yn rhoi’r cyfle i fwy o bobl gymryd rhan yn y cyfarfod. Yn enwedig os mai ti yw’r cyntaf i ateb, rho ateb syml ac uniongyrchol i’r cwestiwn. Paid â cheisio cynnwys yr holl bwyntiau yn y paragraff. Wedi i’r prif syniad gael ei drafod, gelli di wneud sylw ar y pwyntiau ychwanegol.—Gweler y blwch “ Ar Beth Galla’ i Wneud Sylw?

19. Sut gall yr arweinydd dy helpu, ond beth bydd yn rhaid i ti ei wneud?

19 Rho wybod i’r arweinydd yr hoffet ti roi ateb ar baragraff penodol. Os wyt ti’n gwneud hyn, dylet ti siarad â’r arweinydd ymhell cyn i’r cyfarfod ddechrau. Pan ddaw hi’n amser iti ateb ar y paragraff hwnnw, rho dy law i fyny’n syth ac yn ddigon uchel i’r arweinydd ei gweld.

20. Ym mha ffordd y mae’r cyfarfod yn debyg i rannu pryd o fwyd gyda ffrindiau?

20 Peth da yw meddwl am y cyfarfodydd fel rhannu pryd o fwyd gyda dy ffrindiau. Dychmyga fod rhai ffrindiau yn y gynulleidfa wedi trefnu barbeciw ac wedi gofyn iti baratoi rhywbeth syml i’w fwyta. Sut byddet ti’n ymateb? Mae’n bosib iti deimlo braidd yn nerfus, ond byddet ti’n gwneud dy orau i baratoi rhywbeth y gallai pawb ei fwynhau. Mae Jehofa, yr un sy’n ein gwahodd ni, wedi paratoi llond bwrdd o ddanteithion ar ein cyfer ni yn y cyfarfodydd. (Salm 23:5; Math. 24:45) Ac mae wrth ei fodd pan fyddwn ni’n dod ag anrheg fechan gyda ni, y gorau y gallwn ni ei roi. Felly, paratoa’n dda, gan ateb cymaint ag a elli di. Yna, nid yn unig y byddi di’n bwyta wrth fwrdd Jehofa ond byddi di hefyd yn rhannu pethau da gyda’r gynulleidfa.

CÂN 2 Jehofa Yw Dy Enw

^ Par. 5 Fel y salmydd Dafydd, rydyn ni i gyd yn caru Jehofa ac yn hoff o’i foli. Mae gennyn ni gyfle arbennig i fynegi ein cariad tuag at Dduw bob tro rydyn ni’n dod at ein gilydd i addoli fel cynulleidfa. Mae rhai ohonon ni, fodd bynnag, yn ei chael hi’n anodd ateb yn ein cyfarfodydd. Os wyt ti’n wynebu’r her honno, gall yr erthygl hon dy helpu i wynebu dy ofnau a’u trechu.

^ Par. 17 Ar jw.org, gwylia’r fideo Dod yn Ffrind i Jehofa—Paratoi Dy Ateb. Edrycha o dan DYSGEIDIAETHAU’R BEIBL > PLANT.

^ Par. 63 DISGRIFIAD O’R LLUN: Aelodau o’r gynulleidfa yn mwynhau cymryd rhan yn nhrafodaeth o’r Tŵr Gwylio.

^ Par. 65 DISGRIFIAD O’R LLUN: Rhai aelodau o’r gynulleidfa a ddangoswyd yn gynharach yn cymryd rhan yn yr Astudiaeth o’r Tŵr Gwylio. Er bod gan bob un ohonyn nhw amgylchiadau gwahanol, maen nhw i gyd yn neilltuo amser ar gyfer astudio’r wers cyn y cyfarfod.